Ciw-restr

Glyndwr, Tywysog Cymru

Llinellau gan Mortimer (Cyfanswm: 8)

 
(1, 2) 356 Fy Arglwydd Frenin, 'rwyf finnau'n dweyd mai cywilydd yw i ni fod y fath ddeddf yn bod.
 
(1, 2) 358 A chywilydd mwy i'r neb a fanteisia, er ei les ei hun, ar gyfraith mor anheg.
 
(1, 2) 360 Ond, f'Arglwydd Farnwr, nid oes raid er hyn ddyfarnu'n erbyn De Glendore.
 
(1, 2) 363 Na, nid felly chwaith, ond erys Mortimer fel cynt yn foneddwr syml, yn parchu ei wlad a'i chlod.
(1, 2) 364 'Rwy'n deall fod y Barnwr doeth yn gwrthod llw Syr Owen de Glendore fel Cymro?
 
(1, 2) 367 Ond er mai Cymro yw Syr Owen de Glendore, mae ef yn fwy na Chymro, am ei fod yn un o bendefigion Lloegr.
(1, 2) 368 Ac er na all y Barnwr dderbyn llw y Cymro, yn sicr ni all wrthod llw yr un pendefig?
 
(1, 2) 397 Apeliaf finnau, er mwyn anrhydedd Lloegr, am i'r achos hwn gael gwrandawiad llawn a theg ar ffeithiau gwir, ac nid ei benderfynu ar lythyren deddf.