Ciw-restr

Owain Glyndwr

Llinellau gan Tywysog (Cyfanswm: 25)

 
(1, 2) 152 Yn bwyllog Arglwydd Grey! Ni cha un dyn
(1, 2) 153 I chwareu'r ffyrnig gi, na'r heliwr chwaith,
(1, 2) 154 Ac yn ysglyfaeth dewrddyn fel Glyndwr,
(1, 2) 155 Tra bo gan Harri Mynwy law neu lais,
(1, 2) 156 I godi i'w amddiffyn.
 
(1, 2) 160 Fy Arglwydd Frenin! Pob dyledus barch
(1, 2) 161 A dala'th fab i ti, ac i dy lys;
(1, 2) 162 Ond ni wna parch i lys, nac arglwydd chwaith
(1, 2) 163 Ddileu y ddyled enfawr arnaf sydd
(1, 2) 164 I Owen o Glyndwr.
 
(1, 2) 166 Pan ydoedd haul dy lwyddiant di fy nhad,
(1, 2) 167 A'm llwyddiant i dan dywyll gwmwl erch;
(1, 2) 168 Tydi yn Ffraingc, yn alltud o dy wlad;
(1, 2) 169 A mi, a'm cefnder, Gloster, draw yn mhell,
(1, 2) 170 Yn Nghastell Trim yn garcharorion, heb
(1, 2) 171 Un cyfaill ini'n agos, nac un wên
(1, 2) 172 O obaith ini'n codi o un man:
(1, 2) 173 Ein rhwymau'n dyn, a'n bwyd yn hynod wael;
(1, 2) 174 Ein rhyddid ini mynodd y Glyndwr,
(1, 2) 175 A throsom ni yn feichiau aeth ei hun,
(1, 2) 176 Ei dy gymerodd le y dywell gell,
(1, 2) 177 A'i huliog fwrdd, ein gwrthwyneblyd fwyd.
(1, 2) 178 Ei garedigrwydd nid annghofiaf byth.
 
(1, 2) 323 Fy anwyl dad, er mwyn eich anwyl fab,
(1, 2) 324 Gwnewch gofio 'i gymwynaswr!