Ciw-restr

Owain Glyndwr

Llinellau gan Gascoigne (Cyfanswm: 14)

 
(1, 2) 296 Fy Arglwydd Frenin! mae y proclamasiwn
(1, 2) 297 Gyhoeddwyd genych, pan y daethoch chwi
(1, 2) 298 I'r orsedd hon, yn llwyr ryddhau pob un
(1, 2) 299 Ganlynodd Risiart.
 
(1, 2) 352 Rhaid i'm gydnabod, er cywilydd, fod
(1, 2) 353 Ar lyfrau cyfraith Lloegr heddyw un
(1, 2) 354 Sy'n dweyd nas gellir derbyn llw un Cymro
(1, 2) 355 O fewn llys barn, os cyfyd yno Sais,
(1, 2) 356 I wrthwynebu ei hawl.
 
(1, 2) 365 Mae eto gan Syr Owen de Glendore
(1, 2) 366 Ei lw, fel un o bendefigion Lloegr:
(1, 2) 367 Ac er nas gallwn heddyw dderbyn llw
(1, 2) 368 Un Cymro,—nis beiddiwn wrthod chwaith
(1, 2) 369 Lw un pendefig.