Ciw-restr

Ffrwd Ceinwen

Llinellau gan Barry (Cyfanswm: 138)

 
(1, 1) 832 'I glywad o o dop lôn myn diawl.
 
(1, 1) 839 Gest ti siwrna go lew?
 
(1, 1) 845 Rhwbath bach i ti.
 
(1, 1) 848 Agor o.
 
(1, 1) 852 Gweld hi yn y boutique newydd 'na wrth ymyl capal Pen-dre.
 
(1, 1) 855 Wel ia, siŵr dduw...
(1, 1) 856 Ydi Tudur yma?
 
(1, 1) 859 Eto?
(1, 1) 860 Pryd ddiawl geith 'i daid 'i weld o?
 
(1, 1) 863 Hon, 'mechan i.
 
(1, 1) 865 Dos i newid a paid â chwyno.
 
(1, 1) 869 Pawb hawl i ga'l ail blentyndod mechan i.
(1, 1) 870 Y?
 
(1, 1) 872 Be ti'n ddeud?
 
(1, 1) 878 Pam gofyn i mi?
 
(1, 1) 880 Oreit, oreit.
(1, 1) 881 Gwario 'dw i.
(1, 1) 882 Pawb isio steil dyddia yma, tydyn?
(1, 1) 883 Y?
(1, 1) 884 Showers a ballu.
(1, 1) 885 'Neith pobol ddim mo'i ryffio hi heddiw.
(1, 1) 886 Isio'u blydi cysuron.
(1, 1) 887 Y job lot.
(1, 1) 888 Gwahanol iawn i fel bydda hi stalwm.
(1, 1) 889 'Dw i'n cofio Mair a finna pan o'dd Arthur yn fabi...
 
(1, 1) 892 Pam?
 
(1, 1) 894 Dydi o ddim 'di chlywad hi, nac 'di?
(1, 1) 895 Mair a finna yn penderfynu rhentu carafan tu allan i Aberaeron.
(1, 1) 896 Do'ddan ni ddim isio mynd yn bell.
(1, 1) 897 Babi o'dd Arthur.
(1, 1) 898 Cyrraedd yno'n hwyr ryw nos Sadwrn.
(1, 1) 899 Sôn am uffar o le.
(1, 1) 900 Dim toilets.
(1, 1) 901 Dim showers.
(1, 1) 902 Bygyr ôl.
(1, 1) 903 Aethon ni adra ar ôl tridia.
(1, 1) 904 Pwy welis i ond Elis Huws Plas.
(1, 1) 905 Fo a'i wraig, newydd fod ar cruise o gwmpas Jamaica.
(1, 1) 906 "Sut a'th yr holidays Wilias?" medda fo.
(1, 1) 907 "Uffernol", medda fi.
(1, 1) 908 Dyma fi'n disgrifio'r twll lle 'ma gaethon ni yn Aberaeron.
(1, 1) 909 Ti'n gwbod be ddeudodd o?
 
(1, 1) 911 "Ylwch, Wilias bach", medda fo, "dach chi'n ddyn sy'n gweithio fath â slaf drw'r flwyddyn.
(1, 1) 912 Pam ddiawl 'dach chi'n mynd i ffwrdd i rwla am wsnos jest i gachu mewn pwcad?"
 
(1, 1) 915 Deud y gwir, toedd?
(1, 1) 916 Y?
(1, 1) 917 Sbiis i ddim ar garafan wedyn.
(1, 1) 918 Sbaen fuo hi bob blwyddyn ar ôl hynny.
(1, 1) 919 Ond ma' rhei o'r petha Lerpwl ma'n ciwio i fynd iddyn nhw.
(1, 1) 920 "Iawn", medda fi, "os ma' dyna be 'dach chi isio, pob croeso ichi'r ffernols."
(1, 1) 921 Ond ma' hyd yn oed y diawlad rheini 'di dechra molchi rŵan.
(1, 1) 922 Isio'r job lot ar blât...
(1, 1) 923 A be ydi dy hanas di dyddia yma?
(1, 1) 924 Dal yng Nghaerdydd 'na?
 
(1, 1) 926 Fydda' i yng Nghaerdydd yn amal, 'bydda Dwynwen?
 
(1, 1) 928 Blydi cyfarfodydd.
(1, 1) 929 'Nes i alw heibio'r coleg 'cw fythefnos nôl ond do'ddat ti ddim ar gyfyl y lle.
(1, 1) 930 Yr ysgrifenyddes 'na sy gynnoch chi'n cau deud wrtha'i ble ro'ddat ti.
(1, 1) 931 Lle ro'ddat ti felly?
 
(1, 1) 933 Pam na fasa hi wedi deud hynny wrtha'i, ta?
(1, 1) 934 Hulpan.
(1, 1) 935 Peth hyll ar y diawl hefyd.
(1, 1) 936 Do's 'na ddim genod del o gwmpas Caerdydd 'na, d'wad?
 
(1, 1) 938 Pan fydda i'n chwilio am rywun i deipio imi, mi fydda i'n chwilio am rywun del, yli.
(1, 1) 939 Uffar ots be sy'n i phen hi.
(1, 1) 940 Peth braf ydi cerddad i mewn i swyddfa yn y bora a rhywun del yn dy wynebu di hefo gwên.
(1, 1) 941 Gneud gwahania'th, sti?
(1, 1) 942 Pobol yn gweithio'n well.
(1, 1) 943 Hapusach yli.
(1, 1) 944 Mi faswn i'n ca'l gwarad â honna ffordd gynta.
(1, 1) 945 Rhoid y lôn i'r garglan.
 
(1, 1) 947 Ydan ni wedi dwad â bob dim o'r car, d'wad?
 
(1, 1) 949 Lle ma'n nhw?
 
(1, 1) 952 Picia i nôl nhw, gwael.
 
(1, 1) 956 Handi.
 
(1, 1) 958 D'rofun prynu un o'r rhein.
(1, 1) 959 Petha drud?
 
(1, 1) 961 Drytach na'r petha mawr 'ma, 'lly?
 
(1, 1) 966 Pam?
 
(1, 1) 968 Sori, sori.
 
(1, 1) 970 Sych ar y diawl, tydi?
 
(1, 1) 972 Gneud hynny yn 'y nghwsg, 'chan.
 
(1, 1) 974 Joio dy hun?
 
(1, 1) 979 Tara'r gôt 'na brynis i iti amdanat.
 
(1, 1) 981 Ty'd laen.
(1, 1) 982 'Dw i isio 'i gweld hi.
 
(1, 1) 985 Ma' gin i hawl i weld be ges i am ddau gan punt.
 
(1, 1) 987 Ddim yn iawn.
(1, 1) 988 Rhyw hen ola rhyfadd yna.
 
(1, 1) 990 Ia...
(1, 1) 991 Du ydi hi, te?
 
(1, 1) 997 Chdi sy 'di bod yn stompio, te?
(1, 1) 998 Y?
 
(1, 1) 1000 Gad hi tan fory.
(1, 1) 1001 Ella sychith hi...
(1, 1) 1002 Lecio hi?
(1, 1) 1003 Y?
 
(1, 1) 1005 'I chôt hi.
 
(1, 1) 1010 Dau gant, washi.
 
(1, 1) 1014 Paid â mynd.
(1, 1) 1015 Paid â mynd.
 
(1, 1) 1017 Gin i rwbath i ddangos iti.
 
(1, 1) 1019 Aros am funud.
 
(1, 1) 1021 Ddeudis i wrthat ti mod i am brynu un i Tudur, do?
 
(1, 1) 1023 I' thrio hi, te?
 
(1, 1) 1025 Caria hi imi, gwael.
 
(1, 1) 1029 Ydi dy facha di'n lân?
 
(1, 1) 1031 Ty'd â hi yma...
(1, 1) 1032 Sglyfa'th!...
(1, 1) 1033 Gneud diawl o ddim ond mocha yn y lle 'ma...
 
(1, 1) 1129 Dydi'r diawl peth ddim yn gweithio.
 
(1, 1) 1131 Hwn, te?
 
(1, 1) 1133 Does na ddim blydi batris yn'o fo.
 
(1, 1) 1135 Sbia, yli...
 
(1, 1) 1139 Ti'n wyddonydd?
(1, 1) 1140 Be 'dw i fod i 'neud?
(1, 1) 1141 Presant ydi hwn i fod.
 
(1, 1) 1143 Oes 'na fatris yn y blydi lle 'ma?
 
(1, 1) 1145 Pam ti 'di tynnu'r gôt 'na?
 
(1, 1) 1148 Lecio hi?
 
(1, 1) 1155 'Nest ti mo f'atab i.
 
(1, 1) 1161 Wyt ti'n lecio'r gôt?
 
(1, 1) 1166 Du.
 
(1, 1) 1172 Mi fydd yn gyfarfod champion...
(1, 1) 1173 |Degannwy|.
(1, 1) 1174 Tôn bach hyfryd, 'chan.
(1, 1) 1175 Fydda Mair wrth 'i bodd hefo |Degannwy|.
(1, 1) 1176 Rhwbath glân, syml yn'i hi, toes?
(1, 1) 1177 Y?...
 
(1, 1) 1179 ~
(1, 1) 1180 "Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw
(1, 1) 1181 Lle daw im help wyllysgar."
 
(1, 1) 1185 Be ydi'r brys?
 
(1, 1) 1187 Y busnas geneteg 'ma?
 
(1, 1) 1190 Ydi o'n wir, 'lly?
 
(1, 1) 1192 Y byddwch chi a'ch tebyg, mhen rhyw 'chydig flynyddo'dd yn medru, be ddiawl ydi'r gair, tra-arglwyddiaethu ar yr hen fyd 'ma?
(1, 1) 1193 Rhoid trefn ar y dam lle unwaith ac am byth.
 
(1, 1) 1195 Papura 'ma'n deud c'lwydda felly?