Ciw-restr

Sdimbydineud

Llinellau gan Sylwebydd (Cyfanswm: 45)

 
(0, 8) 376 Helo.
(0, 8) 377 A chroeso i'r sesiwn Dosbarth Meistr arbennig hon.
(0, 8) 378 Mae'r ford, y bwrdd a'r gadair yn barod ar gyfer ymddangosiad y Meistr ei hun.
(0, 8) 379 O – a dyma hi'n dod...
(0, 8) 380 Arweinydd y cyngor.
(0, 8) 381 Cyngor Sir Iawn.
(0, 8) 382 ~
(0, 8) 383 Ac wrth iddi gymryd ei lle wrth y bwrdd, dyma gyfle i fi gyflwyno rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â'r gêm i rai o'r rheolau mwyaf sylfaenol.
(0, 8) 384 ~
(0, 8) 385 Fel y'ch chi'n gweld, mae'r bwrdd yn ymdebygu i fwrdd gwyddbwyll neu ddrafftiau.
(0, 8) 386 Ond yn y fan honno, fwy neu lai, mae'r tebygrwydd yn gorffen.
(0, 8) 387 Mae'r gêm cabiné – cabinet i'w roi yn ei ffurf Gymraeg – yn gêm go wahanol.
(0, 8) 388 ~
(0, 8) 389 Yn y lle cyntaf, fel y gwelwch chi heno, gêm un chwaraewr yw hi.
(0, 8) 390 Ac yn ail – fel y gwelwch chi wrth i'r darnau gael eu gosod, nid du a gwyn yw'r unig liwiau.
(0, 8) 391 Eich pleidleisiau chi, gatre, wrth gwrs sydd wedi penderfynu faint o weision sydd gan y Chwaraewyr i'w gwthio o le i le.
(0, 8) 392 Fel y gwelwch chi heno, ry' chi wedi rhoi i'r Meistr-Chwaraewr mwy o weision gwyrdd nag unrhyw liw arall.
(0, 8) 393 Ond, am fod yma hefyd un gwas coch, twr o rai melyn ac ambell i un gwyn hefyd, does gan y Meistr-Chwaraewr ddim mwyafrif o'i phlaid.
(0, 8) 394 Mae hi'n mynd i orfod chwarae gêm glyfar iawn fan hyn er mwyn ffurfio cabinet a fydd yn ei helpu i gadw rheolaeth ar fwrdd y chwarae.
(0, 8) 395 ~
(0, 8) 396 Felly, wrth i'r cloc ar gyfer y sesiwn cyntaf hwn gael ei osod yn ei le...
 
(0, 8) 398 Mae hi'n canolbwyntio'n galed...
(0, 8) 399 Drychwch ar yr holl ganolbwyntio yna...
(0, 8) 400 A...
 
(0, 8) 402 Odi.
(0, 8) 403 Mae hi wedi dechrau.
(0, 8) 404 Beth fydd ei symudiad cyntaf, tybed?
(0, 8) 405 Odi hi'n mynd i drio cael gwared ar rai o'r gweision melyn hynny sy'n sefyll yn ffordd ei gweision gwyrdd?
 
(0, 8) 407 W!
(0, 8) 408 Symudiad annisgwyl yn y fan honno.
(0, 8) 409 Beth sydd yn ei meddwl, tybed?
 
(0, 8) 411 Aha!
 
(0, 8) 413 W!
(0, 8) 414 Da iawn.
(0, 8) 415 Symudiad da.
(0, 8) 416 Fel ry' chi'n gweld, trwy'r symudiad yna mae'r meistr wedi troi gwas coch – yr unig was coch – yn was gwyrdd.
(0, 8) 417 Coch yw e yn y gwaelod o hyd.
(0, 8) 418 Ond gwyrdd yw e i bob golwg.
(0, 8) 419 Symudiad craff iawn.
 
(0, 8) 423 O – Ie.
(0, 8) 424 Fel o'n i'n disgwyl, wedi gweld ei symudiad cyntaf, mae hi nawr wedi cyflawni'r un tric a dau was gwyn – dau chwaraewr annibynnol.
(0, 8) 425 Un ohonyn nhw, rhyngddo chi a fi, a allai fod wedi peri tipyn bach o drafferth i'r Meistr.
(0, 8) 426 Ond ma' hi wedi'i fachu a – ie...
 
(0, 8) 428 ... fel y'ch chi'n gweld, eu troi o fod yn chwaraewyr annibynnol i fod yn weision gwyrdd.
(0, 8) 429 I weld beth yw oblygiadau hynny, draw â ni at y ein sylwebydd, R Ben Igol.