Ciw-restr

Marsiandwr Fenis

Llinellau gan Shylock (Cyfanswm: 97)

 
(4, 0) 37 Rhoddais i'ch gras wybodaeth am fy mwriad;
(4, 0) 38 A myn ein Sabath sanctaidd tyngais lw
(4, 0) 39 Y mynnwn hawlio fforffed fy nghyfamod.
(4, 0) 40 Os gwadu hyn a fynnwch, bydded gwarth
(4, 0) 41 Ar siarter Fenis ac ar freiniau'ch dinas.
(4, 0) 42 Diau yr holwch pam y mynnwn i
(4, 0) 43 Ryw bwys o gelain gnawd, yn lle tair mil
(4, 0) 44 O bunnoedd melyn. Nid atebaf hyn.
(4, 0) 45 Bwriwch mai dyna fy mympwy.—A'ch atebwyd?
(4, 0) 46 Pe blinid cartref dyn gan lygoden fawr
(4, 0) 47 Ac yntau'n dewis rhoi deng mil o bunnoedd
(4, 0) 48 Ameigwenwyno! A atebwyd chwi?
(4, 0) 49 Mae dynion na oddefant fochyn rhwth.
(4, 0) 50 Eraill â'n wallgof,—dim ond gweled cath;
(4, 0) 51 A dyma f' ateb i'ch gofyniad chwi.
(4, 0) 52 Megis nad ocs un rheswm teg i'w roddi
(4, 0) 53 Pam na oddefa'r naill weld mochyn rhwth,
(4, 0) 54 Na'r llall y gath ddiniwed, angenrheidiol,
(4, 0) 55 Ni allaf roddi rheswm, ac ni fynnaf,
(4, 0) 56 (Heblaw casineb pendant a ffieidd-dod
(4, 0) 57 At yr Antonio hwn),—dros yrru ymlaen
(4, 0) 58 Ryw achos coll i'w erbyn: A'ch atebwyd?
 
(4, 0) 61 Nid rhaid i'm hateb ryngu bodd i ti.
 
(4, 0) 64 Ai cas gan neb y peth ni fynnai'i ladd?
 
(4, 0) 67 A fynnit frathiad ddwywaith gan 'r un sarff?
 
(4, 0) 83 Petai pob punt o blith dy chwe mil punnoedd
(4, 0) 84 Yn chwech o ddarnau a phob darn yn bunt,
(4, 0) 85 Ni fynnwn monynt.—Mynnwn fy nghyfamod.
 
(4, 0) 87 Pa farn sy'n fraw i mi na wneuthum ddrwg?
(4, 0) 88 Mae gennych yn cich dinas gaethion lu,
(4, 0) 89 A'r rhain (yn union fel eich cŵn a'ch mulod),
(4, 0) 90 A ddarostyngwch i bob isel swydd
(4, 0) 91 Am ddarfod ichwi eu prynu.—A ddwedaf fi
(4, 0) 92 "Rhyddhewch hwy'n awr i briodi eich aeresau?
(4, 0) 93 Paham y chwysant o dan feichiau? Boed
(4, 0) 94 Eu gw'lâu yn esmwyth, megis chwi; diwaller
(4, 0) 95 Eu harchwaeth â'r un bwydydd". Oni ddwedech
(4, 0) 96 "Ni biau'n caethion".—Dyna f'ateb i.
(4, 0) 97 Y pwys o gnawd a fynnaf ganddo ef,
(4, 0) 98 'Fi biau hwn. Fe'i prynais, do, yn ddrud.
(4, 0) 99 Ac os gwrthodwch fi, naw wfft i'ch deddf.
(4, 0) 100 Nid erys grym yng nghorff cyfreithiau Fenis.
(4, 0) 101 Tros farn y safaf. Dwedwch—a gaf fi farn?
 
(4, 0) 123 I dorri'r fforffed o'r methdalwr acw.
 
(4, 0) 128 Dim un y gwyddost ti y ffordd i'w wneud.
 
(4, 0) 140 Nes tawdd dy ddwrdio'r sêl ar fy nghyfamod,
(4, 0) 141 Ofer it weiddi hyd ddolurio'r 'sgyfaint,
(4, 0) 142 Trwsia dy synnwyr bellach, fachgen glân,
(4, 0) 143 Y mae'n dadfeilio. Safaf ar y ddeddf.
 
(4, 0) 176 Shylock, ie.
 
(4, 0) 185 Yn rhaid? Tan ba orfodaeth, dwedwch im.
 
(4, 0) 209 Boed fy ngweithredoedd ar fy mhen fy hun.
(4, 0) 210 Hawliaf y ddeddf, hyd eithaf ei llythyren.
 
(4, 0) 226 Daniel a ddaeth i'r frawdle, ie, Daniel!
(4, 0) 227 O farnwr ifanc, anrhydeddaf di.
 
(4, 0) 230 Ar unwaith, ddoethawr parchus. Dyma fo.
 
(4, 0) 232 Mae gennyf lw; llw, llw i'r nef;
(4, 0) 233 A dyngaf fi anudon yn eich llys?
(4, 0) 234 Na wnaf er Fenis.
 
(4, 0) 240 Pan delir ef yn gyflawn i'r llythyren.
(4, 0) 241 Mae'n eglur iawn mai barnwr teilwng wyt.
(4, 0) 242 Gwyddost y gyfraith, ac fe fu d'esboniad -
(4, 0) 243 Yn gywir iawn. Hawliaf ar bwys y ddeddf,
(4, 0) 244 Yr wyt yn golofn mor urddasol iddi,
(4, 0) 245 — Ymlaen â'r ddedfryd! Canys ar fy llw
(4, 0) 246 Nid oes un rhinwedd fyth yn nhafod dyn
(4, 0) 247 I'm newidi. Safaf ar fy nghyfamod.
 
(4, 0) 252 O farnwr urddawl! O ŵr ifanc gwych!
 
(4, 0) 256 Cywir, bob gair, O farnwr doeth a da!
(4, 0) 257 A chymaint hŷn yr ydwyt ti na'th olwg!
 
(4, 0) 259 Ie'i fron,
(4, 0) 260 Medd y cyfamod, farnwr, onid e?
(4, 0) 261 "Gerllaw ei galon", onid dyna'r gair?
 
(4, 0) 264 Mae'n barod eisoes gennyf, farnwr.
 
(4, 0) 267 Oes sôn yn y cyfamod am wncud hyn?
 
(4, 0) 270 Ni wclaf air o sôn yn y cyfamod.
 
(4, 0) 304 Ffyddlondeb gwŷr Cristnogol! Mae gennyf ferch,—
(4, 0) 305 Gan Dduw na byddai un o hil Barabas
(4, 0) 306 Yn briod iddi o flaen gŵr o Gristion!
(4, 0) 307 Gwastraff ar amser prin! Ymlaen â'r ddedfryd!
 
(4, 0) 310 O farnwr teg!
 
(4, 0) 313 O farnwr doeth! Tyred, ymbaratô.
 
(4, 0) 323 Ai dyna'r gyfraith?
 
(4, 0) 328 Derbyniaf ynteu'i gynnig. Telwch im
(4, 0) 329 Deirgwaith y swm, a gedwch iddo fynd.
 
(4, 0) 346 Rhowch imi'r tair mil, a gadewch im fynd.
 
(4, 0) 350 Oni chaf hyd yn oed y swm di-log?
 
(4, 0) 353 Os felly, rhoed y diawl hwyl iddo arno.
(4, 0) 354 Ni thariaf yma i'm holi.
 
(4, 0) 383 Na; ewch â'm heinioes. Ewch â'r cyfan. Ewch!
(4, 0) 384 Aethoch â'm tŷ pan aethoch chwi â'r golofn
(4, 0) 385 Sy'n dal fy nhŷ; do, aethoch chwi â'm bywyd
(4, 0) 386 Pan aethoch chwi â'r modd oedd genny' i fyw.
 
(4, 0) 404 'R wy'n fodlon.
 
(4, 0) 406 Atolwg, caniatewch i mi fynd ymaith:
(4, 0) 407 Nid wyf yn dda; danfonwch hi ar f'ôl
(4, 0) 408 Ac fe'i harwyddaf.