Ciw-restr

Geraint Llywelyn

Llinellau gan Warden (Cyfanswm: 95)

 
(1, 2) 233 Pam?
 
(1, 2) 235 Be' am ddymuniad y bobl?
 
(1, 2) 237 Dydw i ddim.
 
(1, 2) 240 Nid fy mai i ydi hynny.
(1, 2) 241 Ylwch.
(1, 2) 242 Yn y festri 'na mae 'na dri dwsin o Lyfra Gweddi.
(1, 2) 243 Dydyn nhw ddim gwaeth.
 
(1, 2) 245 Mi es i.
(1, 2) 246 Nid 'mod i'n edliw cofiwch.
(1, 2) 247 Mi es i, yn un swydd i Gaerdydd i nhôl nhw.
(1, 2) 248 Yr holl ffordd.
(1, 2) 249 Ei prynu nhw efo f'arian fy hun.
(1, 2) 250 Nid 'mod i'n edliw cofiwch.
(1, 2) 251 Mi wna'i rywbeth i'r hen eglwys 'ma.
(1, 2) 252 'Dach chi'n gwybod hynny.
(1, 2) 253 Rhywbeth.
(1, 2) 254 Ond mae pobol y plwy' 'ma'n...
 
(1, 2) 258 Lle ma'ch asgwrn cefn chi?
 
(1, 2) 261 Magu asgwrn cefn ydach chi.
(1, 2) 262 Byw yn yr hen fyd 'ma roith hwnnw ichi.
 
(1, 2) 264 Mae'i Gymraeg o'n warthus.
 
(1, 2) 266 Yn merwino clustia' eglwyswr o'r iawn ryw.
 
(1, 2) 268 Mae'n rhaid moderneiddio popeth heddiw.
(1, 2) 269 Sgubo'r hen betha' fel tasa nhw'n faw.
 
(1, 2) 271 Symud i le?
 
(1, 2) 274 Yn onest rŵan.
(1, 2) 275 Ydach chi'n hapus efo Cymraeg y gwasanaeth newydd 'ma?
 
(1, 2) 279 Ewch yn ôl at yr hen Lyfr Gweddi 'ta?
 
(1, 2) 282 Mae'n rhaid i iaith crefydd...
 
(1, 2) 284 Pa ragoriaethau?
 
(1, 2) 287 Pwy?
 
(1, 2) 290 Ylwch.
(1, 2) 291 Dyn cyffredin ydw i.
(1, 2) 292 Peidiwch â dechra' lluchio llwch i fy ll'gada i,
 
(1, 2) 295 Be?
 
(1, 2) 299 Be' amdani.
 
(1, 2) 301 Be' am wasanaeth y Llyfr Gweddi.
(1, 2) 302 Sul nesa'?
 
(1, 2) 305 Be aeth o'i le bore 'ma?
 
(1, 2) 307 Mwydro tipyn, on'd oeddach?
(1, 2) 308 Tua'r diwedd.
(1, 2) 309 Be' sy?
 
(1, 2) 312 Gormod â'ch trwyn yn yr hen lyfra 'na ydach chi.
 
(1, 2) 315 Rhywbeth syml mae'n nhw eisio yma.
 
(1, 2) 317 Yn yr ochra' yma; ydyn.
(1, 2) 318 'Dydi syniada Awstin Sant am amser yn golygu dim i ni.
(1, 2) 319 Dim.
 
(1, 2) 322 Mae 'na fawredd mewn symlrwydd cofiwch.
 
(1, 2) 326 O.
(1, 2) 327 Un peth arall.
(1, 2) 328 Dowch yma.
(1, 2) 329 'Drychwch.
(1, 2) 330 Mae'r fynwent 'ma'n friw i lygaid rhywun.
(1, 2) 331 Welis i rioed y fath sgrwff.
(1, 2) 332 Ddaru chi dd'eud wrth y Wil Huws 'na am ddwad yma efo'i bladur?
(1, 2) 333 Ddaru chi?
 
(1, 2) 336 Ewch heno nesa'.
 
(1, 2) 338 Pa wahaniaeth wneith hynny?
 
(1, 2) 341 Y felan eto m'wn, Duw annw'l Dad.
 
(1, 2) 343 Cwyno fuo hanes honno 'rioed.
 
(1, 2) 345 Nerfa'.
(1, 2) 346 Twt lol.
(1, 2) 347 Hen bryd iddi dynnu'i hun at 'i gilydd.
(1, 2) 348 Wn i ddim be ydi nerfa'.
 
(1, 2) 350 A wyddoch chi pam?
 
(1, 2) 352 Am fod gen i Ffydd.
(1, 2) 353 Ffydd yn yr Hollalluog.
 
(1, 2) 356 Ac 'neith eich holl bregethu modern chi ddim siglo mymryn arni hi.
 
(1, 2) 358 Naci?
 
(1, 2) 362 Dyna be' cadwodd hi i fynd.
(1, 2) 363 Ffydd,
 
(1, 2) 365 Y musus.
 
(1, 2) 367 Ffydd syml.
(1, 2) 368 At y diwedd.
(1, 2) 369 Roedd o'n gysur iddi.
 
(1, 2) 371 Meidrol ydan ni cofiwch, Dysgwch dderbyn hynny.
(1, 2) 372 Bodlonwch.
 
(1, 2) 374 Lladdwch o.
(1, 2) 375 Rwan.
(1, 2) 376 Ne' mi lladith o chi.
 
(1, 2) 378 Wyddoch chi ddim?
 
(1, 2) 380 Petha' mawr o'ch blaen chi felly, on'd oes?
 
(1, 2) 382 Am ddwad nos Ferchar?
 
(1, 2) 384 Nos Ferchar.
(1, 2) 385 I'r Steddfod?
 
(1, 2) 388 Glyw'is i eich bod chi'n englynwr o fri.
 
(1, 2) 390 'Roeddwn i'n meddwl mai tynnu 'nghoes i 'roeddan nhw.
 
(1, 2) 393 Mae 'na le i betha' felly cofiwch.
(1, 2) 394 Rhan o fywyd, on'd ydi?
(1, 2) 395 Hwyl, syml, pobol... gyffredin.
 
(1, 2) 398 Ugain punt.
 
(1, 2) 400 Peidiwch a chynnig mwy nag ugain punt i Wil Huws.
(1, 2) 401 Llawn ddigon i ddyn am waith tridia'.
(1, 2) 402 A chofiwch Sul nesa'.
 
(1, 2) 404 Cymun o'r Llyfr Gweddi.