Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Antenor (Cyfanswm: 39)

 
(0, 3) 195 Fy naturiol dad a'm brenin,
(0, 3) 196 mae hyn i gyd yn erbyn
(0, 3) 197 y pethau a ddylem ni eu gwneuthyd
(0, 3) 198 er mwyn achub ein bywyd
(0, 3) 199 a dirywstro ein dynion
(0, 3) 200 a byw y modd y buom
(0, 3) 201 a rhoddi Helen adre
(0, 3) 202 i'r colledwr a'i pia —
(0, 3) 203 er cael ohonom ein heddwch,
(0, 3) 204 ein esmwythdra a'n diofalwch,
(0, 3) 205 a gollwng y dieithriaid
(0, 3) 206 'rhyd yr un ffordd i fyned.
 
(0, 3) 213 Meddyliwch chwi, o'ch synnwyr,
(0, 3) 214 pes gorchfygem ni'r Groegwyr
(0, 3) 215 nid oes dim i'w gaffael
(0, 3) 216 ond Helen yn ein gafael;
(0, 3) 217 ac nis gellid mo hynny
(0, 3) 218 heb golli rhai o bobtu.
 
(0, 3) 225 Dyna ennill gorchestol!
(0, 3) 226 Cael argwlyddes annaturiol
(0, 3) 227 a werthai ei gŵr priod
(0, 3) 228 er mwyn dilyn pechod;
(0, 3) 229 a ganlynai dieithriaid
(0, 3) 230 a gwrthod y fan y'i ganed!
(0, 3) 231 Ei meddwl yw oferedd,
(0, 3) 232 ei bryd sy i gyd ar faswedd.
(0, 3) 233 Nis gall na ddaw gwrthwyneb
(0, 3) 234 o hir ddilyn godineb.
(0, 3) 235 Fy meddwl a'm cyngor innau
(0, 3) 236 yw rhoddi i bawb a ddylai.
(0, 3) 237 ~
(0, 3) 238 Troelus, fy annwyl frawd,
(0, 3) 239 na amddifynwch mo bechawd.
 
(0, 3) 287 Fy arglwyddi, rhaid gwylied
(0, 3) 288 rhag eich twyllo trwy ymddiried.
 
(0, 3) 345 Perwch i'w thaflu
(0, 3) 346 i bydew dyfndu,
(0, 3) 347 Rhy lân yw y llosgi
(0, 3) 348 am y fath ddrygioni.