Ciw-restr

Marsiandwr Fenis

Llinellau gan Dug (Cyfanswm: 51)

 
(4, 0) 7 Antonio yma eisoes!
 
(4, 0) 9 Gofidiaf trosot; daethost yma i ateb
(4, 0) 10 Gelyn o garreg, rhyw annynol gnaf
(4, 0) 11 Na ŵyr dosturio; calon sydd yn wag
(4, 0) 12 O bob dafn o drugaredd.
 
(4, 0) 21 Aed un i alw'r Iddew hwn i'r llys.
 
(4, 0) 24 Gwnewch le, a safed yma ger fy mron.
(4, 0) 25 Shylock, fe dybia'r byd, a thybiaf innau
(4, 0) 26 Na wnei ond canlyn y ffug yma o falais
(4, 0) 27 I'r funud olaf; yna, meddant hwy,
(4, 0) 28 Dangosi dy drugaredd yn fwy rhyfedd
(4, 0) 29 Nag yw'r creulondeb rhyfedd hwn yn awr,
(4, 0) 30 A lle yr hawli'n awr y penyd eithaf,—
(4, 0) 31 Sef pwys o gnawd y tlawd farsiandwr hwn,
(4, 0) 32 Ti a faddeui iddo nid yn unig
(4, 0) 33 Y fforffed hon, ond mewn tosturi a serch
(4, 0) 34 Gyfran o'r ddyled hefyd gyda hi.
(4, 0) 35 ~
(4, 0) 36 Disgwyliwn, Iddew, bawb am ateb mwyn.
 
(4, 0) 86 Pa fodd y cei drugaredd yn y farn?
 
(4, 0) 102 O dan fy hawl, gallwn ohirio'r llys
(4, 0) 103 Pe na chyrhaeddai'r doethawr hyddysg heddiw,
(4, 0) 104 Belario, yr anfonais ato wŷs
(4, 0) 105 I farnu'r achos.
 
(4, 0) 109 Galwer ef.
 
(4, 0) 119 A ddaethost ti o Padua, oddi wrth Belario?
 
(4, 0) 144 Mae'r llythyr gan Belario yn cyflwyno
(4, 0) 145 Rhyw ddoethawr ifanc, hyddysg iawn, i'n llys,
(4, 0) 146 P'le mae-o?
 
(4, 0) 149 Yn llawen. Aed rhyw ddau neu dri ohonoch
(4, 0) 150 I'w gyrchu'n gwrtais yma at y fainc.
(4, 0) 151 A darllen dithau'r llythyr yng ngŵydd llys.
 
(4, 0) 163 Clywsoch dystiolaeth frwd Belario iddo;
(4, 0) 164 —A dyma, dybiaf fi, y gŵr ei hun.
 
(4, 0) 166 Dyro dy law. Oddi wrth Belario yr wyt?
 
(4, 0) 168 Croeso. Cymer di ei le.
(4, 0) 169 A wyddost ti'r anghydfod sydd yn peri
(4, 0) 170 Yr achos sydd yn awr ger bron y llys?
 
(4, 0) 173 Antonio a Shylock, sefwch allan.
 
(4, 0) 377 Ond fel y gwelych ein gwahaniaeth ysbryd,
(4, 0) 378 Maddeuaf it dy einioes cyn it ofyn.
(4, 0) 379 Hanner dy gyfoeth—aed i ran Antonio,
(4, 0) 380 A'r hanner arall i drysorfa'r dref;
(4, 0) 381 Gall gostyngeiddrwydd ostwng hynny'n ddirwy.
 
(4, 0) 401 Ac oni wnêl hyn oll, 'r wy'n tynnu'n ôl
(4, 0) 402 Y pardwn a gyhoeddais iddo'n awr.
 
(4, 0) 409 Dos,—ond arwydda di.
 
(4, 0) 414 Atolwg syr, dowch gyda mi i ginio.
 
(4, 0) 418 Gofidiwn ninnau nad oes gennych hamdden,
(4, 0) 419 Antonio, boddha di'r bonheddwr hwn,
(4, 0) 420 Y mae dy ddyled iddo yn ddifesur.