Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Plwton (Cyfanswm: 77)

 
(0, 3) 1858 Plwton yma, ia...
(0, 3) 1859 Faint?
(0, 3) 1860 Ugain mil?...
(0, 3) 1861 Pa frwydr oedd hon?...
(0, 3) 1862 O, rwy'n gweld...
(0, 3) 1863 Wrth gwrs, rhaid eu derbyn rhag blaen...
(0, 3) 1864 Mynd â nhw'n syth i'r Adran Ddarparu...
(0, 3) 1865 Ia siwr.
(0, 3) 1866 Mi wna i nodyn o hynny...
(0, 3) 1867 Diolch.
 
(0, 3) 1870 la?
 
(0, 3) 1872 Ia, wrth gwrs.
(0, 3) 1873 Mae ganddo fo apwyntiad.
(0, 3) 1874 Anfonwch o i mewn yn syth.
 
(0, 3) 1877 Wel?
 
(0, 3) 1881 Mae pawb yn Hades wedi dwad o'r byd arall rywbryd neu'i gilydd.
 
(0, 3) 1883 Dwy i ddim yn eich deall chi.
 
(0, 3) 1886 Beth!
(0, 3) 1887 Twt, twt, pa ofergoeledd yw hyn?
 
(0, 3) 1890 Mae'r peth yn anhygoel.
(0, 3) 1891 Anfonwch nhw i mewn, rhag blaen.
 
(0, 3) 1895 Cyfarchion, Dionysos, a chroeso i Hades.
 
(0, 3) 1897 Ymweliad go annisgwyl!
 
(0, 3) 1900 Ac yn syfrdanol o anghyffredin, ddyliwn.
(0, 3) 1901 Rwy'n gobeithio dy fod ti'n sylweddoli difrifoldeb cam fel hyn?
 
(0, 3) 1904 Popeth yn iawn.
(0, 3) 1905 Er bod yn rhaid imi ddweud 'mod i'n synnu na welaist yn dda rhoi unrhyw rybudd, ymlaen llaw, o fenter mor rhyfygus.
(0, 3) 1906 Rhaid imi ddweud hynna'n blwmp ac yn blaen.
 
(0, 3) 1909 Wel, mi gawn weld.
(0, 3) 1910 Ond cyn iti wneud dy ddatganiad, rhaid imi alw fy Nghynghorwyr i mewn.
(0, 3) 1911 Rhaid cael eu cytundeb a'u cydweithrediad nhw, beth bynnag yw dy gynllun.
 
(0, 3) 1915 Gynghorwyr, rwy i wedi eich galw yma i'ch cyflwyno i Dionysos.
(0, 3) 1916 Does dim angen imi amlhau geiriau ond dweud ei fod yma ar berwyl pwysig iawn.
(0, 3) 1917 Beth yw, wn i ddim fy hun eto.
(0, 3) 1918 Ond dichon y cawn i gyd wybod ganddo yn y man.
(0, 3) 1919 Ond cyn galw arno, mi hoffwn ddweud un peth; am reswm arbennig, mae o wedi dod â chydymaith anarferol — a dweud y lleiaf — gydag ef.
 
(0, 3) 1923 Rwy'i am argymell, Gynghorwyr, ein bod yn rhoi clust i Dionysos.
(0, 3) 1924 Ac ar ôl hynny, trafod ei ddatganiad yn ôl ein doethineb.
 
(0, 3) 1963 Wel, fe glywsoch gais Dionysos.
(0, 3) 1964 Dichon fod y cynllun yn swnio'n herfeiddiol a rhyfygus, ond eich dyletswydd chi yw ei drafod.
(0, 3) 1965 Y cynnig ydy: gwneud apêl i gewri'r dyddiau gynt fynd yn ôl i Athen i adfer ei hasgwrn-cefn a'i hunan-barch...
(0, 3) 1966 Dowch yn ddiymdroi, os gwelwch yn dda.
 
(0, 3) 1994 Gwahaniaeth barn yn amlwg.
(0, 3) 1995 A oes yna rywun am wneud cynnig pendant?
(0, 3) 1996 Yn ddiymdroi, os gwelwch yn dda.
 
(0, 3) 2007 Fe glywaist y cynnig, Dionysos.
(0, 3) 2008 Dyna'r cyfan a allwn ni ei wneud.
 
(0, 3) 2011 Wn i ddim beth fydd ateb yr arwyr.
(0, 3) 2012 Ond mae hyn yn sicr: fe fydd yn rhaid iti ei dderbyn a gweithredu arno.
(0, 3) 2013 Gobeithio dy fod yn deall hynny?
 
(0, 3) 2015 O'r gorau.
 
(0, 3) 2017 Gynghorwyr, prysured rhai ohonoch i'r Cyntedd Anrhydedd.
(0, 3) 2018 Rhowch eich cenadwri yn ôl cais Dionysos, i'r Gwrol Arwyr, a dowch yn ôl yn ddiymdroi gyda'r ateb a gewch chi ganddyn nhw.
 
(0, 3) 2020 Yn y cyfamser, awgrymaf fod y gweddill ohonom yn ymroi yn llwyr i'n dwfn-fyfyrdod arferol.
 
(0, 3) 2051 Croeso'n ôl, Gynghorwyr.
(0, 3) 2052 Rwy'n gweld ichi gael derbyniad gan y Gwroniaid.
(0, 3) 2053 Ac iddyn nhw wrando'n astud ar eich neges.
(0, 3) 2054 Beth oedd eu hadwaith?
(0, 3) 2055 Pa ateb a gawsoch ganddyn nhw?
 
(0, 3) 2087 Wel, dyna ni.
(0, 3) 2088 Gobeithio nad wyt ti'n teimlo'n rhy siomedig.
 
(0, 3) 2096 Ofni?
 
(0, 3) 2099 Be sy'n mynd i ddigwydd i'r truan yna?
 
(0, 3) 2101 Ond rwan?
 
(0, 3) 2105 Hanner munud, mi wyddost fod hynna'n amhosibl, Dionysos.
(0, 3) 2106 Rwy'i wedi ystumio'r Rheolau yn fwy na ddyliwn yn barod.
(0, 3) 2107 Ond fedra i ddim caniatâu i feidrolyn fel hwn fynd yn ôl i Fyd y Byw.
 
(0, 3) 2109 Sut fedri di sicrhau hynny?
 
(0, 3) 2111 Beth?
(0, 3) 2112 P'run?
 
(0, 3) 2116 Dionysos, rwyt ti'n gastiog i'w ryfeddu!
(0, 3) 2117 Ond trosedd cymharol ddibwys ydy hynna, dan yr amgylchiadau...
(0, 3) 2118 Ond mi fyddi di'n ei hebrwng rhan o'r ffordd?
 
(0, 3) 2121 Ond beth am y Stycs?
 
(0, 3) 2124 Dim ond amodol?
(0, 3) 2125 Dydy hynna ddim yn ddigon.
(0, 3) 2126 Tyrd, rhaid inni wneud trefniadau pendant rhag blaen.