Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Nicias (Cyfanswm: 505)

 
(0, 1) 23 Wel, be?
 
(0, 1) 25 Mae hynny'n ddigon amlwg, 'ddyliwn.
 
(0, 1) 27 Am nad oes gen i ddim gwaith.
 
(0, 1) 29 Wedi cael fy nghardia y bore yma.
(0, 1) 30 Cic yn fy mhen-ôl.
(0, 1) 31 Fi a phedwar arall.
 
(0, 1) 37 Fel mater o ffaith, mi ydw i wedi bod yma ers awr yn gwrando ar Gôr y Llyffantod.
(0, 1) 38 Glywch chi nhw?...
(0, 1) 39 Wyddoch chi be mae nhw'n 'i ganu?
(0, 1) 40 Mi ddweda i wrtha chi:
(0, 1) 41 ~
(0, 1) 42 C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
(0, 1) 43 Mor hyfryd yw anthem y Broga!
(0, 1) 44 A dyma ni'n glyd,
(0, 1) 45 Yn hapus ein byd,
(0, 1) 46 Peidiwch, da chi, â'i ddiffetha.
 
(0, 1) 48 Pam na chwerthwch chi 'te, 'rhen grimpan!
 
(0, 1) 51 Dim gobaith.
(0, 1) 52 Mi fydd pob ffatri yn Athen wedi cau gyda hyn, myn cebyst!
 
(0, 1) 54 Mae'n rhaid imi, w'chi.
 
(0, 1) 57 Am reswm anatomegol.
 
(0, 1) 59 Oherwydd gwneuthuriad fy nghorff mi fydda'n bur anodd imi eistedd ar fy mol.
 
(0, 1) 62 Wn i ddim.
(0, 1) 63 Disgwyl cardod gan y duwia am wn i.
 
(0, 1) 65 Mater o egwyddor.
 
(0, 1) 67 Pwy sydd i fod i wneud be.
 
(0, 1) 71 Be!
 
(0, 1) 80 Nefoedd!
 
(0, 1) 96 Diolch am funud o heddwch!
(0, 1) 97 Merchaid, myn cythral!
(0, 1) 98 Mi edrychan ar greadur o ddyn yn gweithio'i fysedd i'r asgwrn.
(0, 1) 99 A mynd dan draed rhyw labwst o fforman.
(0, 1) 100 Ac ar ddiwedd yr wythnos mi ddalian eu dwylo allan i fachu'r ddima ola goch-y-delyn.
(0, 1) 101 A be sy gan y pwar-dab i ddangos am ei lafur?
(0, 1) 102 Affliw o ddim ond cyrn ar ei ddwylo, a chrys chwyslyd ar ei gefn.
 
(0, 1) 105 Dim arian.
 
(0, 1) 107 Dim gwerth ei chael felly... Politics?
 
(0, 1) 109 Cad dy bamffled.
(0, 1) 110 Does gen i ddim diddordeb mewn politics.
 
(0, 1) 112 Clyfar iawn!
(0, 1) 113 Dos adra at dy fam i newid dy glwt, 'merch i.
(0, 1) 114 Paid â dweud wrtho i beth i wneud!
 
(0, 1) 116 Hen bryd torri criba'r bobl ifanc yma.
(0, 1) 117 Trio rhedeg cyn dysgu cropian.
 
(0, 1) 119 Nefoedd, un arall ar y ffordd!
(0, 1) 120 Ro'n i yn y theatr ddoe yn gweld drama am ryw frenin o'r enw Oidipos.
(0, 1) 121 Roedd y creadur hwnnw hefyd mewn tipyn o strâch.
(0, 1) 122 Ond doedd ei dynged o'n ddim i'r felltith sydd arna i!
(0, 1) 123 Mae yna ddeugain mil o ferched yn Athen, ond 'roedd yn rhaid i mi ddewis yr hen grimpan gegog yna'n fam-yng-nghyfraith.
 
(0, 1) 125 "Ble rwyt ti'n 'i feddwl rydan ni wedi bod y bore yma?...
(0, 1) 126 A does dim amheuaeth medda'r doctor.
(0, 1) 127 Mae Iris wedi, be-wyt-ti'n-alw... mynd!"
 
(0, 1) 129 Beth 'tae hi'n cael efeilliaid!
(0, 1) 130 Mae yna rai yn y teulu yn rhywle.
(0, 1) 131 A dyna dyaid o saith o blant!
(0, 1) 132 Rhaid imi chwilio am rywbeth i' wneud mae'n amlwg.
(0, 1) 133 Wn i ddim be, chwaith.
(0, 1) 134 Sgubo'r stryd efallai.
(0, 1) 135 Mi fydda hynny'n well na llwgu... am wn i!
(0, 1) 136 O wel, digon buan poeni am hynny fory.
(0, 1) 137 Llymaid arall o'r gwin yma rwan.
 
(0, 1) 139 Ben-di-ged-ig!
(0, 1) 140 Diolch amdano.
 
(0, 1) 142 Ewch i Hades yr hen widdan drwynsur!
(0, 1) 143 A gobeithio y bydd Cerberws yn brathu eich, be-ydach chi'n alw... sodla"!
 
(0, 1) 151 Sut wyddoch chi?
 
(0, 1) 154 Merched, w'chi.
(0, 1) 155 Mae'n nhw'n anhydrin iawn weithia.
(0, 1) 156 Fel maen-melin am eich gwddw chi.
(0, 1) 157 Mi ydw i wedi dweud erioed, dydyn nhw ddim 'run fath â ni ddynion.
 
(0, 1) 159 A dydy heddiw ddim wedi bod yn ddiwrnod lwcus imi o gwbwl.
(0, 1) 160 Yn gynta mi ydw i wedi colli 'ngwaith.
(0, 1) 161 Ac yn ail, mi ydw i newydd glywed fod y wraig yn mynd i ddal y dorth ymhell.
 
(0, 1) 163 Wedi llyncu pry.
 
(0, 1) 165 Magu mân-esgyrn fel y byddwn ni'n deud.
(0, 1) 166 Wyddoch chi —
 
(0, 1) 170 Llongyfarchion?
(0, 1) 171 Nid dyna ddwedodd fy mam-yng-nghyfraith rwan, Syr.
(0, 1) 172 Dyna ichi'r ddynes fwya gecrus yn Athen.
(0, 1) 173 Tafodi?
(0, 1) 174 Edliw?
(0, 1) 175 A wyddoch chi beth ydy ei henw hi?
(0, 1) 176 Harmonia!
(0, 1) 177 Dyna ichi jôc!
(0, 1) 178 Mi fasa Rhagan-rug yn ei siwtio hi'n well...
 
(0, 1) 180 Ar eich gwylia rydach chi, mae'n debyg?
(0, 1) 181 Ydach chi am aros dipyn?...
(0, 1) 182 Oes arnoch chi eisio rhywun i ddangos y Ddinas ichi?
(0, 1) 183 Cario'r bag yna?
 
(0, 1) 190 Beth?
(0, 1) 191 O ydw am wn i.
(0, 1) 192 "Cas gŵr..." ac yn y blaen.
(0, 1) 193 Ond fedrwch chi ddim byw ar brydferthwch, Syr....
(0, 1) 194 Che's i mo'ch enw chi'n iawn....
(0, 1) 195 Mi garia i'r bag mawr trwm yna am bris rhesymol....
(0, 1) 196 Cil-dwrn, fel tae....
 
(0, 1) 199 Athen?
(0, 1) 200 Ydw, fel cledr fy llaw, er mai ar y cyrion rydw i'n byw.
(0, 1) 201 Mi fedrwn fynd â chi o gwmpas os mynnwch chi.
(0, 1) 202 Dangos y llefydd o ddiddordeb ac ati....
(0, 1) 203 Be ydach chi'n i ddweud?
 
(0, 1) 206 Tybed?
(0, 1) 207 Digon da i mi.
(0, 1) 208 A pheth arall, fedra i fforddio dim gwell.
(0, 1) 209 Rydach chi'n arbenigwr ar win, yn amlwg?
 
(0, 1) 212 Nicias, Syr.
(0, 1) 213 Ond Nic mae pawb sy'n fy nabod i'n fy ngalw i.
 
(0, 1) 217 O?
 
(0, 1) 219 Cytuno'n llwyr.
(0, 1) 220 Dim gwaith.
(0, 1) 221 Prisiau'n codi.
(0, 1) 222 Cyfloga isel.
(0, 1) 223 Effaith y rhyfel felltith yma, w'chi.
 
(0, 1) 227 Dydw i ddim wedi meddwl rhyw lawer am betha felly, Syr.
(0, 1) 228 Dim amser efo gwraig a phump o blant.
(0, 1) 229 Mi fydda i'n eitha bodlon os ca' i lond bol o fwyd, ac ambell botel o win.
(0, 1) 230 Yn reit hoff o ddrama hefyd, ond iddi beidio â bod yn rhy anodd.
 
(0, 1) 234 Beth amdani, Syr?
(0, 1) 235 Ga' i gario'ch bag chi?
 
(0, 1) 239 Peidiwch â phoeni.
(0, 1) 240 Mi ydw i'n gry fel ceffyl.
 
(0, 1) 242 Dowch ar f'ôl i rwan.
(0, 1) 243 Dyma'r ffordd ora i'r Ddinas.
 
(0, 1) 274 Go lew.
(0, 1) 275 Mi hoffwn i gael sbelan fach am funud os medrwch chi sbario'r amser.
 
(0, 1) 294 Plismyn am wn i.
 
(0, 1) 296 Lleidar reit siwr.
(0, 1) 297 Pigwr-pocedi wedi cael ei ddal yn y Theatr.
(0, 1) 298 Mae nhw'n tyrru i fan'no ar bob Gŵyl Ddrama, w'chi.
 
(0, 1) 300 Dim byd gwell i' wneud, w'chi.
(0, 1) 301 Unrhyw beth i greu cynnwrf.
(0, 1) 302 Yn y fyddin ddylen nhw fod.
(0, 1) 303 Buan iawn y bydda'r Sbartiaid yn dwad â nhw at eu coed!
(0, 1) 304 Torri eu gwalltia hir a'u criba nhw!
 
(0, 1) 309 Ydy, wrth gwrs!
(0, 1) 310 Wyddoch chi be, ro'n i wedi llwyr anghofio.
(0, 1) 311 Ond does gen i fawr o ddiddordeb yn y busnas politicaidd yma.
(0, 1) 312 Wedi cael llond bol a deud y gwir.
 
(0, 1) 314 Dydw i ddim yn deall, Syr.
 
(0, 1) 318 Y ddau yn addo'r byd reit siwr.
(0, 1) 319 A chyfarth fel dau gi ar ei gilydd.
 
(0, 1) 345 Cleon ydy hwn, Syr.
(0, 1) 346 Llefarydd y Democratiaid brwd — plaid y Chwith.
 
(0, 1) 371 Mi fydd yn mynd yn ddagreuol unrhyw funud rwan, Syr.
(0, 1) 372 Dyn o anianawd nionyn.
 
(0, 1) 392 Pwt barddonllyd rwan!
 
(0, 1) 394 Bob tro y bydd o'n codi ei fraich fel yna, ac edrych fel tae o'n mynd i gystadlu ar adrodd.
 
(0, 1) 415 Ia.
(0, 1) 416 Mae o'n sôn am 'i fam ymhob araith w'chi.
(0, 1) 417 Gwybod y tricia i gyd.
(0, 1) 418 Gwleidydd proffesiynol.
(0, 1) 419 A cheiliog-gwynt.
(0, 1) 420 Ust!
 
(0, 1) 426 Pwt barddonllyd arall ar y ffordd, Syr!
 
(0, 1) 459 Cadmos ydy hwn, Syr, Llefarydd yr Oligarchiaid — yr Wrth-Blaid.
(0, 1) 460 Ceidwadwr rhonc.
 
(0, 1) 517 Yn y niwl.
(0, 1) 518 Ond mi wyddwn mai fel yna y bydda hi.
(0, 1) 519 Y ddau'n pregowthan o'i hochor hi heb ddweud dim.
(0, 1) 520 Malu awyr!
(0, 1) 521 Dyna'u hanes nhw erioed.
 
(0, 1) 523 O mi fyddwn yn siwr o fwnglera drwyddi rywsut.
 
(0, 1) 558 Reit, Syr.
 
(0, 1) 726 Dim llawer o dderbyniad, Syr?
 
(0, 1) 730 Fi?
(0, 1) 731 Wel...
 
(0, 1) 734 Mater o farn ydy hynny, 'te?
 
(0, 1) 738 Dwy' i ddim yn honni mod i'n wahanol i'r mwyafrif o ddynion, w'chi...
(0, 1) 739 Maddeuwch imi am ddweud, ond rydach chi'n pendroni'n amlwg.
(0, 1) 740 Poeni am eich busnes reit siwr?
(0, 1) 741 Gofal eiddo a buddiannau ac ati?
(0, 1) 742 Diofal yw dim.
(0, 1) 743 Mi ydw i'n cydymdeimlo.
 
(0, 1) 747 Dim syniad yn y byd.
 
(0, 1) 749 Be —?
 
(0, 1) 751 Fi? Tawn i byth o'r fan yma!
 
(0, 1) 753 Wel, dim ond rhyw led-godi congol y caead.
(0, 1) 754 Wnes i mo'i agor o fel 'tae.
 
(0, 1) 758 Mi ydw i'n meddwl, te...
 
(0, 1) 760 Mi ydw i'n meddwl mai trafaeliwr ydach chi.
(0, 1) 761 Trafaeliwr ne fasnachwr gwin.
(0, 1) 762 O Gorinth, efalla.
(0, 1) 763 Iawn, Syr?
 
(0, 1) 766 Does gen i ddim syniad, w'chi.
 
(0, 1) 768 Ydw...
(0, 1) 769 Nid actor ydach chi?
 
(0, 1) 778 Hon?
 
(0, 1) 781 Dionysos
 
(0, 1) 783 Dionysos!
 
(0, 1) 785 Duw y Gwin a- a-
 
(0, 1) 794 Diolch am hynny, Eich Anrhydedd... hynny ydi Eich duwdod...
 
(0, 1) 800 Yn berffaith glir, Syr.
(0, 1) 801 Peidiwch â phryderu.
 
(0, 1) 804 |Chi| o bawb, Syr?
 
(0, 1) 808 Beth ydy hwnnw, Syr, mor hy â gofyn?
 
(0, 1) 810 O mi ddaw petha eto, w'chi, unwaith y rhown ni gosfa i'r Sbartiaid gythral yna.
 
(0, 1) 812 O? Pwy felly?
 
(0, 1) 822 Tybed, d'wch?
(0, 1) 823 Stwrllyd ac anghyfrifol —
 
(0, 1) 825 Dim o gwbwl.
(0, 1) 826 Y ffaith ydi, mae'r busnes politicaidd yma ymhell uwch fy mhen i.
 
(0, 1) 828 Wel, os ydy'r sefyllfa'n eich poeni chi gymaint â hynny, Syr — maddeuwch imi am ofyn — fedrwch chi mo'i newid hi?
(0, 1) 829 Hynny ydi, gan eich bod chi, wel, yr hyn ydach chi.
 
(0, 1) 833 Mae'r rhagolygon yn bur bethma felly?
(0, 1) 834 Andros o broblem ddwedwn i.
 
(0, 1) 836 Pa ffordd ydy honno, Syr?
 
(0, 1) 838 O? Ga'i ofyn ble?
 
(0, 1) 841 Hades?
(0, 1) 842 Arswyd y byd, be wnewch chi yn y fan honno?
 
(0, 1) 846 Fi?
 
(0, 1) 849 Ond... ond chawn i ddim mynd yno, Syr.
(0, 1) 850 Hynny ydy —
 
(0, 1) 854 Gofyn go fawr, Syr.
(0, 1) 855 Rhaid imi gael amser i feddwl.
 
(0, 1) 860 Wel, mi dria i 'ngora.
 
(0, 1) 866 Hades?...
(0, 1) 867 Nefoedd yr adar!
 
(0, 2) 877 Pa ateb sydd yna i " Hei"?
 
(0, 2) 880 Pa gêm?
 
(0, 2) 883 Ia.
 
(0, 2) 885 Pwy?
 
(0, 2) 888 Pwy ddwedodd mod i'n gweithio iddo fo?
 
(0, 2) 890 Mi ydw i'n cario'i fag o.
 
(0, 2) 892 Dydw i ddim wedi cael tâl hyd yma.
 
(0, 2) 896 Ga i ofyn yr un peth i ti?
 
(0, 2) 903 Hwyrach 'mod i wedi colli bawd fy nhroed.
(0, 2) 904 Ne fod fy mrest i'n wan.
(0, 2) 905 Ne fod gen i stumog wael.
 
(0, 2) 911 Wnes i ddim dweud.
 
(0, 2) 913 Ond os oes rhaid iti gael gwybod, wedi mynd i newid 'i ddillad mae o.
 
(0, 2) 915 Am 'i fod o'n mynd ar siwrna.
 
(0, 2) 917 Mae o wedi gofyn imi.
 
(0, 2) 919 Dwy' i ddim wedi penderfynu eto.
 
(0, 2) 921 Wel, mae'n anodd.
 
(0, 2) 923 Nid siwrna gyffredin ydy hi.
 
(0, 2) 925 Choeli di ddim tawn i'n dweud wrtha ti.
 
(0, 2) 927 I Hades.
 
(0, 2) 934 Ro'n i'n gwybod na fyddet ti ddim yn coelio.
(0, 2) 935 Ond mi ydw i'n dweud y gwir.
(0, 2) 936 I Hades mae o'n mynd.
 
(0, 2) 955 Nicias.
 
(0, 2) 957 Dwy' i ddim yn gwybod.
 
(0, 2) 984 Chewch chi ddim rhoi'ch bys arno fo!
 
(0, 2) 996 Do, syr.
(0, 2) 997 Mi ydw i wedi bod yn ystyried y mater yn ofalus iawn hefyd.
(0, 2) 998 Ac ar ôl pwyso a mesur, rwy i'n ofni na fedra i ddim dwad.
(0, 2) 999 Fel y gwyddoch chi, mae gan ddyn ei ddyletswyddau teuluol a'i ofalon ac ati.
(0, 2) 1000 A pheth arall, dydy Hades ddim yn lle i fagu gwaed ynddo fo, fel y byddwn ni'n dweud.
(0, 2) 1001 Nid bod arna i ofn cofiwch — dim o'r fath beth.
(0, 2) 1002 Ond dyna fel y mae petha.
(0, 2) 1003 Mae'n bur ddrwg gen i.
 
(0, 2) 1007 Ofn? Fi?
(0, 2) 1008 Na, mi ydw i newydd ddweud wrthych chi.
 
(0, 2) 1010 Rhyngoch chi a fi a'r wal, Syr, onibai am Iris —
 
(0, 2) 1012 Y wraig.
 
(0, 2) 1014 Onibai amdani hi, mi fuaswn efo chi fel saeth.
(0, 2) 1015 Ond mae hi'n bryderus iawn ynghylch fy iechyd.
(0, 2) 1016 Cha i ddim symud oddi cartre ganddi byth.
(0, 2) 1017 Wedi cael cynnig swyddi da o dro i dro, w'chi.
(0, 2) 1018 Ond yn gorfod eu gwrthod.
(0, 2) 1019 Does dim troi arni.
(0, 2) 1020 Mi wyddoch fel mae'r merched yma.
 
(0, 2) 1023 Iris!
 
(0, 2) 1026 Mi ydw i wedi symud i'r fan yma, beth wyt ti'n 'i siarad?
 
(0, 2) 1040 Ia, ond wyddost ti i ble mae o'n mynd?
(0, 2) 1041 I Hades!
 
(0, 2) 1044 Does yna ddim sicrwydd y bydda i'n dwad yn ôl.
 
(0, 2) 1067 Llawer o ffordd eto, Syr?
 
(0, 2) 1074 Afon Stycs?
(0, 2) 1075 Andros o afon hefyd!
(0, 2) 1076 Y dŵr yn ddu, ac yn llifo'n gyflym ac yn dawel.
(0, 2) 1077 Mae o fel melfed gwibiog.
(0, 2) 1078 Mae hi'n llydan hefyd.
(0, 2) 1079 Wela i mo'r ochor draw iddi.
 
(0, 2) 1081 Sut felly?
 
(0, 2) 1083 Dwy' i ddim yn deall.
 
(0, 2) 1086 Reit.
 
(0, 2) 1088 Reit.
 
(0, 2) 1090 Reit.
 
(0, 2) 1092 Mae'n rhaid inni alw ar Charon a'i gwch.
 
(0, 2) 1094 Ydw, ydw.
(0, 2) 1095 Ond hyn oedd gen i Syr — chaf i ddim mynd drosodd yn y cwch.
(0, 2) 1096 Dydw i ddim wedi — wel dydy'r cymwysterau angenrheidiol ddim gen i, fel tae.
(0, 2) 1097 A fedra i ddim nofio.
 
(0, 2) 1108 Wedi chwibannu llawer ar ôl y gennod yn fy nydd, Syr!
 
(0, 2) 1111 Reit.
 
(0, 2) 1176 Nicias.
(0, 2) 1177 Nic i'm ffrindia.
 
(0, 2) 1183 Be ydach chi'n 'i feddwl?
 
(0, 2) 1211 Nicias.
 
(0, 2) 1216 Be, oes yna beryg?
 
(0, 2) 1244 Dwy' i'n gweld affliw o ddim!
 
(0, 2) 1249 Mae'n oer drybeilig.
(0, 2) 1250 Mi ydw i bron â fferu!
 
(0, 2) 1259 Be ydi'r sŵn yna, d'wedwch?
 
(0, 2) 1270 Ond maen nhw wedi gorffen dawnsio!
 
(0, 2) 1355 Mae hi'n dechrau twyllu eto!
 
(0, 2) 1397 Nicias, ond Nic i —
 
(0, 2) 1408 Ydy...
 
(0, 2) 1410 Syr?
 
(0, 2) 1412 Roedd o'n sôn am Cerberws.
 
(0, 2) 1419 Mae 'nghalon i yn fy mhen ôl i.
 
(0, 2) 1421 Ond rydach chi'n wahanol i mi!
 
(0, 2) 1426 I mi?
(0, 2) 1427 I'w yfed?
 
(0, 2) 1436 Nid dyna ydy o, Syr.
(0, 2) 1437 Ond nid bob dydd mae dyn yn cael profiad fel hyn.
 
(0, 2) 1439 Yfed potel o win efo, wel un fel chi.
(0, 2) 1440 Ac yn Hades o bob man.
 
(0, 2) 1445 Pwy?
 
(0, 2) 1448 O ia, wrth gwrs, Plwton, ia.
 
(0, 2) 1450 Tartarws?
 
(0, 2) 1452 O'r gora.
 
(0, 2) 1454 Mae hwn yn dda, hefyd!
(0, 2) 1455 Blas mwy arno fo!
 
(0, 2) 1459 Ydw, dipyn bach.
(0, 2) 1460 Ond mae ofn Cerberws yn dal i barlysu f'aelodau i.
(0, 2) 1461 Ydy o mor ddychrynllyd ag y maen nhw'n 'i ddweud?
 
(0, 2) 1463 Ei fod o'n anferth o fawr.
(0, 2) 1464 Efo tri o benna.
(0, 2) 1465 Llais fel taran a llygaid yn melltennu tân.
(0, 2) 1466 Fod ganddo fo gynffon draig.
(0, 2) 1467 A mwclis o nadrodd gwenwynig am 'i wddw.
 
(0, 2) 1471 Mi ydach chi wedi 'i gyfarfod o o'r blaen, decini?
 
(0, 2) 1473 Ydy o mor ofnadwy ag y maen nhw'n 'i haeru?
 
(0, 2) 1476 Arswyd y byd!
 
(0, 2) 1482 Ydw.
(0, 2) 1483 Reit.
 
(0, 2) 1485 Welais i erioed le mor unig.
(0, 2) 1486 Mor anial.
(0, 2) 1487 Mor wag.
(0, 2) 1488 Mor ddi-ystyr.
(0, 2) 1489 Mae yma rywfaint o wellt melyn crin.
(0, 2) 1490 Mae o wedi marw — ac eto'n tyfu!
(0, 2) 1491 Peth dychrynllyd i ddyn rhesymol ydy rhywbeth di-sens.
(0, 2) 1492 Mi fasa tragwyddoldeb o hyn yn rhy ofnadwy i feddwl amdano hyd yn oed...
(0, 2) 1493 Rwy'n gobeithio y ca' i fynd odd'ma rywdro, Syr?
 
(0, 2) 1497 Peidiwch â cham-ddeall, ond dydw i ddim yn edrach ymlaen i ddwad yma eto — hyd yn oed pan ddaw f'amser.
 
(0, 2) 1501 Yr arswyd!
 
(0, 2) 1690 Ia... Fedra i ddim peidio ag amau, Syr.
 
(0, 2) 1692 Eich bod chi'n gwybod y bydda fo'n mynd i gysgu!
 
(0, 2) 1694 Oes yna beryg iddo fo ddeffro?
 
(0, 2) 1699 Reit.
 
(0, 2) 1703 Dim peryg o hynny, Syr!
 
(0, 3) 1711 Fawr lai.
 
(0, 3) 1720 Do.
 
(0, 3) 1723 Ond mi wn i rwan, Syr.
(0, 3) 1724 Chi ydy duw llysieuaeth a thyfiant.
(0, 3) 1725 Rydach chi'n cynrychioli natur yn ei holl ysblander a'i chyfoeth.
(0, 3) 1726 Mae'r winwydden, yn arbennig, yn gysegredig i chi.
(0, 3) 1727 A gwin yn rhan o'ch addoliad.
(0, 3) 1728 Hefyd mi ydach chi'n ffafriol i heddwch a gwareiddiad!
 
(0, 3) 1731 O, ia, chi ydy nawdd-dduw y Ddrama, hefyd.
 
(0, 3) 1736 Dydw i ddim yn eich cymryd chi'n ysgafn, Syr!
 
(0, 3) 1742 Mae'n debyg mai fi sy'n dwp, ond dydw i ddim yn eich deall chi.
 
(0, 3) 1745 Mi ydw i wedi clywed llawer o sôn amdano fo, droeon.
(0, 3) 1746 Ond does yna neb yn gwybod yn iawn be ydy o, w'chi.
 
(0, 3) 1753 Arswyd y byd, wnes i ddim sylweddoli, w'chi!
 
(0, 3) 1813 Wyddoch chi be, dwy' i ddim yn teimlo'n benisel yn amal.
(0, 3) 1814 Ond mae'r lle yma'n llethu f'ysbryd i.
 
(0, 3) 1818 'Does arna i ddim eisio gweld mwy.
(0, 3) 1819 Ne mi fydda i'n colli pob ffydd yn y natur-ddynol.
 
(0, 3) 1821 Ydach chi'n credu hynny o ddifri?
 
(0, 3) 1824 Trio achub Athen medda chi.
 
(0, 3) 1826 Ydy, wrth gwrs....
(0, 3) 1827 Maddeuwch imi am ddweud hyn, ond dydach chi ddim wedi egluro'n iawn imi, w'chi.
 
(0, 3) 1829 Sut yn hollol ydach chi'n meddwl achub Athen — yma o bob man?
 
(0, 3) 1832 Sicrwydd?
 
(0, 3) 1834 O!... Maddeuwch i mi eto, ond oni ddylai un fel chi wybod yn bendant ymlaen llaw?
(0, 3) 1835 Fedrwch chi ddim darllen y dyfodol?
 
(0, 3) 1837 Do.
(0, 3) 1838 Duw bach o'r trydydd dosbarth, medda fo.
 
(0, 3) 1847 Ga i ofyn un peth arall?
 
(0, 3) 1849 Plwton — sut un ydy o?
 
(0, 3) 2024 Wel, myn uffern!
 
(0, 3) 2027 Dwy' i'n gweld affliw o ddim.
(0, 3) 2028 Sôn am fol buwch!...
 
(0, 3) 2030 Maen nhw'n dweud bod yma lygod mawr fel sgwarnogod.
(0, 3) 2031 A phryfed-cop fel crancod blewog...
(0, 3) 2032 Yr arswyd mae hi'n ddistaw yma!
(0, 3) 2033 Fel tae pawb wedi marw.
 
(0, 3) 2035 Ond wrth gwrs maen nhw...
(0, 3) 2036 Hynny ydy, pawb ond yfi!...
(0, 3) 2037 Ond hwyrach mod inna wedi marw hefyd, ond mod i heb sylweddoli.
(0, 3) 2038 Ac Iris druan yn weddw.
(0, 3) 2039 A llond tŷ o blant.
(0, 3) 2040 A'r rheiny'n llwgu a ballu...
(0, 3) 2041 Fûm i ddim yn ŵr da iawn iddi.
(0, 3) 2042 Diogi a hel diod a gamblo ac ati.
(0, 3) 2043 Tawn i'n cael ail-gynnig, mi wnawn i well siâp ar betha...
 
(0, 3) 2045 Pa mor hir eto sgwn i?
(0, 3) 2046 Mae wedi bod fel oes yn barod.
(0, 3) 2047 Ond dydy amser ddim yn cyfri yn y lle yma!
 
(0, 3) 2049 Helo, mae yma rywbeth yn digwydd rwan!
 
(0, 3) 2129 Siawns na cha i fynd yn ôl yn o fuan rwan.
(0, 3) 2130 Wn i ddim yn iawn be sydd wedi digwydd.
(0, 3) 2131 Roedd yr holl brygawthan yna y tu hwnt i mi.
(0, 3) 2132 Ond mae'n amlwg nad ydy petha ddim wedi llwyddo'n ôl y disgwyliad.
(0, 3) 2133 Wel, fedra i ddim mynd odd'ma yn ddigon buan.
(0, 3) 2134 Mae'r lle yma'n codi'r felan arna i.
(0, 3) 2135 Run fath â hunlle, wyddoch chi, a chitha'n methu'n lân â deffro...
(0, 3) 2136 Hwyrach mai dyna ydy o.
(0, 3) 2137 Mai breuddwydio'r cwbwl rydw i.
(0, 3) 2138 Wel, os felly, mi ddaw hi'n fore gyda hyn, gobeithio.
(0, 3) 2139 A finna'n cil-agor fy llygad i wneud yn siwr.
(0, 3) 2140 A gweld Iris wrth f'ochor yn y gwely, yn gwenu fel y bydd hi yn 'i chwsg.
(0, 3) 2141 A'r plant yn y llofft nesa yn dechra cadw reiat.
(0, 3) 2142 A'r hen Harmonia'n clebran...
(0, 3) 2143 Ond dyma Fo'n dwad yn 'i ôl!
 
(0, 3) 2147 Inni fynd yn ôl?
 
(0, 3) 2150 Be?
(0, 3) 2151 Pam?
 
(0, 3) 2155 Dydw i ddim wedi bod fawr o gymorth ichi yn hon, chwaith 'ddyliwn!
 
(0, 3) 2158 Fel rydach chi'n gwybod bellach, Syr, rhyw greadur digon twp ydw i.
(0, 3) 2159 A dydw i ddim wedi deall yn hollol glir-gola-dydd fel tae beth oedd amcan y busnas yma i gyd.
(0, 3) 2160 Ond mi ydw i'n rhyw ama, rhyngon ni'n dau, nad ydy o ddim wedi llwyddo fel y dymunech chi.
 
(0, 3) 2165 Esgusodwch fi — llond ceg braidd —
 
(0, 3) 2168 O? Mae yna un gwirionedd o flaen fy nhrwyn i rwan.
(0, 3) 2169 A minna yn 'i weld yn blaen.
 
(0, 3) 2171 Mod i'n gorfod mynd yn ôl fy hun.
(0, 3) 2172 A mae arna i ofn nes mod i bron â... wel dydw... i... ddim-yn-lecio-dweud-wrthych-chi-be!
(0, 3) 2173 Wel, fedrwch chi weld bai arna i?
(0, 3) 2174 Mae meddwl am Cerberws yn codi pwys arna i.
(0, 3) 2175 Heb sôn am Tartarws.
(0, 3) 2176 A Charon.
(0, 3) 2177 A'r Stycs!
 
(0, 3) 2185 Diolch yn fawr, Syr.
 
(0, 3) 2188 Ar fy llw!
(0, 3) 2189 Dim ond imi gael mynd yn ôl i Athen...
(0, 3) 2190 At Iris.
 
(0, 4) 2202 Beth am Cerberws?
(0, 4) 2203 Ydan ni'n weddol agos i'w diriogaeth o rwan?
 
(0, 4) 2206 Deudwch wrtha i, Syr, tae o'n digwydd cael gafael arna ì, be fydda fo'n 'i wneud imi?
 
(0, 4) 2218 Ond beth am Charon?
 
(0, 4) 2223 Wedyn?
 
(0, 4) 2226 Ydy.
(0, 4) 2227 Mi wna i unrhyw beth i gael mynd yn ôl i'r hen Athen annwyl efo'i holl ffaeledda!
 
(0, 4) 2229 Ia, mae hynna y tu hwnt i greadur dibwys fel fi, Syr.
 
(0, 4) 2233 Wyddoch chi be sy'n fy mhoeni fi rwan yn fwy na dim?
(0, 4) 2234 Be sydd wedi digwydd i Iris druan.
(0, 4) 2235 Rhaid ein bod ni yma ers hydoedd bellach.
 
(0, 4) 2237 Sut felly?
(0, 4) 2238 Dydw i ddim yn deall —!
 
(0, 4) 2241 Hanner munud rwan, mae rheswm yn dweud ─
 
(0, 4) 2247 Ar eich traws chi, Syr ─ maddeuwch imi ddweud hyn ─ ond mi fydda i'n teimlo mod i, greadur o ddyn, ar brydia yn dwad yn bur agos i'ch stâd chi, y duwia!
(0, 4) 2248 Peth mawr i' ddweud, rwy'n gwybod, ond mae o'n wir.
 
(0, 4) 2250 Rydach chi yn y gwely yn nistawrwydd y bore bach.
(0, 4) 2251 Troi'n gysglyd at y wraig.
(0, 4) 2252 Anwes dioglyd yn mynd yn goflaid ffyrnig.
(0, 4) 2253 Wedyn rhyferthwy tymestl corff ac enaid o dan y blancedi.
(0, 4) 2254 A minna, fel duw, yn marchogaeth yn fuddugoliaethus.
(0, 4) 2255 Ac yn creu!...
(0, 4) 2256 A rwan — gyda pharch, Syr — wrth sôn am Amser ac ati, fedra i feddwl am ddim ond am groeso cynnes bronnau Iris, a chryndod parod ei llwynau.
 
(0, 4) 2259 Cerberws!
 
(0, 4) 2264 Reit, Syr.
 
(0, 4) 2267 Ia?
 
(0, 4) 2348 Iris!
 
(0, 4) 2350 Iris, 'nghariad annwyl i!
 
(0, 4) 2352 O Iris, Iris!
 
(0, 4) 2354 Does gen ti ddim syniad mor falch ydw i!
(0, 4) 2355 Dy weld unwaith eto!
(0, 4) 2356 O Iris!
 
(0, 4) 2360 Wyt ti ddim yn sylweddoli?
(0, 4) 2361 Rwy i wedi bod ar siwrna ofnadwy.
(0, 4) 2362 Yng nghrombil Hades ei hun!
(0, 4) 2363 Ar drothwy dychrynllyd Tartarws du!
 
(0, 4) 2365 Mae Cerberws wedi bod ar fy ngwartha gan sgyrnygu dannedd.
(0, 4) 2366 A Charon wedi fy mygwth ar ddyfroedd enbyd y Stycs!
 
(0, 4) 2368 O, mae o'n hanes fydd yn codi gwallt dy ben di, Iris annwyl!
(0, 4) 2369 Does arna i ddim eisio d'adael di eto, byth.
 
(0, 4) 2371 Na chitha, 'rhen wraig garedig!
(0, 4) 2372 Rydach chi'n cyfarth digon, ond rywle yn yr hen frest gwynfannus yna, mae yna galon fel pwced!
 
(0, 4) 2376 Aros am funud imi gael dracht o hwn.
(0, 4) 2377 I iro tipyn ar fy nghorn-gwddw a chynhesu 'nghalon i.
 
(0, 4) 2379 Ben-di-ged-ig!
 
(0, 4) 2381 'Wel', be?
 
(0, 4) 2384 Siwrna?
(0, 4) 2385 Pa siwrna?
(0, 4) 2386 Am be rwyt ti'n siarad?
 
(0, 4) 2392 Does yna neb yn gofyn ichi, yr hen glep-melin be-ydach-chi'n alw... gecrus!
 
(0, 4) 2396 Gwn.
(0, 4) 2397 Bydwraig wedi ymddeol.
 
(0, 4) 2401 Ust! Glywch chi rywbeth?
 
(0, 4) 2407 Ro'n i'n meddwl 'mod i'n clywed rhywbeth arall hefyd.
 
(0, 4) 2412 Dweud be?
 
(0, 4) 2414 Mi ydw i'n glustia i gyd!
 
(0, 4) 2416 Nefoedd yr adar!
 
(0, 4) 2424 Ond sut ar y ddaear fedar hi wybod?
 
(0, 4) 2431 Efeilliaid!
(0, 4) 2432 A finna allan o waith!
 
(0, 4) 2436 Un gwell na'r dwetha, gobeithio!...
(0, 4) 2437 Wel?
 
(0, 4) 2439 Beth ydy o — fel 'tae gen i unrhyw ddewis!
 
(0, 4) 2443 Ia?
 
(0, 4) 2450 O wel, mi fedrwn i feddwl am betha gwaeth!
(0, 4) 2451 Cyfle i ennill ceiniog ne ddwy.
(0, 4) 2452 A chil-dwrn efalla, os ydy o'n ddyn cefnog...
(0, 4) 2453 Oes yna ryw newydd arall?
 
(0, 4) 2456 Dyna'r newydd gwaetha un!
 
(0, 4) 2459 Mewn eiliad.
(0, 4) 2460 Waeth imi orffen y botel yma ddim.
(0, 4) 2461 Cha i run arall am hir, mae'n siwr!
(0, 4) 2462 Dos di efo dy fam.
(0, 4) 2463 Mi ddo i ar eich ôl chi.
 
(0, 4) 2473 Blydi llyffantod!