Ciw-restr

Ffrwd Ceinwen

Llinellau gan Dona (Cyfanswm: 196)

 
(1, 1) 128 Be ti'n 'neud?
 
(1, 1) 131 Dydi hi ddim yma.
(1, 1) 132 Ma' hi 'di picio i Fangor hefo Barry i nôl rhyw betha at heno.
(1, 1) 133 Pam?
(1, 1) 134 Be sy 'lly?
 
(1, 1) 138 Paid â gofyn i mi.
(1, 1) 139 'Dw i'n dallt dim.
(1, 1) 140 Mi fyddan nhw'n ôl munud, ma' siŵr.
 
(1, 1) 148 Gneud fawr o wahaniaeth, nac 'di?
(1, 1) 149 A'r lle 'ma ar fin ca'l 'i werthu.
 
(1, 1) 151 Duw a ŵyr.
(1, 1) 152 Rhyw syndicate o'r Wirral.
 
(1, 1) 154 Wn i'm.
(1, 1) 155 Fydda i byth yn holi.
(1, 1) 156 Dallt dim.
 
(1, 1) 158 Be?
 
(1, 1) 161 Rhywbryd yn niwadd y chwe dega.
 
(1, 1) 167 Synnu?
 
(1, 1) 169 Pawb at y peth y bo.
 
(1, 1) 171 Na wn i.
 
(1, 1) 198 Ia.
 
(1, 1) 364 'Chlywis i mohonat ti'n cyrra'dd.
 
(1, 1) 366 Dy hun wyt ti?
 
(1, 1) 373 Mi faswn i 'di lecio'u gweld nhw.
 
(1, 1) 376 Tua'r saith 'ma.
 
(1, 1) 378 Rhyw bwyllgor placia ne' rwbath.
 
(1, 1) 380 Ma'n nhw'n rhoid plac ar gartrefi enwogion yr ynys 'ma.
 
(1, 1) 382 Dyna o'dd dymuniad mam.
 
(1, 1) 384 Ma' siŵr y medrat ti 'i alw fo'n hynny.
 
(1, 1) 386 Rhys.
 
(1, 1) 388 Am wn i...
 
(1, 1) 390 Pam?
(1, 1) 391 Pryd welist ti o ddwytha?
 
(1, 1) 404 O'dd o'n edrach yn hapus?
 
(1, 1) 410 Bydd, weithia.
 
(1, 1) 412 Pedair Dolig nesa.
 
(1, 1) 414 Ydi.
 
(1, 1) 416 Nac 'di.
 
(1, 1) 418 Ca'l 'i hel o'no, y tinllach bach drwg.
 
(1, 1) 420 Ca'l 'i warchod.
 
(1, 1) 422 Mrs Ashfield.
(1, 1) 423 Byw yn Tŷ Calch.
(1, 1) 424 Athrawes ydi hi ond yn methu ca'l gwaith.
(1, 1) 425 Dim Cymraeg gynni hi.
(1, 1) 426 Tudur wrth 'i fodd yna.
(1, 1) 427 Mi geith aros 'na heno.
(1, 1) 428 Ma' hi'n dda fel 'na.
(1, 1) 429 Dim byd yn ormod o draffarth iddi...
 
(1, 1) 446 Nac 'dw.
 
(1, 1) 448 Nac 'dw.
 
(1, 1) 450 Do'dd gin ti ddim hawl i 'myrryd.
 
(1, 1) 452 Dim hawl i fysnesu.
 
(1, 1) 455 Ddylat ti ddim fod wedi gada'l iddo fo ddreifio'r car.
(1, 1) 456 'Nest ti ddim hyd yn oed trio dal pen rheswm hefo fo.
 
(1, 1) 459 Duw, Duw.
(1, 1) 460 Hogia'r lle 'ma i gyd yn chwil rownd y rîl.
 
(1, 1) 462 'Nest ti sylwi ar y bloda?
 
(1, 1) 464 Ar y groeslon Pen Ffridd 'na, lle a'th Arthur ar 'i ben i'r wal.
 
(1, 1) 466 Bob dydd Sadwrn ma' Barry yn mynd â bloda yna.
(1, 1) 467 Parcio'r car wrth Ben Ffridd, croesi'r lôn a'u gosod nhw'n dwt wrth fôn y clawdd.
(1, 1) 468 Mi sefith yna am tua hannar awr yn gneud dim ond rhythu arnyn nhw...
(1, 1) 469 O'n i'n mynd heibio diwrnod o'r blaen...
(1, 1) 470 Rhwbath... gwag yn yr holl beth...
(1, 1) 471 Ond dyna fo... ro'dd o'n dad i Arthur, toedd?
 
(1, 1) 473 Am y noson honno?
(1, 1) 474 Nac 'di.
(1, 1) 475 Mae o'n dal i feddwl ma' ar y ffordd adra o'r Crown o'dd o.
 
(1, 1) 477 Na, a cheith o'm gwbod chwaith bellach.
(1, 1) 478 'Dw i ddim isio cynhyrfu'r dyfroedd.
(1, 1) 479 Ma' mam a fynta yn gymaint o lawia tydyn?
 
(1, 1) 481 I helpu hi i ga'l caniatâd cynllunio ar yr hen sgubor 'na a ballu.
(1, 1) 482 Barry yn ddyn go bwysig erbyn hyn.
(1, 1) 483 Nabod pawb.
(1, 1) 484 Rhan o sefydliad y twll lle 'ma.
(1, 1) 485 Dydi o ddim yn ddrwg i gyd.
(1, 1) 486 Rhwbath reit ffeind yn'o fo.
(1, 1) 487 Eith â Tudur ar wylia i rwla bob hyn a hyn...
(1, 1) 488 Ma' hynny'n rhoid cyfla i mi roid mwy o sylw i'r band...
(1, 1) 489 A fydda i ddim yma mewn chydig fisoedd, na fydda'?
 
(1, 1) 492 Brighton.
 
(1, 1) 494 Fanno ma'r rhan fwya o hogia'r band yn coleg.
(1, 1) 495 Ma'n nhw'n gorffan 'leni.
(1, 1) 496 'Dan ni wedi penderfynu byw yno.
(1, 1) 497 'Neith betha'n haws i bawb.
 
(1, 1) 499 Ydyn.
 
(1, 1) 501 E'lla gwna'i ada'l o hefo mam.
(1, 1) 502 Ga'i weld sut eith hi.
 
(1, 1) 504 Do...
(1, 1) 505 Fydd hi ddim yn broblem fawr a deud y gwir.
(1, 1) 506 Mi fydd Tudur yn dechra'n 'r ysgol gyda hyn...
(1, 1) 507 Ysgol breifat yn rhwla.
 
(1, 1) 509 Barry fasa'n talu.
(1, 1) 510 Isio gneud medda fo.
 
(1, 1) 512 Duw a ŵyr...
(1, 1) 513 A be ydi dy hanas di dyddia yma?
 
(1, 1) 515 Yng Nghaerdydd?
 
(1, 1) 518 Meddwl cei di hi?
 
(1, 1) 520 Be ma' Eleri'n ddeud?
 
(1, 1) 522 Be tasa ti'n i cha'l hi?
 
(1, 1) 525 Wnâ' hi symud?
 
(1, 1) 527 Prinder athrawon yn Llundain meddan nhw.
 
(1, 1) 529 A'r plant?
 
(1, 1) 531 Pam?
 
(1, 1) 533 Tydan ni fel teulu'n codi'n y byd?
 
(1, 1) 541 Yr 'Horse and Jockey'.
 
(1, 1) 556 The Winter's Tale.
(1, 1) 557 Leontes, Brenin Sisilia.
 
(1, 1) 572 Helo?...
(1, 1) 573 O, Iwan, sut ma hi?...
(1, 1) 574 Be?
(1, 1) 575 Sori?...
(1, 1) 576 Pleidleisio?...
(1, 1) 577 Naddo...
(1, 1) 578 Ddo'i heibio nes ymlaen, reit?...
(1, 1) 579 Na, na...
(1, 1) 580 Pobol ddiarth sy gynnon ni...
(1, 1) 581 Hwyl.
 
(1, 1) 584 Rhyw foi yn gofyn o'ddwn i wedi pleidleisio.
 
(1, 1) 590 Isio panad?
 
(1, 1) 592 Meilir.
 
(1, 1) 594 Dowch i mewn.
 
(1, 1) 596 Tynna dy sgidia a gad nhw'n fanna.
 
(1, 1) 599 Coffi 'ta te?
 
(1, 1) 700 'Ma chdi.
 
(1, 1) 703 Yn enw'r nefo'dd, tynna'r sgidia 'na a ty'd i mewn 'nei di.
 
(1, 1) 705 Lle me o 'di mynd?
 
(1, 1) 707 Ydi o'n dwad nôl?
 
(1, 1) 710 Pwy?
 
(1, 1) 712 'Dw i ddim yn siŵr.
(1, 1) 713 Llynadd rywbryd...
 
(1, 1) 715 Mam Arthur?
 
(1, 1) 717 Mair.
 
(1, 1) 719 'Naethon nhw ddim.
(1, 1) 720 Mi fuo hi farw ddwy flynadd yn ôl.
 
(1, 1) 722 Oeddan.
 
(1, 1) 724 Ddim i mi wbod.
(1, 1) 725 Pam ti isio gwbod y petha 'ma?
 
(1, 1) 743 Ma'n nhw'n bobol yn 'u hoed a'u hamsar, Meilir.
 
(1, 1) 745 'Nes i ddim deud c'lwydda wrthat ti.
 
(1, 1) 747 Mam ofynnodd imi beidio deud.
 
(1, 1) 749 Do'dd hi ddim isio rhyw hen annifyrdod.
(1, 1) 750 Y cyfarfod 'ma 'di drefnu a ballu, toedd?
(1, 1) 751 Be ydi o'r ots?
(1, 1) 752 Neno'r nefo'dd ma' gynnon ni'n tri yn bywyda'n hunan rŵan.
(1, 1) 753 Rhyngthyn nhw a'u petha.
 
(1, 1) 756 'D wn i'm.
(1, 1) 757 Diawl o ots gin i chwaith.
(1, 1) 758 Paid â chymryd arnat dy fod ti'n ama dim, reit?
(1, 1) 759 Ges i siars i gau ngheg...
(1, 1) 760 Ti'n gaddo imi?...
(1, 1) 761 Wel?
(1, 1) 762 Wyt ti?
 
(1, 1) 765 Ydi hwn isio'r coffi 'ma ta be?
 
(1, 1) 770 Newid dim, nac wyt?
 
(1, 1) 773 Dyna'r co' sy gin i amdanat ti.
 
(1, 1) 775 Dy drwyn mewn rhyw lyfr ne' rwbath rownd y rîl.
 
(1, 1) 777 Cofio ca'l uffar o beltan gin mam pan o'ddat ti'n gneud dy Lefel "A'.
(1, 1) 778 Ro'ddat ti'n gweithio ar gyfer rhyw bapur ffiseg yn y llofft.
(1, 1) 779 Ro'dd pawb i fod i gadw'n dawal.
(1, 1) 780 Ond y noson honno mi ddoth Gwenda Cae Llys adra o'r ysgol hefo fi.
(1, 1) 781 Ro'dd hi 'di prynu rhyw dâp.
(1, 1) 782 |Duran Duran| ne' rwbath, os 'dw i'n cofio'n iawn.
(1, 1) 783 Mi fynnodd 'i chwara fo'n llofft.
(1, 1) 784 Argo, dyma mam i mewn.
(1, 1) 785 Diffod y peth a rhoid peltan iawn imi.
(1, 1) 786 Ro'dd Gwenda wedi dychryn cymaint mi redodd adra heb 'i thâp.
(1, 1) 787 Mae o yma o hyd yn rhwla...
 
(1, 1) 789 Ges di lonydd, 'do?...
(1, 1) 790 Châi neb dy strybio di...
(1, 1) 791 Be ti'n 'neud pan ma'r hogia 'cw'n dy strybio di?
(1, 1) 792 Peltio nhw?...
 
(1, 1) 794 Be ti'n 'neud?
 
(1, 1) 796 Ystadega be?
 
(1, 1) 798 Sori.
 
(1, 1) 805 Pam?
 
(1, 1) 807 Dos i'r llofft.
 
(1, 1) 809 'Dw i isio clywad hon!
 
(1, 1) 811 Rhaid.
 
(1, 1) 814 Pam ma' rhaid iti weithio rŵan?
 
(1, 1) 816 "Cha' inna ddim cyfla i wrando ar hon heno chwaith!
 
(1, 1) 818 Na 'na!
 
(1, 1) 824 Paid 'nei di!
(1, 1) 825 Ma' gin i hawl i' chlywad hi!
 
(1, 1) 841 Rhywun wedi bod yn gwario eto?
 
(1, 1) 846 Chwara teg.
 
(1, 1) 854 Rŵan 'lly?
 
(1, 1) 857 Nac 'di.
(1, 1) 858 Ca'l 'i warchod.
 
(1, 1) 861 A be dach chi 'di brynu iddo fo tro 'ma?
 
(1, 1) 864 Ddylach chi ddim.
 
(1, 1) 1039 Ma' hi'n uffernol.
 
(1, 1) 1041 Dach chi ddim yn disgwl i mi wisgo peth fel hyn, debyg?
 
(1, 1) 1044 Be?
 
(1, 1) 1048 Fo ddewisodd honna i chitha hefyd?
 
(1, 1) 1071 Naddo.
 
(1, 1) 1077 'Dw i ddim yn gwisgo hon heno, reit?