Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Cleon (Cyfanswm: 56)

 
(0, 1) 359 Gyfeillion, wnes i erioed gelu dim oddi wrthych.
(0, 1) 360 Nac addo dim ond chwys a llafur a dagrau a gwaed.
(0, 1) 361 A wyddoch chi pam?
(0, 1) 362 Am fy mod i'n nabod fy mhobol.
(0, 1) 363 Yn gwybod natur y graig y'm naddwyd i ohoni.
 
(0, 1) 368 Na, gadwch iddo fo heclo, druan!
(0, 1) 369 Fedr o wneud dim arall.
 
(0, 1) 374 Gyfeillion mi wn i am y pryderon sy'n llethu'ch ysbryd.
(0, 1) 375 A'r amheuon sy'n cymylu'ch meddyliau.
(0, 1) 376 Does yna run fam drallodus nad yw ei dagrau'n chwerw ar fy ngwefus.
(0, 1) 377 Run plentyn amddifad nad yw fy mraich yn gynnes am ei sgwyddau.
(0, 1) 378 Mae curiad calon Athen yn annwyl imi.
 
(0, 1) 387 Na, na hidiwch nhw, Gyfeillion.
(0, 1) 388 Ifanc a gwirion ydyn nhw.
(0, 1) 389 Protest yw eu braint.
(0, 1) 390 Fe ddôn nhw, toc, i barchus gydymffurfiol ganol-oed a phwyllog gyfrifoldeb...
 
(0, 1) 395 Ro'n i'n cerdded ar y traeth heddiw yn y bore bach.
(0, 1) 396 Roedd y môr fel gwin.
(0, 1) 397 A gwrid y wawr ar ruddiau swil y dwyrain.
(0, 1) 398 Dim sŵn ond siffrwd pell y feiston.
(0, 1) 399 A chri rhyw wylan unig draw o'r niwlen lwyd.
(0, 1) 400 Roedd heddwch, Gyfeillion, fel bendith ar y byd.
(0, 1) 401 Mi godais fy llygaid a be gredech chi welais i wrth odre'r clogwyn serth?
 
(0, 1) 404 Nid dyma'r amser i gellwair, Gymrodyr.
(0, 1) 405 Mae rhai proliadau'n gysegredig...
(0, 1) 406 Na, mi ddweda i be welais i — hen wreigen fach gwmanllyd yn hel gwymon.
(0, 1) 407 A'r funud honno mi es yn ôl i ddyddiau mebyd.
(0, 1) 408 A mi wylais!
(0, 1) 409 Mi wylais am ddiniweidrwydd bachgendod.
(0, 1) 410 Am ddyddiau hirfelyn heddychlon.
(0, 1) 411 Am ddireidi ysgafala.
(0, 1) 412 Am gynhesrwydd cariad mam!
 
(0, 1) 421 Daeth llawer tro ar fyd ers hynny.
(0, 1) 422 Mae cymylau rhyfel wedi tywyllu'r ffurfafen.
(0, 1) 423 Gwelsom y Sbartiaid fel bytheiaid yn sgyrnygu dannedd wrth furiau'r Ddinas.
(0, 1) 424 Yn bygwth y gyfundrefn ddemocrataidd sy mor gysegredig inni...
 
(0, 1) 427 Gyfeillion, mi welais rywbeth arall ar y traeth heddiw.
(0, 1) 428 Llong fach yn hercian yn llafurus tua'r lan.
(0, 1) 429 Ei hwyliau'n garpiau llac.
(0, 1) 430 A'i llyw yn yfflon.
(0, 1) 431 Roedd y ddrycin wedi'i dyrnu a'i darnio draw ar y cefnfor.
(0, 1) 432 Ond o'r diwedd daeth hindda a hafan ddiogel y porthladd...
(0, 1) 433 I mi, roedd y llong fach honno'n symbol o Athen.
(0, 1) 434 Ar hyn o bryd rydan ni ynghanol y storm.
(0, 1) 435 Mae'r gwynt yn groes a'r môr yn ferw —
 
(0, 1) 443 Gwell angau na chywilydd!
(0, 1) 444 Does gen i ddim ond adduned i ymladd ymlaen.
(0, 1) 445 Ymladd hyd at fuddugoliaeth.
(0, 1) 446 Ymladd hyd nes bydd y Sbartiaid yn y llwch.
(0, 1) 447 Ymladd nes bydd muriau'r Ddinas yn lân o'u halogiad.
(0, 1) 448 Ond rhaid inni ehangu ein gorwelion, Gymrodyr, a chodi uwchlaw plwyfoldeb cul.
(0, 1) 449 Ie, a meddwl yn ymerodrol!
(0, 1) 450 Dyna'r ffordd i sicrhau gwell Athen i'n plant ac i blant ein plant.
 
(0, 1) 452 Ac fel ernes o'n ffydd yn y dyfodol, gwelodd y Llywodraeth yn dda i godi'r pensiwn henoed ddau swllt yr wythnos!
(0, 1) 453 Dau swllt, Gyfeillion!
(0, 1) 454 Ac fei rhown â'r pleser mwya!