Ciw-restr

Ffrwd Ceinwen

Llinellau gan Dwynwen (Cyfanswm: 88)

 
(1, 1) 831 Be ar wynab y ddaear ydi'r holl sŵn 'ma?
 
(1, 1) 835 Newydd gyrraedd wyt ti?
 
(1, 1) 837 Nabod Barry, twyt?
 
(1, 1) 843 A 'dan ni'n gwbod pwy, tydan?
 
(1, 1) 851 Barry ddaru 'i dewis hi.
 
(1, 1) 853 Dos i fyny i thrio hi, inni ga'l 'i gweld hi amdanat ti.
 
(1, 1) 867 Pam na 'nei di gyfadda?
(1, 1) 868 Chdi dy hun o'dd isio hi, te?
 
(1, 1) 874 Mi fasa ni'n ôl yn gynt onibai 'u bod nhw 'di codi'r lôn wrth Bryn Ysgo.
 
(1, 1) 877 Gofyn i Barry 'ma.
 
(1, 1) 879 Dy faes carafan di ydi o.
 
(1, 1) 891 'Dw i ddim isio'i chlywad hi.
 
(1, 1) 893 Ma 'hi'n ffia'dd.
 
(1, 1) 914 Twt lol, Barry.
 
(1, 1) 927 Byddi.
 
(1, 1) 948 Do, heblaw am y taflenni ar gyfar heno.
 
(1, 1) 950 Mewn bocs yn y bŵt.
 
(1, 1) 971 Mae o wedi dreifio o Gaerdydd, cofia.
 
(1, 1) 973 Bora bach hyfryd.
 
(1, 1) 975 Do.
(1, 1) 976 Yn arbennig y cinio.
(1, 1) 977 'Mhen i'n troi ar ôl y gwin 'na.
(1, 1) 978 Y petha 'ma... do'dd dim rhaid gwario'n wirion arnan ni.
 
(1, 1) 980 Aros inni ga'l panad, wir.
 
(1, 1) 984 Barry.
 
(1, 1) 986 Mi welist ti hi amdana' i yn y siop.
 
(1, 1) 992 Ia, du.
 
(1, 1) 1007 Barry.
 
(1, 1) 1022 Lle ti'n mynd?
 
(1, 1) 1037 O, ma' hi'n hyfryd, Dona.
(1, 1) 1038 Ydi ma' hi.
 
(1, 1) 1040 Be haru ti?
 
(1, 1) 1042 Ydw.
(1, 1) 1043 Heno.
 
(1, 1) 1045 Paid â gneud lol.
(1, 1) 1046 Gwisga hi.
 
(1, 1) 1049 Naci tad.
 
(1, 1) 1051 Pam?
(1, 1) 1052 Ti ddim yn 'i lecio hi?
 
(1, 1) 1054 Diolch yn fawr.
 
(1, 1) 1057 Tara nhw ar y bwrdd.
 
(1, 1) 1061 Dim byd.
 
(1, 1) 1063 Ddaru o ddim mo'i dwtsiad o.
 
(1, 1) 1066 Paid â gofyn i mi.
 
(1, 1) 1068 Am y tro dwytha 'na'th o ddim byd.
 
(1, 1) 1072 O'dd 'na rwbath pwysig arno fo?
 
(1, 1) 1075 Hefo Dei, wrth y Llyn.
 
(1, 1) 1078 Wyt!
(1, 1) 1079 A dyna ddiwadd arni.
 
(1, 1) 1082 Gad lonydd iddyn' nhw.
(1, 1) 1083 Presant i Tudur ydi o.
(1, 1) 1084 Neno'r nefo'dd, ty'd i mewn, 'nei di!
 
(1, 1) 1087 Dyma daflan y gwasana'th.
(1, 1) 1088 'Nes i ofyn gawn i 'i pharatoi hi yn hytrach na'r pwyllgor o dwps 'na...
(1, 1) 1089 Gobeithio 'i bod hi'n iawn.
 
(1, 1) 1092 Wel?
(1, 1) 1093 'Neith hi'r tro?
(1, 1) 1094 Ydi hi'n deilwng o dy dad?
 
(1, 1) 1096 Ydi.
 
(1, 1) 1098 Wsnosa'n ôl.
 
(1, 1) 1100 Oedd.
(1, 1) 1101 Mwy na pharod.
 
(1, 1) 1103 Be?
 
(1, 1) 1105 Rhyw feddwl o'n i y dylan ni ganu emyn i gloi'r cyfarfod.
 
(1, 1) 1108 Pa dôn ydi hi?
 
(1, 1) 1110 Ia?
(1, 1) 1111 Wel?
 
(1, 1) 1113 O'dd o?
 
(1, 1) 1118 Ia.
(1, 1) 1119 'Nes i ddim meddwl ar y pryd.
(1, 1) 1120 Fedrwn i ofyn i bwy bynnag sy'n chwara'r organ ddewis tôn arall, medrwn?
 
(1, 1) 1122 Pam ti'n mynnu tynnu'n groes, Meilir?
(1, 1) 1123 Difaru f'enaid mod i wedi gofyn iti ddwad i fyny.
(1, 1) 1124 O'n i'n ama ma' fel hyn basa hi?
(1, 1) 1125 Y cwbwl 'dw i isio 'neud ydi rhoid coffâd teilwng iddo fo ac wedyn...
 
(1, 1) 1130 Be ddim yn gweithio?
 
(1, 1) 1144 Duw a ŵyr.
 
(1, 1) 1146 Ro'n i'n mynd i' hongian hi.
 
(1, 1) 1152 Helo...
(1, 1) 1153 O, Iwan, chdi sy' 'na...
 
(1, 1) 1158 Pleidleisio?
(1, 1) 1159 Na, dydan ni ddim wedi ca'l cyfla...
 
(1, 1) 1165 Ma'r cyfarfod coffa 'ma gynnon ni heno, tydi?
 
(1, 1) 1169 Nes ymlaen ella, ia?...
(1, 1) 1170 Hwyl, Iwan.
 
(1, 1) 1205 Ty'd i mewn.
(1, 1) 1206 Ty'd i mewn.
(1, 1) 1207 Lle gebyst ti 'di bod?