Ciw-restr

Panto

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 94)

(1, 0) 1 Golygfa: Theatr
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Amser: Y Presennol
(1, 0) 4 ~
(1, 0) 5 Pan ddaw'r gynulleidfa i mewn i'r theatr, gwelant fod y llwyfan wedi ei rannu'n ddwy.
(1, 0) 6 Y rhan ar y dde (o safbwynt y gynulleidfa) yw Ystafell Newid Robert Deiniol, ac fe wêl y rhai sylwgar ein gwron yn eistedd ar soffa ddigon blêr yn yfed wisgi.
(1, 0) 7 Mae hanner potel hanner llawn ar y bwrdd coluro a gwelwn ef yn y man yn cerdded yn sigledig o'r soffa i'r bwrdd i lenwi ei wydryn.
(1, 0) 8 Daw â'r botel, chwarter llawn erbyn hyn, gydag ef a'i rhoi wrth ei draed ger y soffa.
(1, 0) 9 Ar ddechrau'r ddrama, mae Ystafell Newid Robert Deiniol yn hawlio tua chwarter gofod y llwyfan, a'r tri chwarter arall yw'r rhan lle perfformir y "panto".
(1, 0) 10 ~
(1, 0) 11 Yn y rhan honno (lle mae'r llenni i lawr) gwelir pobl yn cerdded yn ôl ac ymlaen yn brysur yn paratoi ar gyfer dechrau'r perfformiad ymhen rhyw hanner awr.
(1, 0) 12 (Gellir eu gweld trwy ddefnyddio llenni meinwe─|gauze|.)
(1, 0) 13 Y dyn amlycaf yn y paratoadau hyn yw'r Dyn Llwyfan sydd wedi ei wisgo mewn ofarôl ddu a chrys gwyn.
(1, 0) 14 ~
(1, 0) 15 Gwelwn Robert Deiniol yn awr yn tollti gweddill yr hanner potel i'w wydryn ac yn cuddio'r botel wag y tu ôl i bentwr o offer llwyfan.
(1, 0) 16 Mae'n cerdded i ran arall o'r Ystafell Newid ac yn codi hanner potel arall sydd wedi ei chuddio.
(1, 0) 17 Rhydd gusan gariadus iddi a mynd â hi gydag ef at y soffa.
(1, 0) 18 Yn y man, bydd yn syrthio i gysgu gyda'i wydryn yn ei law, ond nid cyn gwneud ei farc ar yr hanner potel newydd yma.
(1, 0) 19 ~
(1, 0) 20 Bydd rhan o'r gynulleidfa wedi sylwi hefyd ar gymeriad mewn siwt 'dici-bo' yn y cyntedd.
(1, 0) 21 Dyn bach ffyslyd iawn o'r enw Maldwyn Evans yw hwn.
(1, 0) 22 Fo yw'r Goruchwyliwr Llwyfan a byddwn yn ei weld yn y man ar y llwyfan.
(1, 0) 23 Ar hyn o bryd, mae'n goruchwylio'r cyntedd ac yn croesawu'r gynulleidfa.
(1, 0) 24 Pwrpas hyn i gyd yw cael y gynulleidfa, yn y man, i sylweddoli bod y ddrama wedi dechrau y foment y daethant dros drothwy'r theatr, a'u bod, mewn gwirionedd, yn actio ynddi.
(1, 0) 25 ~
(1, 0) 26 Daw Sera Rees i mewn i'r llwyfan panto.
(1, 0) 27 Mae wedi ei gwisgo fel Dick Whittington─esgidiau uchel at y pen-glin; het a phluen ynddi ac ati.
(1, 0) 28 Gwelir hi'n rhoi gorchymyn i'r Dyn Llwyfan i symud dodrefnyn.
(1, 0) 29 Yn y man, daw Mici Tiwdor i'r llwyfan panto wedi ei wisgo fel cath.
(1, 0) 30 Mae'r ddau yn sgwrsio ac yn cyfeirio at ran arbennig o'r set─coeden bren neu rywbeth cyffelyb.
(1, 0) 31 ~
(1, 0) 32 Yn yr Ystafell Newid, erbyn hyn, mae Robert Deiniol yn cysgu'n drwm.
(1, 0) 33 Yn y cefndir, gwelwn Ferch y Gwisgoedd, Elin Wyn, yn ceisio agor drws yr ystafell.
(1, 0) 34 (Dim ond ffrâm yw'r drws gan fod angen i ni weld pawb a fydd y tu allan iddo.)
(1, 0) 35 Wedi methu mynd i mewn, prysura Elin Wyn yn awr i'r llwyfan panto a gwelwn hi'n cael gair â Dick Whittington (Sera Rees).
(1, 0) 36 Mae'n amlwg mewn pryder am fod Robert Deiniol wedi ei gloi ei hun i mewn ac yn gwrthod agor.
(1, 0) 37 Mae'r ddwy ferch yn awr yn croesi at ddrws ystafell Robert Deiniol ac yn ei sgrytian a'i guro.
(1, 0) 38 Ceir rhyw fath o ymateb gan R.D., ond dim mwy na throi ei din at y gynulleidfa.
(1, 0) 39 Dywed Sera Rees rywbeth wrth Elin Wyn ac mae honno'n mynd ar draws y llwyfan panto ac i lawr grisiau bach i'r awditoriwm.
(1, 0) 40 Mae'n cerdded yn frysiog i fyny llwybr canol y theatr at y cyntedd.
(1, 0) 41 ~
(1, 0) 42 Daw'r band i mewn a dechrau tiwnio, ond ni chlyw'r gynulleidfa 'run sŵn o gwbl.
(1, 0) 43 Yn wir, mae'n hollbwysig nad yw'r gynulleidfa yn y theatr hyd yma wedi clywed yr un sŵn na'r un gair o'r llwyfan─mae'r cyfan wedi bod fel meim iddynt.
(1, 0) 44 ~
(1, 0) 45 Yn y man, gwelwn Maldwyn Evans, y Goruchwyliwr Llwyfan, yn cerdded yn frysiog gydag Elin Wyn tuag at y llwyfan.
(1, 0) 46 Maent yn dringo'r grisiau ac yn cerdded at ddrws yr Ystafell Newid.
(1, 0) 47 Dilyna Sera Rees hwy unwaith eto.
(1, 0) 48 Gwelwn Maldwyn Evans yn awr yn curo a sgrytian y drws.
(1, 0) 49 Mae pawb yn amlwg yn bur bryderus am gyflwr Robert Deiniol.
(1, 0) 50 Mae Maldwyn yn awr yn cerdded yn frysiog i'r llwyfan panto ac yn rhoi arwydd i'r Dyn Llwyfan ei ddilyn.
(1, 0) 51 Gwna hwnnw hynny yn hollol beiriannol.
(1, 0) 52 Yn wir, ni ddangosir unrhyw emosiwn gan y cymeriad hwn trwy gydol y ddrama─dim ond ufuddhau i bob gorchymyn fel robot.
(1, 0) 53 Saif Maldwyn eto o flaen drws yr Ystafell Newid a dywed rywbeth wrth y Dyn Llwyfan.
(1, 0) 54 Gwelwn ef yn pwyntio at y drws yr un pryd.
(1, 0) 55 Rhydd y Dyn Llwyfan un gic anferth i'r drws sy'n ei agor â chlec a glywir drwy'r theatr.
(1, 0) 56 Ar yr un eiliad yn union, mae goleuadau'r awditoriwm yn diffodd; golau'r Ystafell Newid yn codi a'r band yn dechrau canu.
 
(1, 0) 61 Rhuthra Maldwyn, Sera ac Elin i mewn.
 
(1, 0) 66 Mae Elin yn mynd yn syth at y stand dillad a gafael mewn gwisg merch.
(1, 0) 67 Yn y panto, mam Dick yw Robert Deiniol.
 
(1, 0) 87 Mae'n troi'r meic y ffordd arall.
(1, 0) 88 Ar yr un pryd, mae Deiniol yn ceisio tynnu ei drowsus, ond yn cael cryn drafferth i gadw cydbwysedd.
(1, 0) 89 Mae Elin a Sera yn ceisio'i wisgo.
(1, 0) 90 Daw Mici Tiwdor, y gath, i mewn.
 
(1, 0) 182 Mae'r ddau'n chwerthin ac yna'n difrifoli.
 
(1, 0) 188 Cyn iddo allu ateb daw Elin Wyn i mewn gyda belt gwyrdd.
 
(1, 0) 190 Mae'n rhoi'r belt am ganol Deiniol.
(1, 0) 191 Daw Maldwyn Evans i mewn yn nerfau i gyd.
 
(1, 0) 253 Daw'r Cynorthwy-ydd llwyfan i mewn gyda myg a jygiad o goffi.
 
(1, 0) 258 Mae Maldwyn yn cymryd y jygiad coffi a'r myg a'u rhoi i Elin.
 
(1, 0) 286 Mae'n stompio allan a chroesi'r llwyfan panto.
(1, 0) 287 Gwelwn ef yn rhoi arwydd i'r band sydd, yr eiliad honno, yn cynyddu i ryw fath o ffanffer terfynol.
(1, 0) 288 Rhydd Maldwyn arwydd i'r tair dawnsferch ac y mae'r rheini'n cymryd eu lle.
(1, 0) 289 Mae'n rhoi un ciw arall ac fe gyfyd y llen ar y panto.
(1, 0) 290 Cynydda'r golau yn y rhan yma o'r llwyfan yr un pryd.
(1, 0) 291 Cawn y ddawns agoriadol yn awr.
(1, 0) 292 ~
(1, 0) 293 Tra bo'r ddawns agoriadol yn digwydd, gwelwn Elin Wyn yr un pryd yn ceisio cymell Deiniol i yfed ei goffi.
(1, 0) 294 Mae'n amlwg o'i ystumiau ei fod yn casáu ei flas.
 
(1, 0) 296 Mae Elin yn troi botwm y speaker sydd yng nghornel y Stafell Newid.
(1, 0) 297 Fel y gwna hyn, mae'r golau a'r gerddoriaeth yn pylu ar y llwyfan panto.
 
(1, 0) 309 Mae'n cerdded allan o'r ystafell i nôl siwgr.
(1, 0) 310 Cyn gynted ag yr â Elin Wyn o'r stafell, mae Deiniol yn tynnu hanner potel arall o wisgi o guddfan y tu ôl i lyfrau neu rywbeth cyffelyb.)
 
(1, 0) 313 Gwelwn Deiniol yn awr yn tollti joch dda o wisgi i'w fyg coffi a'r gweddill i'r jwg coffi.
(1, 0) 314 Cymer gegiad o'i fyg ac yn awr daw gwên fawr dros ei wyneb.
(1, 0) 315 Y foment hon, daw Elin i mewn.
 
(1, 0) 347 Mae'r ddawns yn dod i ben a daw Dic a'r Gath i'r llwyfan.
(1, 0) 348 Gwelwn Deiniol yn troi'r speaker i fyny.
 
(1, 0) 392 Mae hyn yn giw i'r band ddechrau ar yr intro i'r gân.
 
(1, 0) 398 Mae Dic yn rhoi mwythau i'r Gath yn ystod y gerddoriaeth rhwng y penillion.
 
(1, 0) 447 Yn ystod hyn i gyd, mae Dic yn cerdded o'r llwyfan yn benisel o drist gyda'r Gath yn ei ddilyn.
(1, 0) 448 Daw Dawnswyr yn ôl i'r llwyfan yn awr i ddawnsio'n dawel a gwneud ambell dric acrobatig.
 
(1, 0) 468 Mae'n pwysleisio bob gair.
(1, 0) 469 Mae saib hir o ddistawrwydd yn awr.
 
(1, 0) 517 Daw Maldwyn i mewn ac mae Deiniol yn troi ei gefn ato i sipian ei goffi.