Ciw-restr

Gwellhad Buan

Llinellau gan Tom (Cyfanswm: 318)

 
(1, 0) 7 Hen bethau di-ddim.
 
(1, 0) 9 Nawr, beth sy' nesaf?
(1, 0) 10 O ie.
 
(1, 0) 13 Hy!
 
(1, 0) 18 Be sy'n mater ar y diawl yma?
(1, 0) 19 Agora'r cythraul!
 
(1, 0) 23 Does dim posib agor y bocs pils yma.
 
(1, 0) 26 Mae'r hen gaead wedi sticio neu rywbeth.
 
(1, 0) 29 Sut yn y byd...
 
(1, 0) 32 Paid ti â phoeni beth ŷn nhw.
 
(1, 0) 37 Ie.
 
(1, 0) 39 Maen nhw'n rhai newydd.
(1, 0) 40 Gwella annwyd mewn chwinciad.
 
(1, 0) 42 Pwy a ŵyr ─ falle gwna nhw rhyw les.
 
(1, 0) 48 Paid ti â gwawdio, fy machgen i.
 
(1, 0) 51 Paid â barnu pethau nad wyt ti'n deall.
 
(1, 0) 53 Wrth gwrs.
(1, 0) 54 Rhain yw'r unig beth sy' rhwngdda i a'r fynwent.
 
(1, 0) 56 Rydw i'n mynd i'r gêm ─ a dyna ben ar y peth!
 
(1, 0) 61 Does dim gwahaniaeth gen i os yw hi'n fodlon ai peidio!
(1, 0) 62 Mae Ieuan Lloyd yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn, ac mae'n rhaid i mi fod yno.
 
(1, 0) 64 Hwn fydd yr achlysur pwysicaf yn hanes y clwb ─ yr aelod cyntaf i chwarae dros ei wlad.
 
(1, 0) 66 Wrth gwrs, ond dyw'r ferch yna sy' gen i yn deall dim.
 
(1, 0) 71 Ydw, a phaid ag edrych arna i fel 'na ─ dw i ddim mor sâl â hynny.
 
(1, 0) 75 Dafydd?
 
(1, 0) 77 Fase'n bosib i mi gael cwpanaid o de?
 
(1, 0) 79 Mi faswn i'n ddiolchgar iawn.
 
(1, 0) 82 Mi fydde cael bisged siocled yn neis iawn hefyd.
 
(1, 0) 84 |Chocolate Biscuit|.
(1, 0) 85 Ma' nhw yn y cwpwrdd.
 
(1, 0) 87 O...
(1, 0) 88 Oes.
(1, 0) 89 Mae Ann wedi ei cuddio nhw yn y cefn, tu ôl i'r fflŵr.
 
(1, 0) 93 Na.
 
(1, 0) 98 Megan, ti sy' yna?
 
(1, 0) 108 Cystal â'r disgwyl am wn i.
 
(1, 0) 110 Na ─ dim rhyw lawer.
 
(1, 0) 114 Fel be?
 
(1, 0) 117 Beth yw e'?
 
(1, 0) 120 Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio rhyw bethau mae honno wedi'i gymysgu.
(1, 0) 121 Duw a ŵyr be' sy' ynddo fe.
 
(1, 0) 124 Wel, dw i ddim eisiau fe.
 
(1, 0) 127 Ie, ac mi fu honno farw yn o sydyn hefyd.
 
(1, 0) 130 Wyt ti'n meddwl y gwnaiff e' rhyw les?
 
(1, 0) 132 Mae honno'n ddigon dwl i gredu rhywbeth.
 
(1, 0) 134 Olreit... olreit... mi wna i.
 
(1, 0) 136 Er mwyn dy blesio di.
 
(1, 0) 140 Wel, rwy'n teimlo dipyn bach yn well...
 
(1, 0) 143 Ar yr hen bethau papur 'ma mae'r bai ─ maen nhw mor ysgafn.
 
(1, 0) 145 Paid ti â meiddio!
 
(1, 0) 147 Mae ei lond e' o...
(1, 0) 148 Be' ti'n galw'r pethau 'na?
 
(1, 0) 150 Nagie.
(1, 0) 151 Germs ─ dyna'r gair.
(1, 0) 152 Mae ei lond e' o germs, ac mae gen i hen ddigon o rheini yn barod.
 
(1, 0) 158 Naddo.
(1, 0) 159 Pam?
 
(1, 0) 165 Fawr o golled i ti.
 
(1, 0) 167 Fawr o golled i hwnnw chwaith.
(1, 0) 168 Hen sguthan o ddynes oedd hi, a'i thrwyn ym musnes pawb.
 
(1, 0) 170 Mae'n ddigon gwir i ti.
(1, 0) 171 Er hynny, chwith meddwl fod hi wedi mynd.
 
(1, 0) 173 Ie, debyg.
(1, 0) 174 Y cyfan yn nwylo y Brenin Mawr.
 
(1, 0) 177 Rwyt ti'n ofnadwy Megan, wyt wir.
 
(1, 0) 184 Oes 'na brinder cwpanau?
 
(1, 0) 186 Mi fydda i bob amser yn licio yfed te mewn cwpan.
 
(1, 0) 190 Rhain...
(1, 0) 191 Y...
(1, 0) 192 Dim syniad.
(1, 0) 193 Lle ges ti rhain Dafydd?
 
(1, 0) 197 Digwydd gweld nhw yn y cwpwrdd, ynte Dafydd?
 
(1, 0) 200 Meddwl y byddai dy hen Dad yn hoffi un.
 
(1, 0) 204 Beth...
(1, 0) 205 Ond dw i heb gael un eto!
 
(1, 0) 207 Dim ond un?
 
(1, 0) 212 Rwyt ti'n union fel dy fam...
 
(1, 0) 214 Beth am ddangos ychydig o gydymdeimlad â'r rhai sy'n dioddef?
 
(1, 0) 219 Megan ddaeth â hi.
 
(1, 0) 224 Duw a ŵyr!
 
(1, 0) 228 Wel...
 
(1, 0) 232 Gobeithio bod ti'n iawn...
 
(1, 0) 247 Reit.
 
(1, 0) 249 Lle ti'n mynd 'te?
 
(1, 0) 251 I beth?
 
(1, 0) 271 Rwy'n sâl.
 
(1, 0) 273 Wel, ma'n nhrwyn i yn rhedeg fel tap ac ma' mhen i bron â hollti'n ddau.
(1, 0) 274 Hefyd, ma' ngwddwg i'n crafu...
 
(1, 0) 276 Aaaaa!
 
(1, 0) 278 Mae gen i boen fan hyn...
 
(1, 0) 280 Fan hyn...
 
(1, 0) 282 A fan hyn...
 
(1, 0) 284 A weithiau fan hyn...
 
(1, 0) 286 Doctor:
 
(1, 0) 288 Beth am fan hyn?
(1, 0) 289 Fyddai byth yn cael poen mor bell lawr â hynna.
 
(1, 0) 291 Dech chi ddim yn meddwl fod hynna'n ddigon?
 
(1, 0) 294 Rwy'n gwybod mai annwyd yw e' ─ does dim angen bod yn ddoctor i wybod hynny.
(1, 0) 295 Y cwestiwn yw, beth dech chi'n mynd i wneud ynglŷn â'r peth?
 
(1, 0) 297 Aros yn fy ngwely!
(1, 0) 298 Ond mae'n rhaid i mi fynd i Gaerdydd ddydd Sadwrn.
 
(1, 0) 300 I weld y gêm rygbi ryngwladol.
 
(1, 0) 303 Mae mab Gerallt Lloyd, Pencwm, yn chwarae.
(1, 0) 304 Ei gap cyntaf dros ei wlad.
 
(1, 0) 306 Ac mae Gerallt wedi mynd i drafferth mawr er mwyn sicrhau fy mod i yn cael tocyn.
 
(1, 0) 308 Un o'r seddi gorau ar y maes.
(1, 0) 309 Dim byd ond y gorau i'w ffrind Tom.
 
(1, 0) 311 Ond mae'n rhaid i mi fynd yno.
 
(1, 0) 314 Fyddech chi'n fodlon cael gair ag Ann 'te?
 
(1, 0) 316 Dyw hi ddim yn fodlon i mi fynd chwaith.
(1, 0) 317 Ieuan Pencwm yn ennill ei gap cyntaf ─ ac mae pawb eisiau i mi aros yn y gwely drwy'r dydd!
 
(1, 0) 319 Ond tasech chi'n dweud wrthi fod e'n olreit i mi daro draw, ac yna'n syth yn ôl i'r gwely...
 
(1, 0) 321 Diolch yn fawr, Doctor.
 
(1, 0) 323 Beth?
(1, 0) 324 Ond Doctor...?
 
(1, 0) 326 Ai dyna'r gorau y gallwch chi ei gynnig?
 
(1, 0) 328 Dyw hyn ddim digon da.
(1, 0) 329 Rwy wedi talu fy National Insurance ar hyd y blynyddoedd.
 
(1, 0) 331 Rwy' wedi darllen hanes chi a'ch siort yn y papurau dydd Sul ─ cadw'r stwff gorau i'r cleifion preifat a gwrthod rhoi dim i'r dyn bach cyffredin.
 
(1, 0) 334 Mae rhaid fod yna rhywbeth?
 
(1, 0) 339 Ydyn nhw'n gwella annwyd?
 
(1, 0) 343 Hm!
(1, 0) 344 Ma' nhw yn rhai da.
(1, 0) 345 Tipyn gwell na'r hen rhai yma beth bynnag.
 
(1, 0) 348 Wel...
(1, 0) 349 Ydw.
 
(1, 0) 351 Maen nhw wedi bod yn y tŷ yma ers tipyn.
 
(1, 0) 353 Dech chi'n meddwl?
 
(1, 0) 357 Beth?
(1, 0) 358 Ond...
 
(1, 0) 369 Peidiwch â thaflu honna!
 
(1, 0) 373 Ond Doctor...
 
(1, 0) 379 Dim ond cadw'n gynnes?
 
(1, 0) 383 Ond beth am Ann?
 
(1, 0) 387 Ond Doctor, wyddoch chi faint yw gwerth tocyn i gêm rygbi rhyngwladol?
(1, 0) 388 Byddai rhai bobol yn fodlon rhoi ffortiwn fach am gael un.
 
(1, 0) 396 Hanna Morris, beth wyt ti wedi rhoi yn y botel yma, ysgwn i?
(1, 0) 397 Does dim cyfarwyddiadau arni o gwbwl.
(1, 0) 398 O, wel...
(1, 0) 399 Er mwyn plesio Megan...
 
(1, 0) 402 Pam fod rhaid i'r pethau llesol 'ma fod mor chwerw?
 
(1, 0) 404 Un arall am lwc!
 
(1, 0) 409 O damio, lle mae honna wedi mynd eto?
 
(1, 0) 413 Rwy' wedi colli un o'r pils melyn.
 
(1, 0) 420 Mae dy ddwylo di'n oer.
 
(1, 0) 424 Bydd ychydig bach yn fwy gofalus, wnei di.
 
(1, 0) 429 Beth?
 
(1, 0) 432 Diolch byth.
 
(1, 0) 437 Do fe?
 
(1, 0) 439 Ond Ann...
 
(1, 0) 441 Ond dyw'r Doctoriaid yma'n deall dim...
 
(1, 0) 444 Ond Ann...
 
(1, 0) 448 Pwy?
 
(1, 0) 450 Morgans y siop!
(1, 0) 451 Be ma' hwnnw eisiau?
 
(1, 0) 453 Wel, dydw i ddim eisiau ei weld e.
 
(1, 0) 456 Ti'n gwybod yn iawn.
 
(1, 0) 458 Fi fydde wedi ennill tase fe heb ganfasio hanner y pentre ─ a hynny ar ôl i ni gytuno fod neb yn mynd i wneud.
(1, 0) 459 Yr hen greadur bach dauwynebog.
 
(1, 0) 462 Ond dydw i heb anghofio a wna i ddim chwaith.
 
(1, 0) 466 Beth wyt ti eisiau?
 
(1, 0) 480 Be' sy' gen ti?
 
(1, 0) 482 Grêps!
(1, 0) 483 Grêps!
(1, 0) 484 Gas gen i grêps!
 
(1, 0) 495 Diolch.
 
(1, 0) 501 Dydw i ddim yn hen gyfaill i ti.
(1, 0) 502 Beth wyt ti eisiau?
 
(1, 0) 506 Na, rwy i bob amser yn fy ngwely am ddeg o'r gloch yn y bore.
 
(1, 0) 508 Wrth gwrs 'mod i'n sâl.
 
(1, 0) 510 Rwy' wedi cael annwyd.
 
(1, 0) 512 Mae hynny'n hen ddigon.
 
(1, 0) 514 Be' ti'n feddwl?
 
(1, 0) 516 Does dim byd yn gyffredin am yr hyn sy' gen i.
 
(1, 0) 518 Dim mor ddrwg ag yr ydw i'n ei gael e.
 
(1, 0) 521 Camddeall pwy?
 
(1, 0) 523 Beth roedd pawb yn ddweud?
 
(1, 0) 530 Do, chwarae teg iddo.
 
(1, 0) 532 Mae hynny'n dibynnu os ca' i fynd, yn dyw e?
 
(1, 0) 534 Fe ddywedodd y Doctor y dyliwn i aros yn y gwely.
 
(1, 0) 536 Am rhyw ddiwrnod neu ddau o leiaf.
 
(1, 0) 540 Ie, dyna ddywedodd y Doctor.
 
(1, 0) 543 Fel hynny mae'n edrych rŵan.
 
(1, 0) 545 Pam wyt ti'n holi?
 
(1, 0) 548 Boenaist ti erioed am hynny cyn hyn.
 
(1, 0) 550 A!
(1, 0) 551 Rwy'n dechrau deall rŵan!
 
(1, 0) 554 Roeddwn i'n amau dy fod ti eisiau rhywbeth.
 
(1, 0) 557 Wel, yr ateb yw 'na'.
(1, 0) 558 Taset ti'n mynd ar dy liniau i ofyn, 'na' fyddai'r ateb bob tro.
 
(1, 0) 561 Waeth i ti heb, rwy'n dy nabod di'n rhy dda.
(1, 0) 562 Bob amser eisiau rhywbeth!
 
(1, 0) 564 Paid ti â rhoi "Ond Tomos!" i mi.
(1, 0) 565 'Na' yw yr ateb.
(1, 0) 566 Wyt ti'n deall!
(1, 0) 567 Na, na, na!
 
(1, 0) 569 Chei di mo'r tocyn.
 
(1, 0) 571 Byddai'n well gen i losgi'r diawl cyn ei roi i ti o bawb.
 
(1, 0) 573 Chei di mo'r tocyn i'r gêm ddydd Sadwrn, waeth i ti heb na holi.
(1, 0) 574 Nawr, cer o 'ma.
(1, 0) 575 A cer â dy grêps gen ti.
 
(1, 0) 577 Byth!
(1, 0) 578 Wyt ti'n clywed!
(1, 0) 579 Byddai'n well gen i...
 
(1, 0) 586 Hanna Morris.
 
(1, 0) 588 Hen stwff Hanna Morris.
 
(1, 0) 590 Cwic!
(1, 0) 591 Cer o'r ffordd!
 
(1, 0) 637 Mae'n dda cael gwared o hwnna!
 
(1, 0) 639 Chwarae teg i ti Megan.
(1, 0) 640 Roedd e'n carlamu lawr y staer yna, tri step ar y tro.
 
(1, 0) 642 Mistar Aled Morgan wrth gwrs!
(1, 0) 643 Be ddywedaist ti wrtho fe?
 
(1, 0) 645 Ma' fe'n hen greadur bach slei, ond roeddwn i'n amau o'r dechrau, fod e eisiau rhywbeth.
 
(1, 0) 647 Wel, y tocyn wrth gwrs.
 
(1, 0) 649 Tocyn gêm dydd Sadwrn.
 
(1, 0) 651 Cyn gynted ag y clywodd e 'mod i'n sâl, dyma fe'n dod heibio...
(1, 0) 652 Fe a'i baced grêps.
 
(1, 0) 654 Meddwl y byddwn i'n ddigon dwl i'w rhoi iddo fe o bawb...!
 
(1, 0) 656 Dim peryg!
 
(1, 0) 659 Pryd?
 
(1, 0) 662 Wel, ffindieth e 'run tocyn lawr fan 'na.
 
(1, 0) 664 Ma' fe'n ddigon saff i ti.
 
(1, 0) 666 Rhaid i ti ofyn i Ann.
(1, 0) 667 Hi sy'n gwybod lle ma' popeth yn y tŷ yma.
 
(1, 0) 669 Na, Ann sy'n gofalu am y cyfan.
 
(1, 0) 671 Felly mae pawb yn dweud.
 
(1, 0) 674 Beth?
 
(1, 0) 676 Pam?
 
(1, 0) 679 Beth?
 
(1, 0) 681 Pam?
 
(1, 0) 683 Ond pam?
 
(1, 0) 686 Ond Megan...
 
(1, 0) 690 Beth?
(1, 0) 691 Ond Megan...
(1, 0) 692 Dim dyma'r amser...
 
(1, 0) 695 Ond Megan, beth pe tase...
 
(1, 0) 698 Rwy'n siŵr ei fod e', ond 'wyt ti ddim yn meddwl...
 
(1, 0) 700 Rwy wedi clywed sôn am lyfrau fel 'na!
 
(1, 0) 703 Wn i ddim wir.
(1, 0) 704 Rwy' wedi mynd braidd yn rhy hen i rhyw bethau fel hyn.
 
(1, 0) 706 Be' ddywedaist ti?
 
(1, 0) 709 Beth yw'r llyfr 'na?
 
(1, 0) 711 Dim peryg!
 
(1, 0) 713 Na.
(1, 0) 714 Wyt ti'n deall?
(1, 0) 715 Dwyt ti ddim yn mynd i ddechrau sticio nodwyddau ynddo' i.
 
(1, 0) 717 Does gen i ddim gwahaniaeth beth yw e.
(1, 0) 718 Cer i sticio dy nodwyddau yn rhywun arall.
 
(1, 0) 720 Na ─ a dyna ben ar y peth.
 
(1, 0) 723 Beth yw e'?
 
(1, 0) 725 Gad i mi weld.
 
(1, 0) 728 Troi'r gwely rownd?
 
(1, 0) 730 Wel, paid ag edrych arna i, mae'n nghefn i'n rhy wael i symud yr un gwely.
 
(1, 0) 732 Os wyt ti'n dweud.
 
(1, 0) 734 Os oes rhaid troi'r gwely, gwell i ti basio'r ffon i mi.
 
(1, 0) 736 Mae 'na fwy na un defnydd i ffon.
 
(1, 0) 738 Un... dau... tri... pedwar... pump... chwech... saith... wyth... naw...
 
(1, 0) 741 Mae angen troi'r gwely.
 
(1, 0) 746 Paid â holi, Dafydd bach ─ jyst troia'r gwely.
 
(1, 0) 761 Mae hwnna'n wlyb.
 
(1, 0) 764 Wel ydw, wrth gwrs ond...
 
(1, 0) 775 Wel be?
 
(1, 0) 778 Dw i ddim yn credu...
 
(1, 0) 780 Wrth gwrs.
 
(1, 0) 808 Rwy'n credu mod i'n teimlo'n well yn barod.
 
(1, 0) 811 Ond Ann...
 
(1, 0) 813 Ond mae'n drueni gwastraffu'r tocyn.
 
(1, 0) 817 Ti wedi gwneud beth?
 
(1, 0) 821 I pwy?
 
(1, 0) 823 Na, i pwy?
 
(1, 0) 827 B... B... Beth?
 
(1, 0) 829 Wnes i ddim cytuno i'r fath beth.
 
(1, 0) 832 Ddylet ti ddim...
(1, 0) 833 Fy nhocyn i oedd e'...
 
(1, 0) 835 Doedd gen ti ddim hawl...
(1, 0) 836 Wyt ti'n clywed, doedd gen ti...
(1, 0) 837 Am faint?
 
(1, 0) 840 Ar y llaw arall...
(1, 0) 841 Roedd hi'n drueni ei wastraffu.
 
(1, 0) 844 Ie, wel...
 
(1, 0) 846 Mae'n rhaid cyfaddef, mae e'n syniad neis iawn.
 
(1, 0) 853 Mae hynny'n ddigon gwir...
 
(1, 0) 855 Ac mewn gwirionedd, doedd hi ddim yn sedd mor dda â hynny.
 
(1, 0) 858 Wel, diolch yn fawr i ti, 'ngeneth i.
 
(1, 0) 862 Wyddost ti beth Ann, roeddwn i'n dweud wrth y Doctor gynne fach 'mod i'n ddyn ffodus iawn.
 
(1, 0) 864 Dy gael di yma i ofalu ar fy ôl.
(1, 0) 865 Mae hynny'n mynd yn beth anghyffredin iawn y dyddiau yma wyddost ti.
 
(1, 0) 867 Nid pawb fyddai'n fodlon aros gartre er mwyn gofalu ar ôl ei hen Dad.
(1, 0) 868 Rwy'n gwybod bod ni'n cael ambell i air croes weithiau ond paid ti â meddwl 'nad ydw i yn gwerthfawrogi yr hyn wyt ti'n wneud i mi.
(1, 0) 869 Pan ddei di i fy oedran i, rwyt ti'n dod i sylweddoli pa mor bwysig yw y pethau yma.
(1, 0) 870 Y pethau bach, rheini sy'n bwysig.
 
(1, 0) 874 Gerallt!
(1, 0) 875 Be' sy'?
 
(1, 0) 877 Dyw Ieuan ddim yn sâl?
 
(1, 0) 879 Dyw e' ddim wedi torri ei goes neu rhywbeth?
 
(1, 0) 881 A ma' fe yn chwarae dydd Sadwrn?
 
(1, 0) 884 Wel, dweda be' sy'n bod 'te.
 
(1, 0) 889 Wel be' sy' 'te?
 
(1, 0) 891 Be' ti'n feddwl?
 
(1, 0) 893 Tocyn ffug?
 
(1, 0) 896 Tocyn ffug!
 
(1, 0) 899 Ond mae hyn yn fendigedig...
 
(1, 0) 902 Gwrthod derbyn y tocyn wrth y gât.
(1, 0) 903 Glywaist ti hynna Dafydd...
 
(1, 0) 913 I Morgan y siop.
 
(1, 0) 915 Ie.
(1, 0) 916 Am hanner canpunt.
 
(1, 0) 918 Wyddost ti be' Dafydd, rwy'n teimlo'n dipyn gwell erbyn hyn.
 
(1, 0) 923 Ie Megan?
 
(1, 0) 925 Do.
(1, 0) 926 Wedi yfed rhyw lwyaid neu ddwy... hen beth digon sur yw e' hefyd.
 
(1, 0) 929 Do.
(1, 0) 930 Pam?
 
(1, 0) 932 Beth?
(1, 0) 933 Ond... ond...
(1, 0) 934 Dafydd?
 
(1, 0) 936 Rwy'n teimlo'n sâl!!