Ciw-restr

Gwellhad Buan

Llinellau gan Aled (Cyfanswm: 69)

 
(1, 0) 465 Diolch yn fawr, Mrs James.
 
(1, 0) 470 Popeth yn iawn, Mrs James.
 
(1, 0) 472 Deall yn iawn, Mrs James, deall yn iawn.
 
(1, 0) 476 Diolch yn fawr.
 
(1, 0) 478 Wedi dod â rhywbeth bach i'r claf hefyd....
 
(1, 0) 498 Wrth gwrs, Mrs James, wrth gwrs.
 
(1, 0) 500 Wel, sut wyt ti'r hen gyfaill?
 
(1, 0) 503 Wedi clywed yn y pentref nad wyt ti ddim yn dda.
 
(1, 0) 505 Wel, wyt ti yn sâl?
 
(1, 0) 509 Be' sy'n bod 'te?
 
(1, 0) 511 Ai dyna'r cyfan?
 
(1, 0) 513 Dim byd mwy... wel... mwy difrifol?
 
(1, 0) 515 Wel, mae dôs o annwyd yn beth mor gyffredin.
 
(1, 0) 517 Ac mae pawb yn cael annwyd weithiau.
 
(1, 0) 519 Os wyt ti'n dweud.
(1, 0) 520 Mae'n rhaid fy mod i wedi eu camddeall.
 
(1, 0) 522 Wel, roedd pawb yn dweud...
 
(1, 0) 525 Dim byd o bwys.
(1, 0) 526 Anghofia'r peth.
 
(1, 0) 528 Wyt ti'n barod am y gêm ddydd Sadwrn 'te?
(1, 0) 529 Roeddwn i'n clywed fod Gerallt wedi ffeindio sêt yn arbennig i ti.
 
(1, 0) 531 Mi gei weld y cyfan yn glir.
 
(1, 0) 533 Be ti'n feddwl?
 
(1, 0) 535 Am faint?
 
(1, 0) 538 Am rhyw ddiwrnod neu ddau?
(1, 0) 539 O leiaf?
 
(1, 0) 542 Mi fyddi yn dy wely dros y penwythnos 'te?
 
(1, 0) 547 Dim ond poeni am iechyd hen gyfaill.
 
(1, 0) 552 Deall beth?
(1, 0) 553 Does yna ddim i'w ddeall.
 
(1, 0) 555 Dw i ddim eisiau dim.
 
(1, 0) 559 Beth?
(1, 0) 560 Ond dwi ddim yn....
 
(1, 0) 563 Ond Tomos!
 
(1, 0) 568 Ond Tomos...
 
(1, 0) 570 Ond mae'n drueni ei wastraffu...
 
(1, 0) 572 Ond Tomos bach...
 
(1, 0) 576 Ond Tomos...
 
(1, 0) 581 Tomos?
(1, 0) 582 Be' sy'?
(1, 0) 583 Wyt ti'n sâl?
 
(1, 0) 585 Be' sy' bod?
 
(1, 0) 587 Beth?
 
(1, 0) 592 Beth?
 
(1, 0) 594 Ond Tomos...
(1, 0) 595 Beth am y tocyn...
 
(1, 0) 602 Beth!
(1, 0) 603 O, chi sy' yna Mrs Puw!
(1, 0) 604 Wnes i ddim clywed chi'n dod i mewn.
 
(1, 0) 607 Mae hynny'n gwestiwn da, Mrs Puw ─ cwestiwn da iawn.
 
(1, 0) 609 Ie, wel...
(1, 0) 610 Rwy'n sylweddoli fod e'n edrych yn od iawn ond mi alla' i esbonio'r cyfan...
 
(1, 0) 612 Dech chi'n gweld...
(1, 0) 613 Y rheswm i mi edrych dan y fatres...
 
(1, 0) 615 Ie...
(1, 0) 616 Wel...
(1, 0) 617 Roedd yn rhaid i mi edrych yno er mwyn ceisio chwilio am... am... amdano.
 
(1, 0) 619 Hynny yw, meddwl efallai fod e' dan y fatres... ac felly, yn meddwl mai'r peth gorau fyddai edrych i wneud yn siŵr...
(1, 0) 620 Ond dyw e' ddim yna, ac felly doedd dim angen chwilio dan y fatres wedi'r cyfan...
(1, 0) 621 Ond wrth gwrs, doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd.
 
(1, 0) 623 Mae'r peth yn hollol syml.
(1, 0) 624 Wyddwn i ddim cyn edrych fod e ddim yna, ond rŵan rwy' wedi edrych ac rwy'n gwybod fod e' ddim yna.
(1, 0) 625 Wrth gwrs, tasen ni'n gwybod hynny cyn i mi edrych, faswn i ddim wedi mynd i'r drafferth o edrych, ond doeddwn i ddim yn gwybod hynny cyn i mi edrych, ac felly dyna oeddwn i'n wneud pan ddaethoch chi i mewn.
(1, 0) 626 Rwy'n siŵr fod hynna'n esbonio'r cyfan...
 
(1, 0) 629 Iawn.
(1, 0) 630 Os wnewch chi fy esgusodi i, mae'n rhaid i mi fynd.
(1, 0) 631 Gwaith yn disgwyl ynte!
(1, 0) 632 Neis iawn eich gweld chi.
(1, 0) 633 Hwyl rŵan.