Ciw-restr

Sdimbydineud

Llinellau gan Croesawydd (Cyfanswm: 27)

 
(0, 5) 218 Da iawn.
(0, 5) 219 Pawb yma?
(0, 5) 220 ~
(0, 5) 221 Reit.
(0, 5) 222 Dechreuwn ni.
(0, 5) 223 ~
(0, 5) 224 Croeso i chi gyd yma, i'ch cyfarfod cyntaf yma yn Siambr y Cyngor.
(0, 5) 225 A'r peth cyntaf sydd raid i mi wneud yw eich llongyfarch.
(0, 5) 226 Llongyfarchiadau i chi un ac oll ar gael eich hethol i fod yn gynghorwyr.
(0, 5) 227 Cynghorwyr newydd sir Ceredigion.
(0, 5) 228 Ac os ga'i ddweud, dwi'n credu mai chi yw'r cynulliad... {yn chwilio am y gair mwyaf priodol}...y...harddaf o gynghorwyr newydd dwi wedi cael y fraint o'u croesawu yma erioed.
 
(0, 5) 230 And I mean that most sincerely, folks!
(0, 5) 231 Ie'n wir.
(0, 5) 232 ~
(0, 5) 233 Nawrte, gan gofio gymaint o fraint yw bod yn gynghorydd, dwi'n siwr nad oes angen i fi
(0, 5) 234 ddweud wrthoch chi mor bwysig yw eich gwaith.
(0, 5) 235 A'n gwaith ni – swyddogion proffesiynol y cyngor – yw eich galluogi chi – i wneud popeth gallwn ni – i'ch helpu i sefyll lan dros eich hetholwyr.
(0, 5) 236 I gynrychioli buddiannau eich hetholaethau.
(0, 5) 237 A gwneud hynny i'r eithaf.
(0, 5) 238 ~
(0, 5) 239 Felly te, i'n helpu ni i'ch helpu chi, mae 'na ryw gwpwl o bethe bach sydd angen i chi ddysgu.
(0, 5) 240 A'r peth mwyaf pwysig i gyd yw: siwt ma pleidleisio.
 
(0, 5) 242 Na – nid 'pa ffordd ma pleidleisio.
(0, 5) 243 Eich dewis rhydd chi – a chi yn unig – yw hynny, wrth gwrs.
(0, 5) 244 Na, yr hyn mae 'nghyfaill i yn y fan hon yn mynd i ddysgu i chi nawr yw siwt ma pleidleisio.
(0, 5) 245 Siwt ma bwrw eich pleidlais gan ddefnyddio'r botymau o'ch blaen.
(0, 5) 246 Gyfaill...