Ciw-restr

Ar y Groesffordd

Llinellau gan Dafydd (Cyfanswm: 21)

 
(1, 0) 32 Mae un o goesa'r gadair ma'n rhydd ers plwc byd, Jared, ac mae rhywrai ohonom yn y tŷ acw'n eiste arni heb gofio, ac i lawr â ni'n glwt i'r llawr.
(1, 0) 33 Fu dim ond y dim i Mr. Harris y gweinidog fynd ar i hyd ar garreg yr aelwyd y noson o'r blaen.
 
(1, 0) 41 Dos di ymlaen.
(1, 0) 42 Rwy'n credu i mi chwysu digon i nofio man-i-war go lew heddiw wrth fynd a dod, a thrwy ryw anlwc roedd gen i feichiau trymach nag arfer heddiw.
 
(1, 0) 46 Druan o'r hen grydd, wn i ddim sut mae o'n cadw'n ffrindiau â thi ar ol dy holl gastiau.
 
(1, 0) 48 Be nath i ti bara'n hen lanc ac yntau i briodi, Jared?
 
(1, 0) 69 Oedd nen tad, ond beth am danat ti ar dy sêt grydd?
 
(1, 0) 111 Yn ôl dy syniad di, felly, rhagrithiwrs a Phariseaid ydi pob enaid ohonom?
 
(1, 0) 143 Ie, dyna'r peth tebyca, achos ma nhw'n dysgu ymresymu yn y colegau na wrth reolau neilltuol.
 
(3, 0) 766 Paid a bod yn rhy siwr; cwestiwn go gynnil ydi hwn.
(3, 0) 767 Y cwbl welsom ni oedd ei fraich am wddw'r eneth.
(3, 0) 768 Pe gwelsem o'n rhoi cusan iddi mi fasa tir sâff dan ein traed.
 
(3, 0) 770 Howld! be wyddom ni nad cysuro'r eneth yn ei gofid roedd o—i chysuro hi'n rhinwedd ei swydd fel gweinidog?|
 
(3, 0) 775 Beth ydi'r tacla yma, tybed?
 
(3, 0) 777 Diain i, mae pwysa ynddyn nhw hefyd.
(3, 0) 778 Clyw, Ifan.
 
(3, 0) 782 Gafr i! Mi wn be ydyn nhw; efo'r rhain y bydd Dic yn taro talcen y samons fydd o'n ddal.
(3, 0) 783 O boced hen angeu'r pysgod y daetho nhw'n siwr i chi.
 
(3, 0) 797 Chware teg, Ifan, cofia fod Dic ar lan yr Iorddonen y munudau yma.
 
(4, 0) 1181 Mae'n dda gen i gael cyflei gymodi.
(4, 0) 1182 Mi gaiff Jared chware teg perffaith efo chi—sut mae o?