Ciw-restr

Ar y Groesffordd

Llinellau gan Jared (Cyfanswm: 141)

 
(1, 0) 9 Be fuost ti'n neud â'r plaen yma, Harri?
 
(1, 0) 11 Ie, plaenio, wrth gwrs; mi wyddwn mai nid codi tatws y buost ti hefo fo.
(1, 0) 12 Does dim blewyn o fin arno fo rwan beth bynnag.
 
(1, 0) 14 Mae ma dolc ne ddau arno fo hefyd.
(1, 0) 15 Estyn y plaen arall na.
 
(1, 0) 17 Fuost ti'n plaenio hefo hwn hefyd, dywed?
 
(1, 0) 19 O, felly wir!
(1, 0) 20 Cofia di o hyn allan ma plaenio coed ac nid hoelion ydi gwaith plaen, Harri bach: prentis o jeinar wyt ti wyddost, ac nid gôf nac injaniar.
 
(1, 0) 22 Mi wyddost wrth gwrs fod y gair prentis yn dod o'r gair "pren"─P-R-E-N-T-I-S, un yn gweithio mewn pren, wyddost, dyna darddiad y gair, medde nhw, yn ôl y dicsionari.
 
(1, 0) 25 Ie siwr, ond cofia di ma sefyll tu nol i gowntar wedi ei wneud o bren y bydd prentis siopwr: y gwir ydi, ymhle bynnag y cei di brentis, ma na bren heb fod ymhell, yn siwr iti.
 
(1, 0) 27 Dull o siarad sy gan dy fam ydi hwnna: prentis o ddoctor ydi doctor ofnatsan o sâl efo'i waith, doctor a phen fel pren ffawydd ne bren bocs.
(1, 0) 28 Ond wastio amser ryda ni rwan: gad i ni olchi arni yn o gwic, achos ma hi'n mynd ymhell ar y dydd.
(1, 0) 29 'Run pryd cofia ystyr y gair prentis wrth usio'r plaen─dojio'r hoelion, wyddost, ydi'r gamp i brentis o jeinar.
 
(1, 0) 31 Helo, Dafydd Elis, wyt ti'n mudo i rywle?
 
(1, 0) 34 Cato pawb!
(1, 0) 35 l peth sad fasai'r gweinidog newydd gael ei godwm cynta yn dy dŷ di.
(1, 0) 36 Ond marcia di ngair i, mae rhywun yn mynd i gael codwm yn y gweithdy ma heno.
(1, 0) 37 Diaist i, mi rof Ifan Wyn i eiste arni: watsia di 'rhen grydd yn llyfu'r llawr.
(1, 0) 38 Mi gosodwn hi i sefyll y fan yma a golwg mor ddiniwed a'r gloman arni hi.
 
(1, 0) 40 Eiste'n rhywle, Dafydd, nes daw'r criw i mewn am scwrs: mae gen i ddrws stabl Gŵr y Plas i'w orffen.
 
(1, 0) 43 Ond job go iach, wel di, ydi job postman er hynny, allan yn yr awyr iach drwy'r dydd, ac ambell i jwg o laeth enwyn a chwlff o fara chaws wrth y ffermydd na, yn lle bod fel fi a dy ben wrth y post drwy gydol y dydd ynghanol shafings a blawd lli.
(1, 0) 44 Eiste'n rhywle, ond nid ar y gadair goes glec na.
(1, 0) 45 lfan Wyn gaiff roi i glun i lawr ar honna.
 
(1, 0) 47 Hen bartnars, Dafydd, hen bartnars: Ifan a finnau ddeng mlynedd ar hugain yn ol oedd y ddau lanc smartia'n y dyffryn.
 
(1, 0) 49 Dyna oedd yn y rhan i hwyrach.
 
(1, 0) 51 Pa siap sydd ar y siopwr heno?
 
(1, 0) 53 Be sydd ar y tacla heddiw?
(1, 0) 54 Rwan jest roedd Dafydd am i mi roi coes ei gadair yn ei lle; rwan dyma titha'n gofyn i mi ostwng y chwydd yn dy shetar.
(1, 0) 55 Mae'r gweithdy ma'n mynd yn rêl surjary doctor.
 
(1, 0) 57 Hopcyn!
(1, 0) 58 Biwêr!
(1, 0) 59 Cadw draw oddiwrth y gadair na.
(1, 0) 60 Ifan Wyn sy'n mynd i gael ei gadeirio yn y steddfod hon.
 
(1, 0) 62 Howld! dyma sŵn i droed o!
(1, 0) 63 Mor sobr a |judge| bob copa ohonoch chi rwan.
 
(1, 0) 65 Da machgen i am gadw dy gyhoeddiad.
 
(1, 0) 71 Go lew di, Ifan!
(1, 0) 72 Mi feddyliaist am y deunydd teneuaf yn bosibl ar wres, achos ti ydi'r creadur mwya croen-deneu'n y wlad.
(1, 0) 73 Tyrd, rhen bellen gwyrcrydd, rwyf wedi cadw'r gadair acw i ti yn arbennig.
(1, 0) 74 Aros, mae drychfeddwl wedi nharo, ti yw'r bardd cadeiriol, Ifan, a finna ydi'r archdderwydd yn d'arwain dros yn llwyfan.
 
(1, 0) 76 A oes heddwch?
 
(1, 0) 78 Steddwch, Mr. Wyn, yng nghadair beirdd Ynys Prydain.
 
(1, 0) 84 Dyna fi wedi profi'r gosodiad wnes i rwan jest mai croen teneu enbyd sy gen ti; mae o fel croenin pwdin reis.
(1, 0) 85 Ond eiste, Ifan bach, a gad i ni anghofio'n poen mewn mwg baco.
 
(1, 0) 87 Lodia dy getyn a phasia fo rownd i'r postman.
 
(1, 0) 89 Mae'n syn i mi na fasa ti, Hopcyn, yn smocio, a tithau'n gwerthu baco.
(1, 0) 90 Ar fy ngair i, dos gen ti o bawb ddim hawl i beidio smocio.
 
(1, 0) 92 Wel os wyt ti'n credu fod smocio'n arferiad drwg, ac mi wn dy fod, pam gebyst wyt ti'n gwerthu baco?
(1, 0) 93 Os wyt ti o'r farn mai gwastraff ar arian ydi smocio, ymhle mae dy gysondeb yn ei werthu dros y cowntar?
(1, 0) 94 Wyt ti ddim yn gweld dy fod fel Satan yn temtio'r crydd a'r postman a finnau i syrthio i'r arferiad ac i wastio'n harian prin?
 
(1, 0) 96 Rhen gribiniwr arian!
(1, 0) 97 Rwyt yn barod i bocedu pris y gwenwyn wyt ti'n gredu sy'n lladd Ifan a Dafydd a finnau'n raddol.
(1, 0) 98 Mi grafi di'r pres baco sy'n ein tlodi ni'n tri, ffei ohonot!
 
(1, 0) 104 Howld!
(1, 0) 105 Nid run peth ydi hynny a dy waith di'n gwerthu baco nad wyt ti'n credu dim ynddo.
 
(1, 0) 109 Dos ymlaen; mi wela dy fod wedi codi stêm.
 
(1, 0) 116 Hanner munud!
(1, 0) 117 Rwyt ti'n union fel rhen longwr na fydd yn dod i ffair Caerdref i gael i rwymo â rhaff, mae'n llithro o bob cwlwm; ond mi ro i gwlwm dolen ar dy sodla na fedri di syflyd gam ohono.
(1, 0) 118 Rwyt ti'n deyd bob amser fod smocio'n arferiad drwg, yn dwyt ti?
 
(1, 0) 120 Ac eto i gyd rwyt ti'n gwerthu'r stwff i'w smocio?
 
(1, 0) 122 Os ydi smocio'n ddrwg, mae'n rhaid fod baco'n ddrwg, achos does dim |use| i faco o gwbl ond i'w smocio.
(1, 0) 123 O'r goreu; mae baco, felly, 'n ddrwg ynddo'i hunan, ond am y sgidia mae Ifan yn i neud i Mr.
(1, 0) 124 Blackwell y Plas, mae rheiny'n bethau angenrheidiol, achos mae'n rhaid i Dori gael sgidia.
 
(1, 0) 134 Harri, picia dros y ffordd a galw ar Mr. Harris y gweinidog i ddod yma am ychydig.
(1, 0) 135 Wedyn mi elli gadw noswyl.
(1, 0) 136 Cofia ystyr y gair prentis, a chofia fod yma am saith bore fory.
 
(1, 0) 139 Fo gaiff setlo'r ddadl ma.
 
(1, 0) 142 Cofia di fod Mr. Harris wedi bod yn y coleg am dair neu bedair blynedd, a fuo ni'n pedwar erioed mewn dim coleg ond coleg y gweithdy ma: y fo fydd yn plicio'n plu ni'n siwr i ti.
 
(1, 0) 147 Does gynno chi ddim yn erbyn i ni ddod am scwrs a smoc i weithdy saer gyda'r nos fel hyn, Mr. Harris?
 
(1, 0) 152 Cewch nen tad annwyl, ond er mwyn daioni peidiwch a chodi siop saer mewn oposisiwn i mi, ne mi ewch a ngwaith i gyd, a does fawr o fraster arno fo fel y mae petha.
 
(1, 0) 154 Cyn i chi drioch llaw, setlwch ddadl go boeth sy ar droed yma.
(1, 0) 155 Rwan, beth ydi'ch barn chi?
(1, 0) 156 Gneud tentia oedd crefft yr Apostol Paul, yntê?
(1, 0) 157 Fasa Paul yn fodlon i neud tent i anffyddiwr a chablwr?
 
(1, 0) 159 Ie siwr.
 
(1, 0) 164 Rwan am dani, Mr. Harris, tra mae'r haearn yn boeth.
 
(1, 0) 171 Mr. Harris, mi fedrwn ddadlu pyncia trymion yng Nghymru am oriau bob dydd, ond go ddi-gynnig yda ni ar dipyn o waith ymarferol.
(1, 0) 172 Tyrd, Ifan Wyn, dywed rywbeth, seinia gân yn lle bod yn fudan.
 
(1, 0) 182 Cato pawb, Mr. Harris, mae ma dalwrs siamal o ddrwg yn y wlad.
(1, 0) 183 Da chi, rhowch bregeth i ni rai o'r Suliau nesa ar y gair ddeydodd Eliseus wrth y wraig honno: "Dos, gwerth dy olew a thâl dy ddyled."
(1, 0) 184 Mi wnae un bregeth felly'r byd o les.
 
(1, 0) 209 Diaist i, mae na gêm yno fo, fechgyn!
(1, 0) 210 Ac mae'n dda gen i fod o am alw i weld Dic er mwyn rhoi siawns i'r hen walch.
(1, 0) 211 Hwyrach, wedi'r cwbl, fod gronyn o rhyw ddaioni yn Dic Betsi.
 
(1, 0) 214 Rhaid fod rhyw ddaioni yno fo ymhell yn ol neu fasa Martha'r Wern Lwyd ddim yn ei briodi: merch ragorol oedd Martha.
 
(1, 0) 217 Oeddwn, waeth cyfadde'n onest, ond Dic garíodd y dydd, ac yr oedd yntau'n gamp o ddyn bum mlynedd ar hugain yn ol.
(1, 0) 218 Ond druan o Martha, byd helbulus gafodd hi, a doeddwn i ddim yn leicio'ch clywed mor lawdrwm ar Nel Davis.
(1, 0) 219 Os Dic ydi thad hi, Martha oedd i mam hi.
(1, 0) 220 Wel, nos dawch.
(1, 0) 221 Mi faria'r drws 'ma ar eich holau.
 
(1, 0) 229 Na chewch ar un cyfri; mi gewch aros yn y tŷ a chan croeso, ond mi gysga i yn y gweithdy; rwy'n hen gynefin â gneud hynny.
 
(1, 0) 231 Does dim i ddiolch am dano.
(1, 0) 232 Fe wnawn ragor na hyn i ferch Martha'r Wern Lwyd.
(1, 0) 233 Anghofia i byth mo'ch mam, a choelia i ddim nad ydach chi'n debig iawn iddi pan oedd hi run oed a chi.
 
(1, 0) 235 Mi fyddaf fel y bedd.
(1, 0) 236 Mi gewch hyd i'r bwyd yn y gegin a gnewch bryd i chi'ch hun.
 
(1, 0) 238 Does dim eisia bwyd arna innau chwaith, ond mi gewch estyn y glustog sydd ar y setl yn y gegin, os gnewch chi, ac yna fe wnaf y tro'n |grand|.
 
(1, 0) 241 Nos dawch!
 
(3, 0) 807 Mi glywais dy gwestiwn di, Ifan Wyn, ac rwyn synnu at dy hyfdra, ond rhaid i chi gofio, Mr. Harris, fod Ifan yn grydd yn y sêt fawr weithiau ac yn flaenor ar ei sêt grydd dro arall, a does dim ond joch o gwyrcrydd yn dal |joint| y crydd a joint y blaenor wrth ei gilydd ym marchog y myniawyd ma.
 
(3, 0) 812 Mae ngwaed i'n twymo wrth glywed dy hyfdra, Ifan Wyn.
(3, 0) 813 Wyt ti'n meddwl mai ti yw angel yr Eglwys yn Seilo, dywed?
(3, 0) 814 Os wyt ti, mae'n hen bryd rhoi patsh neu ddau ar d'adenydd di a choblo dipyn ar esgyll dy bedion.
 
(3, 0) 817 Pam rwyt tithau'n pwnio dy fyniawyd i mewn i fusnes y gweinidog?
(3, 0) 818 Mae'n ofnadwy o beth na chaiff Mr. Harris ddim priodi'r neb a fynno.
 
(3, 0) 820 Wel, tawn i byth yn symud o'r fan ma!
(3, 0) 821 Hen lanc ydw i, a diolch i'r drefn am hynny, ond pe basa Eglwys Seilo yn fy nal i'n gyfrifol i briodi pob geneth y bu'm llaw i am ei gwddw mi fasa gen i gymaint o wragedd a'r Shah o Persia─os doeth hefyd i briodi cymaint.
 
(3, 0) 855 Dod yn ol ddaru mi er mwyn cael ysgwyd llaw â chi, syr, ar ol y sgarmes.
 
(3, 0) 857 Mr. Harris, mae na rêl gêm ynoch chi, os ca i usio'r gair.
(3, 0) 858 Os byth y daw hi i'r pen arnoch yn Seilo, gobeithio na ddaw hi byth i hynny, ond os digwydd i'r llanw droi yn eich erbyn, mae'r gweithdy acw'n agored i chi pan fynnoch.
(3, 0) 859 Hen jeinar ydach chi yntê?
(3, 0) 860 Wel, er mai dyn tlawd ydw i, mi ranna'r pres nillwn ni gyda'n crefft.
(3, 0) 861 Mi fydd hynny'n deg yn fydd o?
(3, 0) 862 Bendith ar ych pen!
(3, 0) 863 Mae na rêl gêm ynoch chi, fel sydd yn y dynion na yn y Beibl.
(3, 0) 864 Nos dawch!
 
(4, 0) 1190 Rydw i wedi blino bod yn sâl a'r Nyrs ddim yn tendio arna i.
 
(4, 0) 1193 Nel Davis, mi rydw i cyn iached a'r gneuen; fûm i rioed mor iach.
 
(4, 0) 1196 Howld on!
(4, 0) 1197 Be sy haru chi?
(4, 0) 1198 Diain i, mi gwela hi!
(4, 0) 1199 Rydach chi'n meddwl mod i o ngho.
(4, 0) 1200 Does dim y mater arna i.
(4, 0) 1201 Doctor Huws! dowch yma, da chi, i sponio petha i'r Philistiaid ma.
 
(4, 0) 1206 Ruwd annwyl, rydach chi'n edrach yn ddig ofnadwy ar y Doctor—mae pawb ohonoch chi yn edrach yn ddig.
(4, 0) 1207 Myn gafr!
(4, 0) 1208 Choelia i ddim na fasach chi'n leicio ngweld i'n sâl bron a marw er gwaetha'ch holl siarad y tri diwrnod diwedda ma.
(4, 0) 1209 Mae'r esboniad mor eglur a thrwyn Ifan y crydd, ac mi ddylech chi, Mr. Harris, o bawb neidio i ben y gweithdy pan glywch chi o.
(4, 0) 1210 Dyma fo! tric o eiddo'r Doctor a'r Scweiar a finna i gael Nel Davis yn ol i'r pentre ma.
 
(4, 0) 1215 Mi gadwa'r ddwy fraich yma lle ma nhw.
(4, 0) 1216 Rwan, frodyr a chwiorydd, a blaenoriaid, doedd dim yn bosib cael yr eneth ma yn ol i'r pentre mewn un ffordd; er i'r Scweiar a'r Doctor neud pob cynnig, gwrthod roedd hi, a gwaeth na'r cwbl, fe rybuddiodd y ddau i beidio deyd wrth Mr. Harris y gweinidog ymhle roedd hi yn Llunden.
(4, 0) 1217 Wel, i fynd ymlaen, be nath y Doctor ma—ac un melltigedig o gastiog ydi o—be nath o ond gofyn i mi ddydd Sadwrn fuaswn i'n mynd yn sâl iawn dydd Llun, dydd Llun diweddaf, wrth gwrs, ac mi es yn sâl iawn fel y gwyddoch, drwy ordors Doctor.
 
(4, 0) 1219 Paid a porthi mhregeth i, Ifan bach, achos ma dy lais di yn y ngyrru oddiar y rêls.
(4, 0) 1220 Rwan mi wyddai'r Doctor a'r Scweiar fod Nel yn fy leicio i yn enbyd iawn (peidiwch a phinsio, Nel), a'r funud y clywodd hi mod i'n sâl dyma hi'n ysgwyd llwch Llunden oddiar ei sgidia ac yn carlamu yma yn y trên i dendio arna i.
(4, 0) 1221 Wel, dyma hi! yr eneth glysa yn y wlad—roedd yn werth i mi gymryd arna fod yn wael er mwyn i chael hi yma i'r pentre.
(4, 0) 1222 Rwan am y gusan na, Nel Davies.
 
(4, 0) 1224 Mi nillais hi'n deg.
 
(4, 0) 1231 Howld, Doctor, os rhoith hi gusan i chi mi ddaw holl frigêd y blaenoriaid yma i fyny am gusan, yn cael eu harwain gan General Ifan Wyn.
(4, 0) 1232 Rwan, Mr. Harris, dowch yma a safwch ar y llaw chwith yma; safwch chitha ar y dde, Nel Davis, ochr yn ochr a fo.
(4, 0) 1233 Yn gymaint a bod y ddau hyn eisio priodi â'i gilydd, a chan eu bod yn caru ei gilydd y tuhwnt i bob rheswm, rwyf fi, Jared Jones, Jeinar a Carpentar, ar ran pawb sydd ma, yn rhoi caniatad iddynt i fynd ymlaen at eu diwrnod priodas.
(4, 0) 1234 Dyna fi wedi cynnig ac eilio; pawb sydd yr un farn, i fyny â'ch dwylo.
 
(4, 0) 1236 Welwch chi, Mr. Harris, fe gewch yrru'r gostegion priodas i mewn pan fynnoch chi.