Ciw-restr

Ar y Groesffordd

Llinellau gan Marged (Cyfanswm: 65)

 
(3, 0) 587 "Llongddrylliad am y ffydd"—ai hwnna sy gen ti eisio?
 
(3, 0) 590 Ydw o'r gore, a noson enbyd oedd hi,—y gwynt yn rhuo'n drwm, a'r môr a'r tonnau'n taflu bron i strŷd y pentre.
 
(3, 0) 593 Wyt ti'n meddwl, Eifion, fod yn bosib i ddyn da fynd yn ddrylliau fel yna cyn marw?
(3, 0) 594 Dydw i ddim yn leicio meddwl y gall dyn da droi yn ddyn drwg a marw allan ar y creigiau.
 
(3, 0) 596 Pregethwyr mawr efallai, ond oedde nhw'n ddynion da?
 
(3, 0) 600 Dda gen i ddim meddwl fod yn bosib i bregethwr sy'n ddyn da fynd yn |wreck|.
 
(3, 0) 606 Fydd ofn syrthio o'r pulpud arnat ti weithiau, Eifion?
 
(3, 0) 610 Dim, hyd y gwn i.
 
(3, 0) 613 Os dymunet ti wybod y gwir, Nel Davis, merch y portsiar, sy rhyngom ni.
 
(3, 0) 616 Mae'r peth yn fwy nag awel, mae'n wynt cryf sy'n chwythu drwy'r ardal.
 
(3, 0) 618 Fe ŵyr pawb drwy'r lle fod yr eneth wyllt na, Nel Davis, wedi dy ffoli'n deg, ac mae pawb yn methu deall be sydd wedi dod dros dy ben a thithau'n y swydd bwysig o weinidog Seilo.
 
(3, 0) 620 Dyna lle rwyt yn camgymeryd; does gen ti fel gweinidog Seilo ddim materion personol, mae nhw'n faterion i bawb am dy fod yn weinidog yr Efengyl.
 
(3, 0) 622 Mi wyddost gystal a neb y dylai'r ferch briodi di fod yn weddol gymwys o leiaf i lenwi cylch gwraig gweinidog.
 
(3, 0) 624 Onibae fod yr eneth na wedi dy witsio—witsio ydi'r gair gore am y peth—fe welest tithau nad ydi hi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog; dyna fel mae pawb yn siarad sy'n gwybod am dani.
(3, 0) 625 Wn i ddim am dani a does gen i byth eisiau gwybod am dani.
 
(3, 0) 628 Wel, mae'n ddrwg gen i fod wedi dy frifo di, achos brawd da fuost i mi, ond {Yn benisel.} fûm innau yn ddim chwaer wael i tithau chwaith, ac mae'n iawn i mi gael gwybod wyt ti o ddifri hefo'r eneth yna.
 
(3, 0) 630 Eifion bach, wyddost ti beth fydd y canlyniadau o'i phriodi hi?
(3, 0) 631 Wyt ti wedi bwrw'r draul?
(3, 0) 632 Gad i mi neud y bil i ti.
(3, 0) 633 Yn gyntaf i gyd, fe fydda i'n pacio mhethau a d'adael.
 
(3, 0) 635 Ond hwyrach nad ydi hynny yn cyfri fawr yn d'olwg di heddiw ar ol i'r eneth ma groesi dy lwybr.
 
(3, 0) 638 O, Eifion, ddylswn i ddim fod wedi deyd y gair cas na, ond anghofia fi am funud, mae na bethau pwysicach na fi yn y bil os priodi di Nel Davis.
(3, 0) 639 Wyt ti wedi meddwl o gwbl dy fod y dyddiau yma ar groesffordd, a dau lwybr—a dim ond dau—yn agor o dy flaen?
 
(3, 0) 641 Un llwybr ydi Nel Davis, merch y portsiar; y llwybr arall ydi'r Eglwys, yr Eglwys y cefaist ti a finnau'n magu ynddi er yn blant, yr Eglwys y bu'n tad a'n mam a'n teulu o hil gerdd yn aelodau ffyddlon ohoni.
(3, 0) 642 Prun o'r ddau lwybr ddewisi di?
 
(3, 0) 645 Cred fi, dyna'r groesffordd rwyt ti arni heddiw—Nel, merch Dic Betsi, neu'r Eglwys Gristnogol.
(3, 0) 646 Os Nel ddewisi di, mi fydd ar ben arnat am byth fel gweinidog yr Efengyl, nid yn unig yma'n Seilo ond ymhobman arall.
 
(3, 0) 648 Ac mi wyddost fel roedd nhad a mam wedi rhoi eu bryd ar i ti fod yn weinidog yr Efengyl: roedd yn well ganddyn nhw dy weld yn fachgen tlawd yn y pulpud nag yn y swydd fwya enillgar yn y wlad, a dyma ti ar fin gneud llongddrylliad o dy ffydd.
 
(3, 0) 653 Mi fydd llawn cynddrwg a hynny, achos pa eglwys ar wyneb daear all odde'r syniad o gael y fath eneth yn wraig i'w gweinidog; geneth na fu rioed yn twllu drws y capel nac eglwys, geneth sydd wedi tyfu'n wyllt fel petrisen y mynydd, heb wybod y gwahaniaeth sy rhwng da a drwg, geneth sy'n llawn o ofergoelion ac arferion teulu'r sipsiwn.
(3, 0) 654 O, Eifion bach, rwyt ti'n mynd ar dy ben i lawr y clogwyn—Nel Davis yn wraig gweinidog, a Dic Betsi'r portsiar yn dad-yng-nghyfraith i ti; wyt ti wedi bwrw'r draul?
 
(3, 0) 657 Rwyn meddwl digon ohonot i gredu i bod hi mor bur a finnau, ond—grug y mynydd!
(3, 0) 658 Ddaw grug y mynydd byth yn flodyn gardd tŷ gweinidog, a beth am Dic Betsi?
(3, 0) 659 Wyt ti am blannu'r sgallen hefyd yn d'ardd?
(3, 0) 660 Waeth i ti hynny na rhagor, rwyt ti ar y groesffordd rhwng Nel Davis a'r Eglwys.
 
(3, 0) 662 Nel Davis fydd dy ddewis, felly?
 
(3, 0) 665 Dyma fi'n cau'r Beibl a'r "Concordance" iti; fydd dim rhagor o eisiau rhain arnat; dyma ddiwedd ar dy gôt ddu a'th gadach gwyn a dy bregethu.
 
(3, 0) 693 Ga i ddod a diferyn o ddŵr neu rywbeth i chi?
 
(3, 0) 695 Peidiwch mollwng rwan, hwyrach nad ydi'ch tad ddim wedi ei nafyd mor ddrwg wedi'r cwbl.
(3, 0) 696 Ga i'ch helpu i godi?
(3, 0) 697 Mi fyddwch yn smwythach ar y soffa.
 
(3, 0) 700 Mi fyddwch yn gweddïo weithiau?
 
(3, 0) 706 Ie, deydwch o rwan, mi fydd yn siwr o fod yn help i chi.
 
(3, 0) 713 Na, chi sy'n dychmygu.
 
(3, 0) 716 Steddwch ar y soffa ma, mi ddowch yn well yn y munud.
 
(3, 0) 722 Na wir, peidiwch a mynd.
(3, 0) 723 Mi fydd Eifion yn ol rwan jest.
(3, 0) 724 Ymhle roedd eich tad pan ddigwyddodd hyn?
 
(3, 0) 726 O! 'r tad annwyl, dyna beth difrifol!
 
(3, 0) 728 Wel, meddwl fod hyn wedi digwydd ac yntau'n—{Petrusa.}.
 
(3, 0) 731 Ydi, mi wn, ond─
 
(3, 0) 741 Rhag cwilidd i chi'r eneth annuwiol, rydach chi'n waeth na phagan.
 
(3, 0) 868 Eifion, mae golwg digalon iawn arnat ti.
 
(3, 0) 870 Mae mwy o gur yn dy galon di, Eifion bach.
(3, 0) 871 Dywed beth yw'r mater.
 
(3, 0) 874 Ac wedi dewis llwybr yr Eglwys?
 
(3, 0) 877 Nel Davis!
(3, 0) 878 Rydach chi wedi mynd a mrawd oddiarnaf, ac wedi dwyn y gweinidog oddiar Eglwys Seilo.
 
(3, 0) 882 Mae Eifion newydd ddeyd wrth flaenoriaid Seilo ei fod am eich priodi, er y gŵyr o o'r goreu beth fydd y canlyniad; y funud y priodith o chi, mi fydd yn rhaid iddo godi ei bac oddiyma.
(3, 0) 883 Mi ddylech fod yn falch o'ch diwrnod gwaith.
 
(3, 0) 888 Gofynnwch iddo fo.
(3, 0) 889 Mae newydd rybuddio'r blaenoriaid o'i fwriad i'ch priodi er y gŵyr o y digia fo bawb drwy'r lle wrth neud hynny.
 
(3, 0) 892 Rwyn teimlo dros fy nhad a mam weithiodd nos a dydd i dy godi di i'r pulpud i bregethu'r Efengyl, a dyma'u tâl.
 
(4, 0) 1162 Eifion! mi alwodd y Doctor acw rwan i ddeyd fod arnat eisia ngweld i.
 
(4, 0) 1168 Nel Davis!
 
(4, 0) 1170 Newch chi ysgwyd llaw â fi ac anghofio?