Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Charon (Cyfanswm: 104)

 
(0, 2) 1120 O'r gora, o'r gora!
(0, 2) 1121 Be ydach chi'n 'i feddwl ydw i — ci defaid?
 
(0, 2) 1126 Be gythgam sy'n bod arnoch chi?
(0, 2) 1127 Ydach chi ddim yn sylweddoli bod gen i f'oriau gwaith?
 
(0, 2) 1130 O, chi sydd yna, Syr
 
(0, 2) 1132 Mae'n ddrwg gen' i, doeddwn i ddim wedi'ch nabod.
 
(0, 2) 1135 Arhoswch am funud, i mi gael gwneud hwn yn saff.
 
(0, 2) 1137 Dyna fo!
(0, 2) 1138 Prysur, ddwedsoch chi?
(0, 2) 1139 Welais i erioed dim tebyg.
(0, 2) 1140 Rhwng yr helfa ar y ffyrdd a'r rhyfel, mi ydw i'n methu'n lân â dwad i ben.
 
(0, 2) 1142 Amgylchiadau arbennig ddwedsoch chi?
 
(0, 2) 1146 O? Ia wel, dyna fo.
(0, 2) 1147 Wna i ddim busnesu.
 
(0, 2) 1149 Pwy ydy hwn?
 
(0, 2) 1153 Felly!
 
(0, 2) 1155 Edrychwch yma, Syr, gadewch inni ddeall ein gilydd.
(0, 2) 1156 Yn gyntaf, rydach chi am imi fynd â chi dros yr Afon.
(0, 2) 1157 Mae hynna'n amlwg, ne fasach chi ddim wedi galw arna i.
 
(0, 2) 1159 Yn ail, mae hwn yn yr argyfwng efo chi?
 
(0, 2) 1161 Ac os nad ydw i'n camsynied, rydach chi am i mi fynd ag ynta drosodd hefyd?
 
(0, 2) 1163 Anghywir!
 
(0, 2) 1165 Mae'n ddrwg gen i.
 
(0, 2) 1167 Amhosib, Syr.
(0, 2) 1168 Mi wyddoch y Rheolau cystal â minnau.
(0, 2) 1169 Fedra i mo'u hystumio nhw.
 
(0, 2) 1171 Na, maddeuwch imi am ddweud ond ddylech chi ddim gofyn imi.
(0, 2) 1172 Does dim ffafriaeth ar y Stycs fel y gwyddoch chi.
(0, 2) 1173 Yn enwedig i un run fath â hwn.
 
(0, 2) 1175 Be ddwedaist ti oedd d'enw?
 
(0, 2) 1178 Dydw i ddim yn un o'r rheiny.
 
(0, 2) 1180 Y gwir plaen ydy, Syr, dyw'r cymwysterau ddim ganddo fo — ar hyn o bryd, beth bynnag!
(0, 2) 1181 Wrth gwrs petai modd newid ei statws o — neu ei stâd o yn hytrach —
 
(0, 2) 1185 Pam?
 
(0, 2) 1187 O, dowch, Syr, mae hynna'n mynd dros ben llestri!
(0, 2) 1188 Dwad yn ôl wir!
(0, 2) 1189 Tynnu 'nghoes i rydach chi rwan!
 
(0, 2) 1193 Mae hon yn andros o broblem.
(0, 2) 1194 Hynny ydy, chewch chi mo'i rwyfo fo drosodd.
(0, 2) 1195 A wna inna ddim...
 
(0, 2) 1197 Yr unig ffordd felly ydy iddo fo rwyfo.
(0, 2) 1198 Does yna ddim yn y Rheolau am hynny, oes yna?
 
(0, 2) 1201 Reit, dyna hynna wedi 'i setlo...
(0, 2) 1202 Dowch chi'n gynta, Syr.
 
(0, 2) 1204 Steddwch yn y fan yma.
 
(0, 2) 1206 Dyna chi.
 
(0, 2) 1208 Reit, tyrd ti, rwan...
(0, 2) 1209 Beth ydy d'enw di, hefyd?
 
(0, 2) 1213 Gafael yn y polyn yna.
(0, 2) 1214 A chymer ofal.
(0, 2) 1215 Os ei di dros yr ochor mi fydd wedi canu arnat ti!
 
(0, 2) 1217 "Oes yna beryg?", medda'r creadur gwirion!
(0, 2) 1218 Llai o beryg efalla, nag ar Lethe lonydd neu Acheron drist, neu Phlegethon fflamllyd ffrwd.
(0, 2) 1219 O holl afonydd Hades, mae'n well gen' i'r Stycs.
(0, 2) 1220 Ond peryg?
(0, 2) 1221 Oes, peryg marwol i un fel ti!
 
(0, 2) 1223 Iawn?
 
(0, 2) 1227 Tawn i yn eich lle chi, Syr, mi fyddwn i'n agor yr ymbarel yna.
(0, 2) 1228 Does yna ddim llawer o siâp ar hwn.
 
(0, 2) 1232 Reit, i ffwrdd â ni!
 
(0, 2) 1236 Tarth Stycs, w'chi.
(0, 2) 1237 Yn dew iawn weithia.
(0, 2) 1238 Mynd fel bol buwch.
 
(0, 2) 1240 Dal trwyn y cwch i'r un cyfeiriad beth bynnag.
(0, 2) 1241 Siawns na phery'r tarth ddim yn hir.
 
(0, 2) 1245 Hidia befo.
(0, 2) 1246 Dal i bwnio ymlaen....
(0, 2) 1247 Ydach chi'n iawn, Syr?
 
(0, 2) 1251 Pwnia'n gyflymach a mi gynhesi!
 
(0, 2) 1254 Ydy, rydach chi'n iawn...
 
(0, 2) 1256 Gofal rwan, beth bynnag ydy d'enw di hefyd!
 
(0, 2) 1261 Aros!
(0, 2) 1262 Rydan ni ynghanol yr Afon, rwan.
(0, 2) 1263 Yn y fan yma mae'r llyffantod.
(0, 2) 1264 Amynedd!
(0, 2) 1265 Chawn ni ddim mynd ymlaen ganddyn nhw am dipyn.
 
(0, 2) 1269 Paid!
 
(0, 2) 1271 Dydyn nhw ddim wedi dechra ar eu Corws.
(0, 2) 1272 Clywch!
 
(0, 2) 1356 Y tarth sy'n dwad yn ôl.
(0, 2) 1357 Hidia di befo, pwnia ymlaen.
 
(0, 2) 1360 Gofal rwan, rydan ni bron wedi cyrraedd.
(0, 2) 1361 Paid â gwneud niwed i'r cwch ar boen dy fywyd...
(0, 2) 1362 Dyma ni!...
(0, 2) 1363 Reit, rho'r polyn i mi.
 
(0, 2) 1366 Rwan, y cas yna, gynta.
 
(0, 2) 1368 Reit neidia di rwan.
 
(0, 2) 1370 Chi, rwan, Syr.
(0, 2) 1371 Dowch, gafaelwch yn fy llaw i.
 
(0, 2) 1378 Ia, wel, os ydach chi'n dweud, Syr.
(0, 2) 1379 Mi gewch chi wneud y trefniada.
(0, 2) 1380 Ond fydd yna ddim bai arna i, cofiwch!
 
(0, 2) 1382 Reit...
(0, 2) 1383 O, gyda llaw —
 
(0, 2) 1385 Dim ond eich atgoffa chi.
 
(0, 2) 1387 Chewch chi ddim symud cam o'r fan yna heb ganiatâd Cerberws.
 
(0, 2) 1389 O'r gora.
(0, 2) 1390 Rhaid imi fynd a'ch gadael chi, rwan.
(0, 2) 1391 Dim diwedd ar waith, w'chi.
 
(0, 2) 1393 Aros am funud imi gael edrach arnat ti unwaith eto.
 
(0, 2) 1395 Reit, rwy'n credu y bydda i'n dy gofio di — pan ddaw d'amser!
(0, 2) 1396 Beth ydy d'enw di hefyd?
 
(0, 2) 1399 Dyna ni felly.
 
(0, 2) 1404 Croeso.