Ciw-restr

Owain Glyndwr

Llinellau gan Clifford (Cyfanswm: 8)

 
(1, 2) 197 Rhaid dweyd y gwir, 'rwyf finau'n cofio 'n dda
(1, 2) 198 Am dano yn y fyddin. Nid oedd neb
(1, 2) 199 Mwy hynaws, mwy caredig, na mwy dewr,
(1, 2) 200 Na mwy o wir foneddwr nag oedd ef.
(1, 2) 201 Fel byddai'r galw, calon dynes fwyn,
(1, 2) 202 Neu ddiofn galon llew oedd ganddo ef;
(1, 2) 203 A'i lygaid wylent,—neu a fflachient dân;
(1, 2) 204 Yn ol fel galwai amgylchiadau arno.