Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Llais (Cyfanswm: 14)

 
(0, 1) 321 Atheniaid!
(0, 1) 322 Dalier sylw!
(0, 1) 323 Fel y gwyddoch, mae'r lecsiwn unwaith eto ar y trothwy.
(0, 1) 324 Ac yn ôl yr arfer, bydd cynrychiolwyr y ddwy Blaid Fawr yn unig yn mynd o le i le drwy'r Ddinas i'ch annerch.
(0, 1) 325 Dyma'ch cyfle i wybod pa bolisïau a arfaethir ganddyn nhw, a'u mantoli.
(0, 1) 326 Rhowch glust iddyn nhw pan ddôn nhw atoch.
 
(0, 1) 355 Beth wyt ti'n i wneud i'w hachub?
 
(0, 1) 402 Cocos!
 
(0, 1) 526 Dalier sylw.
(0, 1) 527 Dyma ddatganiad gan yr Heddlu:
(0, 1) 528 "Fore heddiw dan warrant arbennig yr Ynadon, fe restiwyd Socrates a'i fwrw i'r Ddalfa.
(0, 1) 529 Cyhuddir ef yn bennaf o lygru mebyd y Ddinas a'u harwain ar gyfeiliorn.
(0, 1) 530 Cyhoeddir eto pryd y dygir ef o flaen ei well i sefyll ei braw."
(0, 1) 531 Dyna ddiwedd y datganiad.