Ciw-restr

Ar y Groesffordd

Llinellau gan Ifan (Cyfanswm: 63)

 
(1, 0) 67 Brensiach fawr! yn nath hi ddiwrnod chwilboeth heddiw, fechgyn?
(1, 0) 68 Roedd hi'n siwr o fod yn crasu ar y brynia na heddiw, Dafydd?
 
(1, 0) 70 Gwarchod pawb! ches i rioed gletach diwrnod yn fy mywyd yn y gweithdy acw: mi faswn yn tynnu nghroen ac eiste'n f'esgyrn, pe gallswn i.
 
(1, 0) 81 Twt lol! rwyt ti mor ddwl a llo blwydd, Jared.
(1, 0) 82 Rhyw jocio'n dragwyddol rwyt ti.
(1, 0) 83 Wn i ar arffed daear sut erioed y cest ti dy droed i mewn yn sêt fawr Seilo: |clown| mewn syrcus ddylset ti fod.
 
(1, 0) 88 Mae Hopcyn, ddalia i, yn colli llawer o hwyl wrth beidio smocio.
 
(1, 0) 99 Pwya fo, Jared.
(1, 0) 100 O! un garw wyt ti, Hopcyn; rwyt ti'n ddigon di-gydwybod i werthu petha sy'n groes i d'argyhoeddiad.
 
(1, 0) 102 Gyr ymlaen.
 
(1, 0) 127 Rwyt ti'n siarad yn union fel pe bawn yn gneud Toris o sgidia; gneud sgidia i Doris rwyf fi, a pheth arall ydi hynny.
 
(1, 0) 129 Paid a phonsio'n wirion; fasa'r sgidia wnawn i iddo fo ddim yn anffyddiwrs nac yn gablwrs.
 
(1, 0) 131 Nage'n siwr: yn ôl dy syniad di─anffyddiwr o grydd ddylai neud sgidia i anffyddiwrs, a chrefyddwr o grydd ddylai neud sgidia i grefyddwrs.
 
(1, 0) 141 Na, dydw inna ddim yn leicio'r syniad o'i dynnu o i'r ddrag, achos cyw heb fagu adenydd ydi o, a rhaid i ni'r hen gonos beidio plicio'i blu yn rhy gynnar.
 
(1, 0) 144 Mi fentra mhen na chawso nhw rioed well dadlu na fydd yn y gweithdy ma ambell i noson.
 
(1, 0) 174 Peth newydd spon yn y lle yma ydi galw ymhob tŷ, Mr. Harris; nath neb erioed mohono i mi gofio.
 
(1, 0) 176 Wel, fy marn onest i ydi, mi rydw i'n leicio gadael i ddynion fod at eu dewisiad, heb ddim gorfodaeth yn y busnes o gwbl.
 
(1, 0) 181 Mae na lu ohonyn nhw hefyd yn cerdded mewn sgidia na thalson nhw ddim dima goch y delyn i mi am danynt─y gweilch drwg.
 
(1, 0) 188 Mae un tŷ, er hynny, y byddai'n ddoethach i chi fynd heibio iddo heb alw, Mr. Harris.
 
(1, 0) 192 Ie'n wir, achos hen scum o ddyn ydi o, sy'n gas gan bawb; mae o'n portsio gêm a samons bob yn ail.
(1, 0) 193 Mi daliwyd o unwaith neu ddwy, ond y syndod ydi, chafodd o ddim jêl.
 
(1, 0) 195 Ie; mi ddaeth i'r ardal ma yn llanc o rywle na ŵyr neb o ble i wasanaethu efo Mr. Blackwell yn y Plas, ac mi briododd y ferch nobla'n y gymydogaeth, ac yn fuan iawn mi drodd i feddwi a chafodd sac o'r plas, ac o ddrwg i waeth yr aeth byth er hynny, ac mae'n dial ar Mr. Blackwell drwy bortsio ar ei stâd gymaint all o drwy'r blynyddoedd.
 
(1, 0) 201 Dyma ni wedi'ch rhybuddio, Mr. Harris.
(1, 0) 202 Wrth gwrs, fe gewch neud fel y mynnoch, ond yn siwr i chi gwell i chi beidio galw yno.
 
(1, 0) 212 Daioni wir! pa ddaioni, sgwn i?
 
(1, 0) 215 A! rwy'n cofio rwan, roeddet ti mewn cariad â Martha, yn doeddet ti, cyn i Dic ddod i'r ardal ma?
 
(3, 0) 764 Bobol annwyl, dyna ni wedi'i ddal yn yn act o garu â'r eneth yna.
(3, 0) 765 Mae'r stori'n wir, fechgyn.
 
(3, 0) 771 Rhinwedd ei swydd fel gweinidog, wir!
(3, 0) 772 Paid a lolian.
(3, 0) 773 Os nad oedd o'n caru rwan, wadnais i rioed bâr o sgidia yn rhinwedd fy swydd fel crydd.
 
(3, 0) 780 Na, thwtsia i mohonyn nhw.
(3, 0) 781 Be wyddom ni nad tacla'r eneth na i witsio a deyd ffortun ydyn nhw?
 
(3, 0) 784 Mwy tebyg o lawer mai arfa i daro mennydd y cipar ydyn nhw.
 
(3, 0) 792 Do siwr.
(3, 0) 793 O'r gegin oedde ni'n dod pan y gwelsom chi yn rhoi gair o gysur i'w ferch o yn rhinwedd eich swydd fel gweinidog.
 
(3, 0) 795 Ergyd, efallai, ydi'r gair goreu.
(3, 0) 796 Llawer ergyd gafodd hi ganddo o dro i dro, a fedr o ddim marw heb roi un arall iddi, yr hen haffgi brwnt.
 
(3, 0) 798 Wel, os ar lan yr Iorddonen mae o, mi dyffeia fo y gwnaiff o'i oreu glas i bortsio samon neu ddau ohoni cyn i heglu hi dros y dŵr.
 
(3, 0) 804 Welwch chi, Mr. Harris, heb guro rhagor o gwmpas y twmpathau, oes rhywbeth yn y siarad ma sy'n heplas drwy'r lle eich bod am briodi'r ferch yna?
 
(3, 0) 809 Marchog y myniawyd, ai ê?
(3, 0) 810 Mae'n well gen i hynny na bod yn rhyw dderyn corff fel ti yn prowla am siawns i naddu arch i Dic Betsi.
(3, 0) 811 Rwan, Mr. Harris, mae'n bryd i ni gael gwybod, ydach chi'n meddwl priodi merch Dic neu beidio, achos ryda ni bawb ers misoedd bellach mewn pryder ynghylch y peth.
 
(3, 0) 816 Pam, ynte, mae o'n pwyo'i wimblad i mi?
 
(4, 0) 997 Dydi o ddim yn anobeithiol ydi o?
 
(4, 0) 1001 Mi rydw i'n methu byta na chysgu na gweithio wrth feddwl am dano.
(4, 0) 1002 Wn i ar y ddaear be ddaw ohono i os bydd yr hen gono annwyl farw.
 
(4, 0) 1010 Ie, iechyd i'w galon o.
 
(4, 0) 1012 Ydi nen tad!
(4, 0) 1013 Mae dwy ne dair o eglwysi mawr am i ddwyn o oddiarnom yn Seilo, rhen gnafon sâl.
 
(4, 0) 1020 Heblaw hynny, mi fasa Mr. Harris wedi ei phriodi yn ein dannedd oni bae iddi wrthod yn bendant.
 
(4, 0) 1026 Dydw i'n malio run frwynen am i pherthynas hi â Gŵr y Plas, ond mi gymra fy llwy bydd ychydig o ysgol yn Llunden yn siwr o ddofi dipyn arni, ac roedd eisia dofi gryn lawer arni.
 
(4, 0) 1031 Gwyddoch o'r goreu, ond mi gaiff Doctor balu celwydd yn ddi-gosb; mi wyddoch chi a'r Scweiar drwy'r misoedd ymhle mae hi, ond na ddeydwch chi ddim.
 
(4, 0) 1035 Gwarchod pawb, ydi hi yn y tŷ rwan?
 
(4, 0) 1040 Wel diain i, mi fydd gen i ofn mynd i weld Jared os ydi hi'n tendio arno.
 
(4, 0) 1050 Diaist, mae gen i dipyn o ofn i gwynebu hi.
(4, 0) 1051 Dos di'n gynta, Hopcyn.
 
(4, 0) 1053 Mae'n rhaid i ti gychwyn, achos ti ydi'r pen blaenor.
 
(4, 0) 1155 Ie'n siwr, mi roddodd bum munud go boenus i ni'n dau, ond yn ôl ein haeddiant hwyrach.
(4, 0) 1156 Nyrs, annwyl, gwellwch yr hen Jared os oes modd.
 
(4, 0) 1187 Paid, Hopcyn bach, paid a gneud dyn yn fwy digalon nag ydi o.
(4, 0) 1188 O'r tad, gobeithio daw o uwchben i draed unwaith eto.
 
(4, 0) 1218 Yr hen gena drwg gen ti.