Ciw-restr

Ei Seren Tan Gwmwl

Llinellau gan Sara (Cyfanswm: 105)

 
(1, 0) 6 Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod?
(1, 0) 7 Wyt ti wedi colli dy ben, dywed?
 
(1, 0) 12 Pa lyfr, 'neno'r dyn?
 
(1, 0) 14 O, yr hen Jac Glan-y-Gors 'na!
(1, 0) 15 'R wyt ti wedi meddwi'n lân ar y cr'adur.
 
(1, 0) 18 Doniol?
(1, 0) 19 Sych iawn 'r oeddwn i'n ei weld o.
(1, 0) 20 Lladd ar y byddigions a deud y drefn am yr offeiriaid a'r Eglwys.
 
(1, 0) 22 A brolio pobol Ffrainc am dorri pen y brenin a'i roi mewn basged.
 
(1, 0) 24 Bobol bach!
(1, 0) 25 A 'r wyt ti'n galw peth felly yn ddoniol?
 
(1, 0) 28 A rhoi'r bai am hynny ar y byddigions.
 
(1, 0) 33 Ond Rolant, mae o'n bechod anfaddeuol cwyno yn erbyn trefn yr Hollalluog...
 
(1, 0) 36 Ein dyletswydd ni ydi plygu.
 
(1, 0) 40 Paid â rhyfygu, Rolant!
 
(1, 0) 43 Mae Mr. Foster, ein person |ni|, yn gallu siarad Cymraeg.
 
(1, 0) 46 Nid peth gweddus o gwbl ydi gwneud sbort o weision y Brenin Mawr.
 
(1, 0) 49 Rhag cywilydd iti, Rolant!
 
(1, 0) 53 'D ydw i ddim yn cydweld â'r cr'adur, beth bynnag.
(1, 0) 54 Mae o'n fachgen digon teidi, am wn i, er na weles i mohono ers plwc byd.
 
(1, 0) 56 Mae'n rhaid iddo fo fihafio'i hun mewn lle felly, a'r brenin mor agos.
 
(1, 0) 61 Rhyngddo fo â'i botes!
(1, 0) 62 Ond paid |ti| â brygawtha' gormod... rhag ofn...
 
(1, 0) 64 Wel, rhaid... ond... {yn torri'r ddadl.}
(1, 0) 65 Bobol bach!
(1, 0) 66 Be' ydi rhyw gyboli fel hyn a minne â llond y byd o waith trwsio... {yn cydio yn rhai o'r dillad.}
(1, 0) 67 'R ydw i wedi addo dilledyn neu ddau i'r hen Feti Ifans, druan.
(1, 0) 68 Mae'n bur gyfyng arni, y gre'dures.
 
(1, 0) 71 Mae'n rhaid i rywun swcro'r hen chwaer.
(1, 0) 72 'S gwn i os oes ar Ifor eisie'r crys 'ma yn o fuan?
(1, 0) 73 Lle mae o, Rolant?
 
(1, 0) 76 Caru ma'r bachgen, 'neno'r dyn.
 
(1, 0) 78 Rhaid i Ifor symud efo'r oes, weldi.
(1, 0) 79 A chofia bod Janet yn |lady|.
 
(1, 0) 82 Ifor! Ifor!
 
(1, 0) 85 'Ddoi di 'lawr am funud, 'nghariad i?
 
(1, 0) 87 Be' aflwydd ydech chi'r dynion yn 'i wneud â'ch dillad, deudwch?
(1, 0) 88 Ma' nhw'n garpie gwyllt.
(1, 0) 89 Edrych ar y pâr 'sane 'ma... yn dylle mân ulw botes.
(1, 0) 90 'Dase ti'n gorfod trwsio dy 'sane dy hun...
 
(1, 0) 100 O Ifor, 'oes gen ti eisie'r crys 'ma yn fuan?
(1, 0) 101 Mae rhyw 'chydig o waith trwsio arno.
 
(1, 0) 113 Da thi, Rolant, rho'r gore iddi...
 
(1, 0) 121 Rolant, 'r wyt ti'n rhyfygu!
(1, 0) 122 Cofia 'i fod o'n un o weision yr Hollalluog.
 
(1, 0) 128 Gwarchod ni, ie!
(1, 0) 129 A thorri'n penne ni, bodyg-un!
 
(1, 0) 141 Ond Rolant, os ydi Ifor bach yn meddwl fel yna, mae ganddo fo berffaith hawl i...
 
(1, 0) 180 Rolant, dyna ddigon.
 
(1, 0) 183 Gad lonydd i'r bachgen, da thi.
 
(1, 0) 190 Ifor bach, mi gei di'r crys erbyn yfory...
 
(1, 0) 201 O, 'machgen bach annwyl i!
(1, 0) 202 'R wyt ti wedi dweud pethe reit cas wrtho fo, Rolant.
 
(1, 0) 204 Mae Ifor yn iawn yn y bôn.
 
(1, 0) 208 Paid â dweud 'i fod o yn...
 
(1, 0) 210 Ond mi fydd yn well ar ôl priodi Janet.
 
(1, 0) 214 Ma'n teulu ni gystal â theulu Mr. Foster, be' siŵr iawn ydi o!
 
(1, 0) 216 I sôn am Ifor a Janet, mae'n amlwg.
 
(1, 0) 218 'Fydde hi ddim yn well iti dacluso mymryn arnat dy hun cyn iddo ddod?
 
(1, 0) 228 Bobol bach!
(1, 0) 229 Yr holl lanast 'ma!
 
(1, 0) 231 Y Person, o bawb!
(1, 0) 232 Wn i ddim be' fydd o'n ei feddwl ohono'i!
 
(1, 0) 242 Mae hi'n hwyro'n braf.
 
(1, 0) 244 M... mae hi'n gynhesach nag arfer yr adeg yma o'r flwyddyn.
 
(1, 0) 248 Flwyddyn yn ôl, 'r oedd hi'n oerach o gryn dipyn.
 
(1, 0) 255 O, Mr. Foster!
 
(1, 0) 276 Rolant, paid â d' anghofio dy hun!
 
(1, 0) 293 O, 'machgen bach dewr i!
 
(1, 0) 311 Rolant bach, cymer ofal...!
 
(1, 0) 333 Rolant bach, paid â rhyfygu!
 
(1, 0) 344 Rolant, cymer ofal...
 
(1, 0) 357 O, rhag dy g'wilydd, Rolant, yn colli dy dymer!
(1, 0) 358 Dyna ti wedi andwyo popeth.
 
(1, 0) 360 Ifor a Janet.
 
(1, 0) 364 Ond amdanyn' nhw yr ydw i'n meddwl.
 
(1, 0) 367 Mae o'n ddyn caled, wrth gwrs.
(1, 0) 368 Ond ma nhw'n deud y gall Janet ei droi a'i drosi fel y mynno.
(1, 0) 369 Cannwyll 'i lygad o.
 
(1, 0) 373 Ond yn elyn iti byth ar ôl heno!
 
(1, 0) 376 Gobeithio'r annwyl!
(1, 0) 377 'R wyt ti wedi mynd â dy ben i dy botes heno, Rolant.
(1, 0) 378 Gofala fod 'chydig yn gallach o hyn ymlaen, ne' yn y carchar yn Rhuthun y byddwn ni, gei di weld!
 
(1, 0) 380 Mi gei sefyll faint 'fynni di, ond iti gofio'r hen air...
(1, 0) 381 "Os na bydd gryf..."
 
(1, 0) 389 'R ydw i'n mynd â'r ychydig bethe 'ma i'r hen Feti, druan.
(1, 0) 390 Mae'n ddrwg gen' i drosti.
 
(1, 0) 396 Da thi, eistedd i lawr, a cheisia anghofio popeth amdano fo a dy hen Jac Glan-y-Gors!
(1, 0) 397 Darllen rywbeth arall, 'neno'r dyn...
 
(1, 0) 401 Mi bicia'i allan yrŵan, Rolant.
(1, 0) 402 'Fydda' i fawr o dro, os na fydd yr hen Feti'n waeth.
 
(1, 0) 764 Yr hen Feti, druan!
(1, 0) 765 Mae hi ar ben arni...
 
(1, 0) 767 Helo, pwy ydi'r dyn diarth 'ma?
 
(1, 0) 778 Wel, 'da i byth o'r fan'ma!
(1, 0) 779 Jac Glan-y-Gors!
(1, 0) 780 Ond be'ar y ddaear...
 
(1, 0) 786 Dyn a helpo di, Jac!
(1, 0) 787 Ond mi gadwn ni chwarae teg iti yma.
 
(1, 0) 789 'Rheswm annwyl, mor fuan â hynny?
 
(1, 0) 813 Y Brenin!
(1, 0) 814 Bobol bach, be' wnawn ni, deudwch?
 
(1, 0) 876 Rolant bach, paid â theimlo fel yna...
 
(1, 0) 940 Rolant, paid da thi...
 
(1, 0) 947 Ifor... 'y 'machgen annwyl i...