Ciw-restr

Serch Yw'r Doctor

Llinellau gan Clitandre (Cyfanswm: 30)

 
(1, 0) 41 Mac gwin a serch yn unfryd
(1, 0) 42 a charu'n ifanc hyfryd
(1, 0) 43 yn hoen cynhaea.
 
(1, 0) 47 I serch
(1, 0) 48 y trefnodd natur fab a merch,
(1, 0) 49 a rhoi'r winwydden
(1, 0) 50 i Noa lawen
(1, 0) 51 i iro'i awen
(1, 0) 52 'rôl clawstroffobia'r arch
(1, 0) 53 a'r ddaear iddo i ddawnsio
(1, 0) 54 i anghofio'r dŵr di-barch.
 
(1, 0) 63 Fel cusan haul ar donnen
(1, 0) 64 dy gusan dithau, feinwen,
(1, 0) 65 i'm calon nwyfus.
 
(1, 0) 69 I serch
(1, 0) 70 y trefnodd natur fab a merch.
(1, 0) 71 Ond wele dlodi
(1, 0) 72 fel gaea'n codi
(1, 0) 73 a sydyn odi
(1, 0) 74 i ddifodi heulwen ha,─
(1, 0) 75 dy dad, ni ad briodi
(1, 0) 76 gan fy mod i heb bres na da.
 
(1, 0) 102 Fe waharddodd imi fod yma.
 
(1, 0) 104 Mi dd'wedais wrtho fod gen'i hen ewyrth cefnog iawn.
(1, 0) 105 Myfi yw ei unig etifedd.
 
(1, 0) 107 Ond ar hyn o bryd, medd f'ewyrth byddai marw'n anghyfleus.
 
(1, 0) 141 Syr, ni ddywed'soch na chawn i ddawnsio gyda hi.
 
(1, 0) 143 Nid oeddwn yn pwrpasu.
 
(1, 0) 154 Petai ganddo fo ddwy, pla ar y plwy,
(1, 0) 155 ni ellir cenedlaetholi dwy.