Ciw-restr

Parc-Glas

Llinellau gan Jane (Cyfanswm: 404)

 
(1, 0) 275 Waw.
(1, 0) 276 Chi 'di neud jobyn fan hyn!
 
(1, 0) 278 Ie?
 
(1, 0) 282 Ma fe'n neis.
 
(1, 0) 284 A boudy odd e'n arfer bod!
(1, 0) 285 Dw i'n cofio do miwn 'ma pan o'n i'n fach... a ogle'r da a'r gwair, a'r cêc.
(1, 0) 286 Odd wenoliaid yn arfer nythu lan fan 'na.
(1, 0) 287 O, Duw,... {mae hi'n ddagreuol nawr} mae 'na jyst cymint o bethe...
(1, 0) 288 A ma'n nhw ma o hyd...
 
(1, 0) 290 Na, dw i'n iawn.
(1, 0) 291 Wfff!
(1, 0) 292 Ma'r llefydd ma'n jyst dod â pethe nôl i ti.
 
(1, 0) 294 A chi 'di bod ma drw'r amser a finne 'di mynd o 'ma.
 
(1, 0) 296 O 'nghariad bach i.
(1, 0) 297 Beth o'n bod arna i?
 
(1, 0) 302 Odd Angharad yn gweud.
(1, 0) 303 Neis.
 
(1, 0) 308 Pwy, Dat?
(1, 0) 309 Ti'n meddwl?
 
(1, 0) 311 Ma' golwg deidi arno fe.
 
(1, 0) 324 Ie.
(1, 0) 325 Dw i'n gweld.
 
(1, 0) 331 Shwt?
 
(1, 0) 333 Beth, Babs a -
 
(1, 0) 337 - Whare teg iddi -
 
(1, 0) 339 Beth ti'n feddwl, 'Sort of'?
 
(1, 0) 347 Ma' fe bach yn touchy am y peth, odi fe?
 
(1, 0) 349 Ddim 'i ferch e yw hi.
(1, 0) 350 Na'n un i, cweit, o ran hynny.
 
(1, 0) 352 Whare teg iddi hi.
(1, 0) 353 Goffodd hi wmla am 'i lle eriôd. {Saib.}
(1, 0) 354 ~
(1, 0) 355 Tair blwydd ôd odd hi, pan dda'th hi aton ni gynta'; ond ot ti'n gweld e bryd 'ny - odd hi'n benderfynol o gâl dy sylw di.
(1, 0) 356 Wel ffilodd yr hen Emyr â godde' pethe, a fuodd e 'm yn hir cyn 'i heglu 'ddi.
(1, 0) 357 'Ti odd eisie', medde fe wrtha i; a bant ag e.
(1, 0) 358 Odd rhyw fenyw 'dag e'n barod bryd 'ny dw i'n meddwl.
(1, 0) 359 So ddethon ni nôl fan hyn. {Saib.}
(1, 0) 360 ~
(1, 0) 361 Dw i'n cofio bod miwn 'ma 'da Babs, yn dangos y sheds iddi; a hithe'n gofyn, 'Ble ma buwch wedi mynd?
(1, 0) 362 Ble ma buwch wedi mynd?'.
(1, 0) 363 Wedes i bo' nhw'n 'di mynd ar 'i holidays.
(1, 0) 364 Odd hi'n gwbod mai dwli odd hynny; ond odd hi'n benderfynol - os mai ffarm odd e, odd rhaid ca'l da yn y boudy a moch yn twlce a defed a ieir a hwyaid, a'r cwbwl i gyd.
(1, 0) 365 Ac os on nhw wedi mynd ar 'u holidays, odd e'n bryd 'u câl nhw nôl, iddi hi ca'l whare ffarm. {Saib.}
(1, 0) 366 ~
(1, 0) 367 Odd hyn cyn i fi ga'l ti, ar ôl yr holl amser 'na o feddwl na allen i byth.
(1, 0) 368 Do.
 
(1, 0) 382 Mae'n edrych yn neis iawn 'da ti mewn fan hyn, cariad.
 
(1, 0) 386 Ddylsen i fynd miwn i'r tŷ; sa i 'di gweld y lle 'to.
 
(1, 0) 388 Na, paid.
(1, 0) 389 Dw i ddim yn meddwl -
 
(1, 0) 391 - Sdim hast, mae'n OK.
 
(1, 0) 396 - Na, na, Ger -
 
(1, 0) 400 - peidwch, ddim 'to. {Saib.}
(1, 0) 401 Sa i'n meddwl y galla i fynd mewn 'na 'to ta beth.
 
(1, 0) 422 Aros funud, Anji.
(1, 0) 423 Beth odd y cynnig 'ma odd 'da ti, 'de, Eilir?
 
(1, 0) 435 'Rhoswch funud.
(1, 0) 436 Dw i bia'r lle 'ma 'fyd.
(1, 0) 437 Eilir, drycha: diolch iti am y cynnig, ond mae'n rhy gynnar i fi feddwl am bethe fel hyn.
(1, 0) 438 Newydd gyrra'dd nôl wdw i, a ma ishie i fi ga'l 'y mhethe i'n hunan mewn trefen cyn bo fi'n dechre meddwl am stwff fel hyn.
 
(1, 0) 442 Odi fe?
(1, 0) 443 Be' ti'n weud?
(1, 0) 444 Be' ti'n feddwl?
 
(1, 0) 448 Dere 'mlân 'te, Eilir.
 
(1, 0) 451 Talu beth nôl?
 
(1, 0) 453 Talu beth, beth s'da ni i dalu'n ôl?
 
(1, 0) 455 Ôs dyled arnoch chi, 'de?
 
(1, 0) 457 Ŷch chi mewn dyled?
(1, 0) 458 Ger?
(1, 0) 459 Beth sy'n mynd 'mlân - wyt ti mewn dyled?
 
(1, 0) 471 Ody 'ddi'n ddrwg arnot ti, 'de?
 
(1, 0) 473 Shw' ma' dyled wedi mynd arnoch chi, 'de?
(1, 0) 474 Shwt all dyled fod wedi mynd ar y lle 'ma?
 
(1, 0) 476 Ie?
 
(1, 0) 483 O, Iysu bach, Ger -
 
(1, 0) 487 - Dw i'n deall 'ny -
 
(1, 0) 498 So, o fan 'ny dda'th yr arian i dalu am hwn? {sef y siop}
 
(1, 0) 500 Ôs arian yn dod miwn, 'de?
 
(1, 0) 528 Ma fe 'r hyd lle o hyd, ody fe?
 
(1, 0) 536 Mae'n iawn.
(1, 0) 537 Dethed.
(1, 0) 538 Chi'n ffrindie 'da'ch gilydd, ych chi?
 
(1, 0) 540 A bydd rhaid i fi weld e yn pen draw, on' bydd e?
 
(1, 0) 542 Ma fe'n gwbod 'mod i nôl, ody fe?
(1, 0) 543 Pete, Peter.
 
(1, 0) 547 Na ddeith.
(1, 0) 548 OK, de.
 
(1, 0) 550 Dw i'n gwbod, a dw i 'm yn bod yn deg ag e.
(1, 0) 551 Ond alla i ddim peido â meddwl: tase fe 'di bod â'i feddwl ar 'i waith, tase fe 'di gweld beth odd yn digwydd yn gynt, na fyse Bryn wedi... o, sdim iws meddwl nawr os e -
 
(1, 0) 553 Do, do, do, dw i'n siŵr do fe.
(1, 0) 554 A welodd ddim un ohonoch chi'r peth yn digwydd, chwaith.
(1, 0) 555 Odd e wedi mentro o'i ddwfnder, 'n un bach i!
(1, 0) 556 A erbyn iddyn nhw ga'l e mâs odd hi'n rhy hwyr.
 
(1, 0) 558 Do.
(1, 0) 559 Do, do.
(1, 0) 560 Fan hyn o'dd e!
(1, 0) 561 Fan hyn fuodd e! {Mae hi yn ei dagrau nawr.}
 
(1, 0) 581 Ma'n iawn bach, gad nhw fod lle ma' nhw am y tro.
 
(1, 0) 583 Wdw, cariad, sdim ishie nhw arna i am un sbel.
 
(1, 0) 585 Ond dw i 'di gadel 'y mag bach i yn y car.
(1, 0) 586 Cer i ôl hwnnw os ti moyn.
 
(1, 0) 599 Surprise?
 
(1, 0) 604 Hello Peter.
 
(1, 0) 608 Wyt.
(1, 0) 609 Gwd.
(1, 0) 610 Let me see you.
(1, 0) 611 Gad fi ddrychyd arnat ti.
 
(1, 0) 621 Beth wyt ti'n neud dyddie 'ma what do you do now?
 
(1, 0) 627 Ma dy wallt di'n dechre teneuo, Peter.
 
(1, 0) 633 Dere i'r tŷ 'da ni.
 
(1, 0) 635 Ie.
(1, 0) 636 Surprise.
 
(2, 0) 809 Elli di brynu peth miwn os ôs rhaid. {Saib fer.}
(2, 0) 810 'N gelli di?
 
(2, 0) 820 Dw i'n cofio. {Saib.}
 
(2, 0) 823 Naddo.
(2, 0) 824 I weud y gwir wrthot ti.
 
(2, 0) 831 Beth odd 'da ti, 'de?
 
(2, 0) 843 O.
(2, 0) 844 Wel, 'na fe te.
 
(2, 0) 850 Yn Parc yr Onnen?
 
(2, 0) 853 - un bren sy' ar dop yr Onnen.
 
(2, 0) 858 Os.
 
(2, 0) 867 O, siarad am y pethe ŷn ni.
 
(2, 0) 871 - Y Rhos -
 
(2, 0) 880 Sawl un o'r rhein wyt ti'n meddwl godi, 'te, Eilir?
 
(2, 0) 889 Neu'r coste.
 
(2, 0) 901 Bois, dw i'n credu bod chi'i gyd wedi gweud digon am un nosweth.
 
(2, 0) 906 Hwyl i ti Eilir.
 
(2, 0) 922 Elli di ddim bod ar ofyn y tywy' drw'r amser -
 
(2, 0) 931 Be' wyt ti Pete yn weud 'de?
 
(2, 0) 933 - Ti'n gwbod am y pethe 'ma, ndwyt ti, Pete?
 
(2, 0) 935 Be' wyt ti'n weud y dylen ni neud?
 
(2, 0) 938 - O Ger, paid â bod yn blentynnedd -
 
(2, 0) 944 It's just - it's 'cynhyrchu': producing.
(2, 0) 945 You said something else.
 
(2, 0) 950 Go on Pete.
(2, 0) 951 You were saying about farming.
 
(2, 0) 954 Yes, go on, Peter -
 
(2, 0) 956 - don't worry about him.
 
(2, 0) 975 Beth ddylen ni neud, 'te?
 
(2, 0) 990 Hmh.
 
(2, 0) 994 O ie, ie -
 
(2, 0) 996 - ie, ie, paid â becso -
 
(2, 0) 1003 It's lovely tonight, isn't it?
 
(2, 0) 1013 Glywes i rwbeth.
 
(2, 0) 1017 No, I don't think so.
 
(2, 0) 1019 Hmh.
 
(2, 0) 1022 Well i ni fynd, ife?
 
(2, 0) 1031 Weden i 'i fod e ar goll.
 
(2, 0) 1039 O, fe?
(2, 0) 1040 Jim, odd yn arfer -
 
(2, 0) 1047 Odd e'n arfer gweitho lan 'ma.
(2, 0) 1048 He used to help out up here, years ago.
(2, 0) 1049 Relief milker.
 
(2, 0) 1074 Helo.
 
(2, 0) 1077 - o, na, nage -
 
(2, 0) 1086 - o; OK, ie -
 
(2, 0) 1089 - cer 'di nôl at Peter, bach -
 
(2, 0) 1092 - ie, ie -
 
(3, 0) 1272 Digon o fwyd ar ôl.
 
(3, 0) 1274 Paid â becso, fe ddaw'r bois 'ma nôl rownd 'to.
(3, 0) 1275 Unwaith 'ma nhw wedi ifed 'u siâr.
 
(3, 0) 1278 Fe ddeith e.
 
(3, 0) 1280 Fe ddeith; ma' rhwbeth wedi cropo lan 'dag e, na i gyd.
 
(3, 0) 1282 Hm?
 
(3, 0) 1286 Sa i'n gwbod.
(3, 0) 1287 Falle a'th y meeting 'da'r banc mlân -
 
(3, 0) 1290 Wel, falle, na 'dy.
 
(3, 0) 1292 Gerallt a Eilir?
 
(3, 0) 1294 O.
(3, 0) 1295 Na, sa i' credu 'ny.
 
(3, 0) 1297 Fe 'na i e nawr.
(3, 0) 1298 Dere nawr, magu bwcïod yw rhwbeth fel hyn -
 
(3, 0) 1304 Be' ma fe 'di neud?
 
(3, 0) 1309 Goffes i ffono fe, pan o'dd 'na ddim sein o Gerallt.
(3, 0) 1310 Ddâth e â'r pethe 'ma {mae hi'n cyfeirio at y bwyd} draw jyst cyn saith.
 
(3, 0) 1312 Gâd e fod, Babs, newn ni fe wedyn! {ond mae hi wedi mynd. Saib.}
 
(3, 0) 1314 O, ti sy' na.
(3, 0) 1315 Pam wyt ti miwn fan hyn?
 
(3, 0) 1317 Ody.
(3, 0) 1318 Wel, ddeith hi nôl nawr...
 
(3, 0) 1323 - bydde fe'n well i ti beido -
 
(3, 0) 1325 Dyn ni 'm yn gwbod ar hyn o bryd.
(3, 0) 1326 Ma fe - dyw e ddim 'di bod yn ateb 'i ffôn.
 
(3, 0) 1328 Na 'dy, Peter, 'dyw hi ddim.
(3, 0) 1329 A ddylset ti 'mo'i phrofocio hi, chwaith.
 
(3, 0) 1331 Gynne fach: galw 'Mrs Lewis' arni 'ddi -
 
(3, 0) 1333 - mae'r holl beth yn ofid iddi.
 
(3, 0) 1335 O, gâd hi i fod, 'nei di?
(3, 0) 1336 Eu busnes nhw yw e. {Saib.}
(3, 0) 1337 Dw i 'm eishie iddi hi ga'l 'u siomi.
(3, 0) 1338 Ma hi 'di bod yn anlwcus.
 
(3, 0) 1340 O, dyw hwnna ddim yn wir, Peter.
 
(3, 0) 1345 Ody ddi, wir.
 
(3, 0) 1348 Hy!
 
(3, 0) 1350 A ych chi'ch dou yn teimlo fel 'na, ych chi?
 
(3, 0) 1352 Meddet ti.
 
(3, 0) 1354 Mae'n ddigon rhwydd i ti 'weud 'na nawr, yndyw hi?
(3, 0) 1355 Mutual respect, wir: 'sda ti'm unrhyw alwade arnat ti 'to.
(3, 0) 1356 Ti'n ifanc.
(3, 0) 1357 Beth wyt ti?
(3, 0) 1358 Twenty-five?
 
(3, 0) 1360 Iysu, mae'n bryd i ti neud rhwbeth â dy hunan.
(3, 0) 1361 Beth wyt ti'n neud?
(3, 0) 1362 Byw yn y lle carafáns 'na, mynd o un peth i'r llall, a, ti yn y coleg o hyd - sa i'n credu y gelli di fenu unrhyw beth wyt ti'n 'i neud!
(3, 0) 1363 Ond na fe, gwyn dy fyd di, so ti'n ddigon hen i wbod gwell.
 
(3, 0) 1365 O, gronda 'ma -
 
(3, 0) 1367 - 'sda ti 'm clem!
(3, 0) 1368 'Sda ti mo'r syniad cynta am bethe!
(3, 0) 1369 O, ti'n iawn fel wyt ti nawr, wyt; ond fydd pethe'n newid, a pan 'na nhw, 'sdim byd elli di neud amdanyn nhw!
(3, 0) 1370 A be' wyt ti'n mynd i neud wedyn?
(3, 0) 1371 Ti a dy mutual respect, pan s'da ti ddim dewis?
(3, 0) 1372 Fyddi di mor cŵl am bethe wedyn? {Nid yw PETER yn ateb.}
(3, 0) 1373 Ti'n gwbod, dy oedran di, o'n i'n byw lan yn Llunden, yn gweitho fflat owt, a pob un yn meddwl mod i'n neud jobyn eitha' da ohoni 'ddi.
(3, 0) 1374 Ond o'n i'n gwbod, bryd 'ny, fod 'na rwbeth ddim yn iawn.
(3, 0) 1375 A ffinjes i mâs beth odd e cyn o hir, 'fyd.
(3, 0) 1376 O'n i'n ffili ca'l plant.
(3, 0) 1377 O'n i'n treial a treial 'da Emyr, ond, na; no gwd.
(3, 0) 1378 Dim dewis.
(3, 0) 1379 'Tough luck,' medde rhywun, 'ti 'm yn ca'l nhw'.
(3, 0) 1380 So beth o'n i'n mynd i neud?
(3, 0) 1381 Ishte lawr, dewis a dethol?
(3, 0) 1382 Iysu nage, bwrw 'mlân, rhyw ffordd: jyst bwrw 'mlân.
(3, 0) 1383 Peido â dechre gadel i bethe fynd yn drech arna i. {Saib.}
(3, 0) 1384 A 'na pam nes i fynnu bod ni'n ca'l Babs i ddod aton ni, a mynnu neud i'r holl beth weitho.
(3, 0) 1385 Bod yn fam iawn iddi.
(3, 0) 1386 A 'madodd Emyr â fi - gwynt teg ar 'i ôl e.
(3, 0) 1387 A wedyn, o rywle, ges i Angharad!
(3, 0) 1388 O'n i'n siŵr na fysen i byth, byth yn ca'l 'y 'mhlant yn hunan, fyth.
(3, 0) 1389 A wedyn, jyst mâs o ddim byd, on i'n disgw'l.
(3, 0) 1390 Ar y 'mhen yn hunan, dim gŵr, roces fach 'da fi, un arall ar y ffordd.
(3, 0) 1391 Plan?
(3, 0) 1392 Dewis? {Saib.}
(3, 0) 1393 Ti'n gwbod, nes i drïal torri pob cyswllt allen â'i thad hi.
(3, 0) 1394 O'n i 'm ishie'i rhannu 'ddi, 'da neb.
(3, 0) 1395 Ond wedyn fe dda'th e nôl; a gallen i 'm gwadu.
(3, 0) 1396 O'n i'n 'i garu fe.
(3, 0) 1397 A 'rhosodd e da fi a wedyn gethon ni Bryn, a - o'n i'n gweud wrtha i 'nhunan, 'ma fe'r tro 'ma, 'ma pethe 'da fi nawr; 'ma beth 'dw i moyn, wastad wedi moyn, o'r diwedd ma fe 'ma.
(3, 0) 1398 Buodd e 'm dou fis cyn gadel am Auckland. {Saib.}
(3, 0) 1399 A mlân â fi 'to.
(3, 0) 1400 A fan hyn o'n i - draw fan 'na {mae hi'n pwyntio tuag at gornel yr ystafell wrth ddrws y gegin} -
(3, 0) 1401 whech mlyne wedyn, pan ethoch chi â Bryn, druan bach ag e, pan ethoch chi ag e lawr i'r trath i gyd y dwrnod 'ny {mae hi yn ei dagrau nawr}.
(3, 0) 1402 A weles i fe byth wedyn.
(3, 0) 1403 A na'r diwedd wedyn.
(3, 0) 1404 Allen i ddim mynd mlân un cam o fan 'ny.
(3, 0) 1405 O'n i ar goll, a, jyst eisie diflannu.
(3, 0) 1406 A, God, bennes i lan yn y carchar yn New Zealand! {Rhwng chwerthin a chrïo. Saib.}
(3, 0) 1407 A nawr dw i nôl, a ma deg mlyne arall 'di mynd heibo a - 'ma lle ddechreuodd popeth!
(3, 0) 1408 A beth s'da fi i ddangos am y cwbl nawr?
(3, 0) 1409 Dim, jyst...
(3, 0) 1410 O Iysu bach, y boen dw i 'di hala ar y ddwy fach arall 'na.
(3, 0) 1411 Dw i 'di bod yn fam yffyrnol iddyn nhw - shwt ma nhw'n madde i fi, sa i'n gwbod! {Saib.}
(3, 0) 1412 Ond 'ma lle ddechreuodd e i gyd... {Saib.}
(3, 0) 1413 Elli di ddim pigo dy ffordd drwy bethe am byth, ti'n gweld, Pete: ma bywyd yn mynd i ddigwydd i ti!
(3, 0) 1414 A well ti fod yn barod pan 'neith e, achos ma fe'n brofiad ar cythrel.
 
(3, 0) 1418 On i'n meddwl falle mai Gerallt fydde fe.
(3, 0) 1419 Neu Eilir... {Saib. Mae hi'n edrych ar PETER}
(3, 0) 1420 O God, Grant o'dd e 'to - tad Angharad; a Bryn.
(3, 0) 1421 Yn tecsto, o Seland Newydd.
(3, 0) 1422 Ma fe'n erfyn arna i, bob dydd nawr; i fynd nôl ato fe.
(3, 0) 1423 Ma fe'n sâl.
(3, 0) 1424 A dw i'n 'i garu fe, o hyd.
(3, 0) 1425 Alla i ddim peido, alla i?
 
(3, 0) 1462 Gadwch hi fod!
(3, 0) 1463 Barbara!
(3, 0) 1464 Babs!
 
(3, 0) 1510 Dyw'r cars arall ddim yn gelled mynd mâs
 
(3, 0) 1515 Sa i'n gwbod, cariad.
 
(3, 0) 1518 Do.
 
(3, 0) 1521 Dw i ddim yn gwbod yn iawn!
 
(3, 0) 1524 Ma fe'n dod nawr.
(3, 0) 1525 Â i i ga'l gweld nawr.
 
(3, 0) 1543 Beth wedyn?
(3, 0) 1544 Dere, dwed wrtha i -
 
(3, 0) 1549 Ma hi'n gwbod fod ti 'di bod, Ger -
 
(3, 0) 1572 'Da pwy o'dd e 'di siarad?
 
(3, 0) 1580 Beth?
 
(3, 0) 1584 Mab Craig Simmonds?
 
(3, 0) 1591 Paid â gweiddi, Babs. {Saib.}
 
(3, 0) 1600 Eilir.
 
(3, 0) 1611 Aros, Babs.
(3, 0) 1612 Cer 'mlân, Eilir.
 
(3, 0) 1619 - Babs, aros funud, nei di -
 
(3, 0) 1632 Babs, Babs -
 
(3, 0) 1651 Byddwch dawel.
(3, 0) 1652 Eilir; benna beth odd 'da ti i weud.
 
(3, 0) 1669 Beth?
 
(3, 0) 1671 Ti a'r bachan - Darren -
 
(4, 0) 1830 O't ti'n gwbod bod e 'na?
 
(4, 0) 1834 Beth o't ti'n mynd i neud 'te?
(4, 0) 1835 Gadel e 'na?
 
(4, 0) 1837 O Babs, be' sy'n bod 'na ti?
(4, 0) 1838 Ishe i ni agor hwn cyn bo ni'n mynd!
 
(4, 0) 1840 Diawl, ôs: ni sy' bia fe!
(4, 0) 1841 So ni'n gadel hwn ar 'i ôl!
 
(4, 0) 1845 O, cym on, be' yw'r ots sy'!
 
(4, 0) 1852 O dere Babs, aros.
 
(4, 0) 1855 Barbara...
 
(4, 0) 1858 Pfff.
 
(4, 0) 1863 Dere 'te, Anj; ti odd moyn e gynta'.
 
(4, 0) 1866 So ni'n gwbod!
 
(4, 0) 1871 Wel?
 
(4, 0) 1874 Dere â bach i fi 'de.
 
(4, 0) 1876 Mmmm.
 
(4, 0) 1880 Ie, Pete bach, go on -
 
(4, 0) 1888 It has.
 
(4, 0) 1892 O.
(4, 0) 1893 Helo; on i 'm yn -
 
(4, 0) 1895 - disgwyl dy weld ti heddi.
 
(4, 0) 1898 O.
(4, 0) 1899 OK.
(4, 0) 1900 Whare teg i ti 'fyd.
 
(4, 0) 1902 Do.
 
(4, 0) 1904 Ha.
(4, 0) 1905 Ie, odyn.
 
(4, 0) 1909 Ger, paid nawr -
 
(4, 0) 1912 Na, arhosa di fan 'yn -
 
(4, 0) 1914 Mi a i -
 
(4, 0) 1977 Ie, wel.
(4, 0) 1978 On ni'n jyst yn gweud gwbei wrth y lle a gweud y gwir. {Saib.}
 
(4, 0) 1980 Na, na, mae'n iawn -
 
(4, 0) 1985 Odyn.
(4, 0) 1986 Dw i'n hedfan bore 'fory nawr.
 
(4, 0) 1988 Overnight ar bwys Heathrow, a wedyn...
(4, 0) 1989 Lando dydd Iou.
(4, 0) 1990 Ti'n colli dwrnod cyfan yn yr awyr.
 
(4, 0) 1992 Na.
(4, 0) 1993 Dyw e 'm yn ddigon da.
(4, 0) 1994 So fe'n ca'l dreifo.
 
(4, 0) 1997 Mae'n iawn.
(4, 0) 1998 'Ma beth dw i moyn.
 
(4, 0) 2000 Allen i 'm fod wedi dod i ben â 'i onibai bo ti 'di -
 
(4, 0) 2002 - ddylsen i fod yn talu nôl i ti -
 
(4, 0) 2004 - ma fe'n lot o arian.
(4, 0) 2005 Fyse Dat yn mynd off i ben tase fe'n gwbod bo ni'n -
 
(4, 0) 2011 Falle nag o's e.
(4, 0) 2012 Ond dyw hi 'm cweit mor rhwydd â hynny chwaith, ody 'ddi? {Saib. Chwerthinad fach.}
(4, 0) 2013 Iysu Eilir, ti 'di dod yn bell o ga'l lifft ar gefen y beic 'da fi lan ffor' 'yn -
 
(4, 0) 2015 Wdw; o ti 'di cwmpo a ca'l y black eye ryfedda' -
 
(4, 0) 2017 - a fytest ti lond lle o fisgits 'da ni -
 
(4, 0) 2019 - do; a gafel rownd 'y nghanol i'n ôl' ffast ar y ffordd nôl -
 
(4, 0) 2021 Siŵr bo' ti'r diawl bach.
 
(4, 0) 2023 Os gobeth i ti a Barbara neud rwbeth â'ch gily' 'to?
 
(4, 0) 2025 Na'r gofid mwya' sy' 'da fi o fynd o 'ma.
 
(4, 0) 2029 O, be-ti'n-galw, mab Falmai.
 
(4, 0) 2031 Pethe 'da Ger iddo fe, glei.
(4, 0) 2032 Finne'n meddwl bod y tacsi 'di dod yn gynnar.
 
(4, 0) 2034 O.
 
(4, 0) 2037 Ti 'di dod i bigo'r bocsys 'ma lan?
 
(4, 0) 2047 Beth yw e 'da ti?
 
(4, 0) 2054 Wir?
(4, 0) 2055 Sa i'n deall y pethe 'ma.
 
(4, 0) 2059 Lwcus!
 
(4, 0) 2062 Fydd neb 'ma wedyn, Gordon; ŷn ni'n mynd.
 
(4, 0) 2064 Ni'n gadel.
 
(4, 0) 2070 Ma hi'n benu 'da ni heddi, ody.
 
(4, 0) 2072 Yn tŷ o'dd hi.
 
(4, 0) 2074 Nawr?
 
(4, 0) 2076 Go on, 'de.
(4, 0) 2077 Ond ma tacsi'n myn â ni cyn bo hir!
 
(4, 0) 2084 Gnethen fel ma' nhw moyn.
(4, 0) 2085 Dyw e 'm byd i neud 'da fi.
 
(4, 0) 2088 Drycha nawr, Eilir, son nhw'n gwbod.
(4, 0) 2089 Bo fi 'm yn dod nôl.
 
(4, 0) 2091 So paid â gweud dim.
 
(4, 0) 2093 Allen i byth â meddwl dod nôl a bod y lle 'ma ddim 'da ni.
 
(4, 0) 2097 Y bydda i nôl 'mhen cwpwl o fishodd.
(4, 0) 2098 Sdim lot o ots 'da Barbara, ma' hi'n mynd off ta beth.
(4, 0) 2099 Ond ma' Anji; a Ger, sa i'n gwbod be' neith e'.
 
(4, 0) 2101 Ma fe 'di ca'l ryw fflat yn dre', a ma' job 'dag e ar yr Industrial Estate.
(4, 0) 2102 Pethe bach s'ag e fan hyn a fan draw, dw i'n credu, a dim un o'nyn nhw'n talu.
(4, 0) 2103 Dyw e 'm lico gweud.
(4, 0) 2104 Ti'n gwbod shw' ma fe.
 
(4, 0) 2109 Na, 'rhosa di.
(4, 0) 2110 Dw i'n mynd i ga'l gweld be' sy'n digwydd.
 
(4, 0) 2113 Ger, der' 'da fi; dere 'da fi nawr!
 
(4, 0) 2159 O, Babs, 'y mach i...
 
(4, 0) 2162 - ie, ie -
 
(4, 0) 2164 - 'na ti -
 
(4, 0) 2170 Mae'n iawn.
(4, 0) 2171 Fydd hi'n iawn nawr.
 
(4, 0) 2176 Bydd e 'ma nawr.
 
(4, 0) 2180 Ti'n siŵr?
 
(4, 0) 2190 I thought you were waiting for - um -
 
(4, 0) 2193 Oh; olreit de.
 
(4, 0) 2197 Oh, Maria, Mr Lewis was looking for you.
 
(4, 0) 2208 Ta-ra, bach!
 
(4, 0) 2212 Gad nhw fod, Ger bach, gei di 'm byd amdanyn nhw.
 
(4, 0) 2214 Ody fe?
 
(4, 0) 2217 'Nghofia nhw.
(4, 0) 2218 Geith e wared o'nyn nhw.
 
(4, 0) 2222 Reit 'de.
 
(4, 0) 2227 Ody popeth 'da ti?
 
(4, 0) 2230 Nage, Gerallt.
(4, 0) 2231 Ody popeth 'da ti?
 
(4, 0) 2233 O, ie.
(4, 0) 2234 Sdim ishie i chi fynd â'r rheina i gyd ych hunen!
 
(4, 0) 2238 Ma'n nhw 'di mynd â'r cwbl.
 
(4, 0) 2240 Co ni 'de.
 
(4, 0) 2242 Ma'r allwedd 'da ti.
 
(4, 0) 2244 Alla i weld e a Mam wrthi o hyd miwn fan hyn o hyd.
 
(4, 0) 2247 O Ger - {mae'n hi'n crïo}
 
(4, 0) 2258 Ie.