Ciw-restr

Gwely a Brecwast

Llinellau gan Tom (Cyfanswm: 166)

 
(1, 0) 8 Beth gythrel sydd yn bod, fenyw?
 
(1, 0) 11 Wel, o'n i yn mynd i wisgo pan sgrechoch chi, a gredes i fod rhywun yn ych myrdro chi, fenyw.
(1, 0) 12 A dere lawr o fanna, fenyw, ti'n edrych fel rhyw foniwment yn fanna.
 
(1, 0) 17 O, fe edrycha i fory.
 
(1, 0) 19 Hy.
(1, 0) 20 Smo fi ofan rhyw damed o lygoden.
(1, 0) 21 Rwy i'n cofio amser rhyfel, fe gydies i mewn llygoden ffyrnig yn...
 
(1, 0) 24 Ti'n siŵr mai fan hyn ath hi?
 
(1, 0) 26 Reit, reit.
 
(1, 0) 28 Paswch y 'torch' i fi.
 
(1, 0) 30 Ma' twll llygod yn y 'sgyrting board', ma' fe'n mynd trwyddo i'r cwtsh dan stâr.
 
(1, 0) 33 O, fe rho i e i lawr fory.
 
(1, 0) 36 Weles i eriod shwt ffys am lygoden.
 
(1, 0) 43 Aw, aw...
 
(1, 0) 45 Mae'r trap cythrel yma wedi cau am 'yn llaw i!
 
(1, 0) 47 Tynnwch e yn rhydd gloi!
 
(1, 0) 57 Pwy ryfedd?
(1, 0) 58 Ti'n gwbod, Wil, ma' Marged yn bwydo fe trw'r dydd ar y Go Cat 'na fel nad oes 'na ddim mwy o go na donkey ynddo fe.
(1, 0) 59 'Sen i yn cael 'yn ffordd, fe gethe fe ddŵr, fe fydde fe yn Gone Cat wedyn.
(1, 0) 60 Wel, ishte Wil.
(1, 0) 61 Os rhyw newydd gyda ti?
 
(1, 0) 63 Ond ma' John y gwas gyda ti i ofalu am honno.
 
(1, 0) 67 O, ma' Marged yma yn credu gall hi neud rhyw ffortiwn wrth gadw fisitors.
(1, 0) 68 Sen i'n cael 'yn ffordd, chawse dim un cythrel wely na brecwast yma.
 
(1, 0) 73 Edrych 'ma, Wil, dw i ddim wedi cal brecwast 'yn hunan yn y gwely eriod, a dwi ddim yn meddwl cario brecwast i rhyw Jip Jachs ar holides, fi'n eitha siŵr, fe gân nhw godi pan fydd 'u bolie nhw'n galw.
 
(1, 0) 75 Odd dim diolch amser hynny, on i'n rhy sâl i ddod lawr i moyn e.
 
(1, 0) 79 Beth ti'n foddran bod hi'n risci?
(1, 0) 80 Beth sy'n risci amboiti hi?
 
(1, 0) 86 Ew, na dim syniad ─ beth?
 
(1, 0) 88 A 'dôn nhw ddim wedi talu siŵr o fod.
(1, 0) 89 Marged, os daw rhywun yma fydda i yn moyn 'yn nhalu cyn bod nhw'n mynd i'r gwely.
 
(1, 0) 91 Crogi y ddou!
(1, 0) 92 'Na fe, Marged, wedes i ddigon wrtho ti y byse hi'n llawer gwell i ti fagu llo neu ddou i gael ceiniog ecstra...
(1, 0) 93 Chroge rheiny ddim o ti 'ta beth.
 
(1, 0) 100 Ugen mil efallai?
(1, 0) 101 |
 
(1, 0) 105 Bachgen, bachgen, fi ddim yn credu y galla i gysgu'r haf yma rhagor.
(1, 0) 106 Marged, fydd rhaid bod yn ofalus wrth ateb y drws yn enwedig yn y | nos.
 
(1, 0) 109 Weda i un peth, Wil, os daw rhywun î yma a cheisio ein crogi ni, fe eith e o'ma â blas powdwr ar 'i ben ôl.
 
(1, 0) 112 Fi wedi gweud o'r dechre nad ydw i'n lico'r busnes yma...
 
(1, 0) 127 Wyt ti ishe help?
 
(1, 0) 131 Marged, ce'wch i neud cwpaned o de i fi, ma' Wil a'r stori yna wedi ypseto fi i gyd, chysga i byth pan fydd rhywun yn aros yma.
 
(1, 0) 136 Ma' nhw yma, Marged, ma' nhw yma!
 
(1, 0) 138 Haleliwia Angels, Marged.
(1, 0) 139 Ble mae'r gwn?
 
(1, 0) 142 Na, cer di a safa i fan hyn a'r bastwn yn barod, ac os treieth e dy grogi di, gwaedda.
 
(1, 0) 147 Os moto beics gyda nhw, Marged?
 
(1, 0) 154 Yes, well nice to see you.
 
(1, 0) 156 O, nice to meet you, Mr. Bull.
(1, 0) 157 Hei, Marged, ma hwn yn debyg i Hereford.
(1, 0) 158 Ha ha.
 
(1, 0) 165 No, never, but I've got a cousin living there.
(1, 0) 166 His name is Dai.
(1, 0) 167 He is a butcher.
(1, 0) 168 You must have seen him, he is a big fat fellow, he is an expert for making faggots.
 
(1, 0) 172 And before we forget, it's £10.
 
(1, 0) 174 The bed and the breakfast, you know.
 
(1, 0) 180 Yes, you might as well, in case.
 
(1, 0) 187 A cushon, o, yes, here you are, that's it.
(1, 0) 188 You've got a delicate behind, have you?
(1, 0) 189 They say that a hard stool is much better for us than these soft chairs you know.
 
(1, 0) 193 Well, it gets very dark here in winter and...
 
(1, 0) 198 O, I see what you mean.
(1, 0) 199 Well, I read a lot, and listen to the wireless, yes.
 
(1, 0) 201 O, Marged and me we don't like it.
(1, 0) 202 There's too many myrdyrs on the television, yes, and on Sunday of course we go to church three times.
 
(1, 0) 205 O, are you?
(1, 0) 206 Well, Marged and me are Methodists.
 
(1, 0) 209 Yes, come on, come and have some tea and cakes and bring your cushion with you.
 
(1, 0) 218 O yes, wel, you must have a big head before you can go to Oxford.
 
(1, 0) 224 Have a cac.
 
(1, 0) 227 Well, they are supposed to be hard, that's why they are called 'rock cakes'.
 
(1, 0) 229 O you don't have to go upstairs, you can put powder in your nose down here.
 
(1, 0) 231 Why have you got to go upstairs to do it?
 
(1, 0) 233 Marged, dere ma.
 
(1, 0) 235 Ma'r fenyw 'ma ise mynd lan stâr i roi powdwr yn 'i thrwyn, a rwyf i wedi gweud wrthi am roi e lawr fan hyn.
(1, 0) 236 Pam mae hi yn moyn mynd lan stâr, Marged?
 
(1, 0) 238 Wel, beth mae hi ise te, Marged?
 
(1, 0) 241 O, o, I see what you mean now.
(1, 0) 242 Well there is no point for you to go upstairs, because there is nothingthere.
 
(1, 0) 244 Well, no, not exactly, I'm afraid it is further down than that.
 
(1, 0) 247 Reit, fenyw, well, it's outside the green shed bottom of the garden.
 
(1, 0) 250 Yes.
 
(1, 0) 252 Yes, it is dark now.
(1, 0) 253 I will come with you now with a torch.
 
(1, 0) 255 Well, you better take the torch yourself.
 
(1, 0) 260 Cer â nhw o'r golwg i rhywle, Marged.
 
(1, 0) 263 Yes, yes.
(1, 0) 264 Garw byth.
 
(1, 0) 267 Fi wedi byw yn gysurus yma am ugain mlynedd, a mae rhyw shinanis fel hyn yn dod a ddim yn gysurus am hanner awr.
(1, 0) 268 O'n i'n gwybod mai fel hyn y bydde hi.
 
(1, 0) 270 Helo, pwy sydd yna?
 
(1, 0) 274 Ew, Mari, shwt wyt ti 'te.
(1, 0) 275 Ble ma Dafydd gen' ti?
 
(1, 0) 277 O, ti sydd â'r cês 'ma 'te?
 
(1, 0) 279 Wel, meddwl mai... os rhywbeth yn bod?
(1, 0) 280 Does dim o'i le ar Dafydd, os e?
 
(1, 0) 284 B... b... beth wedest ti?
 
(1, 0) 289 Marged fach, ma' hi wedi madel ag e.
 
(1, 0) 292 Ma' hi wedi madel ag e, fenyw.
 
(1, 0) 297 Lwmpe yn y pwdin!
(1, 0) 298 Ti'n gweud wrtho i bod ti wedi dod adre heno achos iddo fe weud bod lwmpe yn y pwdin?
(1, 0) 299 Ti'n sylweddoli mai dim ond mis sydd ers i ti ei briodi e?
 
(1, 0) 303 Fi'n ofan mai chi Marged sydd wedi gwneud hynny ormod i hon.
(1, 0) 304 Ti'n sylweddoli bod y briodas yna wedi costio mil o bunne i fi.
(1, 0) 305 Odd Huws y Banc yn gweud echddo wrtho fi bod e yn falch mai dim ond un groten sydd gyda fi.
 
(1, 0) 311 Achos ma' dou Hereford gyda dy fam yno.
 
(1, 0) 318 Drychwch yma...
 
(1, 0) 323 O, Dafydd bachan, dere mewn, dere mewn.
 
(1, 0) 337 Marged, byddwch dawel, fenyw!
 
(1, 0) 339 Byddwch dawel, fenyw.
(1, 0) 340 Chi Marged wedi gweud wrtho fi am fod yn dawel am bum mlynedd ar hugain.
(1, 0) 341 Nawr, gwrandwch chi arna i am unwaith.
(1, 0) 342 Dafydd, iste fanna.
(1, 0) 343 Nawr 'te, good girl, rwyf i yn credu bod ti wedi cerdded lawr i'r capel 'na fis yn ôl yn dy ffrog wen a dy fys yn dy ben heb feddwl dim ac yn credu mai rhyw fis mêl mowr odd priodi.
(1, 0) 344 Iste lawr i fi gael gorffen.
(1, 0) 345 Cyn priodi odd dim yn ddigon da i ti i'w gael yma, a heno dyma ti'n carlamu'n ôl yma gyda gwep fawr achos bod Dafydd wedi achwyn bod lwmpe yn y pwdin.
(1, 0) 346 Dy drwbwl di eriod yw nad wyt ti'n gwybod mor lwcus wyt ti.
(1, 0) 347 Wedi cael popeth yn rhwydd erioed, a nawr wedi priodi ma' tŷ pert gyda ti a car dy hunan.
(1, 0) 348 Trwbwl chi yr oes hon ─ rwy'n golygu y ddou ohonoch chi yn awr ─ yw bod chi'n dechre'n rhy uchel.
(1, 0) 349 Byse fe'n gwneud lles mawr i chi fod yn cael dechre fel gorfu i fi a Marged ddechre ─ dim ond dwy fuwch a beic a chaseg odd gyda ni, a doedd dim amser i feddwl am redeg adre ta faint o lwmpe fydde yn y pwdin.
 
(1, 0) 354 Nawr, cofiwch un peth.
(1, 0) 355 Mae croeso i chi ddod yma unrhyw amser gyda'ch gilydd, ond dim rhagor o nonsens fel heno byth eto.
 
(1, 0) 358 O, popeth yn iawn, a gobeithio y cei di well pwdin fory.
 
(1, 0) 367 Well pity for the mouse I say, ha ha!
 
(1, 0) 371 Look here you two fairies.
(1, 0) 372 I have had it up to here with you.
(1, 0) 373 First you complain about the food, then it was the Ty Bach, and now it's a mouse, if you're so fussy you should have stayed at home.
 
(1, 0) 375 Yes, go on, hop it guick, before I turn Carlo out.
 
(1, 0) 377 And next time you go on holiday, go to hell.
 
(1, 0) 379 Edrych 'ma, Marged, paid ti dechre 'to.
 
(1, 0) 381 Marged, fi ddim wedi teimlo fel hyn o'r blaen.
(1, 0) 382 A gan bo fi yn oeri nawr, deallwch chi un peth, os dim rhagor o'r Bed and Breakfast i fod 'ma.
(1, 0) 383 Mae'r arwydd 'na i ddod lawr heno, os wyt ti am gario brecwast lan stâr i rhywun, ma well i ti gario fe lan i fi.
(1, 0) 384 A pheth arall ─ rwy'n mynd i dynnu y trap o dan y cwpwrdd yna achos mae'r hen lygoden yna wedi dod a gwaredigaeth i'r tŷ 'ma heno.
(1, 0) 385 Mae'n haeddu cael byw ta beth.
 
(1, 0) 391 Nagoes, maen nhw yn chwilio gwell lle yma heno na mynd i drape.
 
(1, 0) 395 Ie, ma'n nhw wedi mynd ffordd reit nawr.
(1, 0) 396 Ddo'n nhw ddim nôl ffordd hyn rhagor.
 
(1, 0) 398 Naddo, achan.
(1, 0) 399 Wel beth yw hanes Blodwen te?
 
(1, 0) 401 Ew, go lew achan.
(1, 0) 402 Marged!
(1, 0) 403 Marged!
 
(1, 0) 406 Glywoch chi?
(1, 0) 407 Dou lo gyda Blodwen.
(1, 0) 408 Un fenyw, a un gwryw.
 
(1, 0) 411 Beth wyt ti'n mynd i neud â nhw te?
 
(1, 0) 414 Reit te, faint ti moyn amdanyn nhw te?
 
(1, 0) 416 Wel, gwed bachan, faint ti moyn?
 
(1, 0) 418 Wel, bachan, mae rhyw syniad gyda ti, bownd o fod.
(1, 0) 419 Gwed faint ti'n ddal bachan?
 
(1, 0) 421 Reit te, heno amdani, a ma ise mynd i dynnu yr arwydd lawr o ben lôn arna i.
 
(1, 0) 423 Ie, na pam rwy i am dynnu e lawr cyn gwelith neb arall e, achos mae well i Marged a fi fagu lloi yn stabl na chadw lloi lan stâr.
(1, 0) 424 Marged, Marged!
 
(1, 0) 426 Gwisgwch got a dewch â cot i finne achos ni'n mynd i weld y ddou lo gyda Wil ac os setlwn ni, rwyn mynd i'w prynu nhw i chi.
 
(1, 0) 429 Marged, fydd dim amser fory, mae ise mynd i desto yn llyged arna i fory?
 
(1, 0) 431 Dewch mlân nawr yn lle ymddantan o hyd.
(1, 0) 432 Cofia un peth, Wil, odd lloi yn eitha tsiep mart diwetha.
 
(1, 0) 434 Ie, ie, ond hen darw potel yw 'u tad nhw.
 
(1, 0) 437 Beth ti'n siarad, bachan?
(1, 0) 438 Na, dwi ddim yn credu dim yn yr hen darw potel yna.
(1, 0) 439 Fi wastad yn gweud os wyt ti yn rhoi tarw i fuwch rho darw reit iddi, ti'n gwbod beth ti'n gael wedyn.
 
(1, 0) 442 Barod.
(1, 0) 443 Ew Marged, os pryna i y lloi yma gyda Wil, chi'n gwybod beth fi yn mynd i galw nhw?
 
(1, 0) 445 Jeremy a Patsy Bull.