Ciw-restr

Y Gŵr o Gath Heffer

Llinellau gan Shadrach (Cyfanswm: 26)

 
(1, 0) 190 Digon symol, Tobias, digon symol.
 
(1, 0) 193 Ia, ymhlith petha' eraill—cerrig yn y bustl; diffyg treuliad; pendro—mae pob aflwydd wedi disgyn arna' i'n ddiweddar yma.
 
(1, 0) 195 Do, 'rawn i haws.
(1, 0) 196 Deiliach, gelod, a dŵr calch—yr un hen driniaeth.
(1, 0) 197 A 'dydw' i 'run gronyn gwell.
 
(1, 0) 199 'Wn i ddim fachgen.
(1, 0) 200 'R ydw i'n mynd i oed, wyddost ti.
(1, 0) 201 'Ddaw henaint ddim ei hunan.
(1, 0) 202 A pheth arall, 'dyw cyflwr y wlad yma fawr o help i godi calon creadur o ddyn.
 
(1, 0) 204 Mynd o ddrwg i waeth bob dydd.
(1, 0) 205 'Wn i ddim beth fydd ein diwedd ni.
 
(1, 0) 210 Ond 'run pryd, mae'r Syriaid felltith yna'n tyrru fel locustiaid i fyny yn y gogledd.
(1, 0) 211 Lladd ac anrheithio a rhaib a welwn ni eto cyn bo hir.
(1, 0) 212 'R ydym yn byw dan gwmwl du: fe'n bygythir beunydd gan dân ysol.
 
(1, 0) 215 Dal yn gadarn, ia, ond pa obaith sydd o hynny?
(1, 0) 216 Mae'r genedl wedi mynd â'i phen iddi.
(1, 0) 217 Edrych ar y bobol yma wedi meddwi efo gwag bleserau a gaudduwiaeth.
(1, 0) 218 A 'd oes yna 'run llais wedi'i godi yn eu herbyn.
 
(1, 0) 220 Rhaid i ni wynebu ffeithia', Tobias.
(1, 0) 221 Mae Proffwydoliaeth wedi distewi yn ein tir.
(1, 0) 222 A ninnau'n cefnu ar gewri'r dyddiau gynt.
(1, 0) 223 Mae hi'n ddigon digalon ar y Bod Mawr efo rhai o'r hogia' yma sydd ganddo Fo heddiw.
 
(1, 0) 228 Pwy, ddywedaist ti?
 
(1, 0) 230 Felly wir.
(1, 0) 231 'D wy' i ddim wedi ei weld o ers tro byd.
 
(1, 0) 235 'Ddaw o byth i 'sgidia'i dad.