Ciw-restr

Gwellhad Buan

Llinellau gan Doctor (Cyfanswm: 57)

 
(1, 0) 267 Wrth gwrs, Mrs James, popeth yn iawn.
 
(1, 0) 269 Nawr Mr Edwards, beth yn hollol sy'n bod?
 
(1, 0) 272 Ie, rwy'n deall hynny ond allwch chi fod ychydig bach mwy manwl?
 
(1, 0) 275 Dywedwch 'A'.
 
(1, 0) 277 Rhywbeth arall?
 
(1, 0) 290 Rhywbeth arall?
 
(1, 0) 292 Wel, Mr Edwards, dw i ddim yn credu fod eisiau i chi boeni'n ormodol.
(1, 0) 293 O'r hyn dech chi'n ei ddweud, mae'n edrych yn o debyg eich bod chi wedi cael dôs go iawn o annwyd ─ dyna'r cyfan.
 
(1, 0) 296 Wel, mi faswn i yn eich cynghori i aros yn y gwely...
 
(1, 0) 299 Dydd Sadwrn?
 
(1, 0) 301 O!
(1, 0) 302 Wel, fydden i ddim yn eich cynghori...
 
(1, 0) 305 Neis iawn rwy'n siŵr, ond...
 
(1, 0) 307 Do, rwy'n siŵr, ond...
 
(1, 0) 310 Wel Mr Edwards, os ydych chi'n dewis anwybyddu fy nghyngor...
 
(1, 0) 312 Eich penderfyniad chi yw e' wrth gwrs.
(1, 0) 313 Fedra i byth eich rhwystro chi rhag mynd.
 
(1, 0) 315 I pa bwrpas?
 
(1, 0) 318 Dyna fyddai orau.
 
(1, 0) 320 Fel y dywedais i eisoes Mr Edwards, dim fy lle i yw eich rhywstro rhag mynd...
 
(1, 0) 322 Ond ar y llaw arall, rhaid i mi gynghori eich merch fod e'n beth peryglus iawn i'w wneud o ystyried eich cyflwr a'ch oedran.
 
(1, 0) 325 Rhaid i chi aros yn eich gwely yn amyneddgar a rhoi'r cyfle i natur wneud ei waith.
 
(1, 0) 327 Does dim byd y galla i ei wneud.
 
(1, 0) 330 Ond does...
 
(1, 0) 332 Dim o gwbwl.
(1, 0) 333 Y gwir amdani yw nad oes yna ddim byd ar gael i wella annwyd ar hyn o bryd.
 
(1, 0) 336 Diar mi, Mr Edwards, mae'r peswch yna yn un cas.
(1, 0) 337 Gwell i chi gymryd un o rhain.
 
(1, 0) 340 Na, ond mi fyddan nhw'n help i wella'r peswch 'na.
(1, 0) 341 Cymerwch un.
 
(1, 0) 347 Dech chi erioed yn defnyddio rhain?
 
(1, 0) 350 Wyddwn i ddim eu bod nhw'n dal i wneud nhw.
 
(1, 0) 352 Hen bethau sur sy'n gwneud mwy o ddrwg nag o les.
 
(1, 0) 354 Yn bendant i chi.
(1, 0) 355 Y bin sbwriel ─ dyna'r peth gorau i wneud â rheina.
 
(1, 0) 359 Nawr, gadewch i ni weld beth arall sydd yma.
 
(1, 0) 361 Mae hwnna'n stwff reit dda...
(1, 0) 362 A hwnna...
(1, 0) 363 Ddylech chi ddim defnyddio hwnna...
(1, 0) 364 A dyw hwn fawr o werth...
(1, 0) 365 Na hwnna chwaith...
 
(1, 0) 367 A wn i ddim beth yw hon.
 
(1, 0) 371 Dyna ni, Mr Edwards.
(1, 0) 372 Dyna gael gwared â'r rheina.
 
(1, 0) 374 Gormod o ddim nid yw'n dda, yntê?
 
(1, 0) 376 Nawr, peidiwch â chymryd mwy o foddion nag sydd rhaid.
(1, 0) 377 Mae hynny'n bwysig.
(1, 0) 378 Hefyd, mae'n bwysig iawn cadw'n gynnes.
 
(1, 0) 380 Cadw'n gynnes yn y gwely, Mr Edwards.
(1, 0) 381 Mi ddo' i'ch gweld ddechrau'r wythnos nesaf.
(1, 0) 382 Rwy'n siŵr y byddwch yn well erbyn hynny.
 
(1, 0) 384 Rydech chi'n ffodus iawn fod eich merch yma i ofalu ar eich hôl.
(1, 0) 385 Cofiwch hynny Mr Edwards.
(1, 0) 386 Os bydd unrhyw newid, dim ond galwad ffôn sydd angen.
 
(1, 0) 389 Efallai wir, ond mae iechyd yn beth amhrisiadwy.
(1, 0) 390 Cofiwch hynny hefyd, Mr Edwards.
(1, 0) 391 Dydd da.