Ciw-restr

Rhywun Wrth y Drws

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 165)

(1, 0) 1 Stafell weithio wedi'i dodrefnu'n blaen yn nhŷ Isaac Ryan Morris.
(1, 0) 2 Drysau dwbwl yn arwain i gyntedd yn y mur chwith.
(1, 0) 3 Ar y dde, drws i stafelloedd mewnol y tŷ.
(1, 0) 4 Yn y mur cefn drws agored i'r swyddfa gynllunio.
(1, 0) 5 Ar y chwith, ym mlaen y llwyfan, desg gyda llyfrau, papurau ac offer sgrifennu a chyfrifiadur.
(1, 0) 6 Yng nghefn y llwyfan, lle tân.
(1, 0) 7 Yn y gornel dde, soffa gyda bwrdd a chadeiriau.
(1, 0) 8 Blaen y llwyfan, i'r dde, bwrdd bach, cadair siglo a chadair freichiau.
(1, 0) 9 ~
(1, 0) 10 Y tu mewn i'r swyddfa, Owen Meredith a'i fab Elwyn yn brysur gyda chynlluniau a mesuriadau.
(1, 0) 11 Gwyneth Parry yn eistedd wrth ddesg yn y stafell weithio yn teipio ar brosesydd geiriau.
(1, 0) 12 Owen Meredith - hen ŵr tenau gyda gwallt gwyn a barf wen.
(1, 0) 13 Mae 'n gwisgo sbectol.
(1, 0) 14 Ei ddillad yn dwt ond wedi gwisgo.
(1, 0) 15 Elwyn Meredith, yn ei dri degau, yn drwsiadus; tuedda i wargrymu.
(1, 0) 16 Gwyneth Parry, merch ifanc yn ei hugeiniau.
(1, 0) 17 Mae'r tri yn gweithio'n ddistaw am ychydig.
(1, 0) 18 ~
(1, 0) 19 Yn nhŷ Isaac Ryan Morris y digwydd y ddrama.
(1, 0) 20 Mae hi'n hwyr brynhawn.
(1, 0) 21 Owen Meredith yn codi'n sydyn o'i waith a golwg bryderus arno.
(1, 0) 22 Daw at y drws yn anadlu'n drwm a chydag anhawster.
 
(1, 0) 45 Â'r tri yn ôl at eu gwaith.
(1, 0) 46 Distawrwydd am ennyd.
(1, 0) 47 Daw Isaac Ryan Morris i mewn drwy ddrws y cyntedd.
(1, 0) 48 Mae'n ddyn yn ei anterth, yn iach ac egnïol gyda gwallt cyrliog cwta, mwstash tywyll ac aeliau trymion tywyll.
(1, 0) 49 Het trilbi am ei ben a dau neu dri ffolder dan ei fraich.
 
(1, 0) 54 Tyn hi ei sbectol.
(1, 0) 55 Morris yn mynd ar draws y stafell, yn taflu ei het ar gadair, yn rhoi'r ffolderi ar y bwrdd ger y soffa a dod at y ddesg.
(1, 0) 56 Gwyneth yn mynd ymlaen â'i theipio heb oedi ond mae'n edrych yn nerfus ac anniddig.
 
(1, 0) 121 Â Gwyneth yn anfoddog i swyddfa'r cynllunwyr gan daflu golwg bryderus a thaer ar Morris a chau'r drws.
 
(1, 0) 259 Meredith ac Elwyn yn mynd allan drwy ddrws y cyntedd a Gwyneth at y ddesg.
(1, 0) 260 Saif Morris a'i ben i lawr i'r dde wrth y gadair freichiau.
 
(1, 0) 326 Cynorthwya hi i godi; cerdda hi'n sigledig at y ddesg.
(1, 0) 327 Daw Mrs Gladys Morris i mewn drwy'r drws ar y chwith.
(1, 0) 328 Y mae'n edrych yn denau a chystuddiol gan ofìd, ond yn dangos atgof ô brydferthwch; mân gyrls modrwyog, melyn golau.
(1, 0) 329 Mae hi'n gwisgo dillad i awgrymu ei chyflwr digalon... yn chwaethus.
(1, 0) 330 Mae hi'n siarad braidd yn araf ac mewn llais dwys.
 
(1, 0) 407 Brysia Gwyneth i swyddfa'r cynllunwyr a chwilio'n bryderus mewn drôr.
(1, 0) 408 Caiff hyd i ffolder a daw ag ef allan.
 
(1, 0) 420 Daw Mrs Morris a Dr Hughes i mewn drwy'r drws ar y dde.
(1, 0) 421 Hen fachgen tew mewn tipyn o oed ac wyneb crwn rhadlon ganddo, wedi'i eillio'n lân; gwallt golau tenau ganddo ac y mae'n gwisgo sbectol.
 
(1, 0) 462 Dengys y gadair siglo i'r meddyg ac eistedd yn y gadair freichiau ei hun.
(1, 0) 463 Mae'n edrych yn dreiddgar arno.
 
(1, 0) 603 Cerdda'n hamddenol ar draws y stafell; daw yn ôl, ac aros wrth y bwrdd.
(1, 0) 604 Mae'n edrych ar y meddyg gyda gwên slei.
 
(1, 0) 706 Daw Helen O 'Reilly i mewn drwy ddrws y cyntedd.
(1, 0) 707 Geneth o daldra canolig, yn denau ac ystwyth a lliw haul arni.
(1, 0) 708 Mae'n gwisgo dillad dringo yn cynnwys trowsus bach neu jeans.
(1, 0) 709 Hwyrach y byddai gwisg uchaf o liw coch yn taro'n dda ac y mae ganddi ffon ddringo a rucksack.
(1, 0) 710 Mae hi'n mynd ar ei hunion at Morris a'i llygaid yn ddisglair gan lawenydd.
 
(1, 0) 769 Helen yn rhoi ei ffon wrth y Ile tan, yn tynnu ei rucksack a'i roi ar y soffa.
(1, 0) 770 Cynigia Dr Hughes ei helpu.
(1, 0) 771 Saif Morris a syllu arni.
(1, 0) 772 Mae hi'n mynd ato.
 
(1, 0) 795 Mae 'n mynd allan drwy ddrws y cyntedd.
(1, 0) 796 Morris yn agor y drws ar y dde a siarad i mewn i'r stafell nesaf.
 
(1, 0) 823 Helen yn mynd o gwmpas y stafell yn hamddenol a'i dwylo tu ôl gan edrych ar wahanol bethau.
(1, 0) 824 Saif Morris wrth y bwrdd, yntau â'i ddwylo tu ôl, yn ei dilyn a'i lygaid.)
 
(1, 0) 1025 Yn troi a mynd yn araf at y lle tan b'le mae hi'n sefyll yn llonydd hollol, ei hwyneb wedi'i droi oddi wrtho, ei dwylo'r tu ôl.
(1, 0) 1026 Saib fer.
 
(1, 0) 1029 Helen yn ddistaw heb symud.
 
(1, 0) 1039 Helen yn aros yn llonydd.
 
(1, 0) 1045 Helen yn ddistaw o hyd.
(1, 0) 1046 Moris
 
(1, 0) 1048 O, o'r gora', yn enw'r annwyl.
(1, 0) 1049 Mi ddar'u mi ynte', mae'n siŵr.
 
(1, 0) 1070 Helen yn eistedd yn y gdair freichiau.
(1, 0) 1071 Morris yn sefyll a phwyso yn erbyn y gadair siglo ac yn edrych arni'n daer.
 
(1, 0) 1260 Daw Dr Hughes i mewn drwy ddrws y cyntedd.
 
(1, 0) 1269 Daw Mrs Morris i mewn o'r dde.
 
(1, 0) 1286 Mrs Morris yn gafael ym mraich Dr Hughes a mynd allan gydag ef i'r dde.
(1, 0) 1287 Yn y cyfamser mae Helen wedi bod yn casglu ei hoffer dringo.
 
(2, 0) 1303 YR AIL ACT
(2, 0) 1304 ~
(2, 0) 1305 Lolfa fechan wedi'i dodrefnu'n hyfryd yn nhŷ Morris.
(2, 0) 1306 Yn y cefn, drws gwydr yn arwain allan i'r feranda a'r ardd.
(2, 0) 1307 Mae ffenest fae ar hytraws ar draws y gongl dde ac y mae byrddau blodau yno.
(2, 0) 1308 Ar hytraws i'r gongl chwith mae mur ac ynddo ddrws bychan wedi'i bapuro yr un fath â'r mur.
(2, 0) 1309 Drws cyffredin ar bob ochor.
(2, 0) 1310 Ar y dde, yny ffrynt mae bwrdd wal gyda drych mawr.
(2, 0) 1311 Digonedd o flodau a phlanhigion.
(2, 0) 1312 Ym mlaen y llwyfan, chwith, soffa, bwrdd a chadeiriau.
(2, 0) 1313 Ymhellach yn ôl, cwpwrdd llyfrau.
(2, 0) 1314 O flaen y ffenest fae, bwrdd bychan a chadeiriau.
(2, 0) 1315 Mae hi'n gynnar bore drannoeth.
(2, 0) 1316 ~
(2, 0) 1317 Mae Morris yn eistedd wrth y bwrdd bach gyda ffolder Elwyn Meredith yn agored o'i flaen.
(2, 0) 1318 Mae'n troi'r dyluniadau drosodd ac yn archwilio rhai ohonynt yn ofalus.
(2, 0) 1319 Mae Mrs Gladys Morris yn cerdded o gwmpas yn ddistaw gyda chan dyfrio yn gofalu am ei blodau.
(2, 0) 1320 Mae hi'n gwisgo dillad tebyg i rai'r noson cynt ac y mae ei het, ei chôt uchaf a'i hymbarel ar gadair ger y drych.
(2, 0) 1321 Heb iddi hi ei weld mae Isaac Morris yn ei dilyn â'i lygaid yn awr ac yn y man.
(2, 0) 1322 Nid yw'r un ohonynt yn siarad.
(2, 0) 1323 Daw Gwyneth Parry i mewn yn ddistaw ar y chwith.
 
(2, 0) 1339 Gwyneth yn mynd allan i'r chwith.
(2, 0) 1340 Deil Morris i eistedd a mynd drwy'r dyluniadau.
 
(2, 0) 1481 Yn cerdded yn ôl ac ymlaen a Mrs Morris yn ei ddilyn yn bryderus â'i llygaid.
(2, 0) 1482 O'r diwedd mae'n mynd ati.
(2, 0) 1483 Wedi dofi, dywaid:
 
(2, 0) 1505 Daw Helen O 'Reilly i mewn.
(2, 0) 1506 Mae wedi newid dipyn ar ei dillad 1 rywbeth hwylus yn y tŷ yn y bore ond gan gofio nad oes ganddi lawer o ddillad efo hi.
 
(2, 0) 1710 Helen yn eistedd ar gornel y soffa.
(2, 0) 1711 Daw Morris â chadair yn nes.
 
(2, 0) 1899 Agorir y drws bychan yn y gornel chwith yn ofalus gan Elwyn Meredith.
(2, 0) 1900 Helen yn mynd ar draws y stafell.
 
(2, 0) 1951 Yn mynd allan yn gwrtais drwy ddrws y gornel.
(2, 0) 1952 Helen yn mynd ar draws ac eistedd ar gadair ger y drych.
 
(2, 0) 2304 Yn taflu ei olwg tua'r drws ar y chwith, yna mynd ymlaen i sgrifennu.
(2, 0) 2305 Yr un funud daw Mrs Morris i mewn â pharseli yn ei dwylo.
 
(2, 0) 2447 Helen yn edrych yn syth o'i blaen a golwg bell yn ei llygaid.
(2, 0) 2448 Yr unig eiriau a glywir yw:
 
(3, 0) 2450 Y DRYDEDD ACT
(3, 0) 2451 ~
(3, 0) 2452 Feranda fawr lydan yn rhan o dŷ Morris.
(3, 0) 2453 Gwelir darn o'r tŷ a'r drws allan yn arwain i'r feranda.
(3, 0) 2454 Mae canllaw ar hyd y feranda i'r dde.
(3, 0) 2455 Yn y cefn, o ben draw'r feranda mae grisiau yn mynd i'r ardd islaw.
(3, 0) 2456 Mae canghennau hen goed tal yn bargodi dros y feranda tua'r tŷ.
(3, 0) 2457 Ymhell i'r dde, rhwng y coed, ceir cipolwg ar ddarn isa'r tŷ newydd gyda sgaffald o amgylch hynny a welir o'r tŵr.
(3, 0) 2458 Yn y cefndir gwelir terfyn yr ardd, hen ffens goed.
(3, 0) 2459 Tu allan i'r ffens, stryd a'i thai isel yn mynd â'u pen iddynt.
(3, 0) 2460 ~
(3, 0) 2461 Yr ail ddiwrnod.
(3, 0) 2462 Awyr fìn nos a'r cymylau dan olau haul.
(3, 0) 2463 Ar y feranda mae sêt ardd ar wal y tŷ ac o'i blaen fwrdd hir.
(3, 0) 2464 Yr ochor arall i'r bwrdd mae cadair freichiau a stolion.
(3, 0) 2465 Dodrefn cansen sydd yno.
(3, 0) 2466 ~
(3, 0) 2467 Mrs Morris yn gorffwyso ar ei heistedd yn y gadair freichiau a siôl fawr wen dros ei hysgwyddau ac yn syllu tua'r dde.
(3, 0) 2468 Toc daw Helen O 'Reilly i fyny'r grisiau o'r ardd.
(3, 0) 2469 Mae hi'n gwisgo ei dillad mynydda ond mae ganddi dusw bach o flodau cyffredin ar ei bron.
(3, 0) 2470 Mae hi'n gwisgo trowsus cynnes.
 
(3, 0) 2633 Y ddau yn mynd i'r tŷ.
(3, 0) 2634 Yn union wedyn daw Morris i fyny'r grisiau o'r ardd.
(3, 0) 2635 Golwg ddifrif ar wyneb Helen.
 
(3, 0) 2658 Helen yn symud yn araf ar draws y feranda gyda'i dwylo tu ôl.
(3, 0) 2659 Yn aros wrth y ganllaw ac edrych allan tua'r ardd.
 
(3, 0) 2722 Helen yn cerdded o gwmpas y bwrdd ac yna'n eistedd ar y sêt, ei phenelinoedd ar y bwrdd a'i phen rhwng ei dwylo.
(3, 0) 2723 Yn eistedd ac edrych arno am ysbaid.
 
(3, 0) 2759 Helen yn eistedd i fyny ar y sêt yn llawn edmygedd yr hen hoywder yn ei llygaid eto.
 
(3, 0) 2826 Helen yn edrych arno gan wenu.
(3, 0) 2827 Mae'n ysgwyd ei phen, gwneud ceg blentynnaidd a siarad fel wrth blentyn.
 
(3, 0) 2854 Daw Elwyn Meredith allan o'r tŷ.
(3, 0) 2855 Mae'n cario torch fawr werdd gyda blodau a rhubanau sidan arni.
 
(3, 0) 2994 Daw Mrs Morris o'r tŷ i'r feranda.
 
(3, 0) 3027 Dr Hughes yn rhoi ei ben i mewn drwy'r drws.
 
(3, 0) 3059 Mrs Morris a Dr Hughes yn mynd i'r tŷ.
(3, 0) 3060 Helen yn aros ar y feranda.
(3, 0) 3061 Mr Morris yn dod i fyny'r grisiau o'r ardd.
 
(3, 0) 3230 Trwy'r coed fe welir, yn aneglur, bod tyrfa wedi ymgasglu yn y stryd.
(3, 0) 3231 Clywir sain band pres yn y pellter y tu ôl i'r tŷ newydd.
(3, 0) 3232 Daw Mrs Morris gyda choler ffwr am ei gwddw, Dr Hughes gyda siôl wen, Mrs Morris ar ei fraich, ac amryw o ferched, allan ar y feranda.
(3, 0) 3233 Yr un pryd daw Elwyn Meredith i fyny o'r ardd.
 
(3, 0) 3266 Mrs Morris a Dr Hughes yn mynd at y merched sy'n sefyll wrth y grisiau yn edrych allan dros yr ardd.
(3, 0) 3267 Helen yn sefyll wrth y ganllaw.
(3, 0) 3268 Elwyn yn mynd ati hi.
 
(3, 0) 3373 Y merched ar y feranda yn chwifio eu hancesi.
(3, 0) 3374 Y dyrfa yn y stryd yn ymuno yn y gymeradwyaeth.
(3, 0) 3375 Hwre! hwre!
(3, 0) 3376 Distawrwydd sydyn a'r dyrfa yn rhoi gwaedd o ddychryn.
(3, 0) 3377 Yn aneglur, rhwng y coed, gwelir corff a phlanciau ac ati yn dymchwel.
 
(3, 0) 3381 Mrs Morris yn gwegian, yn syrthio'n ôl mewn llewyg ac yn cael ei dal gan y merched yng nghanol ocheneidiau a chythrwfl.
(3, 0) 3382 Mae'r dyrfa'n torri dros y ffens ac i'r ardd.
(3, 0) 3383 Dr Hughes yn rhuthro yno yr un pryd.
(3, 0) 3384 Saib fer.