Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Cadmos (Cyfanswm: 32)

 
(0, 1) 349 Atheniaid a chymrodyr!
(0, 1) 350 Wna i mo'ch cadw chi yn hir; anerchiad byr sy gen i.
(0, 1) 351 Eto i gyd fedra i ddim gorbwysleisio fy neges.
(0, 1) 352 Fel y gwyddoch, Gyfeillion, cyfnod cythryblus ydy hwn.
(0, 1) 353 Cyfnod o argyfwng.
(0, 1) 354 Yn wir nid gor-liwio fai dweud bod tynged Athen yn y fantol.
 
(0, 1) 457 Rhagrith!
 
(0, 1) 470 Gyfeillion dydy huodledd Gleon ddim gen i.
(0, 1) 471 Fedra i ddim byseddu tannau eich calonnau.
(0, 1) 472 Na chorddi eich teimladau efo ffregod barddonllyd ffug.
 
(0, 1) 474 Fe glywsoch Cleon rwan yn rhestru cardod prin ei Blaid fel tae o'n fendith hael o'r nef.
(0, 1) 475 A disgwyl i chwithau syrthio'n ufudd-ddiolchgar ar eich gliniau.
(0, 1) 476 Plaid y Bobol, wir!
(0, 1) 477 Plaid y Tlodion!
(0, 1) 478 Rhagrith gwên-deg.
(0, 1) 479 Ond dyna'u hanes nhw erioed cynllwyn a thwyll dan gochl rhinwedd.
(0, 1) 480 Pregethu rheidrwydd aberth yn ddi-baid — gan eraill.
(0, 1) 481 O, mae Cleon a'i Blaid yn eitha bodlon!
(0, 1) 482 Swyddi bras i'r hogia.
(0, 1) 483 A phawb yn pluo 'i nyth ei hun.
(0, 1) 484 Ond gwneud sŵn gwerinol wrth wneud...
(0, 1) 485 Dau swllt yr wythnos i'r henoed!
(0, 1) 486 Dau swllt!
(0, 1) 487 Prin ddigon i brynu crystyn sych i rygnu byw ymlaen.
(0, 1) 488 Yn y cyfamser, mae'r rhyfel gwallgo yma'n mynd o ddrwg i waeth.
(0, 1) 489 Ac Athen yn gwaedu'n raddol i farwolaeth.
 
(0, 1) 491 Fy neges i yn syml ydy hyn — heddwch!
(0, 1) 492 A diwedd ar y lladd a'r rheibio, yr anrhaith a'r diodde.
(0, 1) 493 Tywalltwyd gormod o waed yn barod.
(0, 1) 494 Mae'r Ddinas yn llawn gweddwon a phlant amddifaid.
(0, 1) 495 Heddwch, ar unrhyw delerau fydd yn diogelu ein hunan-barch.
(0, 1) 496 Heddwch cyn i Athen fynd yn sarn, a dim ar ôl ond pentwr o adfeilion myglyd!