Ciw-restr

Ar y Groesffordd

Llinellau gan Nel (Cyfanswm: 238)

 
(1, 0) 226 Jared Jones, mae nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ; mi yfodd yn drwm heddiw ac mae o'n gynddeiriog yn i ddiod.
(1, 0) 227 Wyddwn i ddim i ble i droi, ond yma y bydda i'n dod am gymwynas.
(1, 0) 228 Ga i aros yn y gweithdy ma heno?
 
(1, 0) 230 Wn i ddim sut i ddiolch i chi.
 
(1, 0) 234 Ddeydwch chi ddim wrth neb, rwy'n siwr, fod nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ heno?
 
(1, 0) 237 Na, dim pryd i mi heno, mi ges ddigon cyn rhedeg allan.
 
(1, 0) 240 Dyma hi.
 
(1, 0) 243 Nos dawch!
 
(2, 0) 253 Pryd byddwch chi'n ol heno?
 
(2, 0) 257 Leiciech i mi gadw'r |kettle| ar yr |hob| erbyn i chi ddod?
 
(2, 0) 260 Fydd hynny ddim yn newydd i mi; rwyf wedi arfer codi bob awr o'r nos i'ch gillwng i'r tŷ.
 
(2, 0) 263 Fydd hynny, chwaith, fel mae gwaetha'r modd, ddim yn newydd i mi: fydd o ddim y tro cyntaf i'ch merch gael llygad du gynno chi.
 
(2, 0) 266 Styfnig!
(2, 0) 267 Welwch chi, Nhad, does waeth gen i heno am y dwrn yna.
(2, 0) 268 Rwyf wedi cadw tŷ i chi ers pan wyf yn cofio, a hynny am ddim ond fy mwyd a rhyw dipyn o ddillad rhad.
(2, 0) 269 Chwynais i rioed am y driniaeth gefais gynno chi er fod y mywyd i'n galetach na bywyd y slaf isa.
(2, 0) 270 Fe'm troisoch dros y drws y noson o'r blaen.
(2, 0) 271 Ond marciwch hyn, os cyffyrddwch chi'ch llaw â fi heno, mi wnewch hynny am y tro ola'n eich bywyd.
 
(2, 0) 275 Mae gen i un arf na ddefnyddiais i mohono; eto, ond mi rhof o ar waith heno os bydd raid.
 
(2, 0) 278 Ewch yn ol i'ch cornel yn gynta ac hwyrach y cewch wybod wedyn.
 
(2, 0) 284 Na wnaf.
(2, 0) 285 Does dim ofn y dwrn na arna i heno, a fu gen i rioed i ofn o.
 
(2, 0) 288 Mae digon o frid yno i heno fel na chewch chi na neb arall ddim plygu f'ysbryd i.
 
(2, 0) 292 Wel, mi wyddoch rwan; mae dysg o febyd hyd fedd.
 
(2, 0) 297 Sgwn i ddylwn i ddeyd beth ydi o?
 
(2, 0) 299 Rwan, mae'r ffrwyn yn dyn ar y nhempar i, ac rwy'n berffaith bwyllog—rwy'n benderfynol o'ch gadael am byth os rhowch chi'ch llaw arna i eto.
(2, 0) 300 Mi fedraf ennill y nhamaid, achos mi fedraf weithio, wrth lwc, a gweithio'n galed.
 
(2, 0) 302 Ie.
 
(2, 0) 304 Nag ydi ar un olwg—laddith o ddim cipar na hyd yn oed samon na ffesant.
 
(2, 0) 306 Dydw i'n cyfri dim yn eich golwg, felly?
 
(2, 0) 308 Ond dydi'ch wyllys chi ddim yn reit bob amser?
 
(2, 0) 312 Fyddwch chi'n cael arwyddion ambell dro, Nhad?
 
(2, 0) 314 Na, nid petha felly'n hollol.
(2, 0) 315 Dyna fi rwan wrth dynnu'r gwn ma i lawr oddiar y pared, fe gredais mod i'n gweld rhyw oleu glas yn llithro ar hyd i faril.
 
(2, 0) 317 Mi leiciwn fedru gneud hynny, ond cyn wired a mod i'n sefyll yn y fan yma mi welais fflach las yn llithro ar hyd y gwn yma o'r trigar at i ffroen o.
(2, 0) 318 Nhad bach! peidiwch mynd allan heno?
 
(2, 0) 323 Gwrandewch arnaf am unwaith, Nhad.
(2, 0) 324 Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i.
 
(2, 0) 338 O Nhad! dyna chi wedi taro Mam i lawr, mae'i llun hi wedi disgyn.
 
(2, 0) 340 O Mam! mi ges golled i'ch colli chi.
 
(2, 0) 342 Yn doedd gwyneb ffein ganddi, Nhad?
 
(2, 0) 346 Rhyw bymtheg ar hugain oedd hi'n marw, yntê, a finnau'n ddeg oed?
(2, 0) 347 Oedd hi'n debig i mi o ran pryd a gwedd?
 
(2, 0) 350 Sgwn i ymhle mae hi heno?
 
(2, 0) 352 Ydi hi i gyd yno, tybed?
 
(2, 0) 356 Ydi hynny oedd o Mam ym mhridd y fynwent ne ydi hi yma yn y gegin ambell dro?
 
(2, 0) 360 Na, nid hynny, ond mi wn o'r gore i bod hi yma ambell i noson ddistaw pan y bydda i yma ar ben fy hun.
 
(2, 0) 363 Na, welais i mohoni eto, ond rwy'n siwr mod i bron a'i gweld ambell waith; rwy'n i theimlo hi yn y gegin yma weithiau gyda'r hwyr pan y byddwch chi'n y coed.
 
(2, 0) 366 Ofn Mam!
 
(2, 0) 368 'Ch ofn chi, Mam?
(2, 0) 369 Na, ryda ni'n ormod o ffrindia i fod ag ofn ein gilydd, yn tyda ni?
 
(2, 0) 372 Na, dydi Mam ddim yno; mae na rywbeth yno, ond nid Mam; mae Mam yn fyw o hyd yn rhywle, wn i ddim ymhle, ond fe awn ar fy llw i bod hi weithiau yn y gegin ma.
(2, 0) 373 Nhad, peidiwch wir a mynd allan heno.
 
(2, 0) 377 Nac ydw i, nen tad, ac eto i gyd rwyn teimlo weithia mai nid chi bia'r samons.
 
(2, 0) 381 Wel, nid Dic Betsi gnath nhw beth bynnag, er mai fo sy'n dal y rhan fwya ohonyn nhw.
 
(2, 0) 383 Dyda chi a Mr. Blackwell y Plas ddim o'r unfarn ar y mater yna; mae o'n talu cyflog i gipar ne ddau i'ch watsio chi a'ch tebyg.
 
(2, 0) 387 Ydach, wrth gwrs, os ydi byw ar gêm yn farc o ŵr bynheddig.
(2, 0) 388 Ond unwaith eto, rwyf am i chi aros yma heno os gnewch chi.
 
(2, 0) 392 Er mwyn Mam, peidiwch mynd heno; fe syrthiodd ei llun oddiar y pared nawr jest, a choeliwch fi, arwydd fod rhywbeth drwg ar ddigwydd ydi hynny, a digwydd heno hwyrach.
 
(2, 0) 400 Mr. Richard Davis, Mr. Richard Davis.
(2, 0) 401 'Ruwd annwyl dad, ai holi am Dic Betsi yr ydach chi.
(2, 0) 402 Mr. Richard Davis!
(2, 0) 403 Beth nesa tybed?
(2, 0) 404 Mi fydd Dic Betsi wedi mynd yn scweiar mewn chwinciad.
(2, 0) 405 la, yma mae Richard Davis, Escweiar, yn byw, a fi {Gan bwyntio ati ei hun.} yw ei ferch, Lady Nel, sy'n golchi'r llawr ac yn berwi'r uwd iddo fo.
(2, 0) 406 Dowch i mewn i'r sitting room.
 
(2, 0) 409 Nag ydi, mae o newydd fynd am dro ar ol swper rownd i stâd; mi fydd yn mynd ddwywaith neu dair yr wsnos rhag ofn fod rhyw gnafon drwg o'r capel na yn seuthu'r gêm sy yn i barc o tu cefn i'r plas ma.
(2, 0) 410 Ond rydw i, Lady Nel, yr etifeddes, yn digwydd bod i mewn.
(2, 0) 411 Rhowch eich het i mi.
 
(2, 0) 413 O'r annwyl, dyma het ddigri, mae hi'n feddal fel pwdin.
 
(2, 0) 415 Lady Nel mewn het ciwrat!
(2, 0) 416 Chi ydi ciwrat capel Seilo?
 
(2, 0) 420 Lady Nel Davis, sgwelwch chi'n dda; dropiwch y gair "Miss" yna, achos mae o'n nhagu i bob tro y clywaf o.
 
(2, 0) 422 |Dear me!|
(2, 0) 423 Dyna fel bydd gweinidog yn siarad, ai ê?
 
(2, 0) 425 Disgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno, achos dyda chi, ei ferch, ddim yn werth i'w gweld.
 
(2, 0) 428 Dyna well dipyn y tro yna, Mr. —, be ydi'ch enw chi, deydwch?
 
(2, 0) 430 Gan na fûm i rioed o'r blaen yn siarad â chiwrat na gweinidog, wn i ddim yn iawn sut i'ch cyfarch chi; sut mae'ch cyfarch—Mr. Harris, Mr. Eifion Harris, neu'r Parch. Eifion Harris?
 
(2, 0) 432 Fel y mynnoch chi, Mr. Harris, achos does gen i mo'r gwrthwynebiad lleia i'ch galw'n Eifion, neu—o'r annwyl dad! mae gen i enw dan gamp arnoch, Ivy!
(2, 0) 433 Mae o fel enw merch byddigiwns.
 
(2, 0) 437 Dyna'r hen air meddal na eto; galwch fi'n Nel Davis, a pheidiwch a meddwl mod i'n gwawdio.
(2, 0) 438 Rhaid i chi gofio mai dyma'r tro cyntaf rioed i mi fod yn siarad â gweinidog, a rhaid cropian cyn cerdded, wyddoch.
(2, 0) 439 Dydach chi ddim yn ddig iawn, ydach chi?
 
(2, 0) 442 Portsio samons mae o, ond peidiwch a deyd wrth y cipar.
 
(2, 0) 447 Gneud drwg!
(2, 0) 448 Drwg i bwy?
(2, 0) 449 I'r samons?
 
(2, 0) 452 Cynddrwg a pheth?
(2, 0) 453 Ewch ymlaen.
 
(2, 0) 456 Ydach chi'n meiddio galw nhad yn lleidr?
(2, 0) 457 Ddaethoch chi yma heno i'n galw ni'n lladron?
 
(2, 0) 462 Wel, a deyd y gwir, nac ydw.
 
(2, 0) 465 Mae gen i ofn bob tro y seuthith y cipar o; ofn i weld o'n dod yn gorff i'r tŷ.
 
(2, 0) 470 Mi fyddaf yn mynd i ganol y coed neu i lan yr afon ambell i bnawn Sul i glywed yr adar yn canu ac i wrando ar sŵn yr afon ar ben fy hun.
 
(2, 0) 473 Addoli!
(2, 0) 474 Beth ydi addoli?
(2, 0) 475 Rhywbeth tebig i hiraeth ydi o, yntê?
(2, 0) 476 Mi glywsoch y delyn yn canu wrth gwrs; bob tro y clywa i hi mae arna i eisio crio ac eisio dawnsio run pryd.
(2, 0) 477 Wn i ddim ffordd i ddeyd sut bydda i'n teimlo wrth glywed y delyn, ond mi wn fod sŵn y coed a sŵn yr
(2, 0) 478 afon yn gneud yr un peth i mi'n union; mi fedrwn grio a dawnsio run anadl.
(2, 0) 479 Rhywbeth fel yna ydi addoli, yntê?
(2, 0) 480 Dyn yn teimlo'n rhy sad i fod yn hollol lawen ac yn rhy llawen i fod yn hollol sad—rhywbeth fel yna ydi addoli, yntê?
 
(2, 0) 483 Glywsoch chi afon yn siarad â chi?
(2, 0) 484 Glywsoch chi'r coed yn deyd rhywbeth rhyw dro?
 
(2, 0) 487 Do, lawer gwaith.
 
(2, 0) 489 Deyd y bydda nhw weithia mod i'n siwr o farw, ac na fydd dim colled ar f'ol.
(2, 0) 490 Dro arall mae nhw'n deyd fod mam yn fyw yn rhywle, er fod i bedd hi yn y Llan.
 
(2, 0) 492 Ar ol i chi fynd adre, hwyrach yr af allan am dro drwy'r ardd, ac mi fydd y nos a'r coed a'r afon yn dwrdio'n enbyd am i mi golli nhempar efo nhad jest cyn i chi ddod i mewn.
 
(2, 0) 494 Do, mi collais o heno'n ddrwg, ac mi ges y drafferth fwya ges i rioed i gadw rhag cydio mewn rhywbeth pan oedd nhad yn mynd i nharo i.
 
(2, 0) 496 Bydd, mi roi'th lygad du i mi weithia.
 
(2, 0) 500 Helo, pwy roddodd hawl i chi i alw nhad yn enwau drwg?
(2, 0) 501 Nhad i ydi o, ac mae ganddo hawl i roi clustan i mi os leicith o heb ofyn caniatad neb.
 
(2, 0) 506 Dic Betsi a'i ferch Nel yn mynd i'r capel!
(2, 0) 507 Mi edrychai pobl Seilo arnom fel pe bai cyrn ar ein pennau.
(2, 0) 508 Gwêl galch ar gôt MR. HARRIS.}
(2, 0) 509 Rhoswch funud, mae na smotyn gwyn o galch ar y gôt ma.
 
(2, 0) 511 Tynnwch y gôt ma oddiamdanoch am funud ac mi brwsiaf hi mewn chwinciad ar y bwrdd ma.
 
(2, 0) 515 Coblyn o beth ydi du, yntê, am ddal pob matholwch?
(2, 0) 516 Wn i ddim pam mae neb yn gwisgo du, ac yn enwedig pregethwrs, achos lliw mowrning ydi o.
(2, 0) 517 Ddaru chi sylwi y lliw mowrning yn y coed ydi cochddu a melyn, byth ddu; mynd i'w cochddu a'u melyn y mae'r coed wrth farw, ond rhowch liwiau coch a glas a gwyrdd a gwyn i mi, mi fydda'n teimlo mod i'n fyw yn rheiny; mi faswn yn mynd dros fy mhen i'r felancoli pe gwisgwn ddu.
 
(2, 0) 519 Diain i, mi leiciwn drio côt laes fel hon amdana.
 
(2, 0) 521 Sut rydw i'n edrach?
(2, 0) 522 Tybed na wnawn i bregethwr ne giwrat ar binsh?
 
(2, 0) 532 Dyma Mr. Eifion Harris, gweinidog newydd Seilo; dyma nhad, Mr. Richard Davis, yr oeddech yn holi am dano.
 
(2, 0) 544 Nhad, arna i roedd y bai i gyd, ac yn wir mae'n ddrwg gen i, Mr. Harris.
(2, 0) 545 Dod yma ddaru o, Nhad, i'ch gwâdd chi a finna i'r capel.
(2, 0) 546 Nath dim person na gweinidog gymaint a hynny i ni o'r blaen; a fi nath iddo dynnu ei gôt i mi gael brwsio'r calch oddiarni, ac mewn smaldod mi rhois hi amdanaf.
 
(2, 0) 569 Pam ddaethoch chi'n ol mor fuan heno?
 
(2, 0) 573 Mam! dyna'r goncwest gynta; mi ddaw'r ail hwyrach ymhen tipyn.
 
(3, 0) 673 Mae na bedwar o ddynion yn cario nhad o goed y Plas.
 
(3, 0) 675 Wn i ddim!
(3, 0) 676 Wn i ddim!
(3, 0) 677 O! fedra i ddim crio.
(3, 0) 678 Dic Betsi!
(3, 0) 679 Mae arna'i ofn y bydd o farw ar y ffordd cyn cyrraedd adre,
 
(3, 0) 686 Oes rhyw lygedyn o obaith?
 
(3, 0) 698 Fydda i byth eto'n esmwyth os ydi nhad—.
(3, 0) 699 Ar eu gliniau y bydd pobol yn gweddïo am bethau yntê?
 
(3, 0) 701 Gweddïo?
(3, 0) 702 Na fydda i.
(3, 0) 703 Dysgodd mam i mi ddeyd y mhader, ond ar ol iddi farw ddeydais i mohono byth wedyn.
(3, 0) 704 Atebith o ddiben i mi ddeyd y mhader rwan?
(3, 0) 705 Rwyn meddwl mod i'n i gofio fo.
 
(3, 0) 707 "Ein Tad"—ydi O'n Dad i Dic Betsi?
(3, 0) 708 Mi wn i fod O'n Dad i mam, achos roedd hi'n arfer siarad â Fo bob nos a bore.
(3, 0) 709 Ond hwyrach nad ydi O ddim yn ffrindie hefo nhad am i fod o'n bortsiar.
 
(3, 0) 711 Glywch chi sŵn traed?
 
(3, 0) 715 O, na fedrwn i grio; mae na ryw ddistawrwydd yn y mhen i fel pe bae rhywbeth ar dorri o'i fewn.
 
(3, 0) 718 Mae sŵn cerdded araf y pedwar dyn na ar y nghlust i.
 
(3, 0) 720 Rwyn mynd allan i'w cyfarfod.
 
(3, 0) 725 Fe aeth allan ar ol tê i bortsio.
 
(3, 0) 727 Be sy'n ddifrifol?
 
(3, 0) 730 Nid amser i ddeyd y drefn am bortsio ydi hi rwan; mae nhad wedi frifo, mae gwaed Dic Betsi'n diferu ar hyd y ffordd.
 
(3, 0) 732 Y nefoedd fawr!
(3, 0) 733 Welwch chi ddim mai nhad sy wedi frifo; nid y portsiar ydi o i mi rwan, ond nhad, ac os colla'i nhad mi golla'r cwbl sy gen i.
 
(3, 0) 735 Dyna nhw'n cario'i gorff o i mewn.
(3, 0) 736 Mae rhywbeth yn deyd wrtho i fod popeth ar ben heno.
(3, 0) 737 O Nhad bach!
 
(3, 0) 739 Os y cipar seuthodd o, gobeithio y daw barn ar ben y llofrudd!
 
(3, 0) 746 Mam!
 
(3, 0) 751 Ydi hi ar ben arno?
 
(3, 0) 753 O! mae'n ddrwg gen i i mi ddychryn eich chwaer rwan.
 
(3, 0) 756 Rwyn waeth na phagan, medde'ch chwaer, ac mae hi'n iawn.
 
(3, 0) 879 Dwyn?
(3, 0) 880 Beth ydach chi'n feddwl?
(3, 0) 881 Tybed nad oes digon o faich arna i heno heb i chi roi chwaneg arnaf?
 
(3, 0) 886 Does dim eisiau sôn am y mhryder i jest rwan, ond mae gen i hawl i wybod beth sy wedi digwydd yma.
(3, 0) 887 Ydach chi'n deyd mod i wedi dwyn eich brawd oddiarnoch chi ac Eglwys Seilo,
 
(3, 0) 893 Eifion Harris, be sydd wedi digwydd?
(3, 0) 894 Mae gen i hawl i wybod.
 
(3, 0) 898 Wel, ewch ymlaen.
 
(3, 0) 900 A! mae Nel Dic Betsi'n sgymun i bawb yn yr ardal, ac mi fydd byth.
(3, 0) 901 Does dim maddeuant byth i mi am fod yn ferch y portsiar.
 
(3, 0) 903 Mi fydd yn rhaid diffodd y gannwyll heno.
 
(3, 0) 905 Phrioda i chi byth!
 
(3, 0) 907 Mi gewch weld yn amgenach.
(3, 0) 908 Ddo i byth yn dragywydd rhyngoch chi ag Eglwys Seilo na dim eglwys arall.
 
(3, 0) 910 Pwy ddywedodd wrthych y priodwn i chi?
 
(3, 0) 912 Naddo rioed!
 
(3, 0) 914 A, dyna rywbeth gwahanol.
(3, 0) 915 Marged Harris, dydi'ch cariad chi at eich brawd yn ddim ond fel cannwyll frwyn wrth yr haul yn ymyl y nghariad i ato; mi awn drwy ffaglau tân er ei fwyn.
(3, 0) 916 Cariad!
(3, 0) 917 Marged Harris, wyddoch chi mo ystyr y gair eto?
(3, 0) 918 Pwy sy'n ameu fy nghariad i at eich brawd?
 
(3, 0) 920 Rhoswch funud; dydi popeth ddim yn |all right|.
(3, 0) 921 Waeth un gair na mil, phrioda i byth mohonoch.
 
(3, 0) 923 Ydw, mi ddwedwn hynny ar goedd y byd, ond rwyn eich caru'n rhy fawr i'ch priodi.
 
(3, 0) 925 Eifion!
(3, 0) 926 Er mai merch y portsiar ydw i, ddwedais i rioed gelwydd yn y mywyd—fûm i rioed o'r blaen yn caru â neb, a chara i byth neb ond chi, ond mae'n well gen i fod heb weld ych gwyneb chi byth na dod rhyngoch chi a'ch gwaith fel gweinidog, ac mi wn nad ydi merch Dic Betsi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog, a fydd hi byth.
 
(3, 0) 930 Mae mhoen i'n ddigon heb roi un arall ato, ond waeth i chi geisio symud y Wyddfa na'm symud i o mhenderfyniad.
(3, 0) 931 Unwaith eto, ac am y tro ola, phrioda i byth mohonoch.
(3, 0) 932 Fe af yn ddigon pell o'r ardal ma i ennill y nhamaid rhywsut, ond am eich priodi—byth bythoedd!
 
(3, 0) 945 Peidiwch a deyd gair yn erbyn nhad i heno.
 
(3, 0) 949 Wyddwn i mo hynny.
 
(3, 0) 956 Ydi o'n mynd i farw heno?
 
(3, 0) 960 O Nhad!
 
(3, 0) 973 Wedi marw!
 
(4, 0) 1084 Harri, Harri, ymhle rwyt ti?
 
(4, 0) 1088 O'r tad!
(4, 0) 1089 Chi sydd yma?
(4, 0) 1090 Mi ddeydodd y Doctor ffals yna mai Harri bach oedd yma.
 
(4, 0) 1092 Be ydach chi'n neud yn y gweithdy ma?
(4, 0) 1093 Ydach chi wedi gadael y weinidogaeth a throi'n jeinar?
 
(4, 0) 1095 Go lew chi.
(4, 0) 1096 Ches i ond prin olwg ar Jared eto.
(4, 0) 1097 Mae'n edrach yn rhyfedd o dda o ran i liw hefyd, ond mae'r Doctor yn ofni am i galon.
(4, 0) 1098 O! mi rown lawer am i weld o allan o berig.
(4, 0) 1099 Dyna'r unig beth nath i mi ddod yn ol i'r lle ma; rwyn ffond o nghalon o Jared.
 
(4, 0) 1102 Waeth i ni heb siarad am yr hen bethau; mae popeth drosodd erbyn hyn.
 
(4, 0) 1109 Rwyf wedi priodi!
 
(4, 0) 1115 O, Mr. Harris! rydach chi'n mynd heb ddeyd "lwc dda," ac heb gymaint a gofyn pwy briodais i.
 
(4, 0) 1118 Rwyf wedi priodi nghrefft?
 
(4, 0) 1122 Rhoswch funud, da chi.
(4, 0) 1123 Beth yda ni well o fynd ymlaen fel hyn?
(4, 0) 1124 Nel Dic Betsi ydw i o hyd i'r bobl yma.
 
(4, 0) 1126 Newid ymha ffordd?
 
(4, 0) 1131 Pam?
(4, 0) 1132 Run Nel ydw i heddyw yn nillad nyrs ag oeddwn i flwyddyn yn ol ym mwthyn Pantglas.
 
(4, 0) 1135 Mi fûm yn siarad rwan ag Ifan y crydd a Hopcyn y siop—y ddau oedd fwya'n fy erbyn.
(4, 0) 1136 Mae'r ddau yn tŷ rwan.
 
(4, 0) 1139 Swil iawn oedd y ddau am dipyn, a mi rois snap ne ddwy iddyn nhw er mwyn rhen amser gynt.
(4, 0) 1140 Ond eisia cymodi oedd arnyn nhw'n amlwg, a mi doddais dipyn bach atyn nhw yn y diwedd.
 
(4, 0) 1144 Priodi fory!
(4, 0) 1145 Be sy haru'r dyn?
 
(4, 0) 1149 O'r annwyl!
(4, 0) 1150 Na, chi ddeydodd rhywdro mai gwell oedd gadael i ran o'r ddyled sefyll ar gapel er mwyn rhoi gwaith i'r blynyddoedd i ddod; os cadwch chi jiwbili heddyw fydd gynno chi ddim i neud y misoedd nesa.
(4, 0) 1151 Ond beth am Marged?
 
(4, 0) 1158 Mi rydw i'n fwy digalon na neb ohonoch.
(4, 0) 1159 Mi ellwch fod yn siwr y gna i ngoreu er mwyn Jared, yr hen greadur annwyl.
 
(4, 0) 1172 Soniwn ni byth eto am dano, dyna fi wedi cau'r drws am byth ar yr hyn a fu.
 
(4, 0) 1178 Ar ol maddeu i'r ddau droseddwr mwya, hawdd maddeu i un oedd dipyn yn fwy pleidiol i mi nag Ifan Wyn a Hopcyn.
 
(4, 0) 1180 Wel, dyna fi'n ffrindia â'r sêt fawr i gyd rwan.
 
(4, 0) 1184 Roedd y Doctor yma chydig yn ol, a gwael iawn oedd o yn i gael o.
(4, 0) 1185 Dydw i wedi cael fawr amser â fo eto, does fawr ers pan ddois i yma.
 
(4, 0) 1192 O, Jared Jones, dowch yn ol efo ni i'r tŷ; wn i ddim beth ddwedith y Doctor am hyn; mae'n enbyd i chi fod yn y fan yma.
 
(4, 0) 1212 Rhag cwilydd i chi, Jared Jones!
(4, 0) 1213 Faddeua i byth i chi!
 
(4, 0) 1239 O, nage, nid fi, ond {Anela ei bys at ei wyneb.} y pistol galwad hwnnw.