Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Calchas (Cyfanswm: 159)

 
(0, 2) 53 Trwm. A! Rhy drwm yw'r meddwl
(0, 2) 54 sydd i'm calon mal swmbwl,
(0, 2) 55 nis gad i mi na huno
(0, 2) 56 nac esmwythdra i beidio.
(0, 2) 57 ~
(0, 2) 58 Pwy allai fod yn llawen
(0, 2) 59 a fai'n trin y fath fargen,
(0, 2) 60 heb wybod beth sydd orau,
(0, 2) 61 ai mynd, ai trigo gartre?
(0, 2) 62 ~
(0, 2) 63 Fy ngwlad yw gwlad yr Asia,
(0, 2) 64 fy nhrigfan sy yn nhref Troea,
(0, 2) 65 fy ngheraint, fy nghymdeithion
(0, 2) 66 a'm holl annwyl garedigion,
(0, 2) 67 y nhw a minnau o'r untu
(0, 2) 68 yn yr unfan yn gwladychu.
(0, 2) 69 ~
(0, 2) 70 Mae'r byd yn chwerthin arna i!
(0, 2) 71 Oni ddaw help mewn amser
(0, 2) 72 fe aeth hyn i gyd yn ofer!
(0, 2) 73 ~
(0, 2) 74 Mae Groeg i gyd yn arfog,
(0, 2) 75 wrth Droea mae'n llidiog.
(0, 2) 76 Er gwroled ydyw Hector,
(0, 2) 77 er gwyched ydyw Troelus,
(0, 2) 78 a meibion brenin Piramus,
(0, 2) 79 er bod dynion cyn wyched
(0, 2) 80 yn nhref Troea ac a aned,
(0, 2) 81 mae rhai o'r Groegwyr mor wychion
(0, 2) 82 ag allai fod o ddynion,
(0, 2) 83 a holl gryfdwr y rhyfel
(0, 2) 84 yn siŵr yw'r cyfiawn afael.
(0, 2) 85 ~
(0, 2) 86 Os aros a rhyfela
(0, 2) 87 o blaid cenedl Troea
(0, 2) 88 ac amddiffyn eu pechod
(0, 2) 89 yn erbyn fy nghydwybod,
(0, 2) 90 fe ddaw diwrnod o'r diwedd
(0, 2) 91 y dygir yn llwyr y dialedd,
(0, 2) 92 pan fyddo'r tân mor greulon
(0, 2) 93 yn llosgi Troea dirion
(0, 2) 94 a gwaed gwŷr yn aberoedd
(0, 2) 95 yn llenwi ei holl ystrydoedd.
(0, 2) 96 Ni cheir amser yno i fyfyr
(0, 2) 97 beth sydd orau i wneuthur.
(0, 2) 98 ~
(0, 2) 99 Os gwrthod fy nghrediniaeth,
(0, 2) 100 fy ngwlad, fy mraint, fy nghoweth,
(0, 2) 101 fy ngheraint, fy nghyndeithion,
(0, 2) 102 a myned at y gelynion,
(0, 2) 103 beth a ddoedir amdana
(0, 2) 104 ond 'ffalster ai difetha?'
(0, 2) 105 Ar Groecwyr a ddoedan
(0, 2) 106 "siomes ei wlad ei hunan,
(0, 2) 107 Bydd diau im syn innau
(0, 2) 108 os rhown goel arno yntau."
(0, 2) 109 ~
(0, 2) 110 Ac or achos hyn yma
(0, 2) 111 ar Apollo mi hydera;
(0, 2) 112 Ar pethau a orchymyn
(0, 2) 113 rho fy mryd ar i galyn.
(0, 2) 114 ~
(0, 2) 115 Sinon, cyrch di i mi
(0, 2) 116 ddŵr gloyw yr aberthu,
(0, 2) 117 a dwc yma ffiledi
(0, 2) 118 i gwmpasu yr allorau;
(0, 2) 119 Bid ffrancwmsens yn barod,
(0, 2) 120 cymysg y rhain a'r wermod;
(0, 2) 121 Gole di y tân ynddyn
(0, 2) 122 a does ymaith oddi wrthyn.
(0, 2) 123 ~
(0, 2) 124 Y mae yma eisie
(0, 2) 125 ydafedd o dri lliwie.
(0, 2) 126 Mae Apolo yn llawenychu
(0, 2) 127 yn y rhod rhifedy.
(0, 2) 128 Apolo, beth sydd orau —
(0, 2) 129 ai mynd ai trigo gartre?
(0, 2) 130 ~
(0, 2) 131 Apolo, fo drodd dy ateb
(0, 2) 132 y lleuad yw gwrthwyneb;
(0, 2) 133 A thryddod ti, Apolo,
(0, 2) 134 yr oedd Syrse yn gweithio.
(0, 2) 135 Apolo, beth sydd orau —
(0, 2) 136 ai mynd ai trigo gartre?
(0, 2) 137 Trwyddod ti y cafodd hefyd
(0, 2) 138 Medea i holl gyfrwyddyd;
(0, 2) 139 Trwyddod ti y cafodd Enon
(0, 2) 140 wybodaeth ac arwyddion;
(0, 2) 141 A thrwyddot ti mae Cassandra
(0, 2) 142 yn profwydo i Droya.
(0, 2) 143 ~
(0, 2) 144 Apolo, beth sydd orau —
(0, 2) 145 ai mynd ai trigo gartre?
(0, 2) 146 Ti a droist yr afonydd
(0, 2) 147 yn gwrthwyneb y gelltydd;
(0, 2) 148 Ti a wnaethost y mor, Apolo,
(0, 2) 149 heb na llenwi ne threio.
(0, 2) 150 ~
(0, 2) 151 Apolo, pwy un a ddinystrir,
(0, 2) 152 ai yr Troeaid ai'r Groegwyr?
 
(0, 5) 1007 Gwybyddwch, f'arglwyddi, mai Troean y'm genedigaeth;
(0, 5) 1008 gwybyddwch mai myfi a ddwg i chwi gyntaf oruchafiaeth;
(0, 5) 1009 gwybyddwch mai myfi yw'r arglwydd Calchas,
(0, 5) 1010 yn eich holl flinder a wnaeth i chwi urddas.
(0, 5) 1011 Mi a fum yn proffwydo
(0, 5) 1012 bob amser i'ch cysuro
(0, 5) 1013 y dinistriech chwi â rhyfel
(0, 5) 1014 tref Troea cyn ymadael.
(0, 5) 1015 ~
(0, 5) 1016 Deuthum fy hun atoch mewn malais
(0, 5) 1017 i roddi i chwi fy holl gyngor a'm dyfais,
(0, 5) 1018 heb edrych unwaith am ddim ar a wyddoch
(0, 5) 1019 ond rhoddi i gyd fy ymddiried ynddoch.
(0, 5) 1020 Y cwbwl i gyd y gollais
(0, 5) 1021 o fewn Troea ar a feddais;
(0, 5) 1022 diwgyn gennyf, trwy feddwl,
(0, 5) 1023 er eich mwyn chwi, golli'r cwbwl.
(0, 5) 1024 ~
(0, 5) 1025 Pan fum yn aberthu i Apolo ddiwaetha,
(0, 5) 1026 o'r rhyfel gofynais a'i ateb oedd hyn yma:
(0, 5) 1027 fod y "dialedd yn agos ar ddigwyddo iddi" —
(0, 5) 1028 hyn a wn hefyd trwy reol Astronomi —
(0, 5) 1029 y bydd tân a gwreichion
(0, 5) 1030 dros Droea yn greulon,
(0, 5) 1031 a'r dialedd hyn sydd agos,
(0, 5) 1032 cyn pen y nawfed wythnos.
(0, 5) 1033 ~
(0, 5) 1034 Hefyd mae Neptun a Ffebws, y duwiau
(0, 5) 1035 y rhain a wnaeth o bobtu y caerau,
(0, 5) 1036 yn ddicllon iawn wrth genedl Troea,
(0, 5) 1037 oblegid hyn bydd haws eu difetha.
(0, 5) 1038 Oherwydd nas talent
(0, 5) 1039 i rhain y pethau a ddylent,
(0, 5) 1040 caerau hon a losgir
(0, 5) 1041 a'i phobl a distrywir.
(0, 5) 1042 ~
(0, 5) 1043 Ond unferch, hon yn wirion, gartref a adewais
(0, 5) 1044 (pan gollais i o Droea) yn ei gwely'n ddifalais.
(0, 5) 1045 Annaturiol dad a chreulon iddi oeddwn,
(0, 5) 1046 hon gyda mi yn ei huncrys nas dygaswn.
(0, 5) 1047 Gan hiraeth a gofalon
(0, 5) 1048 a hir ddygais i'm calon
(0, 5) 1049 nis gallaf, fy arglwyddi,
(0, 5) 1050 yr owran mo'r byw hebddi.
(0, 5) 1051 ~
(0, 5) 1052 Llawer yr owran o garcharwyr a ddalied
(0, 5) 1053 o'r Troeans - mae'r rhain mewn mawr gaethiwed.
(0, 5) 1054 Pes cawn un o'r rhain yma i gyfnewid
(0, 5) 1055 â brenin Priaf am fy unferch Cresyd:
(0, 5) 1056 atolwg i mi gaffael
(0, 5) 1057 un o'r rhain yn fy ngafael
(0, 5) 1058 a deisyf cael Antenor -
(0, 5) 1059 hwn nid hawdd mo'i hepgor.
 
(0, 9) 1755 Fy mendith i ti a ffyno, f'anwylyd a'm un llygad;
(0, 9) 1756 nis cysgaith noswaith ddiofal gan ofal mawr amdanad.
(0, 9) 1757 A flinaist yn dyfod yma?
(0, 9) 1758 Mae'r newyddion o Droea
(0, 9) 1759 nad ydynt hwy ond aros
(0, 9) 1760 y gwrthwyneb sydd yn agos.