Ciw-restr

Yr Orffiws

Llinellau gan Enoc (Cyfanswm: 46)

 
(1, 1) 422 Ahoy there, Clocsiwr!
 
(1, 1) 424 Ia debyg iawn.
(1, 1) 425 Pwy wyt ti'n feddwl ydw i, y landlybar?
(1, 1) 426 Napoleon?
 
(1, 1) 428 Paid â phoeni, mi ydw i'n dwad.
 
(1, 1) 430 O chdi sydd yna aie!
(1, 1) 431 Dic Betsi, Dic dau-wynebog, Dic ga'-i-fenthyg, Dic Slei, Dic Sebonllyd, Dic be-ga'-i-am-ddim.
 
(1, 1) 433 Paid ti ag agor dy bîg.
(1, 1) 434 Dwyt titha fawr gwell, Huw Clocsiwr, Huw ben-chwiban, Huw dim-uwch-baw-sowdwl, Huw dim-dima.
 
(1, 1) 442 Hanner munud y ffyliaid—ydach chi eisio tynnu fy nghôt i'n gria?
(1, 1) 443 Mi fedra i wneud yn iawn fy hun, diolch yn fawr.
 
(1, 1) 445 Ydw, debyg iawn.
(1, 1) 446 Wyt ti'n disgwyl i mi hongian o'r to?
(1, 1) 447 Ple mae'r ddynas yma?
 
(1, 1) 451 Da iawn.
(1, 1) 452 Mi fydd yna lai o glebran o gymaint a hynny.
(1, 1) 453 Be ydy'r mater arnat ti yn llygadrythu, y?
 
(1, 1) 455 Ers faint wyt ti'n poeni am fy iechyd i?
 
(1, 1) 460 Sobor.
 
(1, 1) 463 Paid â dweud celwydd.
(1, 1) 464 Rwyt ti wrth dy fodd.
(1, 1) 465 Ond dyna'r gwir i ti, mae fy iechyd i'n ddifrifol.
 
(1, 1) 467 Oes, ond wyddost ti pam?
 
(1, 1) 469 Am fod bwyd wedi colli ei nerth—dyna i ti pam.
(1, 1) 470 Does yna ddim lliw na blas ar gwsberis na riwbob na rwdins na letis na dim yn ddiweddar yma.
 
(1, 1) 472 Be arall sydd i'w ddisgwyl a phobol yn chware efo'r atoms felldith yna?
 
(1, 1) 474 Gwir bob gair i ti.
(1, 1) 475 Does gen ddyn ddim hawl i fusnesu efo'r petha yna.
(1, 1) 476 Mae o'n groes i natur.
 
(1, 1) 478 A dyna'r bara rydan ni'n fwyta heddiw.
(1, 1) 479 Llwch lli, a dim arall.
(1, 1) 480 A dydy hyn yn ddim ond dechra—mi fydd ein bwyd ni i gyd wedi ei wenwyno cyn bo hir.
 
(1, 1) 482 Ydw—cig ceffyl.
(1, 1) 483 A rhyw sothach mewn tynia.
(1, 1) 484 Roeddwn i'n agor un y diwrnod o'r blaen.
(1, 1) 485 A dyna'r drewi mwya cythreulig yn dwad allan ohono fo.
(1, 1) 486 Yn ddigon i godi gwallt dy ben di.
(1, 1) 487 Dim rhyfedd mod i ac eraill yn colli iechyd.
 
(1, 1) 489 Nag ydy, mi wn i hynny.
(1, 1) 490 Ond fydda i ddim yna'n hir.
(1, 1) 491 Rydw i'n mynd i fyw i'r "Sailor's Rest".
 
(1, 1) 494 Lle i hen begnos fel fi dreulio diwedd oes, Dic Betsi.
(1, 1) 495 Yn ddigon pell oddi wrth ladron fel chi'ch dau.
 
(1, 1) 498 Dim ond f'arian i wyt ti'n feddwl, Clocsiwr.
 
(1, 1) 501 Y?
(1, 1) 502 Be ydy hyn?