Ciw-restr

Marsiandwr Fenis

Llinellau gan Gratiano (Cyfanswm: 27)

 
(4, 0) 129 Y diawl a'th gipio, gorgi anghymodlon!
(4, 0) 130 Mae'r nef ar gam fod dy fath di'n cael byw.
(4, 0) 131 Bron iawn na wnait im gefnu ar fy ffydd
(4, 0) 132 A derbyn opiniynau'r hen Pythagoras
(4, 0) 133 —Fod enaid bwystfil weithiau yn preswylio
(4, 0) 134 O fewn corff dyn; fe fu dy ysbryd costog
(4, 0) 135 Unwaith yn flaidd a grogwyd am ladd dynion.
(4, 0) 136 Oddi ar y crocbren ffodd ei enaid brwnt
(4, 0) 137 Pan oeddit ti yng nghroth dy fam, a'th larpio
(4, 0) 138 Enaid a chorff; ac felly mae dy nwydau
(4, 0) 139 Fel nwydau blaidd newynog, gwaedlyd, rheibus.
 
(4, 0) 298 Mae gennyf innau wraig, a mawr y'i caraf.
(4, 0) 299 Eto mi fynnwn petai hi'n y nef
(4, 0) 300 I eiriol â rhyw allu i'w feddalhau.
 
(4, 0) 322 O farnwr teg!—Clyw, Iddew! O farnwr doeth!
 
(4, 0) 327 O farnwr doeth! Clyw, Iddew! O farnwr doeth!
 
(4, 0) 334 O Iddew! Barnwr teg a barnwr doeth!
 
(4, 0) 343 Daniel yr ail! O Iddew, dyma Ddaniel!
(4, 0) 344 Yn awr, anffyddiwr, cefais di'n dy glun.
 
(4, 0) 373 Erfyn yn hytrach gennad i ymgrogi,
(4, 0) 374 Ac cto, gan mai'r ddinas biau d'eiddo
(4, 0) 375 'D oes gennyt yr un ddimai i brynu rhaff.
(4, 0) 376 Felly bydd rhaid dy grogi ar gost y wlad.
 
(4, 0) 388 Croglath yn rhad! Dim mymryn mwy, wir Dduw!
 
(4, 0) 410 Wrth dy fedyddio, ti gei ddau dad-bedydd
(4, 0) 411 Pe bawn i'n farnwr, rhown it ddengwr mwy
(4, 0) 412 I'th hebrwng di i'r crocbren, nid i'r llan.