Ciw-restr

Ar y Groesffordd

Llinellau gan Dic (Cyfanswm: 76)

 
(2, 0) 255 Does dim ods i ti pryd do i'n ol; mi ddo'n ol ar ol gorffen fy ngwaith.
 
(2, 0) 258 Os bydd eisia rhywbeth arna i wedi dod yn ol, mi gei godi, mechan i, o dy wely i neud o; does gen ti ddim i neud yn y tŷ ma o fore tan nos ond troi dy fysedd a jantio drwy'r coed.
(2, 0) 259 Mi gei godi, |my lady|, i ddawnsio tendans arna i.
 
(2, 0) 262 Dim o glep dy dafod di ne mi gei glywed pwys y nwrn i ar dy wep.
 
(2, 0) 265 Mi roi'r ddau mewn mowrning iti'r tro yma, y gnawes styfnig.
 
(2, 0) 272 Be nei di, sgwn i?
(2, 0) 273 Seuthi di fi neu roi di wenwyn yn y mwyd i?
(2, 0) 274 Hwyrach y dywedi di wrth y plisman?
 
(2, 0) 277 Arf! Pa arf wyt ti'n gario?
 
(2, 0) 280 Y faeden sosi!
(2, 0) 281 Enwa'r arf sy gen ti'r funud ma ne mi gei weld miloedd o sers ar un trawiad.
(2, 0) 282 Mi ro un siawns iti, a dim ond un.
(2, 0) 283 Ddeydi di?
 
(2, 0) 287 Myn cebyst, mae mwy o frid ynot ti nag oeddwn yn feddwl,
 
(2, 0) 290 Wyddwn i ddim tan heno mod i'n magu rhyw greadur mentrus fel ti.
 
(2, 0) 294 Wel, rwan, Nel, beth am yr arf na?
(2, 0) 295 Beth ydi o?
 
(2, 0) 298 Mi ddaru't addo deyd os down i'r gornel ma.
 
(2, 0) 301 Dyna'r arf ai ê?
 
(2, 0) 303 Dydi o ddim yn un perig iawn wedi'r cwbl.
 
(2, 0) 305 Laddith o ddim robin goch, mechan i, heb sôn am ddim math o gêm.
 
(2, 0) 307 Dim o gwbl pan yr ei di'n groes i f'wyllys.
 
(2, 0) 309 Mae'n reit y rhan amla, a chofia di hynny.
(2, 0) 310 Wel, estyn y gwn na i lawr oddiar y pared i mi, mae hi'n bryd i mi gychwyn.
 
(2, 0) 313 Be wyt ti'n feddwl—cnwllau corff a phethau felly?
 
(2, 0) 316 Rwy'n dy ddeall i'r dim, mechan i; trio'm stopio i fynd allan at yr afon rwyt drwy godi ofn arna i.
 
(2, 0) 320 Rwyt ti yn un o dy strancia'n siwr ddigon heno.
(2, 0) 321 Cofia be ddeydais i am groesi f'wyllys.
(2, 0) 322 Gillwng d'afael!
 
(2, 0) 326 Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i.
(2, 0) 327 Ydi bys Nel bach yn brifo?
(2, 0) 328 Gaiff dadi bach neis roi tws iddo?
(2, 0) 329 Dos o ngolwg i; rwyt bron wedi ngneud i'n sâl rhwng popeth.
(2, 0) 330 Be sy'n dy gorddi di heno, sgwni?
(2, 0) 331 Rwyt fel ceiliog y gwynt—yn fy nyffeio rwan jest, y funud nesa yn gweld cannwyll corff yn rhedeg ar hyd baril y gwn yma, a dyma ti rwan yn mewian fel cath fanyw.
 
(2, 0) 333 Peidiwch mynd allan heno, Nhad.
(2, 0) 334 Wyt ti'n clywed?
(2, 0) 335 Gillwng d'afael!
 
(2, 0) 344 Oedd.
 
(2, 0) 348 Oedd, am wn i, ond heriodd hi rioed mohono i fel ti, a doedd hi ddim yn gweld arwyddion fel ti; wn i ddim i bwy rwyt ti'n debig.
 
(2, 0) 351 Mi wyddost yn gystal a finna i bod hi'n gorwedd ym mynwent y Llan.
 
(2, 0) 354 Ydi hi gyd yno!
(2, 0) 355 Be wyt ti'n feddwl?
 
(2, 0) 358 I hyspryd hi wyt ti'n feddwl?
(2, 0) 359 Welaist ti hyspryd hi rhywdro?
 
(2, 0) 362 Ia, ond welaist ti hi, Nel?
 
(2, 0) 365 Oes i hofn hi arnat ti?
 
(2, 0) 371 Rwyt ti'n siarad yn union fel tae hi'n fyw rwan yn y gegin ma; yn tydi hi'n gorwedd yn ddigon llonydd yn mynwent y Llan.
 
(2, 0) 375 Rwyt ti fel sguthan yn sgrechian yr un peth o hyd.
(2, 0) 376 Wyt ti wedi troi'n dduwiol, dywed, fel pobl y capel—yn rhy dduwiol i niodde i ddal samons hefo rhwyd yn y nos?
 
(2, 0) 378 Pwy pia nhw ynte?
(2, 0) 379 Pwy nath y samons sydd yn yr afon?
 
(2, 0) 382 Ia, ond mae'r afon a'r awyr a'r coed yn rhydd i bob dyn byw bedyddiol, ne mi ddylent fod.
 
(2, 0) 384 Pa hawl sy ganddo fo i hawlio holl greaduriaid y coed a'r afon?
(2, 0) 385 Mi rydw i'n perthyn o bell i'r corgi sgwâr, er na fyn o ddim arddel y berthynas, a dydw inna rioed wedi arddel y berthynas, a wna i byth.
(2, 0) 386 Mi rydw i gymaint gŵr bonheddig ag yntau, y lordyn boldew.
 
(2, 0) 389 Dos i Jerico, rhen frân ffôl, a phaid a chrawcian ddim yn rhagor.
 
(2, 0) 394 Dos i dy grogi, rhen ddyllhuan y felltith.
 
(2, 0) 527 Be felltith ydi rhyw gamocs fel hyn?
(2, 0) 528 Be ydi'r antarliwd sy'n mynd ymlaen yma?
(2, 0) 529 Nel, wyt ti wedi mynd yn hollol o dy |sense|?
(2, 0) 530 Pwy gebyst ydi'r dyn ma sy'n llewys ei grys?
 
(2, 0) 533 Dim o dy lol a dy giapars di yn y tŷ ma hefo dy Fistar Richard Davis ne mi dorra d'esgyrn di.
 
(2, 0) 535 Tyn y tacla na oddiamdanat mewn dau funud.
 
(2, 0) 537 Rhowch rhein amdanoch mewn amrantiad a dacw'r drws, ac os nad ewch trwyddo cyn i mi gyfri tri, mi'ch dyrnaf chi drwyddo.
 
(2, 0) 547 Yr hen ffŵl ddi-ben yn chware dy gastia o hyd.
(2, 0) 548 Be ddeydodd hi oedd eich enw chi?
 
(2, 0) 550 Ga i deimlo bôn eich braich?
 
(2, 0) 554 Tawn i byth yn symud, ma nhw mor dyn a chroen drwm a chyn gleted a chwipcord.
 
(2, 0) 556 Mae dyn hefo braich fel yna'n rhy dda i bwlpud.
(2, 0) 557 Nos dawch, Syr.
 
(2, 0) 559 Na prin: ond pe delswn o gwbl, mi ddelswn i wrando ar ddyn â braich fel chi, ond ddo i ddim,
 
(2, 0) 564 Dyna lun ei mam.
(2, 0) 565 Nos dawch.
 
(2, 0) 570 Wn i ddim; ond mi fuost yn cyboli cymaint â'r llun yna nes y ngneud i'n anesmwyth braidd.
(2, 0) 571 Tawn i'n llwgu'r funud ma, wn i ddim o ble y doist ti hefo dy sbrydion a dy freuddwydion a dy godl.