Ciw-restr

Marsiandwr Fenis

Llinellau gan Portia (Cyfanswm: 138)

 
(4, 0) 167 Ie, f'arglwydd.
 
(4, 0) 171 Mae gennyf bob gwybodaeth am y ddadl.
(4, 0) 172 Ond pa un yw'r marsiandwr, a ph'run yw'r Iddew?
 
(4, 0) 174 Ai Shylock yw dy enw?
 
(4, 0) 177 Rhyw gyngaws rhyfedd ydyw hwn sydd gennyt,
(4, 0) 178 Eto mor gaeth, na ddichon cyfraith Fenis
(4, 0) 179 Dy wrthwynebu am ci yrru ymlaen.
(4, 0) 180 Tydi a saif mewn perygl, onid e?
 
(4, 0) 182 A arwyddaist ti'r cyfamod?
 
(4, 0) 184 Felly rhaid i'r Iddew drugarhau.
 
(4, 0) 186 Nid yw trugaredd tan orfodaeth neb.
(4, 0) 187 Fe ddisgyn fel y tyner law o'r nef
(4, 0) 188 Ar ddaear gras; y mae tan fendith ddeublyg,
(4, 0) 189 Bendithia'r hwn sy'n rhoi a'r hwn sy'n cael.
(4, 0) 190 Cadarnaf yw mewn cedyrn; ac mae'n harddach
(4, 0) 191 Ar deyrn gorseddawg nag yw'r goron aur.
(4, 0) 192 Gallu tymhorol a ddengys ei deyrnwialen,
(4, 0) 193 Teyrnged i fawredd gan barchedig ofn
(4, 0) 194 Ac arni arswyd pob brenhinol rwysg.
(4, 0) 195 Ond mae trugaredd goruwch rhwysg teyrnwialen
(4, 0) 196 Brenhinoedd,—ar orseddfa'u calon hwy.
(4, 0) 197 Mae'n briodoledd i'r Goruchaf Dduw,
(4, 0) 198 Ac ymdebyga gallu'r byd i'r nef
(4, 0) 199 Pan leddfer ei gyfiawnder gan drugaredd.
(4, 0) 200 Wrth bledio am gyfiawnder, cofia hyn,—
(4, 0) 201 Yng nghwrs cyfiawnder ni chai undyn fyth
(4, 0) 202 Weld iachawdwriaeth; "Maddau i ni'n dyledion"
(4, 0) 203 Yw'n gweddi beunydd; a'r un weddi a'n dysg
(4, 0) 204 I faddau i'n dyledwyr. Dwedais hyn
(4, 0) 205 Tan obaith y lliniarwn i dy blê
(4, 0) 206 Am gael cyfiawnder; ond os cyndyn wyt,
(4, 0) 207 Bydd rhaid i lys di-dderbyn-wyneb Fenis
(4, 0) 208 Gyhoeddi barn ar y marsiandwr hwn.
 
(4, 0) 211 Ai methu â thalu'r swm yn ôl y mae?
 
(4, 0) 221 Ni ellir hyn. Nid oes yn Fenis hawl
(4, 0) 222 I newid iod o gyfraith sefydledig,
(4, 0) 223 Cofnodid hynny megis cynsail llys.
(4, 0) 224 A rhuthrai llawer cam trwy ddrwg esiampl
(4, 0) 225 I gnoi'r wladwriaeth. Na, ni ellir hyn.
 
(4, 0) 228 Atolwg, rhowch im weled y cyfamod.
 
(4, 0) 231 Shylock, cynigir it dair gwaith y swm.
 
(4, 0) 235 Fforffed yw'r cyfamod.
(4, 0) 236 Ac yn ôl hwn mae gan yr Iddew hawl
(4, 0) 237 Gyfreithlon, oes, i dorri pwys o gnawd.
(4, 0) 238 Ger calon y marsiandwr.—Bydd drugarog.
(4, 0) 239 Cymer dy arian. Gad im rwygo hwn.
 
(4, 0) 250 Felly, dyma hi,—
(4, 0) 251 Rhaid it ddinoethi'r fron yn awr i'w gyllell.
 
(4, 0) 253 Canys y mae holl amcan grym y ddeddf
(4, 0) 254 Wedi'i gymhwyso at y penyd llawn
(4, 0) 255 Sydd yn ddyledus yn yr ysgrif hon.
 
(4, 0) 258 Felly di-noetha di dy fron.
 
(4, 0) 262 Yn union. A oes clorian yma i bwyso
(4, 0) 263 Ei gnawd?
 
(4, 0) 265 Tâl am wasanaeth meddyg, Shylock, erddo,
(4, 0) 266 I drin ei glwyf rhag gwaedu i farwolaeth.
 
(4, 0) 268 Nac oes, ond beth am hynny? Byddai'n dda
(4, 0) 269 Pe gwnaethit gymaint o gymwynasgarwch.
 
(4, 0) 271 Tydi, farsiandwr, oni ddwedi ddim?
 
(4, 0) 296 Diolch go brin a rôi dy wraig am hyn
(4, 0) 297 Pe byddai hi gerllaw yn gwrando'r cynnig.
 
(4, 0) 308 Ein dedfryd yw: Ti biau'r pwys o gnawd,
(4, 0) 309 —Trwy farn y llys, a chaniatâd y gyfraith.
 
(4, 0) 311 Mae'n rhaid it dorri'r cnawd oddi ar ei fron,
(4, 0) 312 —Trwy farn y llys a chaniatâd y gyfraith.
 
(4, 0) 314 Aros am ennyd! Y mae un peth mwy.
(4, 0) 315 Ni rydd yr ysgrif hawl i ddafn o waed;
(4, 0) 316 Geiriad yr amod ydyw "pwys o gnawd".
(4, 0) 317 Cymer dy fforffed, cymer bwys o gnawd,
(4, 0) 318 Ond wrth ei dorri, os tywellti ddafn,
(4, 0) 319 Un dafn o waed Cristnogol, mae dy dir
(4, 0) 320 A'th eiddo i gyd, yn ôl cyfreithiau Fenis,
(4, 0) 321 Yng ngafael y llywodraeth.
 
(4, 0) 324 Darllen hi dy hun.
(4, 0) 325 Cyfiawnder a gymhellaist. Rhof fy ngair
(4, 0) 326 Y cei gyfiawnder—fwy nag a ddymuni.
 
(4, 0) 331 Yn araf!
(4, 0) 332 Cyfiawnder a fynn yr Iddew. Pwyll! Dim brys:—
(4, 0) 333 Na rodder iddo ddim heblaw y penyd.
 
(4, 0) 335 Felly ymbaratô i dorri'r cnawd.
(4, 0) 336 Na thywallt waed, ac na thor lai na mwy
(4, 0) 337 Na phwys o gnawd. Ac os cymeri fwy
(4, 0) 338 Neu lai na'r union bwysau, pe na bai
(4, 0) 339 Yn drymach neu'n ysgafnach ddim ond trwch
(4, 0) 340 Ugeinfed rhan y gronyn lleiaf un,
(4, 0) 341 Neu os try'r glorian ond gan drwch y blewyn,
(4, 0) 342 Fe'th grogir, ac â d'eiddo i'r llywodraeth.
 
(4, 0) 345 Pam y petrusa'r Iddew? Mynn dy fforffed.
 
(4, 0) 348 Gwrthododd hwy ar goedd gerbron y llys.
(4, 0) 349 Cyfiawnder iddo bellach a'i gyfamod!
 
(4, 0) 351 Ni chei di ddim ond y pwys cnawd fforffediwyd,
(4, 0) 352 A chymer hwnnw ar boen dy einioes, Iddew.
 
(4, 0) 355 Eto, arhô!
(4, 0) 356 Mae gafael arall arnat gan y ddeddf::
(4, 0) 357 Yn ôl cyfreithiau Fenis fe ordeiniwyd,
(4, 0) 358 Os profir mewn llys barn yn erbyn estron
(4, 0) 359 Ei fod yn ceisio einioes rhyw ddinesydd,
(4, 0) 360 Yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i
(4, 0) 361 Fod gan y person sydd yn nod i'r cynllwyn
(4, 0) 362 Hawl i feddiannu ci eiddo hyd yr hanner;
(4, 0) 363 Â'r hanner arall i drysorfa'r dref.
(4, 0) 364 Bydd bywyd y troseddwr at drugaredd
(4, 0) 365 Y Dug ei hun yng ngwaethaf pob apêl.
(4, 0) 366 Yn y cyfyngder hwn y sefi, meddaf,
(4, 0) 367 Cans eglur yw, ar goedd gerbron y llys,
(4, 0) 368 Yn uniongyrchol ac anuniongyrchol,
(4, 0) 369 Ddarfod it geisio einioes y diffynnydd
(4, 0) 370 'Trwy gynllwyn; ac am hyn agored wyt
(4, 0) 371 I'r ddirwy a'r gosb a nodais innau'n awr.
(4, 0) 372 Penlinia ac erfyn bardwn gan y Dug.
 
(4, 0) 382 O ran y dref,—ac nid o ran Antonio.
 
(4, 0) 387 Antonio, pa drugaredd a roit ti iddo?
 
(4, 0) 403 A wyt ti'n fodlon, Iddew? Beth a ddwedi?
 
(4, 0) 405 Glerc, tynn allan ffurf o weithred.
 
(4, 0) 415 Pardwn, yn ostyngedig iawn, cich gras.
(4, 0) 416 Rhaid imi heno gyrraedd Padua,
(4, 0) 417 A dylwn gychwyn yno'n ddi-ymdroi.
 
(4, 0) 429 Talwyd yn helaeth eisoes a foddhawyd,
(4, 0) 430 Ac wrth eich achub, fe'm boddhawyd i.
(4, 0) 431 Cyfrifaf hynny'n ddigon fyth o dâl,
(4, 0) 432 Canys ni bu fy mryd erioed ariangar.
(4, 0) 433 Cofiwch f'adnabod i pan gwrddwn eto.
(4, 0) 434 Mae'n hwyr im gychwyn. Bendith arnoch chwi.
 
(4, 0) 439 Wel, gan cich bod yn pwyso, ufuddhaf.
 
(4, 0) 441 Rho im dy fenyg; gwisgaf hwy cr cof;
 
(4, 0) 443 A'th fodrwy gennyt tithau, er dy serch.
(4, 0) 444 Na thynn dy law yn ôl; ni fynnaf fwy,
(4, 0) 445 Ac ni wrthodit tithau byth mo hyn.
 
(4, 0) 448 Ni fynnwn unpeth arall—dim ond hon.
(4, 0) 449 Ac erbyn meddwl, wir, fe aeth â'm bryd.
 
(4, 0) 454 Gwelaf eich bod yn hael o ran cynigion,
(4, 0) 455 Chwi ddysgodd im gardota, ac yn awr
(4, 0) 456 Fe'm dysgwch sut mae ateb cais cardotyn.
 
(4, 0) 460 Esgus pur hwylus i'ch rhyddhau o'ch rhodd.
(4, 0) 461 Onid yw'ch gwraig o'i phwyll, pe gwyddai hi
(4, 0) 462 Fel y teilyngais innau'r fodrwy hon,
(4, 0) 463 Ni ddigiai hi dros byth am ichwi ei rhoi
(4, 0) 464 Er fy ngwasanaeth. Wel, da bôch chwi'ch dau.