Ciw-restr

Y Gŵr o Gath Heffer

Llinellau gan Tobias (Cyfanswm: 28)

 
(1, 0) 187 Diar annwyl, Shadrach, chi sydd yna?
(1, 0) 188 Heb eich gweld chi ers talwm.
(1, 0) 189 Sut mae'r iechyd 'rhen ŵr?
 
(1, 0) 191 Tewch â dweud!
(1, 0) 192 'Rhen grydcymala' yna'n eich poeni chi o hyd?
 
(1, 0) 194 Gawsoch chi gyngor gan y meddyg?
 
(1, 0) 198 O mi ddowch eto gyda hyn.
 
(1, 0) 203 Na, mae hynny'n ddigon gwir.
 
(1, 0) 206 Mae gennym le i ddiolch, serch hynny, Shadrach.
(1, 0) 207 Gogoniant yr haul acw'n machlud, er enghraifft.
(1, 0) 208 A chwerthiniad plentyn, a llyfnder gloyw'r grawnwin.
(1, 0) 209 A dyna'r cynhaeaf ardderchof 'r ydy' ni wedi'i gael — mi fu'r Bod Mawr ar flaena'i draed efo ni 'leni.
 
(1, 0) 213 'R ydym wedi eu taflu nhw'n ôl cyn hyn.
(1, 0) 214 Ac fe wnawn hynny eto ond i ni ddal yn gadarn.
 
(1, 0) 219 'R ydach chi'n edrych braidd ar yr ochor ddu, 'r wy'n ofni, 'rhen ŵr.
 
(1, 0) 224 Wel ydy', 'r ydach chi'n iawn.
(1, 0) 225 Rhai digon dienaid ydyn' nhw at 'i gilydd.
(1, 0) 226 Ond 'wn i ddim be' ddaw o'r Jonah yma.
(1, 0) 227 Mae nhw'n dweud 'i fod o'n hogyn reit addawol.
 
(1, 0) 229 Jonah—wyddoch chi—mab yr hen Amitai pan oedd o.
 
(1, 0) 232 Na, mae o'n myfyrio ar ei ben ei hun i fyny yn y brynia' ers talwm.
(1, 0) 233 Yn byw fel meudwy bron.
(1, 0) 234 Newydd ddechra' mynd o gwmpas i bregethu mae o.
 
(1, 0) 236 'Wn i ddim beth am hynny.
(1, 0) 237 'D oes yna ddim golwg proffwyd arno fo mae'n rhaid i mi gyfadde'.
(1, 0) 238 Ond dyna fo, 'fedrwch chi ddim dweud.
(1, 0) 239 Mae o'n dwad yma nos 'fory 'r wy'n deall.
(1, 0) 240 Mi gawn gyfle ardderchog i'w glywed o'n pregethu...