Ciw-restr

Ffrwd Ceinwen

Llinellau gan Dei (Cyfanswm: 215)

 
(1, 1) 35 Helo?...
(1, 1) 36 Dei.
(1, 1) 37 Dei Edwards.
(1, 1) 38 Ffonio chi o Sir Fôn...
(1, 1) 39 Ia, isio record...
(1, 1) 40 Rŵan 'lly?...
(1, 1) 41 Ia, iawn.
 
(1, 1) 57 Ydw.
 
(1, 1) 60 O Sir Fôn.
 
(1, 1) 62 Ia...
(1, 1) 63 Isio record 'dw i.
 
(1, 1) 66 Nac'dw.
 
(1, 1) 70 Nac'dw.
 
(1, 1) 72 Fydda i ddim yn lecio jam.
 
(1, 1) 81 Ydw.
 
(1, 1) 83 Rhosceinwen.
 
(1, 1) 85 Ddim yn bell o Niwbwrch.
 
(1, 1) 87 Ma' siŵr.
 
(1, 1) 90 'D wn i'm duw.
 
(1, 1) 92 Rhwbath gin Islwyn Davies.
 
(1, 1) 94 Islwyn Davies.
(1, 1) 95 Cyfansoddwr o'r sir 'ma.
(1, 1) 96 Fuo fo farw bum mlynadd nôl.
(1, 1) 97 Ma'n nhw'n dadorchuddio plac er co' amdano fo yn y pentra 'ma heno.
(1, 1) 98 A deud y gwir, y darn faswn i'n lecio'i glywad fasa 'i drefniant o o |Gob Malltraeth|.
 
(1, 1) 100 Cob Malltraeth.
 
(1, 1) 130 Chwilio am dy fam.
 
(1, 1) 135 Gwlyb ydi hi yn y gwaelodion 'na.
(1, 1) 136 Dydw i ddim isio stompio'r lle efo'r JCB 'na.
(1, 1) 137 Ond be arall 'na i?
 
(1, 1) 141 Be 'dw i fod i 'neud?
(1, 1) 142 Bwrw mlaen?
(1, 1) 143 Stomp fydd hi.
(1, 1) 144 Y pridd yn rhy feddal.
(1, 1) 145 I 'neud job iawn ma' gofyn rhoid llwythi o goncrit yna, sti?
(1, 1) 146 Stompio diawl ydi peth fel hyn.
 
(1, 1) 150 Pwy ydi'r bobol 'ma sy'n mynd i' brynu o?
 
(1, 1) 153 Barry yn un ohonyn nhw ma' siŵr, tydi?
 
(1, 1) 157 Pa flwyddyn o'dd hi?
 
(1, 1) 159 Pa flwyddyn cyfansoddodd o |Cob Malltraeth|?
 
(1, 1) 162 Pan o'dd o'n darlithio ym Mangor.
(1, 1) 163 Mi ddoth yno yn 1969, do?
(1, 1) 164 Do, bendant...
(1, 1) 165 Be sy?
(1, 1) 166 'Di synnu wyt ti?
 
(1, 1) 168 Synnu mod i'n gwbod y petha ma?
 
(1, 1) 170 Wyddost ti be fydda i'n 'neud ar ddydd Sadwrn?
 
(1, 1) 172 Picio ben bora i Gaer.
(1, 1) 173 Parcio'r car wrth yr afon a'i gneud hi'n syth bin am HMV.
(1, 1) 174 Mi arhosa i yno am ryw ddwyawr, jest yn gwrando ar weithia'r mawrion.
(1, 1) 175 Ia 'chan, y mawrion.
(1, 1) 176 Tua'r un ar ddeg 'ma mi a' i am goffi i ryw le bach Italian wrth ymyl yr eglw's gadeiriol.
(1, 1) 177 Boi o Verona sy' bia fo.
(1, 1) 178 Ti 'di bod yn Verona?
 
(1, 1) 180 Rhaid i ti fynd.
(1, 1) 181 Uffar o amffitheatr fawr yno.
(1, 1) 182 Operâu drwy'r ha' yn yr awyr agorad.
(1, 1) 183 O'n i yno llynadd.
(1, 1) 184 Welis i |Aida|.
(1, 1) 185 Iawn.
(1, 1) 186 Gormod o sbloets i mi ond ro'dd hi'n noson braf ar y diawl.
(1, 1) 187 Jest pobol yn enjoio'u huna'n.
(1, 1) 188 Tu allan i'r amffitheatr ma' 'na piazza mawr.
(1, 1) 189 Caffis a ballu.
(1, 1) 190 Ar ôl y perfformiad fues i yno'n ista am oria...
(1, 1) 191 Lle o'n i?
(1, 1) 192 O, ia, ca'l panad yng Nghaer.
(1, 1) 193 Ar ôl llyncu'r banad mi a' i'n ôl i'r siop.
 
(1, 1) 196 Be ydi hon?
(1, 1) 197 Cân newydd?
 
(1, 1) 199 Fawr o siâp arni, nac oes?...
(1, 1) 200 Rhei pobol yn medru chwara honna'n iawn, sti?...
(1, 1) 201 Am faint fuost ti yn y Guildhall na?
 
(1, 1) 204 Be ddeudis i?...
(1, 1) 205 Dim ond gofyn 'nes i...
 
(1, 1) 217 'Dw i'n gwella ma' raid.
 
(1, 1) 219 Potsian o'n i.
(1, 1) 220 Disgwl i'ch mam ddwad nôl o Fangor...
(1, 1) 221 Gneud rhyw joban 'dw i iddi.
 
(1, 1) 223 JCB.
(1, 1) 224 Ia...
(1, 1) 225 Dei.
(1, 1) 226 Dei Edwards.
(1, 1) 227 Mi fydda nhad yn cadw'r garej stalwm.
(1, 1) 228 Cofio?
 
(1, 1) 230 Ia, Tomi...
(1, 1) 231 Meilir, te?
 
(1, 1) 233 Y darlithydd?
 
(1, 1) 235 Caerdydd?
 
(1, 1) 237 Braf arnach chi.
 
(1, 1) 239 Digon o gyngherdda 'na, toes?
 
(1, 1) 241 Diawl o ddim byd rownd ffor'ma, chi?
(1, 1) 242 Weithia, ma' 'na rwbath go lew ymlaen yn y coleg.
(1, 1) 243 Ond yn y sir 'ma?
(1, 1) 244 Diawl o ddim.
(1, 1) 245 Bygyr ôl.
(1, 1) 246 Dim ond pensionïars yn puo emyna mewn steddfoda a karaoke yn y Crown nos Sadwrn.
 
(1, 1) 248 Cwestiwn da ar y diawl.
 
(1, 1) 251 Ia a naci.
(1, 1) 252 Pryd fuoch chi yma ddwytha, d'wch?
 
(1, 1) 254 O'n i'n ama.
(1, 1) 255 Mi benderfynodd ych mam 'i bod hi isio creu llyn yn y gwaelodion 'na.
(1, 1) 256 Atal lli'r ffrwd drw' godi argae bridd.
 
(1, 1) 258 Fydda i ddim yn gofyn cwestiyna, dim ond gneud fel ma' pobol yn ddeud wrtha'i.
(1, 1) 259 Job ydi job, ond, myn diawl, ma' hon yn mynd yn drech na rhywun.
(1, 1) 260 Rhy wlyb tydi?
(1, 1) 261 Pridd yn rhy feddal.
(1, 1) 262 Ma'r dŵr 'di dechra torri trwadd wrth y clawdd 'na.
(1, 1) 263 Mi fydd Lôn Bacsia 'na'n llifo pan ddoith hi'n law.
(1, 1) 264 Ac mi fydd Jac Tŷ Gwyn yn chwara'r diawl.
(1, 1) 265 Rhyngthoch chi a fi, mocha diawl ydi peth fel hyn a dim byd arall.
(1, 1) 266 Lluchio pres.
 
(1, 1) 268 E'lla.
 
(1, 1) 270 Ma' siŵr.
 
(1, 1) 274 Ma' Dona 'ma.
 
(1, 1) 276 Fyny grisia.
 
(1, 1) 278 'Dw i ddim yn meddwl...
(1, 1) 279 Gewch chi ddewis ych llofft felly.
 
(1, 1) 281 Thâl hyn ddim.
(1, 1) 282 Mi fedra i fwrw mlaen hefo'r peipia 'na, medra?
 
(1, 1) 285 Ges i uffar o feirniada'th dda gynno fo, 'chi?
 
(1, 1) 287 Ych tad.
(1, 1) 288 Ga'th o wahoddiad i feirniadu yn steddfod 'r ysgol.
(1, 1) 289 Unawd bechgyn dan bymthag.
(1, 1) 290 Un o'i ganeuon o'i hun o'dd y darn.
(1, 1) 291 'Llyn Cerrig Bach'.
(1, 1) 292 Hen ddarn digon anodd i lais ifanc ond, myn diawl, ges i gynta gynno fo.
(1, 1) 293 A beirniada'th.
(1, 1) 294 Mi fynnodd draddodi'r feirniada'th.
(1, 1) 295 Yr unig un draddododd o drw' gydol y steddfod.
(1, 1) 296 Isio imi fynd am wersi canu...
(1, 1) 297 Mynd i goleg cerdd a ballu.
(1, 1) 298 Uffar o hwb i rywun ar y pryd.
(1, 1) 299 Oedd 'chan.
(1, 1) 300 Hwb ar ar y diawl.
 
(1, 1) 302 A'th nhad yn giami, do?
(1, 1) 303 Rhwbath ar yr iau.
(1, 1) 304 Naethon nhw ddim byd ond 'i agor o fath â macrall a'i gau o.
(1, 1) 305 Blydi doctoriad.
(1, 1) 306 Cofio un ohonyn nhw'n galw mam a finna' i ryw 'stafall.
(1, 1) 307 "Ma'n ddrwg gynnon ni Mrs.Edwards.
(1, 1) 308 'Fedrwn i 'neud dim byd iddo fo."
(1, 1) 309 dyma fo'n troi ar i sowdwl a'i gluo hi allan.
(1, 1) 310 Y peth nesa' o'n i'n 'i glywad o'n chwerthin ar y coridor hefo rhyw ddoctor arall.
(1, 1) 311 Sais.
(1, 1) 312 Sôn am Baron Hill a rhyw golff a ballu.
(1, 1) 313 'I weld o'n beth rhyfadd i neud a mam o fewn deg llath iddo fo'n beichio crio.
(1, 1) 314 Ia, blydi doctoriad.
(1, 1) 315 Arglwydd, rhaid imi watsiad be 'dw i'n ddeud.
(1, 1) 316 'Dach chi'n ddoctor, tydach?
 
(1, 1) 318 Be 'lly?
 
(1, 1) 320 'Genes' a ballu, ia?
 
(1, 1) 322 Uffar o ddim byd arall yn y papura ma' dyddia yma, nac o's?...
(1, 1) 323 Ta waeth, ro'dd rhaid i rywun gymryd y garej, toedd?
(1, 1) 324 Fel 'a ma' hi, ond myn diawl ro'dd o'n beth braf gwbod bod o ynach chi...
(1, 1) 325 Yn yr hen 'genes' 'ma, te?
 
(1, 1) 328 |Cob Malltraeth|.
(1, 1) 329 Uffar o gân.
 
(1, 1) 587 Dwad yma i dwtio 'nes i, ddim i blydi 'redig.
(1, 1) 588 Ylwch?
(1, 1) 589 Lawnt ydi honna i fod.
 
(1, 1) 591 Wna'i ddim gwrthod.
 
(1, 1) 595 Na, ma'n nhraed i'n drybola o faw.
 
(1, 1) 597 Fedri di ddiodda'r ogla?
 
(1, 1) 600 Coffi.
(1, 1) 601 A gwna fo'n gry'.
 
(1, 1) 605 Stomp fel hyn ddim yn mynd i godi gwerth y lle 'ma, nac 'di?
(1, 1) 606 Y?
(1, 1) 607 Blydi syniad lloerig.
(1, 1) 608 Ffrydia.
(1, 1) 609 Petha rhyfadd ar y diawl.
(1, 1) 610 Fel tasa gynnyn nhw'u hewyllys 'u huna'n.
 
(1, 1) 612 Betia i chi, pan ddo'i yma ben bora fory, mi fydd 'na dros droedfadd o ddŵr ar y blydi lôn 'na.
(1, 1) 613 'Dw i 'di cario tunelli at y clawdd 'na'n barod.
(1, 1) 614 Gneud diawl o ddim gwahania'th.
(1, 1) 615 Be 'dach chi'n chwara?
 
(1, 1) 617 Gwaith ych tad 'lly?
 
(1, 1) 619 'Chlywis i 'rioed amdani.
 
(1, 1) 621 Gwahanol rywsut, tydi?
(1, 1) 622 Hynny ydi, gwahanol i'r petha er'ill gyfansoddodd o.
 
(1, 1) 624 Sori...
(1, 1) 625 Cariwch ymlaen.
 
(1, 1) 628 Pam?
 
(1, 1) 632 'Sgynnoch chi gopi ohoni?
 
(1, 1) 635 'Dach chi'n un blêr?
 
(1, 1) 639 Ddim yn disgwl i chi ddeud gair fel 'na.
 
(1, 1) 641 Wn i'm.
(1, 1) 642 Swnio mor, be fasa'r gair, gartrefol?
(1, 1) 643 Hen ffasiwn?
(1, 1) 644 Fath â tasach chi rioed wedi gada'l y lle 'ma.
 
(1, 1) 646 Do...
(1, 1) 647 O'dd o'n siomedig?
 
(1, 1) 649 Ych tad.
 
(1, 1) 651 Na 'naethoch chi ddim mynd yn gerddor?
 
(1, 1) 653 Meindio i mi ofyn 'lly... sut geuthoch chi afa'l ar y diwn 'ma, ta?
 
(1, 1) 655 Pryd?
 
(1, 1) 676 E'lla ma yn yr anorac 'na mae hi?
 
(1, 1) 679 Be amdano fo?
 
(1, 1) 681 'Dw i'n gweithio iddo fo, tydw?
 
(1, 1) 683 Dyna ddeudodd madam?
 
(1, 1) 685 Ylwch, dim ond dwad yma i weithio 'dw i.
 
(1, 1) 688 Ylwch, do's 'nelo fo'm byd â fi...
(1, 1) 689 Ond, os cewch chi hyd i'r darn 'na, fasach chi'n fodlon anfon copi ata' i?
 
(1, 1) 694 Well gin i stomp 'dw i'n gyfarwydd â hi, myn diawl.
 
(1, 1) 995 Fedra i 'neud dim byd yn y gwaelodion 'na.
(1, 1) 996 Ma' hi'n rhy wlyb.
 
(1, 1) 999 Ma'n rhaid inni ga'l at y llyn, rhaid?
 
(1, 1) 1004 Be?
 
(1, 1) 1008 Del.
(1, 1) 1009 Del iawn, Mrs Davies.
 
(1, 1) 1012 Arglwydd...
 
(1, 1) 1016 Pam?
 
(1, 1) 1018 Be?
 
(1, 1) 1027 Ew.
(1, 1) 1028 Cwch bach handi 'chan.