Ciw-restr

Ar y Groesffordd

Llinellau gan Hopcyn (Cyfanswm: 81)

 
(1, 0) 52 Cyn i mi anghofio, Jared, mae un o'r shetars ar y ffenest acw wedi chwyddo neu rywbeth, nei di redeg dy blaen drosti os do i a hi yma fory?
 
(1, 0) 91 Sut hynny?
 
(1, 0) 95 Os na phrynwch chi faco gen i, mi prynwch o'n rhywle'r cnafon barus.
 
(1, 0) 101 Aros di, Ifan Wyn; ti ydi Radical mawr y plwy ma, yntê?
 
(1, 0) 103 Ti sy'n gneud sgidia i'r Gŵr o'r Plas, y Tori mwya yn y sir, ac yn y sgidia rheiny mae o'n brasgamu ar adeg lecsiwn i ddeyd a gneud yn groes hollol i'r hyn gredir gen ti.
 
(1, 0) 106 Run peth yn hollol ydi'r ddau.
(1, 0) 107 Ac mae gen i damaid bach i titha i'w gnoi, Jared.
(1, 0) 108 Rwyt ti'n brysur ddoe a heddiw'n gneud drws stabal i Ŵr y Plas, yn dwyt ti?
 
(1, 0) 110 Dyma titha'n rhoi dy hun yn Radical mawr fel Ifan, ac eto rwyt ti'n ddigon anghyson i neud drws stabal i geffyla sy'n rambandio o gwmpas yr ardal ar etholiad i gario dynion i fotio'n erbyn yr egwyddorion rwyt ti byth a hefyd yn eu brolio.
 
(1, 0) 112 Ddwedais i mo hynny, Dafydd; dal rydw i mod i mor gyson a neb ohonoch.
(1, 0) 113 Y ffaith ydi hyn, os chwiliwch i mewn yn fanwl i betha, mae pawb, fwy neu lai, yn gorfod bod yn anghyson.
(1, 0) 114 Cymer dy hunan fel enghraifft, Dafydd; rwyt ti'n cario bwndeli o bapurau Toriaidd i Ŵr y Plas sy'n lledaenu Toriaeth er dy fod dithau'n galw dy hun yn Rhyddfrydwr mawr, a chi'ch tri sy'n fy nghael i'n brin o gysondeb.
(1, 0) 115 Sgubwch yn lân o flaen carreg eich drws eich hun cyn deyd fod llwch ar f'un i.
 
(1, 0) 119 Ydw.
 
(1, 0) 121 Dos ymlaen â'th ymresymiad.
 
(1, 0) 125 Ond pa gysondeb sydd i Radical penboeth fel Ifan neud pâr o sgidia i Dori mawr fel Mr.
(1, 0) 126 Blackwell?
 
(1, 0) 128 Pe bae'r anffyddiwr a'r cablwr pennaf yn y wlad yn dod am bâr o sgidia atat, fasa ti'n ei wrthod?
 
(1, 0) 130 A! cwiblo rwyt ti rwan.
 
(1, 0) 132 Ia, achos rwyn siwr na fasa'r Apostol Paul ddím yn gneud |tent|─gneud tentia oedd i grefft o─fasa fo byth yn gneud |tent| i anffyddiwr ac i gablwr.
 
(1, 0) 138 Beth wyt ti eisiau â'r gweinidog?
 
(1, 0) 140 Dydi o ddim yn chware teg â fo i'w lusgo i mewn i'r ddadl ma: dyn ifanc ydi o, a does dim mis er pan mae'n weinidog hefo ni.
 
(1, 0) 161 Ond fasa Paul yn gneud |tent| i un o elynion y Brenin Mawr?
 
(1, 0) 177 Dyna marn inna hefyd, Mr. Harris.
 
(1, 0) 180 Mae'n dda gen i glywed hynny, achos mae ar lawer ohonyn nhw gwrs byd o arian i mi yn y siop am |goods|.
 
(1, 0) 189 Mi wn i pwy sydd gan Ifan mewn golwg─cyfeirio mae o, mi wn, at dŷ Dic Betsi'r Pantglas.
(1, 0) 190 Richard Davis ydi enw'r dyn, ond fel Dic Betsi y bydd pawb yn i nabod o.
(1, 0) 191 Fo ydi pen portsiar yr ardal: mae o'n byw i lawr y cwm mewn bwthyn bach, fo a'i ferch; cadwch draw o'r fan honno beth bynnag.
 
(1, 0) 197 Ie; mi dorrodd ei mam ei chalon, druan, wrth weld Dic yn prowla'r coedydd a'r afonydd, a dyw'r ferch yma sy'n cadw'i dŷ yn fawr gwell na'i thad─rhyw hoeden wyllt, ofergoelus, anwybodus, na fu erioed mewn capel nag eglwys─mae hi fel pe'n perthyn i deulu sipsiwn.
(1, 0) 198 Mi fasa'n chwith gan ei mam, druan, feddwl y fath gornchwiglen o ferch adawodd hi ar ei hol.
 
(3, 0) 769 Gwelsom ddigon i wybod i sicrwydd i fod o'n caru â merch Dic Betsi.
 
(3, 0) 785 Rho nhw'n ol ar y bwrdd, Dafydd, mae sŵn troed rhywun yn dod.
(3, 0) 786 Rwan am fod yn ddoeth; peidiwn a rhuthro fel teirw gwyllt.
 
(3, 0) 789 Beth yw'r rheswm i fod o yma hefo chi?
 
(3, 0) 800 Yn wir, Mr. Harris, rhaid i chi roi pardwn i ni am fod mor ysgafn a'r dyn yna'n marw am y pared â ni, ond does neb yn yr ardal yn malio run botwm corn am dano; chyll neb run deigryn ar ei ol.
 
(3, 0) 802 Cyfeirio'r ydach chi wrth gwrs at ei ferch o.
 
(3, 0) 819 Jared, nid gelyniaeth yn erbyn Mr. Harris sy gan neb ohonom, ond mae ar bawb ohonom ofn i chi briodi'r eneth yma, ac fe ddaeth pethau i boint heno pan y gwelsom chi â'ch braich am ei gwddw,
 
(3, 0) 822 Rwan, Mr. Harris, waeth heb areithio dim rhagor ac mae hi'n bryd i'n rhoi ni allan o'n pryder; sut mae hi'n sefyll rhyngoch chi a Nel Davis?
 
(3, 0) 824 Beth bynnag fydd y canlyniadau?
 
(3, 0) 826 Mi priodwch hi hyd yn oed pe dywedem ni wrthych y collwch chi Eglwys Seilo am neud hynny?
 
(3, 0) 828 Hynny ydi—mae Nel Davis yn fwy yn eich golwg na bod yn weinidog yr Efengyl?
 
(3, 0) 830 Felly'n wir, dyna newydd i mi.
(3, 0) 831 Byddwch gystal ag esbonio'r gwahaniaeth i ni.
 
(3, 0) 833 Eglurwch eich hun i bawb ohonom gael deall eich safle.
 
(3, 0) 836 Rhagfarn?
 
(3, 0) 840 Nac oes, dim un blotyn i mi wybod, ond nid cwestiwn o gymeriad yr eneth sydd mewn dadl.
(3, 0) 841 Rŷm yn credu digon ynoch i wybod na fuasech byth yn priodi merch ddi-gymeriad.
(3, 0) 842 Y pwnc ydi hwn, nid a ydi Nel Davis yn bur ei chymeriad, ond ydi hi'n ddigon cymwys i fod yn wraig i weinidog Seilo.
(3, 0) 843 Wyr hi ddim am gapel nac eglwys, mae'i phen hi'n llawn o ryw syniadau gwyllt ac ofergoelus, a hon yw'r eneth sydd i fod yn wraig i'n gweinidog.
 
(3, 0) 845 Nid mor fuan, achos mae aelwyd Dic Betsi wedi nwydo a lefeinio gormod arni.
 
(3, 0) 848 Wel, ofer yw i ni siarad dim yn rhagor.
(3, 0) 849 Dyma ni fel swyddogion Seilo wedi gneud ein dyletswydd, ac fe wyddom rwan ymhle mae'r naill a'r llall ohonom yn sefyll pan ddaw'r pwnc i fyny, os byth y daw, ger bron yr eglwys.
(3, 0) 850 Dyma ni'n mynd, Mr. Harris.
(3, 0) 851 Nos dawch.
 
(4, 0) 995 Sut mae Jared rwan, Doctor?
 
(4, 0) 1003 Mi rydw inna'n cael y drafferth fwya'n y byd i beidio crio fel babi.
(4, 0) 1004 Mi fydd hanner y pentre ma wedi mynd os aiff Jared.
 
(4, 0) 1006 Mae golwg go lew ar i wyneb o hefyd, Doctor; wrth gwrs doedd fawr o scwrs i gael â fo.
 
(4, 0) 1009 Mwy na go lew—ardderchog!
 
(4, 0) 1015 Nac aiff, gobeithio'r annwyl.
 
(4, 0) 1017 Cyfeirio rydach chi at y ngwaith i a blaenoriaid eraill yn sefyll yn erbyn iddo briodi Nel Davis?
 
(4, 0) 1019 Chware teg i ninnau, Doctor; doedd bron neb yn Seilo, ond Jared druan, yn fodlon iddo briodi Nel Davis yr adeg honno.
 
(4, 0) 1025 Hawdd i chi siarad, ond mi wranta fod Nel Davis wedi codi yn eich barn chitha wedi i'r secrat ddod allan i bod hi'n rhyw berthyn pell i Mr. Blackwell.
 
(4, 0) 1027 Oedd, nenor tad.
(4, 0) 1028 Ymhle yn Llunden mae hi, Doctor?
(4, 0) 1029 Ryda ni bawb wedi gofyn i chi droion.
 
(4, 0) 1036 Cellwar â ni rydach chi, fel arfar?
 
(4, 0) 1041 Wel, a deyd y gwir, mi fydda inna'n swil hefyd i gyfarfod â hi.
(4, 0) 1042 Ond diolch i'r trugaredd, mi gaiff Jared well siawns i wella os gwellith o,
 
(4, 0) 1044 Na, ryda ni i gyd yn fwy cymedrol erbyn hyn yn ein syniad am dani, ond y pwnc ydi, beth ydi'i syniad hi am Ifan a finna, achos mi ŵyr mai ni'n dau oedd y ring-ledars yn i herbyn hi dros flwyddyn yn ol.
 
(4, 0) 1052 Na, ti ydi'r hyna, Ifan.
 
(4, 0) 1154 Wel, Mr. Harris, rwyn meddwl fod y Nyrs wedi hanner maddeu i Ifan a fi am yr hyn a fu—ond go oer oedd hi am dipyn, yntê Ifan?
 
(4, 0) 1157 le'n wir—mae'r Doctor na wedi torri'n calon ni yn y pentre wrth ddeyd fod Jared mor beryglus o wael.
 
(4, 0) 1173 O, Nyrs Davis, newch chi ddim cau'r drws yn yr un dull dymunol efo Ifan a finna?
 
(4, 0) 1175 A dyma un arall y gwn i'n sicr fasa'n leicio yn i galon i chi gau'r drws ar y gorffennol run ffordd ag y gwnaethoch chi â Miss Marged Harris rwan.
(4, 0) 1176 Dyma Nyrs Davis sydd wedi dod o Lundain i dendio ar yr hen Jared.
(4, 0) 1177 Mi sgydwch law â fo, yn newch chi?
 
(4, 0) 1186 Un peth sy'n torri ar lawenydd y cymodi ma, a hwnnw ydi na fasa Jared yma.
 
(4, 0) 1194 Tyrd i'r tŷ i dy wely, Jared bach, mi awn a thi rwan.
 
(4, 0) 1225 Y corgi digywilydd! a fi ac Ifan a pawb bron a thorri'n calon rhag ofn iti farw.
(4, 0) 1226 Wyddech chi am y tric, Mr. Harris?