Ciw-restr

Ffrwd Ceinwen

Llinellau gan Meilir (Cyfanswm: 316)

 
(1, 1) 216 Cob Malltraeth.
 
(1, 1) 218 Peidwch â gada'l imi'ch styrbio chi.
 
(1, 1) 222 Chi pia'r...?
 
(1, 1) 229 Tomi.
 
(1, 1) 232 Ia.
 
(1, 1) 234 Ia.
 
(1, 1) 236 Ar hyn o bryd beth bynnag.
 
(1, 1) 238 Pam 'dach chi'n deud hynna?
 
(1, 1) 240 Oes, ma' siŵr.
 
(1, 1) 247 Be'n union dach chi'n 'neud allan yn fanna?
 
(1, 1) 250 Y ffrwd 'na sy 'di gorlifo?
 
(1, 1) 253 Dolig?
 
(1, 1) 257 I be?
 
(1, 1) 267 E'lla bod nelo fo rwbath â'r gwerthu.
 
(1, 1) 269 Rhyw betha fel hyn yn codi gwerth llefydd, tydyn?
 
(1, 1) 271 Ond mae o'n beth hurt ar y naw i' ga'l, a chitha'n gwynebu'r môr, tydi?
(1, 1) 272 Rhwbath yn chwithig mewn ca'l llyn a môr yn yr un llun o flaen ych llygad chi...
(1, 1) 273 Neb adra 'lly?
 
(1, 1) 275 Lle ma' hi?
 
(1, 1) 277 Ydi 'mrawd wedi cyrraedd?
 
(1, 1) 280 Wel caf, caf?
 
(1, 1) 286 Gin bwy?
 
(1, 1) 301 Pam na fasach chi wedi mynd?
 
(1, 1) 317 Nac 'dw, ond gweithio'n yr un maes.
 
(1, 1) 319 Geneteg.
 
(1, 1) 321 'Dach chi wedi clywad am y petha 'ma felly?
 
(1, 1) 326 Wel, ia.
 
(1, 1) 336 Claire?...
(1, 1) 337 Meilir...
(1, 1) 338 Are you teaching?...
(1, 1) 339 Just ringing to tell you I've arrived...
(1, 1) 340 Tonight...
(1, 1) 341 I don't think it's much of a do.
(1, 1) 342 Just the family, a few friends and some local dignitaries.
(1, 1) 343 Look.
(1, 1) 344 I'm coming down to London tomorrow...
(1, 1) 345 There's this conference at Imperial College.
(1, 1) 346 I also want a chat with the prof...
(1, 1) 347 Yes, I've applied for the post...
(1, 1) 348 How many times do I have to tell you?
(1, 1) 349 I don't care what Eleri says.
(1, 1) 350 Could we meet tomorrow evening somewhere?...
(1, 1) 351 A concert?
(1, 1) 352 Where?
(1, 1) 353 What time does it finish?...
(1, 1) 354 Meet me afterwards...
(1, 1) 355 What about that little French place in Covent Garden?...
(1, 1) 356 I have to see you, Claire...
 
(1, 1) 359 I'll give you a ring later on...
(1, 1) 360 Fine.
(1, 1) 361 Great.
(1, 1) 362 Cheers.
 
(1, 1) 365 Newydd landio.
 
(1, 1) 367 Ia.
(1, 1) 368 Eleri'n methu dwad.
(1, 1) 369 Rhyw gwrs gynni hi.
(1, 1) 370 A ma' Deian a Glain yn cymryd rhan mewn gala nofio.
(1, 1) 371 Rhwbath gin yr Urdd.
(1, 1) 372 'Nes i ddim dallt yn iawn.
 
(1, 1) 374 Ia, wel, fel 'a ma' hi...
(1, 1) 375 Faint o'r gloch ma'r cyfarfod 'ma?
 
(1, 1) 377 Syniad gwallgo' pwy o'dd trefnu peth fel hyn?
 
(1, 1) 379 Be?
 
(1, 1) 381 Ond yn y capal ma'n nhw'n rhoid y plac er cof am dad.
 
(1, 1) 383 Gwasanaeth crefyddol.
 
(1, 1) 385 Pwy fydd yn cymryd y gwasanaeth 'ma?
 
(1, 1) 387 Ydi o 'di cytuno 'lly?
 
(1, 1) 389 Diddorol.
 
(1, 1) 392 Rhys?
(1, 1) 393 Yn Llundain rhyw ychydig ar ôl Dolig.
(1, 1) 394 Ro'n i mewn cynhadledd yn Imperial College.
(1, 1) 395 Amsar cinio o'dd hi.
(1, 1) 396 Bicis i i Jermyn Street.
(1, 1) 397 Isio prynu crys ne' ddau a phwy ddoth rownd rhyw gongol ond Rhys.
(1, 1) 398 Dau offeiriad arall hefo fo.
(1, 1) 399 Ges i dipyn o sioc a deud y gwir.
(1, 1) 400 Wedi cymryd ychydig ddyddia o wylia medda fo.
(1, 1) 401 'Chawson ni fawr o sgwrs.
(1, 1) 402 Ro'dd o ar frys.
(1, 1) 403 Ar 'i ffordd i weld rhyw sioe neu'i gilydd.
 
(1, 1) 405 Edrach yn ddigon bodlon 'i fyd.
(1, 1) 406 Ac yn medru byw yn ddigon twt ar gyflog offeiriad.
(1, 1) 407 Mi fydd yn gyrru rhyw gildwrn i'r plant 'cw rownd y rîl.
(1, 1) 408 Fydd o'n gyrru rhwbath i Tudur?
 
(1, 1) 411 Faint 'neith Tudur rŵan?
 
(1, 1) 413 Llond llaw?
 
(1, 1) 415 Mynd i'r ysgol feithrin?
 
(1, 1) 417 Pam?
 
(1, 1) 419 Lle mae o rŵan?
 
(1, 1) 421 Gin bwy?
 
(1, 1) 431 Leciwn i 'i weld o.
(1, 1) 432 Plant yn altro.
(1, 1) 433 Rhei acw 'di altro'n ofnadwy.
(1, 1) 434 Yn enwedig Glain.
(1, 1) 435 Glain yn ca'l hwyl ar y cello.
(1, 1) 436 Ddoth adra o'r ysgol ryw ddiwrnod a deud "Dad, 'dw i'n mynd i ddysgu chwara'r cello." "Wyt ti wir?" medda fi, "a phwy sy'n mynd i brynu peth felly iti, mwyn tad?"
(1, 1) 437 "Chi, siŵr iawn", medda hi.
(1, 1) 438 Be fedrwn i ddeud?
(1, 1) 439 Chwe chant o bunna.
(1, 1) 440 Ond mae o wedi bod 'i werth o.
(1, 1) 441 Ma' hi'n dda iawn chwara teg 'ddi.
 
(1, 1) 444 Be sy?...
(1, 1) 445 Dal i 'meio i twyt?
 
(1, 1) 447 Ti'n dal i 'meio i am y busnas Arthur 'na twyt?
 
(1, 1) 449 Trio achub dy groen di o'n i.
 
(1, 1) 451 Ro'dd o 'di hannar malu'r lle 'ma.
 
(1, 1) 453 Ac wedi dy gicio di'n ddu las a chditha'n disgwl i blentyn o.
(1, 1) 454 Be ddiawl o'n i fod i 'neud?
 
(1, 1) 457 Fedra neb ddal pen rheswm hefo fo.
(1, 1) 458 Ro'dd o wedi meddwi, toedd?
 
(1, 1) 463 Pa floda?
 
(1, 1) 465 Naddo.
 
(1, 1) 472 Ydi Barry yn gwbod?
 
(1, 1) 476 Ŵyr o ddim ma' yma o'dd o?
 
(1, 1) 480 Be ti'n feddwl, 'llawia'?
 
(1, 1) 490 O?
(1, 1) 491 A lle ti'n mynd, 'lly?
 
(1, 1) 493 Brighton?
 
(1, 1) 498 Petha ar i fyny?
 
(1, 1) 500 Ei di â Tudur hefo chdi?
 
(1, 1) 503 'Dach chi wedi trafod y peth?
 
(1, 1) 508 Ti'n sylweddoli faint 'neith hynny gostio?
 
(1, 1) 511 Lle eith o felly?
 
(1, 1) 514 Newydd 'neud cais am gadair.
 
(1, 1) 516 Naci.
(1, 1) 517 Llundain.
 
(1, 1) 519 Siawns reit dda.
 
(1, 1) 521 Cefnogol, fel arfar.
 
(1, 1) 523 Ia?
(1, 1) 524 Wel?
 
(1, 1) 526 Ma' siŵr.
 
(1, 1) 528 Felly ma'n nhw'n deud.
 
(1, 1) 530 Fydd hynny ddim problem.
 
(1, 1) 532 O'n inna wedi bwriadu gyrru rhei 'cw i ysgol breswyl hefyd.
 
(1, 1) 534 Ydan, tydan?
(1, 1) 535 Ond dyna fo, ma' rhaid talu am addysg dda dyddia yma...
(1, 1) 536 Mi fuon ni fel plant yn lwcus, sti?
(1, 1) 537 Ca'l mynd i lefydd a gweld petha, ca'l ehangu'n gorwelion.
(1, 1) 538 Cofio fel byddan ni'n mynd i Stratford 'stalwm?
(1, 1) 539 Stopio yn y dafarn 'na tu allan i Warwick.
(1, 1) 540 Be o'dd 'i henw hi d'wad?
 
(1, 1) 542 Gardd fawr yn y cefn i blant.
(1, 1) 543 Cofio ar ôl rhyw beint ne' ddau mi fydda' nhad yn mynd i hwyl.
(1, 1) 544 Dechra dyfynnu o'r ddrama ro'ddan ni wedi dwad i lawr i' gweld.
 
(1, 1) 546 ~=v
(1, 1) 547 "There may be in the cup
(1, 1) 548 A spider steep'd and one may drink, depart
(1, 1) 549 And yet partake no venom, for his knowledge
(1, 1) 550 Is not infected; but if one present
(1, 1) 551 The abhorr'd ingredient to his eye, make known
(1, 1) 552 How he hath drunk, he cracks his gorge, his sides
(1, 1) 553 With violent hefts.
 
(1, 1) 555 I have drunk, and seen the spider."
 
(1, 1) 558 Gwybodaeth yn llwyr newid y byd.
(1, 1) 559 Newid y cwbwl lot.
(1, 1) 560 Popeth.
 
(1, 1) 563 Nhad wrth 'i fodd yn mynd at y ffrwd 'na.
(1, 1) 564 Yn yr ha' mi fydda'n mynd â chadair lan môr ac ista am oria yna.
(1, 1) 565 Mynd â dim hefo fo.
(1, 1) 566 Dim ond gorfadd yn ôl, cau'i lygaid a myfyrio.
(1, 1) 567 Tuag amser te, mi fydda mam yn mynd â phanad iddo fo.
(1, 1) 568 Wedyn mi ddôi i mewn, mynd at y piano a chyfansoddi tan berfeddion.
 
(1, 1) 583 Pwy o'dd 'na?
 
(1, 1) 585 O.
 
(1, 1) 593 Ia, iawn.
 
(1, 1) 616 |Ffrwd Ceinwen|.
 
(1, 1) 618 Ia.
 
(1, 1) 620 'Nath o rioed 'i chyhoeddi hi.
 
(1, 1) 626 Na.
(1, 1) 627 Fedra i ddim yn 'y myw gofio'r gweddill.
 
(1, 1) 629 Wn i'm.
(1, 1) 630 Rhyw ddarn na fedrwch chi rywsut deimlo be sy'n dwad nesa'.
(1, 1) 631 Y cwbwl ar chwâl, rywsut.
 
(1, 1) 633 Oes, yn y stydi 'cw'n rhwla.
(1, 1) 634 Yng nghanol y nialwch.
 
(1, 1) 636 Gythreulig.
 
(1, 1) 638 Be sy' mor ddoniol?
 
(1, 1) 640 Pam?
 
(1, 1) 645 Ges i 'magu yma.
 
(1, 1) 648 Pwy?
 
(1, 1) 650 Ynglŷn â be?
 
(1, 1) 652 Os o'dd o, ddeudodd o 'rioed.
 
(1, 1) 654 Fo roth hi imi.
 
(1, 1) 656 Rhyw fis cyn iddo fo farw.
(1, 1) 657 Ro'dd o'n Clatterbridge.
(1, 1) 658 Newydd ga'l 'i driniaeth.
(1, 1) 659 Do'dd o ddim hannar da ond mi fynnodd mod i'n mynd â fo am dro.
(1, 1) 660 Mi aethon ni i Hoylake.
(1, 1) 661 Parcio'r car wrth y môr.
(1, 1) 662 Hwyl dda arno fo.
(1, 1) 663 Aethon ni am dro gerddad.
(1, 1) 664 Fel ro'ddan ni'n cerddad yn ôl at y car dyma fo'n tynnu'r darn papur 'ma allan.
(1, 1) 665 "Rhwbath bach iti", medda fo.
(1, 1) 666 "Ges i hyd i biano yn y diawl lle 'na."
(1, 1) 667 Ddeudis i ddim byd ond 'i daro fo ym mhocad rhyw anorac o'dd gin i.
(1, 1) 668 Yr holl ffordd nôl i'r sbyty, ro'dd o'n sôn am y darn.
(1, 1) 669 Ond do'n i ddim yn gwrando.
(1, 1) 670 Yr unig beth o'dd ar 'y meddwl i o'dd rhyw ddarlith o'n i'n 'i rhoid yn Lerpwl gyda'r nos.
(1, 1) 671 Pan gyrhaeddon ni'r 'sbyty, do'dd o ddim isio imi fynd â fo'n ôl i'r ward.
(1, 1) 672 Ffarweliodd hefo fi yn y maes parcio.
(1, 1) 673 Llusgo cerddad o'r car ac fel o'n i'n cychwyn troi i edrach arna'i.
(1, 1) 674 Codi'i law a gwenu.
(1, 1) 675 Duw a ŵyr lle taris i hi.
 
(1, 1) 677 E'lla...
(1, 1) 678 Barry Williams?
 
(1, 1) 680 Nabod o?
 
(1, 1) 682 Mam a fynta'n dipyn o lawia, medda Dona.
 
(1, 1) 684 Ma 'na fwy iddi na hynny, toes?
 
(1, 1) 686 Syniad pwy o'dd gwerthu'r lle 'ma?
(1, 1) 687 Fo ta hi?
 
(1, 1) 690 Atab 'y nghwestiwn i!
(1, 1) 691 Be sy'n mynd ymlaen rhwng y ddau!
(1, 1) 692 Atab fi!...
(1, 1) 693 Ma'n ddrwg gin i.
 
(1, 1) 701 O... diolch.
 
(1, 1) 706 I'r gwaelodion 'na i rwla.
 
(1, 1) 708 Wn i'm...
(1, 1) 709 Pryd ddechreuodd y ddau ddwad yn llawia?
 
(1, 1) 711 Barry a mam.
 
(1, 1) 714 Be o'dd enw'i wraig o?
 
(1, 1) 716 Ia.
 
(1, 1) 718 Pam 'naethon nhw ysgaru?
 
(1, 1) 721 Ond ro'ddan nhw wedi gwahanu, toeddan?
 
(1, 1) 723 O'dd o'n potsian hefo rhywun?
 
(1, 1) 726 Yr haf y buo nhad farw fues i gartra am bythefnos.
(1, 1) 727 Es i am dro i Langwyfan.
(1, 1) 728 Ar ganol y lôn 'na sy'n arwain at y traeth, ro'dd 'na Land Rover.
(1, 1) 729 Ro'n i'n meddwl ma' rhyw ffarmwr o'dd pia hi.
(1, 1) 730 Symud defaid ne' rwbath.
(1, 1) 731 Ond pwy ddoth ond Barry.
(1, 1) 732 Rhyw hogan hefo fo.
(1, 1) 733 Dal i gofio be o'dd hi'n 'i wisgo.
(1, 1) 734 Côt laes ddu.
(1, 1) 735 Golwg y diawl arni hi.
(1, 1) 736 Mae'n amlwg 'i bod nhw wedi bod yn ffraeo.
(1, 1) 737 Mi fagis i'r car at ben lôn i neud lle iddo fo basio.
(1, 1) 738 Dydw i ddim yn meddwl iddo fo nabod i.
(1, 1) 739 'Mhen rhyw ddeuddydd, ro'n i'n nôl petrol yn y garej 'na yn Borth a phwy ddreifiodd i mewn ond y fo.
(1, 1) 740 Droth o'i ben.
(1, 1) 741 Ddeudodd o ddim gair wrtha'i...
(1, 1) 742 Ma' nhw'n fwy na llawia, tydyn?
 
(1, 1) 744 Pam ddeudist ti g'llwydda wrtha'i?
 
(1, 1) 746 Do'ddat ti ddim isio imi ga'l gwbod am hyn, nac o'ddat?
 
(1, 1) 748 Pam?
 
(1, 1) 754 Be?
(1, 1) 755 Dydyn nhw 'rioed yn bwriadu...?
 
(1, 1) 763 Iawn.
(1, 1) 764 Iawn.
 
(1, 1) 772 Mm?
 
(1, 1) 774 Be?
 
(1, 1) 795 Tsiecio rhyw ystadega.
 
(1, 1) 797 Am funud, Dona, plîs...
 
(1, 1) 804 Diffa hwnna, 'nei di?
 
(1, 1) 806 Fedra'i ddim canolbwyntio.
 
(1, 1) 808 'Dw i ddim isio mynd i'r llofft.
 
(1, 1) 810 O's rhaid iti?
 
(1, 1) 812 Ti ddim yn gweld?
(1, 1) 813 'Dw i'n trio gweithio!
 
(1, 1) 815 'Cha' i ddim cyfla heno!
 
(1, 1) 817 Tro hi i lawr ta!
 
(1, 1) 826 Be ddiawl haru ti, d'wad!
(1, 1) 827 Faint ti'n feddwl ydi d'oed di?
 
(1, 1) 836 Rhyw hannar awr yn ôl.
 
(1, 1) 838 Ydw.
 
(1, 1) 840 Di-fai.
 
(1, 1) 873 Oes, ma' siŵr.
 
(1, 1) 875 Ges inna ddalfa'n fanno hefyd.
(1, 1) 876 Be ma'n nhw'n 'neud yna?
 
(1, 1) 910 Na wn i.
 
(1, 1) 925 Ydw.
 
(1, 1) 932 Yn y labordy ma' siŵr.
 
(1, 1) 937 Ma' hi'n ysgrifenyddes ardderchog.
 
(1, 1) 957 Ydi, handi ar y naw.
 
(1, 1) 960 Tua mil.
 
(1, 1) 962 Costio mwy i 'gneud nhw meddan nhw i mi.
 
(1, 1) 965 Peidiwch â twtsiad hwnna!
 
(1, 1) 967 'Dw i ar ganol gneud rhwbath.
 
(1, 1) 1053 Nac 'dw.
 
(1, 1) 1055 Du ddim yn gweddu ichi.
(1, 1) 1056 Lle ro' i rhein?
 
(1, 1) 1060 Be mae o wedi'i 'neud i hwn?
 
(1, 1) 1062 Ma' rhywun 'di bod yn chwara hefo fo.
 
(1, 1) 1064 Ro'dd 'na stwff ar y sgrin 'na.
(1, 1) 1065 Lle mae o 'di mynd?
 
(1, 1) 1067 'Nes i ddeud wrtho fo am beidio twtsiad yn'o fo.
 
(1, 1) 1070 'Nes ti dwtsiad o?
 
(1, 1) 1073 Wrth gwrs bod 'na rwbath pwysig arno fo.
(1, 1) 1074 Lle mae o?
 
(1, 1) 1080 Fedra i ddim coelio hyn!
 
(1, 1) 1095 Ydi Rhys yn gwbod i fod o'n rhoi'r deyrnged?
 
(1, 1) 1097 Pryd cytunodd o?
 
(1, 1) 1099 Ac mi ro'dd o'n fodlon gneud?
 
(1, 1) 1102 Be ydi peth fel hyn?
 
(1, 1) 1104 Yr emyn 'ma.
 
(1, 1) 1106 Iawn, iawn.
(1, 1) 1107 Ond pam dewis yr hen dôn yma?
 
(1, 1) 1109 |Degannwy.|
 
(1, 1) 1112 Ro'dd 'y nhad yn 'i chasáu hi.
 
(1, 1) 1114 Oedd.
(1, 1) 1115 Gyda chas perffaith.
(1, 1) 1116 Chi ddaru 'i dewis hi?
 
(1, 1) 1126 Ia?
(1, 1) 1127 A be wedyn, mam?
 
(1, 1) 1137 Dallt dim.
 
(1, 1) 1156 Be ddaru chi ofyn imi?
 
(1, 1) 1163 Anghyffredin.
 
(1, 1) 1167 Ia, du...
 
(1, 1) 1183 Well imi nôl petrol.
(1, 1) 1184 Mi fydd rhaid imi gychwyn ben bora.
 
(1, 1) 1186 Gwaith.
 
(1, 1) 1188 Ia.
(1, 1) 1189 Y busnes geneteg 'ma.
 
(1, 1) 1191 Be'n wir?
 
(1, 1) 1194 'Dw i ddim yn meddwl.
 
(1, 1) 1196 'Naethon nhw rwbath arall, 'rioed?
 
(1, 1) 1202 Rhys.