Ciw-restr

Glyndwr, Tywysog Cymru

Llinellau gan Tywysog (Cyfanswm: 22)

 
(1, 2) 217 Rwy'n mawr obeithio nad yw De Grey wedi dylanwadu ar fy nhad yn erbyn Syr Owen de Glendore.
 
(1, 2) 219 I mi y patrwn yw o Farchog dewr a chywir.
 
(1, 2) 221 Na!
(1, 2) 222 Grey, rhyw gadnaw cyfrwys yw.
(1, 2) 223 Ust!
(1, 2) 224 Dacw de Glendore!
 
(1, 2) 227 Croesaw i Westminster, Syr Owen de Glendore!
 
(1, 2) 232 Cymro tlawd aie?
(1, 2) 233 Dywedir fod Glyndwr yn wr cyfoethog, a gwychder Sycharth yn rhagori ar eiddo Westminster!
(1, 2) 234 Pa beth a ddywed Iorwerth Llwyd?
 
(1, 2) 241 Ie!
(1, 2) 242 Anghofiais fod y cyfreithiwr Seisnig, mab Iarlles Lincoln, wedi ymgolli ym Mardd Teulu Sycharth.
(1, 2) 243 Ond pa beth a ddywedi di, pa un bynnag ai fel cyfreithiwr ai fel bardd, am dlodi'r Cymro hwn wrth ochr cyfoeth Llunden?
 
(1, 2) 251 Ie!
(1, 2) 252 Mi goeliaf mai lle i dorri syched sy bwysig i'r bardd!
(1, 2) 253 Gair yn eich clust, Syr Owen!
 
(1, 2) 297 Ie'n bwyllog, Arglwydd Grey!
(1, 2) 298 Mae parch i lys dy deyrn, heb son am glod Glyndwr fel un o brif farchogion dewra'i oes, yn gwahardd i ti ddweyd iddo gael ei alw yma i'w hela gennyt ti na'r un ci arall.
 
(1, 2) 325 Fy Nhad!
 
(1, 2) 349 Fy Arglwydd Frenin!
(1, 2) 350 Na foed i ni lychwino enw'n gwlad drwy bwyso ar lythyren cyfraith ffol, anghyfiawn, os yw honno'n bod.
 
(1, 2) 352 Wel, cywilydd i lyfr deddfau Lloegr, ynte, ddwedaf fi.