Ciw-restr

Ei Seren Tan Gwmwl

Llinellau gan Jac (Cyfanswm: 168)

 
(1, 0) 425 Duwcs mawr, Rolant Huw, 'rois i fraw ichi, deudwch?
 
(1, 0) 428 Pam?
(1, 0) 429 'D oes yma neb i mewn heblaw chi.
(1, 0) 430 Mi fum i'n gwylio'r tŷ 'ma ers meityn am gyfle i lithro i mewn.
(1, 0) 431 A phan weles i Mrs. Huw...
 
(1, 0) 433 Ie, gorfod gadael Llundain ar |short notice|, fel pe tae.
(1, 0) 434 Ond mi ges i'r blaen ar y tacle, Rolant Huw!
 
(1, 0) 436 Bras-gamu allan o'r tŷ drwy ddrws y bac fel cr'adur o'i go' ulw las, heb ddim ond côt ucha' a'r pecyn 'ma.
 
(1, 0) 438 Ie.
(1, 0) 439 Cymryd f'amser, wrth gwrs, a thrafeilio |strictly incognito|, fel y brenin a'r byddigions 'ma...
 
(1, 0) 441 'Neno'r dyn, Rolant Huw, be' ydi rhyw d'wllwch fel hyn?
 
(1, 0) 444 Dyna welliant!
 
(1, 0) 446 'R argod fawr, ydech chi wedi dychryn, deudwch?
 
(1, 0) 449 Pam, yn duwcs?
(1, 0) 450 'D oes dim angen gofidio, Rolant Huw.
(1, 0) 451 'R ydw i'n dechre mwynhau crwydro fel rhyw dramp o le i le.
(1, 0) 452 'Styrio tipyn ar yr hen gorffyn 'ma ar ôl byw yn ddyn |respectable| yn Llundain!
 
(1, 0) 455 O wel, rhyw greadur aflonydd 'fum i erioed wyddoch.
(1, 0) 456 Dyna pam 'r ydw i'n dal yn hen lanc, efallai.
 
(1, 0) 460 Ie.
(1, 0) 461 Y Llywodraeth a minne'n methu cyd-weld ynghylch cynnwys y llyfr.
(1, 0) 462 A 'd oes dim syndod!
(1, 0) 463 Mi ddeudis i bethe reit gas amdanyn' nhw.
 
(1, 0) 465 Ond gwrandewch!
(1, 0) 466 Meddwl na feder yr un wan jac o'r cnafon ddarllen na deall gair o'r |Seren|.
(1, 0) 467 Dim un!
(1, 0) 468 Mae'n rhaid fod rhyw Ddic-Siôn-Dafydd wedi prepian arna' i.
 
(1, 0) 471 Wel, 'ddarfu imi ddim aros yn Llundain i ddadlau f'achos.
(1, 0) 472 A dyma fi bellach yn ddigon dig'wilydd i ofyn am loches.
(1, 0) 473 Noswaith o leia'.
 
(1, 0) 477 Na, fel arall yn hollol!
(1, 0) 478 'Wyddwn i ddim o'r blaen 'mod i mor boblogaidd yng Nghymru 'ma.
 
(1, 0) 481 Ydi.
(1, 0) 482 Gwneud ffys dychrynllyd ohono'i lle bynnag 'r o'wn i'n dangos fy wyneb.
(1, 0) 483 Digon o fwyd hefyd...
 
(1, 0) 485 ... a llawer ohonyn' nhw'n hanner lwgu, y cre'duried.
 
(1, 0) 489 O?
(1, 0) 490 A phwy ydi hwnnw, felly?
 
(1, 0) 493 Naturiol iawn, wir!
(1, 0) 494 Sut greadur ydi hwnnw?
(1, 0) 495 Yr hen deip, mi'wn.
 
(1, 0) 502 Dyna'r teip... i'r blewyn!
 
(1, 0) 505 Ofni?
(1, 0) 506 'D oes yr un person plwy dan haul nad ydw i'n deall sut i'w drin.
(1, 0) 507 Ydech chi'n cofio hwnnw yng Ngherrig-y-Drudion ers talwm?
(1, 0) 508 'Des i ddim i'w afael |o| beth bynnag.
(1, 0) 509 Druan ohono!
 
(1, 0) 511 Person dd'udsoch chi, Rolant Huw?
(1, 0) 512 Mi ro' i berson iddyn' nhw!
 
(1, 0) 530 Sut yr ydech chi, Miss Foster?
 
(1, 0) 533 Ie siŵr.
(1, 0) 534 Mr. Williams.
(1, 0) 535 Yntê, Rolant Huw?
 
(1, 0) 543 Mynd, ddywed'soch chi, Miss Foster, a chwithau newydd gyrraedd?
(1, 0) 544 Dim o'r fath beth!
(1, 0) 545 'R ydw i'n synnu atoch, Rolant Huw.
(1, 0) 546 Nid fel hyn y mae ymddwyn at |young ladies| yr ardal, yn siŵr i chi.
(1, 0) 547 Swil?
(1, 0) 548 A chwithe'n ŵr priod?
 
(1, 0) 551 Hen lanc?
(1, 0) 552 Wel... ie.
(1, 0) 553 Ond 'd ydw i ddim mor hen â hynny, 'chwaith, nag ydw, Rolant Huw?...
 
(1, 0) 557 Janet?
(1, 0) 558 Enw swynol dros ben.
(1, 0) 559 Mi fedrwn i nyddu pwt o englyn am "Janet"...
 
(1, 0) 561 Rhyw dalcen slip hwyrach.
(1, 0) 562 Ond cofiwch, pe cawn i destun teilwng i'm symbylu...
 
(1, 0) 573 Ie, mi synnech pa mor sydyn, Miss Foster.
(1, 0) 574 A dod yma ar garlam gwyllt.
 
(1, 0) 577 Go dda!
(1, 0) 578 Dyna daro'r hoel ar ei phen!
(1, 0) 579 |Flying visit|!
 
(1, 0) 582 Wel ie, fe allai fod yn waeth arnaf, coeliwch fi.
 
(1, 0) 586 Eithaf cwestiwn.
(1, 0) 587 Mi fum innau'n ei ofyn hefyd lawer tro, onido Rolant Huw?
 
(1, 0) 590 O?
(1, 0) 591 A phwy ydi'r creadur hwnnw, tybed?
 
(1, 0) 599 O do, coeliwch fi!
(1, 0) 600 Gryn dipyn!
 
(1, 0) 602 O do... lawer gwaith.
 
(1, 0) 605 |Polish|?
 
(1, 0) 607 Y... y... anwybodus?
 
(1, 0) 609 Ie'n wir, chwarae teg i'r creadur!
 
(1, 0) 612 Da iawn.
(1, 0) 613 Mi allaf finnau ddweud cymaint â hynny.
 
(1, 0) 615 O, yn wir?
 
(1, 0) 618 Wel ydi, efallai.
(1, 0) 619 Ond ma'r cnafon yn haeddu pob gair, Miss Foster.
(1, 0) 620 Mae'n hen bryd i rywun ymosod ar y tacle!
 
(1, 0) 622 Pam?
 
(1, 0) 625 O wel, fe ŵyr Jac sut i edrych ar ei ôl ei hun, wyddoch.
 
(1, 0) 629 Wel ie, yntê?
(1, 0) 630 Yn enwedig os ydi o yn y cyffinie yma.
(1, 0) 631 Wyddoch chi be', Miss Foster, ma' Rolant Huw yn dweud fod person y plwy' yma yn ddyn caled gynddeiriog, heb ronyn o ras.
 
(1, 0) 634 Ydi.
(1, 0) 635 Efallai eich bod yn ei 'nabod yn well na mi.
 
(1, 0) 637 'Sgerbwd o ddyn ydi o, yn ôl Rolant Huw...
 
(1, 0) 649 O peidiwch â gadael i'r cradur hwnnw boeni gormod arnoch, Miss Foster.
 
(1, 0) 653 Gadael?
 
(1, 0) 669 Jac Glan-y-...?
 
(1, 0) 671 'R oeddech chi'n gwybod, drwy'r amser?
 
(1, 0) 683 Ond Miss Foster, pam yr ydych...
 
(1, 0) 704 Merch y person!
 
(1, 0) 708 Biti?
(1, 0) 709 Mae'n llawer mwy na hynny; pe bai chi ond yn gwybod.
 
(1, 0) 715 Yn goblyn o glyfar, Rolant Huw.
 
(1, 0) 719 "Janet" ddywed'soch chi oedd ei henw hi, yntê?
 
(1, 0) 722 Janet!
(1, 0) 723 ~
(1, 0) 724 "Nid adwaen, iawn yw dwedyd,
(1, 0) 725 Weithian ei bath yn y byd."
 
(1, 0) 730 Efallai fy mod i, Rolant Huw... yn sâl.
 
(1, 0) 735 Rolant Huw, 'rhaid imi ffoi ar unwaith!
 
(1, 0) 737 'D oes dim aros i fod!
 
(1, 0) 739 Na.
(1, 0) 740 Mae pethau'n waeth nag a feddyliwch...
 
(1, 0) 743 Histeria gwallgof drwy'r wlad yn erbyn pawb sy'n sôn am heddwch... neu gondemnio rhyfel.
(1, 0) 744 Tom Paine... mi glywsoch am hwnnw?
 
(1, 0) 747 Bwgan mawr y Llywodraeth!
(1, 0) 748 Mae arnyn' nhw ei ofn.
(1, 0) 749 Llosgi ei lun... hyrddio pawb i garchar sy'n darllen neu werthu ei lyfrau!
(1, 0) 750 Sbiwyr ar bob cornel stryd yn gwrando ar bobl yn siarad... |Reign of Terror|!
(1, 0) 751 Nid yn Ffrainc, ond yn y wlad hon!
(1, 0) 752 Ie, yng Nghymru!
 
(1, 0) 754 Y fi ydi Tom Paine Cymru!
(1, 0) 755 A ma' nhw ar fy ôl!
(1, 0) 756 'D oes dim dinas barhaus bellach i awdur |Seren tan Gwmwl|.
 
(1, 0) 758 Nac ydw'!
(1, 0) 759 A chofiwch hyn... cyn bo hir bydd carchar ac erlid yn aros pawb sy'n darllen neu werthu'r |Seren|, heb sôn am roi lloches i'r awdur!
(1, 0) 760 Na,mae hi ar ben...
 
(1, 0) 773 Wel, ie siŵr.
 
(1, 0) 783 Deudwch y gwir, da chi.
(1, 0) 784 Wedi gorfod dianc o Lunden ydw i, Mrs. Huw.
 
(1, 0) 801 Na, rhaid symud.
(1, 0) 802 Lle mae fy nghôt i, deudwch?
(1, 0) 803 A'r pac?
(1, 0) 804 'Chydig iawn o |luggage| sydd gan rhyw dramp fel fi, wyddoch!
 
(1, 0) 806 'D oes gen' i ddim ond diolch...
 
(1, 0) 811 Rolant Huw, 'r ydw i'n adnabod y sŵn curo yna yn rhy dda!
 
(1, 0) 816 A ma' nhw wedi cyrraedd i unwaith eto?
(1, 0) 817 'D ydw i ddim yn aros am y tacle!
(1, 0) 818 Drws bac amdani, fel arfer!
 
(1, 0) 830 Milishia?
(1, 0) 831 Wel, wel.
(1, 0) 832 Hen ffrindie!
 
(1, 0) 835 Wel, Rolant Huw, agorwch y drws... led y pen!
 
(1, 0) 845 Ie, yn duwcs... pam?
 
(1, 0) 879 Ac o flaen yr efengyl!
 
(1, 0) 888 Mae'n hollol ddi-euog, Mr. Foster!
(1, 0) 889 Byddai ei gosbi yn gam dybryd...
 
(1, 0) 906 A pha frenin?
 
(1, 0) 924 Gadewch lonydd iddo.
(1, 0) 925 Gwneud ei ddyletswydd oedd y bachgen...
 
(1, 0) 984 'D oes dim rhaid i chwi wneud hynny, Miss Foster.
 
(1, 0) 986 Dowch, syr, galwch ar Capten Rogers.
 
(1, 0) 995 Ni allaf ganiatâu hyn, Miss Foster.
 
(1, 0) 1019 Nid oes dewis i mi, druan!
 
(1, 0) 1031 Diolch, syr.
(1, 0) 1032 Byddaf yn siŵr o lynu wrthynt.
 
(1, 0) 1039 Janet... a gaf fi eich galw felly?
 
(1, 0) 1041 A oedd raid i chwi wneuthur hyn?
 
(1, 0) 1044 Jac Glan-y-Gors?
 
(1, 0) 1047 Janet, dowch gyda mi, i wynebu'r dyfodol law yn llaw!
(1, 0) 1048 'R ydych chwi'n perthyn i rengoedd Rhyddid... yno mae'ch lle...
 
(1, 0) 1050 Na, nid oes gennyf hawl bellach i ofyn am hyn... y telerau!
 
(1, 0) 1055 Gallwch, Janet.
 
(1, 0) 1059 Ie.
 
(1, 0) 1071 Ond heno, Janet, y mae fy Seren i... dan gwmwl...