Ciw-restr

Rybeca

Llinellau gan Dafydd (Cyfanswm: 36)

 
(1, 1) 65 Fe ddethot te, Jac.
(1, 1) 66 O wel!
(1, 1) 67 Dyma hen ddiwarnod pwdwr yw hi.
(1, 1) 68 Ma hi'n fwll iawn.
(1, 1) 69 Stim shwd beth a gneud dim heddy.
(1, 1) 70 Diolch bod y cnia miwn, er lleied odd e.
(1, 1) 71 Fe fydd yn anodd byw, y flwyddyn nesa 'ma, a ma prishe popeth yn cwnnu, ond prishe'r ffarmwr.
(1, 1) 72 Wi ddim yn gwbod beth ddaw ohonon ni cyn diwedd.
 
(1, 1) 75 Wyt ti'n gweyd y gwir, y machgen i.
 
(1, 1) 78 Paid ti â gweyd dim, Jac, yn erbyn y dreth eglws.
(1, 1) 79 W i'n folon talu honno, ta beth.
 
(1, 1) 89 Ma pŵer o wir yn y peth wyt ti'n weyd, Jac, ond fe fydd yn well i ni blygu i'r drefen, wedi'r cyfan, er i ni fynd yn glotach.
 
(1, 1) 92 Wel, y machgen bach i, w i wedi gweld tipyn yn fwy na ti, cyn dod i'r fan hyn.
(1, 1) 93 Shwd ma'r hen weddel hefyd─"Yr hen a ŵyr, a'r ifanc a dybia."
(1, 1) 94 Weles i ddim byd yn well, Jac, na'i goddeddi.
(1, 1) 95 Fe gei dithe weld, rwbryd, taw fi sy'n iawn.
(1, 1) 96 Mynd o wâth i wâth ma'r hen fyd 'ma, a nei di, mwy na finne, fe fymryn gwell, er i ni whalu a whalu, a chodi'n cloch hyd Glyngia.
 
(1, 1) 99 Paid â chodlan pethe felna.
(1, 1) 100 Chlwest ti ddim am fechgyn bach Cwm Cile?
(1, 1) 101 Ma nhw'n perthyn rhwbeth i dy fam.
(1, 1) 102 Dyma nhw wedi hanner u lladd 'da'r Capten Napier 'na o Bertŵe a'i gwnstablied.
(1, 1) 103 Ma hanner y tilu yn y ddalfa am u hamddiffyn nhw.
 
(1, 1) 107 William Bryndu odd yn dwad drw'r Bont echdo, a |fe| ddwad tho i heddy yn y Red Lion.
 
(1, 1) 110 Ych chi'n cofio am wr y Llety, Llangyfelach.
(1, 1) 111 Fe'i gwelsoch e 'da fi yn ffair Llanedi, llynedd.
(1, 1) 112 Wel, 'dôdd dim llŵer o fola rinto fe a gwŷr Cwm Cile; a ma'n debig i fod e wedi mynd at y Capten Napier a'r Inspector Rees, ag wedi sgothi am Henry Morgan.
(1, 1) 113 Nhw, medde fe, ôdd benna yn torri Gât y Gopa Fach a Gât y Bolgod.
 
(1, 1) 115 Falle hynny, ond ddaw dim da o ddrwg, Betsi fach, byth.
(1, 1) 116 A fe wedws William Bryndu tho i fod no le yn Cwm Cile.
(1, 1) 117 Fe hanner laddwd y Capten Napier.
 
(1, 1) 119 A ma un o'r bechgyn─John, wy'n meddwl─wedi sithu, ac yn y jâil yn Bertŵe, yn ddiargol byw.
 
(1, 1) 124 Cymer di bethe gam bwyll, y machgen i, ne falle bydd hi'n wâth arnot ti yn y pen draw nag ar John Cwm Cile.
 
(1, 1) 126 Falle'n wir, Betsi.
(1, 1) 127 Ond dyma fi'n mynd mas i weld shwd ma'r bechgyn 'na'n dwad yn u blân.
(1, 1) 128 Helpu'r hewl i fi ma nhw heddy.
 
(1, 1) 131 Fe gewn weld, Betsi.