Ciw-restr

Rybeca

Llinellau gan Betsi (Cyfanswm: 42)

 
(1, 1) 9 Wel, fe ddethot yn ol, Jac bach.
 
(1, 1) 13 Be sy te 'nawr, Jac?
(1, 1) 14 Rwyt ti'n ol yn gynnar, machgen i.
(1, 1) 15 Dyw hi'n awr ddim ond tri o'r gloch.
 
(1, 1) 17 Beth sy o le 'te, fachgen?
(1, 1) 18 Ma dy wep di cyd â milltir.
 
(1, 1) 20 Gneud beth, Jac?
(1, 1) 21 Dere mas â hi, fachgen, yn lle rhyw swddanu fel hyn.
(1, 1) 22 Gwed tho i beth sy'n bod.
 
(1, 1) 35 Pwy, Jac?
(1, 1) 36 Ti?
 
(1, 1) 38 Pwylla di 'nawr dipyn bach, y machgen annwl i.
(1, 1) 39 (Yn mynd at y pentan.).
(1, 1) 40 A beth sy arna inne fel hyn yn whalu pen rheswm â ti?
(1, 1) 41 Ma ishe bwyd arnot ti'n dost, wy'n gwbod, a ma 'ma dipyn o gino neis wedi gadw i ti.
(1, 1) 42 Dere mlân, y ngwas i, fan hyn, a fe gei amser i ddod i dy le gam bwyll.
 
(1, 1) 55 Bit dy fwyd, Jac bach; fe ddaw amser gwell ar y byd, heb i ti golli dy anal.
 
(1, 1) 58 Mi weles i amser gwâth o lŵer, Jac, pan ôn i'n dechre 'myd.
(1, 1) 59 Dwyt ti ddim yn gwbod dy eni, machgen bach i, wrth fel y gweles iddi.
(1, 1) 60 Beth se ti'n byw yn amser rhyfel Boni, a'r blynydde ar ol y batl o Waterlw!
(1, 1) 61 Fe welset fara dipyn yn gwrsach, a thipyn llai o enllyn, ddala i ti.
(1, 1) 62 Ma'r byd yn gwella, Jac, cred di fi, ond i fod e'n hala tipyn o amser.
(1, 1) 63 Ond dyma dy dad!
 
(1, 1) 80 On i'n meddwl ma dyna wetse dy dad.
(1, 1) 81 Eglwyswr yw e o hyd, ti'n gweld, er i fod e'n dod 'da fi i Fethania oddar priodson ni.
 
(1, 1) 105 Cato ni'n brudd!
(1, 1) 106 Pwy ddwad 'na tho chi, Dafydd?
 
(1, 1) 108 Syndod na fusen ni wedi clwed rhw air.
(1, 1) 109 Shwd buws hi, medde William?
 
(1, 1) 114 Odd ishe gwaith ar yr hen glymhercyn.
 
(1, 1) 120 Druan bach!
(1, 1) 121 Ma 'ngwâd i'n twymo peth, Dafydd, wrth glwed pethe fel hyn.
 
(1, 1) 125 Fe fydde'n rhwyddach gwaith iddo fe arafu, Dafydd, se fe'n fwy o fab idd i dad.
 
(1, 1) 129 Dôs dim ishe i chi fynd mor bell â'r Red Lion i weld hynny, cofiwch.
(1, 1) 130 Dewch yn ol ar ych union, Dafydd, yn lle aros hyd |stop tap|, nos ar ol nos, a gweyd yn ych diod wrth bawb fod y byd yn mynd ar i wâth.
 
(1, 1) 133 Cewn, fe gewn weld.
 
(1, 1) 135 Jac bach, dw i ddim am gwnnu dy lewish di, ond w inne'n gweld nadi pethe ddim fel y dyle nhw fod.
(1, 1) 136 Dyw e ddim yn ddigon i ni dalu'r holl arian 'ma i'r gâts, heb yn bod ni'n gorffod helpu wedyn i wella'r hewlydd.
(1, 1) 137 Ma'r pwyse i gyd yn dod ar yr esgwdd wan, fel iti'n gweyd.
(1, 1) 138 Dw i ddim yn gwbod shwd ma gwella pethe, ond w inne'n gweld fod yr hen fyd 'ma dipyn mawr o'i le,─Druan o dilu Cwm Cile!
 
(1, 1) 146 Falle gnewn ni'n wir; ond ta beth sydd i fod, da ti, Jac bach, paid |ti| â bod yn y ffrynt, y machgen i, er mwyn dy fam.
(1, 1) 147 Wy'n dy adel di 'nawr, i edrych ar ol y morwmon 'na a'r godro.