Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Cassandra (Cyfanswm: 35)

 
(0, 15) 2021 F'anwylyd Troelus, os deallt y breuddwyd yma a fynwch,
(0, 15) 2022 a chlywed y gwirionedd amdana a chwnychwch,
(0, 15) 2023 mae'n rhaid i chwi glywed hen ystoriau lawer
(0, 15) 2024 a hanes argwlyddi perthynasol i hyn o fater.
(0, 15) 2025 Ac felly y cewch chi wybod
(0, 15) 2026 o ble mae'r baedd yn dyfod,
(0, 15) 2027 a phwy ydiw'r baedd hefyd,
(0, 15) 2028 fel y mae hen lyfre yn doedyd.
(0, 15) 2029 ~
(0, 15) 2030 Diane, hon sy mewn digofaint mawr a diclloni
(0, 15) 2031 wrth Roegwyr ar achos am na aberthen iddi,
(0, 15) 2032 a phan welodd y dduwies y llyn yma ei dirmygu,
(0, 15) 2033 hi a fagodd greulondeb ac a weithiodd drygioni.
(0, 15) 2034 Trwy faedd creulon ffyrnig
(0, 15) 2035 yn gimyn ac ych pascedic;
(0, 15) 2036 hwn yw distriwio ei gwinydd,
(0, 15) 2037 ei hyde a'i perllanwydd.
(0, 15) 2038 ~
(0, 15) 2039 I ladd y baedd yma, fo goded pobl lawer;
(0, 15) 2040 y mysg y rhain, fo ddoeth arglwydd Meleager.
(0, 15) 2041 Hwn oedd yn cari rhyw ferch lan, anianol,
(0, 15) 2042 hon oedd yn aros yn y wlad yn wastadol.
(0, 15) 2043 I'r baedd y doeth gwrthwyneb
(0, 15) 2044 trwy nerth a grym gwroldeb;
(0, 15) 2045 y baedd ei hun a laddodd,
(0, 15) 2046 a'i ben i hon a hebryngodd.
(0, 15) 2047 ~
(0, 15) 2048 A'r baedd hwn sy'n arwyddo Diomedes mab Tideus;
(0, 15) 2049 hwn sy'n dowod o Feleager fel y clywsoch, Troelus.
(0, 15) 2050 Ble bynnag y mae Cresyd, dy arglwyddes anwyl dithe,
(0, 15) 2051 mae hi yn eiddo Diomedes, a Diomedes yn ei heiddo hithe.
(0, 15) 2052 Hawdd y gelli fynd yn drymgla
(0, 15) 2053 allan o ddadl yw hyn yma;
(0, 15) 2054 Diomed sy'n ei meddwl yr owran
(0, 15) 2055 a thithe, Troelus, y sydd allan.