Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Côr (Cyfanswm: 120)

 
(0, 1) 254 Gwas a meistr, ddwedwn i, a barnu wrth eu gwisg
(0, 1) 255 A'u hymarweddiad. Ys gwn i o ble y daethon nhw?
(0, 1) 256 O Delffi, Thebau, neu o Gorinth bell ei hun?
(0, 1) 257 Does wybod yn y byd pwy ydyn nhw,
(0, 1) 258 Prun ai pererinion llesg neu garedigion llon
(0, 1) 259 Y Ddrama. Neu Thesbiaid hwyrach — dau actor brwd
(0, 1) 260 A'u bryd ar ennill clod ar hen lwyfannau Athen.
(0, 1) 261 Beth bynnag ydyn nhw, mae hyn yn amlwg ddigon
(0, 1) 262 Nid caridyms mo'r rhain, nid dau o'r llu twristiaid hurt
(0, 1) 263 Sy'n tyrru yma o bob cwr, pob un â'i dafod allan, bron
(0, 1) 264 Yn awchio am ddiwylliant tridiau,
(0, 1) 265 A llygad-rythu'n geg-agored, syn
(0, 1) 266 Ar ogoniannau adfeiliedig ein gorffennol.
 
(0, 1) 268 Ond dacw rywun yn mynd atyn nhw i ysgwyd llaw,
(0, 1) 269 A dweud bod croeso Athen 'run mor hael
(0, 1) 270 Er gwaetha gwae y rhyfel.
 
(0, 1) 327 Nid i glywed newydd drwg, gobeithio!
(0, 1) 328 Rydym wedi hen flino ar bryder, gwae a gofid;
(0, 1) 329 Ac yn dyheu am ryw friwsionyn bach o gysur;
(0, 1) 330 Llygedyn bach o obaith.
(0, 1) 331 Gad inni fwynhau rhyw awr ne ddwy o seibiant,
(0, 1) 332 I stelcian yma ar y sgwâr
(0, 1) 333 A sgwrsio'n ddioglyd efo hwn a'r llall
(0, 1) 334 Heb sôn am ryfel. Wedi'r cyfan
(0, 1) 335 Rhyw bethau bach fel hyn sy'n bwysig
(0, 1) 336 I sgafnu'r baich sydd ar ein sgwyddau beunydd,
(0, 1) 337 Rhag bod ein bywyd yn ddiflastod llwyr.
(0, 1) 338 A heno, mae'n rhy braf i fwydro am faterion dwfn
(0, 1) 339 Na datrys cymhlethdodau'r byd.
(0, 1) 340 Yn hytrach, noson yw i wneud dim oll
(0, 1) 341 Ond sipian gwin, neu wrando'n swrth ar felys gân,
(0, 1) 342 Neu garu!
 
(0, 1) 436 A'r morwyr wedi blino;
(0, 1) 437 A hyd y gwyddon nid oes i ni na hafan deg na hindda.
(0, 1) 438 Rydym yn dechrau cynefino â thywydd drwg;
(0, 1) 439 Diflastod inni bellach yw addewidion gwag
(0, 1) 440 A geiriau teg na ellir eu gwireddu.
(0, 1) 441 Rho inni rywbeth pendant i gynnal a chryfhau ein ffydd,
(0, 1) 442 A chodi ein calonnau.
 
(0, 1) 698 Na, na Ddieithryn, ofer gofyn dim i ni
(0, 1) 699 Does gennym ni run farn i'w chynnig;
(0, 1) 700 Neu, yn hytrach, gwir f'ai dweud bod gennym amryw.
(0, 1) 701 Mae rhai ar dân ynghylch y peth a'r peth,
(0, 1) 702 Ac eraill sydd yn haeru run mor daer
(0, 1) 703 Yn hollol i'r gwrthwyneb.
(0, 1) 704 Pob un, wrth gwrs,
(0, 1) 705 Yn credu gydag argyhoeddiad llwyr
(0, 1) 706 Mai efô sy'n iawn, a bod pob daliad
(0, 1) 707 Sy'n wahanol, nid yn unig yn sarhâd
(0, 1) 708 Personol iddo ef ei hun, ond hefyd
(0, 1) 709 Yn golygu aflwydd mawr i Athen.
(0, 1) 710 Ond teg yw dweud, yn ddistaw bach, fod ambell lais,
(0, 1) 711 Os nad yw'n plesio'r Awdurdodau'n llawn,
(0, 1) 712 Yn cael ei fygu, neu ei foddi'n llwyr
(0, 1) 713 Gan gytgan cryf y cydymffurfwyr.
(0, 1) 714 ~
(0, 1) 715 Fe welwch, felly, mai peth anodd iawn
(0, 1) 716 I ni yw rhoi ein barn yn bendant, glir.
(0, 1) 717 Rhyw ymbalfalu, rydym, yn y niwl,
(0, 1) 718 A gogr-droi mewn penbleth. Beth arall
(0, 1) 719 Allwn ni ei wneud? A dal ein gobaith
(0, 1) 720 Y bydd Athen annwyl drwy ryw hynod wyrth
(0, 1) 721 Yn dal i fyw; gan syfrdan sylweddoli
(0, 1) 722 Yr arswydus ffaith fod ein diwylliant,
(0, 1) 723 Etifeddiaeth, iaith — yn wir, bod ein bodolaeth
(0, 1) 724 Hyd yn oed, yn gwegian uwch y gwagle.
 
(0, 3) 1766 Mae tawelwch yn ein pentre ni heddiw,
(0, 3) 1767 Mudandod galar rhy ddwfn i ddagrau;
(0, 3) 1768 Nid oes, bellach, ochenaid i liniaru gwewyr y galon.
(0, 3) 1769 Ai breuddwyd echrydus a gawsom ni neithiwr
(0, 3) 1770 Pan ddaeth y belen dân o'r nef
(0, 3) 1771 Ynghanol rhuo gwyllt y dreigiau du
(0, 3) 1772 A wibiodd drosom drwy gymylau'r nos?
(0, 3) 1773 A gawn ni ddeffro yn y man i'n gweld ein hunain
(0, 3) 1774 Yn eistedd ar farwydos ein haelwydydd oer,
(0, 3) 1775 A chofleidio'r plant i wneud yn siwr
(0, 3) 1776 Eu bod yn gynnes a dianaf, iach?
(0, 3) 1777 Na, na, ofer yw'r gobaith gwan y mynnem gydio ynddo
(0, 3) 1778 Fel y cydia un ar foddi, laswelltyn.
(0, 3) 1779 Gwyddom, pe codem ein llygaid,
(0, 3) 1780 Y gwelem y lliain llonydd yn y gornel,
(0, 3) 1781 A'r llaw fach, ddisymud, yn ymestyn oddi tano.
(0, 3) 1782 Eisteddwn, felly, gan syllu'n hurt i'r lludw llwyd,
(0, 3) 1783 I ail-fyw yr arswyd ddaeth i'r pentre neithiwr
(0, 3) 1784 Ar fachlud haul. Clywn eto sŵn y traed
(0, 3) 1785 A llais y swyddog swta yn y stryd.
(0, 3) 1786 Clywn chwerthiniad iach plentyndod
(0, 3) 1787 Yn fferru'n sydyn yn riddfaniad hir.
(0, 3) 1788 Gwelwn fflach y bidog gwaedlyd yn y fflam
(0, 3) 1789 A'r milwyr yn symud o dŷ i dŷ
(0, 3) 1790 Mor hamddenol â phladurwyr yn y meysydd ŷd.
(0, 3) 1791 Yna, y distawrwydd syfrdan, a chlindarddach
(0, 3) 1792 Y cerbydau dur yn toddi draw i'r tarth.
(0, 3) 1793 Clywn eto sgrech y fam
(0, 3) 1794 Uwchben y corffyn bychan yn y llwch
(0, 3) 1795 Sy'n llwtra gwlyb o gnawd a gwaed,
(0, 3) 1796 A hithau'n darnio'i dillad yn ei hing.
(0, 3) 1797 Wylo chwerw fu yma drwy oriau'r tywyllwch.
(0, 3) 1798 Udodd y cŵn, hwythau eu galarnad trist
(0, 3) 1799 O stomp a drewdod yr adfeilion.
(0, 3) 1800 Ond heddiw mae'n pentre ni'n dawel, dawel.
(0, 3) 1801 Torrodd y wawr, ond ni welsom olau dydd;
(0, 3) 1802 Dringodd yr haul dros ysgwydd y grib,
(0, 3) 1803 Ond ni threiddiodd ei belydrau
(0, 3) 1804 I lymder oer ein calonnau clwyfedig.
(0, 3) 1805 Bellach, nid oes gennym ddim ar ôl
(0, 3) 1806 Ond diymadferthwch ac anobaith du.
(0, 3) 1807 Ac eto, rhywfodd rhaid stryffaglio ymlaen,
(0, 3) 1808 Heb wybod dim ond mai fel hyn
(0, 3) 1809 Mae pethau wedi bod erioed,
(0, 3) 1810 A bod ein gwaed yn staenio'r canrifoedd.
 
(0, 3) 1931 Cytunwn yn llwyr.
(0, 3) 1932 Rhodded Dionysos ei adroddiad inni felly,
(0, 3) 1933 Ac esbonied pa sefyllfa enbyd
(0, 3) 1934 A pha achos dwys a barodd iddo ddod i Hades
(0, 3) 1935 Ar siwrna mor frawychus.
(0, 3) 1936 Siaraded yn rhwydd: fe gaiff wrandawiad astud;
(0, 3) 1937 Wedi'r cyfan nid bob dydd
(0, 3) 1938 Y'n gelwir yma ger dy fron
(0, 3) 1939 I drafod cais mor hynod!