Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Cresyd (Cyfanswm: 565)

 
(0, 3) 313 Fy ngrasusol arglwyddi,
(0, 3) 314 gyrrasoch i'm cyrchu
(0, 3) 315 mewn digofaint a dicllondeb;
(0, 3) 316 rwy'n ofni gwrthwyneb.
 
(0, 3) 353 Fy arglwyddi trugarog,
(0, 3) 354 na fyddwch chwi rhy chwannog
(0, 3) 355 i golli gwaed gwirionddall
(0, 3) 356 dros ddrwg beiau arall.
(0, 3) 357 Os gwnaeth fy nhad Calchas i chwi benyd,
(0, 3) 358 diflais ydoedd Cresyd;
(0, 3) 359 efe mewn euog ateb
(0, 3) 360 a minnau mewn gwiriondeb;
(0, 3) 361 y tad yn gwneuthud camwedd
(0, 3) 362 a'r ferch yn dwyn y dialedd —
(0, 3) 363 Dyna gyfraith rhy atgas,
(0, 3) 364 ymhell yn erbyn eich urddas.
(0, 3) 365 ~
(0, 3) 366 Pes gwnaethai fi'n gydnabyddus
(0, 3) 367 â'i ddichell frad twyllodrus,
(0, 3) 368 nis buaswn i mewn gafael
(0, 3) 369 yn aros ym mysg y rhyfel,
(0, 3) 370 na rhyfelwyr yn tramwy
(0, 3) 371 cyn fynyched lle y byddwy.
(0, 3) 372 ~
(0, 3) 373 Ef a wyddai, fy arglwyddi,
(0, 3) 374 nas gallai ymddiried i mi,
(0, 3) 375 a hynny a barodd iddo
(0, 3) 376 mor ddisymwth ymado.
(0, 3) 377 ~
(0, 3) 378 Gwae fi na byddai f'einioes
(0, 3) 379 yn iawn abl i ddigywio
(0, 3) 380 yr uthr weithred honno
(0, 3) 381 ac na liwid, er aros,
(0, 3) 382 i un o'm cenedl mo'r achos,
(0, 3) 383 fy arglwyddi, ni ddymunwn
(0, 3) 384 i chwi yr awron mo'm pardwn.
 
(0, 4) 663 Croeso, fy ewythr; amser da yw i'ch dyfodiad.
(0, 4) 664 A ddowch chwi yn nes, i'r goleuni,
(0, 4) 665 i ddywedyd chwedlau newydd i mi?
(0, 4) 666 Newyddion a gaf glywed;
(0, 4) 667 anfynwch rwy'n eich gweled.
 
(0, 4) 673 Mae'n ysgrifennu am ryfel Thebes:
(0, 4) 674 nid yw'n sôn am eich meistres.
(0, 4) 675 Mae yn ysgrifennu'n eglur
(0, 4) 676 am ddigwyddiad yr holl ryfel
(0, 4) 677 ac am esgob yn dostur.
(0, 4) 678 Amffiorac aeth yn ddigrel
(0, 4) 679 i uffern gyda'r cythrel,
(0, 4) 680 a'r modd bu farw Laiws
(0, 4) 681 trwy waith ei fab Edipws.
(0, 4) 682 ~
(0, 4) 683 Mae hyn yn ddifyrrwch
(0, 4) 684 i fwrw amser heibio
(0, 4) 685 ac i esmwythau tosturwch,
(0, 4) 686 lle mae fel arfer yn gwreiddio.
(0, 4) 687 Ni a ollyngwn hyn mewn ango.
(0, 4) 688 Pa newydd am y Groegwyr?
(0, 4) 689 Ydy Hector yn brysur?
 
(0, 4) 697 Y mae'n dda gennyf glywed
(0, 4) 698 eu bod yn wychion ill deuwedd;
(0, 4) 699 yn wir mae'n anodd gweled
(0, 4) 700 i fab brenin gymaint rhinwedd
(0, 4) 701 a bod mor foneddigaidd.
(0, 4) 702 Rhinweddol yw naturiaeth
(0, 4) 703 lle bo uchel enedigaeth.
(0, 4) 704 ~
(0, 4) 705 I Hector mae anrhydedd -
 
(0, 4) 714 I Hector mae anrhydedd,
(0, 4) 715 I Troelus mae cariad,
(0, 4) 716 rhai yn sôn mewn gwirionedd
(0, 4) 717 ei fod bob dydd dros ei wlad
(0, 4) 718 yn ymladd yn wastad.
(0, 4) 719 Mae'n dda gennyf glywed
(0, 4) 720 eu canmoliaeth cyn fynyched.
 
(0, 4) 742 Ni chewch yr owran mo'r gennad:
(0, 4) 743 mae i mi chwaneg siarad.
 
(0, 4) 748 Os bydd y meddwl o'r gorau,
(0, 4) 749 diniwed a fydd geiriau.
(0, 4) 750 Atolwg, gadewch glywed
(0, 4) 751 beth yw meddwl eich siarad.
 
(0, 4) 757 Yr un a ofno ddoedyd,
(0, 4) 758 ofned gael ei geisio;
(0, 4) 759 yr un a wyr ei glefyd,
(0, 4) 760 o'i glefyd mae'n haws ei helpio.
 
(0, 4) 768 Mi wrandawaf ar eich geiriau.
(0, 4) 769 Bellach cerddwch rhagoch,
(0, 4) 770 gwyliwch siarad rhyw bethau
(0, 4) 771 yn erbyn hyn a wyddoch.
(0, 4) 772 Fydd merch ac ysgymun
(0, 4) 773 os gwneir gormod yn ei herbyn.
 
(0, 4) 809 O fy ewythr, yr oeddwn erioed yn coelio
(0, 4) 810 pes buaswn trwy fy anap wedi digwyddo
(0, 4) 811 i garu Troelus, Achilles, neu Hector
(0, 4) 812 na fuasech i unig drugarog o'ch cyngor,
(0, 4) 813 eithr fy rhegi
(0, 4) 814 trwy gwbwl wrthwynebu.
(0, 4) 815 Ni wyddis i bwy y coelir
(0, 4) 816 yn y byd anghywir.
 
(0, 4) 826 Da yw'r byd os anwylfab brenin Asia
(0, 4) 827 aiff ar ei liniau i ferch amddifad o Droea.
 
(0, 4) 830 A fo drugarog unwaith
(0, 4) 831 a gaiff drugaredd eilwaith.
(0, 4) 832 A drigarha wrth weiniaid,
(0, 4) 833 trugaredd Duw i'w enaid!
 
(0, 4) 862 O Pandar. Mae eto i'm cof fynediad Calchas,
(0, 4) 863 mae eto i'm cof pwy amddiffynnodd fy urddas.
(0, 4) 864 Oni bai Hector a'i rywiogrwydd,
(0, 4) 865 merch a fuaswn i wedi tramgwydd.
(0, 4) 866 Gwasanaeth neb pe'i mynnwn,
(0, 4) 867 ei wasanaethu ef a ddylwn,
(0, 4) 868 trwy gadw ohono fy urddas.
(0, 4) 869 Croeso wrth ei gymdeithas.
(0, 4) 870 ~
(0, 4) 871 Dymuno yr wyf arnoch, er mwyn y gwir arglwydd,
(0, 4) 872 ac er anrhydedd y gwirionedd a boneddideiddrwydd,
(0, 4) 873 fod hyn yn tyfu heb ddichelgar feddylie,
(0, 4) 874 a'ch wyllys chwi i mi, fel y mae fy wyllys i, i chwithe.
(0, 4) 875 Gwna gwbwl o'm gallu
(0, 4) 876 beunydd ich llawenychu,
(0, 4) 877 trwy na bo arwydd
(0, 4) 878 o ddim anonestrwydd.
(0, 4) 879 ~
(0, 4) 880 Er hyn i gyd rwy'n eich rhybuddio chwi, Troelus,
(0, 4) 881 er eich bod yn anwylfab i frenin Priamus,
(0, 4) 882 na feddyliwch allu fod arnaf fi'n rheolwr
(0, 4) 883 mewn cariad, yn amgenach nag a berthyn i wasanaethwr.
(0, 4) 884 Hawdd yw gennym ddigio
(0, 4) 885 o gellweirir ddim a'n briwo.
(0, 4) 886 Eich taledigaeth chwi a fydd
(0, 4) 887 fel y byddo eich rhyglydd.
(0, 4) 888 ~
(0, 4) 889 O hyn allan, fy nghywir farchog dedwydd,
(0, 4) 890 trowch heibio drymder, cofleidiwch lawenydd;
(0, 4) 891 mewn hyn o obaith, eich hunan ymsicrhewch,
(0, 4) 892 i gwna fi yngore ar droi hyn i ddifyrrwch.
(0, 4) 893 Am bob trymder a chytsydd,
(0, 4) 894 e daw bellach lawenydd.
(0, 4) 895 Croeso wrth wamal naturiaeth
(0, 4) 896 mewn gwasnaethwr i'm gwasanaeth.
 
(0, 4) 962 O Dduw! Pa beth yw'r glendid bydol?
(0, 4) 963 Hwn mae dysg ar gam yn ei alw yn beth dedwddol?
(0, 4) 964 Cymysg yw a llawer o chwerwder beunydd,
(0, 4) 965 yn llawn ofer anwadalaidd lawenydd.
(0, 4) 966 Os oes lawenydd,
(0, 4) 967 pwy heddiw a wyr i ddeunydd?
(0, 4) 968 Oes a wyr yn wastadol
(0, 4) 969 oddi wrth lawenydd bydol?
(0, 4) 970 ~
(0, 4) 971 O y frau olwyn i lawenychu dyn, yn anwadol,
(0, 4) 972 i bara ddyn bynnag i bych di yn arddal,
(0, 4) 973 naill ai fo a wyr oddi wrth dy lawenydd darfodedig,
(0, 4) 974 ai nis gwyr ddim oddi wrth dy gylenic.
(0, 4) 975 Os gwyr, i mae yn gelfydd;
(0, 4) 976 mor anwadal yw'r llawenydd
(0, 4) 977 sydd yn tyfu oi ysturiaeth
(0, 4) 978 o dywyllwch anywbodaeth!
(0, 4) 979 ~
(0, 4) 980 O gwyddys fod llawenydd a thramgwyddiad diffygiol,
(0, 4) 981 y modd y mae yr holl bethau daerol,
(0, 4) 982 am bob gwaith y bydd yn ofnus yn ei feddwl i golli,
(0, 4) 983 dros hynny o amser y bydd sicr o'i feddiannu.
(0, 4) 984 Nis gall undyn wneuthur deunydd
(0, 4) 985 ar dwyllodrus lawenydd;
(0, 4) 986 wrth ei gadw, mae'n ofalus;
(0, 4) 987 wrth ei golli, mae'n beryglus.
 
(0, 4) 996 Beth a all yr Hedyd truan i wneuthur
(0, 4) 997 pan fo yng ngrafanc y gwalchaidd eryr?
(0, 4) 998 Beth all morwyn wan ond ochain
(0, 4) 999 pan fo cryfder mawr yn harwain?
(0, 4) 1000 Cyn sicred ac ym ganed,
(0, 4) 1001 mae'n rhaid ymroi i dynged;
(0, 4) 1002 a'th dynged titheu, Cresyd,
(0, 4) 1003 ydiw dwyn y gofalfyd.
 
(0, 6) 1113 O f'enaid yn fy nghalon, fy nghoel a'm holl ddifyrwch,
(0, 6) 1114 och yr amser y'm ganed i ddigwydd i mi fath dristwch,
(0, 6) 1115 pan allo un boregwaith ein dosbarthu ni oddi yma,
(0, 6) 1116 bellach rhaid ymadael, neu fo ddarfu amdana.
(0, 6) 1117 ~
(0, 6) 1118 O dywyllnos, fe'th waned yn hud dros loywddydd perffaith
(0, 6) 1119 ar amserau â'th hagr alarwisg ddiffaith,
(0, 6) 1120 a thros amser mae pob peth i'w esmwythyd mewn bwriad:
(0, 6) 1121 dynion ac anifeiliaid yn hawdd all achwyn arnad;
(0, 6) 1122 y dydd yn rhoi trafael yma,
(0, 6) 1123 tithau'r nos yn rhoddi esmwythdra.
(0, 6) 1124 Tydi yr owran o lawer
(0, 6) 1125 a ffoist ynghynt na'th amser.
 
(0, 6) 1164 O gywir galon a chwbwl o'm ymddiried,
(0, 6) 1165 mae'r chwarae hwn cyn belled wedi myned
(0, 6) 1166 fel y caiff yn gyntaf yr haul syrthio i lawr o'r wybren
(0, 6) 1167 a'r gwalchaidd eryr ymgymharu â'r glomen
(0, 6) 1168 a phob craig ysmudo
(0, 6) 1169 o'r tir a'r fan y byddo
(0, 6) 1170 cyn darffo i Troelus symud
(0, 6) 1171 o gywir calon Cresyd.
 
(0, 8) 1414 Och i'm calon os allan oddi yma rhaid im fyned!
(0, 8) 1415 Anffortunus forwyn, i ddwyn anffortun y'th aned.
(0, 8) 1416 Ai rhaid it ymadael â Throelus, gywir farchog,
(0, 8) 1417 a byw ym mysg dieithriaid anrhugarog?
(0, 8) 1418 Och! i'r nos am dywyllu;
(0, 8) 1419 Och! i'r dydd am lewyrchu;
(0, 8) 1420 Can och! A fyddo i'r weithred
(0, 8) 1421 sydd achos i mi i fyned!
(0, 8) 1422 ~
(0, 8) 1423 Beth a wnaiff Troelus? A beth a wnaiff innau?
(0, 8) 1424 Pa fodd y byddwn fyw heb fodd yn yr unlle?
(0, 8) 1425 Pa fodd y llawenycha? Ni chaf fi aros.
(0, 8) 1426 Fy nhad, Calchas, tydi ydiw'r achos!
(0, 8) 1427 ~
(0, 8) 1428 Ai i fyw mewn prudd-der i'r byd y'm ganed?
(0, 8) 1429 Os gwir hyn, gwir ydyw fod tynged.
(0, 8) 1430 All pysg fyw heb ddŵr yn yr afon Nilus?
(0, 8) 1431 Pa fodd y gall Cresyd fyw heb ei Throelus?
 
(0, 8) 1433 Hyn a wnaf i, Troelus, y dydd yr ymadawon,
(0, 8) 1434 arf lifed nis cariaf, rhag fy mod yn greulon.
(0, 8) 1435 Onis lladd prudd-der fi y diwrnod hwnnw,
(0, 8) 1436 fy lluniaeth a wrthodaf, i gaffael marw.
(0, 8) 1437 Cyn sicred ac y'm ganed,
(0, 8) 1438 os oddi yma rhaid im fyned,
(0, 8) 1439 hyn a fydd fy nhynged,
(0, 8) 1440 modd y caffoch chwithau glywed.
(0, 8) 1441 ~
(0, 8) 1442 A'm dillad i, Troelus, a gaiff fod yn dduon,
(0, 8) 1443 yn arwydd fod Cresyd yn gywir ei chalon.
(0, 8) 1444 Meddyliwch am y geiriau pan ddigwydd yr achosion;
(0, 8) 1445 yno y cewch wybod fy nghywirdeb ffyddlon.
(0, 8) 1446 A hyn a gofia i chwi
(0, 8) 1447 fy ffyddlondeb a'm caledi,
(0, 8) 1448 a'r modd y darfu i Cresyd
(0, 8) 1449 er eich mwyn golli ei bywyd.
(0, 8) 1450 ~
(0, 8) 1451 Fy nghywir galon, yn dragwyddol rwy'n ordeinio
(0, 8) 1452 i ti ganlyn ysbryd Troelus i gydgŵyno;
(0, 8) 1453 er bod ein cyrff yn y ddaear yn gorwedd yn llonydd,
(0, 8) 1454 ein ysbrydion a gydrodia 'rhyd y trugarog feysydd.
(0, 8) 1455 Y rhain a elwir Eleisos -
(0, 8) 1456 nid oes dim poen yn aros
(0, 8) 1457 lle mae Orffews â'i dreiglad
(0, 8) 1458 efo Eurydice ei gariad.
 
(0, 8) 1460 Tithau, Pandar, a fuost achos o lawenydd mwy nag unwaith,
(0, 8) 1461 yr owran yr wyt yn achos o brudd-der eilwaith.
(0, 8) 1462 Nis gwn beth a ddywedaf wrthyt am hyn,
(0, 8) 1463 ai bod it groeso, ai nad oes un gronyn.
(0, 8) 1464 Dy achos fu yr digwyddiad
(0, 8) 1465 i mi wasanaethu cariad;
(0, 8) 1466 hwn sydd yn diwedd rhyngom,
(0, 8) 1467 mewn prudd-der a gofalon.
(0, 8) 1468 Ewch! Ewch!
 
(0, 8) 1495 Er bod yn frenhines pes cawswn,
(0, 8) 1496 hyn yma nis mynaswn.
(0, 8) 1497 Ar y cwbwl, pell ac agos,
(0, 8) 1498 y mae'r haul yn ymddangos.
(0, 8) 1499 ~
(0, 8) 1500 Fy ngwir galon, chwi a wyddoch hyn yr owran,
(0, 8) 1501 o bydd un yn wastad yn ochain ac un yn tuchan,
(0, 8) 1502 heb geisio rhyw ddfyais o'i ddolur i'w helpu,
(0, 8) 1503 nid yw hyn ond ffolineb: mae'r boen yn chwanegu.
(0, 8) 1504 Gen yn bod wedi cyfarfod,
(0, 8) 1505 yn deuoedd, yma yn barod
(0, 8) 1506 mae'n fadws i ni ddechrau
(0, 8) 1507 a gwneuthur y peth sydd orau.
(0, 8) 1508 ~
(0, 8) 1509 Pes cyd-ymgynghores ni mewn modd ac amser,
(0, 8) 1510 nid rhaid i ni gymryd hanner hyn o brudd-der.
(0, 8) 1511 Mae digon o gelfydd
(0, 8) 1512 all helpu hyn o gaethfyd:
(0, 8) 1513 na chymrwch drwm feddyliau
(0, 8) 1514 fe ddaw hyn i gyd i'r gorau.
(0, 8) 1515 ~
(0, 8) 1516 Oni wyddoch fod gan fy nhad ewyllys mawr i'm gweled,
(0, 8) 1517 yn unig rhag ofn fy mod yn byw mewn caethiwed.
(0, 8) 1518 Mae'n meddwl fy mod yn byw yma'n amddifad
(0, 8) 1519 oblegid yr achos o'i dwyllodrus fynediad.
(0, 8) 1520 Gwae fi Dduw nas gwyddai
(0, 8) 1521 y sut a'r modd yr ydwyf innau,
(0, 8) 1522 a daed fy myd yn Nhroea -
(0, 8) 1523 mi a wn nas gyrrai byth amdana'.
(0, 8) 1524 ~
(0, 8) 1525 Wrth fy nhad y dywedaf ddarfod i mi guddio ei gyfoeth
(0, 8) 1526 rhag llosgi Troea a rhag ofn dynion diffaith,
(0, 8) 1527 ac na fedr neb ar a aned onid myfi eu caffael.
(0, 8) 1528 Mae yntau cyn chwanoged, â da nis clyw ymadael.
(0, 8) 1529 Ato fe pan ddelwyf
(0, 8) 1530 fe a goelia'r hyn ddywedwyf;
(0, 8) 1531 yn esgus cyrchu'r mwnws
(0, 8) 1532 mi a ddof eilwaith atoch, Troelus.
(0, 8) 1533 ~
(0, 8) 1534 Mae'n anodd, medd gŵyr dysgedig ffordd yma,
(0, 8) 1535 llenwi'r blaidd a chael y mollt yn gyfa,
(0, 8) 1536 hynny ydyw, fod llawer un mor chwannog
(0, 8) 1537 ag y treulia swllt yn ceisio'r geiniog.
(0, 8) 1538 Mae henddyn yn enwedig
(0, 8) 1539 yn chwannog i'r da benthyg;
(0, 8) 1540 ag aur y gellid beunydd
(0, 8) 1541 gerfio calon y dyn cybydd.
 
(0, 8) 1550 Mae rhai hefyd yn trafaelio ac yn siarad
(0, 8) 1551 am dangnefedd rhwng Troea a Groeg yn wastad
(0, 8) 1552 ac y rhoddir Helen adre a'i holl gyfoeth,
(0, 8) 1553 a phawb i ddyfod i'w wlad ei hunan eilwaith.
(0, 8) 1554 Petai ddim i'n cysuro
(0, 8) 1555 ond hyn yma i'w obeithio,
(0, 8) 1556 hyn yna a all ddyfod
(0, 8) 1557 cyn pen y pedwar diwrnod.
 
(0, 8) 1566 Mi a wn bellach beth sydd rhaid i mi ei wneuthud,
(0, 8) 1567 a hynny a wnaf pes collwn i fy mywyd:
(0, 8) 1568 milltir fechan sydd rhwng y Groegwyr a Throea,
(0, 8) 1569 nis byddaf i ond unawr yn cerdded hyn yma,
(0, 8) 1570 a hwn yn wir a gywiraf
(0, 8) 1571 os byw ac iach a fyddaf.
(0, 8) 1572 Byddwch i'm cyfarfod
(0, 8) 1573 hanner nos y degfed diwrnod.
 
(0, 8) 1600 Y diwrnod, yr awr, neu'r munud y byddaf i ti anghywir,
(0, 8) 1601 er ofn tad, er cariad-ddyn nac ei dim ar a ellir,
(0, 8) 1602 gwaned Juno, merch Satwrnws, i mi yn dragwyddol
(0, 8) 1603 aros gyda Styx, fel Athamant mewn pydew uffernol.
(0, 8) 1604 Y modd y caf gan Dduw fy helpio,
(0, 8) 1605 pan fo rheithia i mi wrtho,
(0, 8) 1606 gymryd yr eich i'ch dwyfron
(0, 8) 1607 heb achos hyn ofalon.
(0, 8) 1608 ~
(0, 8) 1609 Hefyd yr wy'n tyngu i holl dduwie nefol,
(0, 8) 1610 i'r dywiesau, i'r Nymffes, ac i adyrdod uffernol,
(0, 8) 1611 i'r Satirs, i'r ffanus, hanner duwie y gelwch,
(0, 8) 1612 y rhain bob amser sy'n aros mewn anialwch;
(0, 8) 1613 fo gaiff Atrop dorri,
(0, 8) 1614 yn gynta, yr ede mae'n ei nyddu,
(0, 8) 1615 cyn bod honof yn anghywir
(0, 8) 1616 i ti, Troelus, er a wnelir.
(0, 8) 1617 ~
(0, 8) 1618 Tithe, Simoys, sy'n rhedeg fel paladr ysaeth union
(0, 8) 1619 rhyd ystrydoedd Troya i'r moroedd heilltion;
(0, 8) 1620 bydd dyst ar a ddywedwyf wrth fab brenin Priamus -
(0, 8) 1621 y diwrnod y bydd anghywir Cresyd i Troelus
(0, 8) 1622 y diwrnod hwnnw dymchweli
(0, 8) 1623 ac yn ôl dy gefn ti a gerddil
(0, 8) 1624 fy nghorff a'm enaid innau
(0, 8) 1625 a dymchwel i uffern boenau.
(0, 8) 1626 ~
(0, 8) 1627 Coeliwch hyn, pan ddel Lucina, chwaer i ffebus glayrwen,
(0, 8) 1628 allan o'r llew ac allan o'r maharen,
(0, 8) 1629 Juno, brenhines nefoedd, y modd i'm helpia,
(0, 8) 1630 y ddegfed nos, mi a fyddaf wrth Droea.
(0, 8) 1631 Rhaid cael amser wrth galedi
(0, 8) 1632 i ennill amser i ni.
(0, 8) 1633 Dyma i ti fy nghred ar ddyfod
(0, 8) 1634 hanner nos y degfed diwrnod.
 
(0, 9) 1744 I chwi, Diomedes, yr wyf yn ddiolchgar, yn enwedig
(0, 9) 1745 am eich poen ac am eich ewyllus da rwy'n rhwymedig,
(0, 9) 1746 eich gwasanaeth, eich cymdeithas, eich cynghorion,
(0, 9) 1747 a derbyn i'r gorau eich holl eiriau caredigion.
(0, 9) 1748 A hyn a ellwch goelio
(0, 9) 1749 er dim a all ddigwyddo,
(0, 9) 1750 o flaen un ar a aned
(0, 9) 1751 ynddoch chwi y bydd f'ymddiried.
 
(0, 9) 1753 Atolwg i chwi, fy nhad, eich bendith a rhoddwch i mi;
(0, 9) 1754 hiraeth mawr amdanoch hyd yn hyn a ddugum.
 
(0, 12) 1853 Arnat, Droea, mewn hiraeth a thrymder yr wy'n edrych,
(0, 12) 1854 dy dyrau uchel a'th reiol gaerau cwmpaswych.
(0, 12) 1855 Llawer diwrnod llawen o fewn dy gaerau a gefais
(0, 12) 1856 a llawer o hiraeth amdanat ti a ddygais.
(0, 12) 1857 O, Droea, gwae fi o'r myned!
(0, 12) 1858 O, Troelus, gwae fi dy weled!
(0, 12) 1859 O, Troelus, fy anwylyd,
(0, 12) 1860 wyt ti'n meddwl am Cresyd?
(0, 12) 1861 ~
(0, 12) 1862 Gwae fi, Troelus, nas gwnaethwn y peth a geisiaist!
(0, 12) 1863 Gwae fi nad aethwm y modd a'r sut y dymunaist!
(0, 12) 1864 Nis buaswn i yr owran yn rhoi ochenaid cyn drymed,
(0, 12) 1865 ni ellesid ddywedyd wneuthur ohonof ddrwg weithred.
(0, 12) 1866 Nid oes ym gael ond trwbwl
(0, 12) 1867 i atgoffau hyn y meddwl;
(0, 12) 1868 y cyffirie sydd ddiweddar
(0, 12) 1869 wedi rhoi'r corff mewn daear.
(0, 12) 1870 ~
(0, 12) 1871 Mae'n rhowyr yr owran am yr achos yma siarad.
(0, 12) 1872 O arglwyddes y synwyr, ble yr oedd dy dri llygad?
(0, 12) 1873 Y peth a basiodd, mi atgoffais amdano;
(0, 12) 1874 Y peth oedd yn bresenol, mi a wyddwn oddi wrtho.
(0, 12) 1875 Ar y pethau oedd i ddyfod
(0, 12) 1876 nis gwneuthum fawr adeilad
(0, 12) 1877 am nas medrwn eu gweled;
(0, 12) 1878 y mae im yn gwneuthur niwed.
(0, 12) 1879 ~
(0, 12) 1880 Ond, yn wir, treigled hyn y modd ag y mynno,
(0, 12) 1881 yfory'r nos yn ddiffael y byddaf gyda fo;
(0, 12) 1882 naill ai i'r deau, ai i'r dwyrain, ai i'r gorllewin
(0, 12) 1883 y collaf i fyned at Troelus fy anwylddyn.
(0, 12) 1884 Doeded pawb a fynan,
(0, 12) 1885 fe wnaiff Cresyd ei hamcan;
(0, 12) 1886 Drywant a fy'n siarad
(0, 12) 1887 a genfigen ar gariad.
 
(0, 12) 1927 Diomedes, Diomedes, mae ti orchymyn fy meddyliau,
(0, 12) 1928 gwae fi erioed wybod oddi wrth ryw bethau.
(0, 12) 1929 Ond mae gwŷr cyn laned o fewn tref Troea
(0, 12) 1930 ag sydd â'u trigfan rhwng Orcades ac India.
(0, 12) 1931 O rhyglydd bodd i chwi ddyfod
(0, 12) 1932 yn lleigus, mae i chwi gennad;
(0, 12) 1933 a phan ddeloch chwi yno,
(0, 12) 1934 chwi ellwch orchymyn croeso.
 
(0, 14) 1967 Diomedes, Diomedes, gwae fi erioed dy weled,
(0, 14) 1968 anghywir wyf bellach i'r gŵr cywira a aned;
(0, 14) 1969 fy enw da i nis gall neb mo'i helpio,
(0, 14) 1970 a'm gonestrwydd i bellach aiff byth mewn ango,
(0, 14) 1971 pan dwyllais â'm anwiredd
(0, 14) 1972 y marchog mawr ei anrhydedd;
(0, 14) 1973 tra fo dŵr yn tramwy daear
(0, 14) 1974 byth nis gwelir iddo gymar.
(0, 14) 1975 ~
(0, 14) 1976 Gwae fi o'm geni erioed i fod yn anghywir;
(0, 14) 1977 un gair da byth amdanaf i nis dywedir;
(0, 14) 1978 mewn pob llyfr ac ysgrifen y byddaf i oganus,
(0, 14) 1979 a phob tafod amdanaf i a fydd siaradus.
(0, 14) 1980 A'r merched yn fwyaf
(0, 14) 1981 wrthyf i a fydd ddicaf;
(0, 14) 1982 o'm herwydd i a'm gweithred
(0, 14) 1983 nis rhoir ynddynt byth ymddiried.
(0, 14) 1984 ~
(0, 14) 1985 Hwy a ddywedant, oblegid fy mod mor annaturiol,
(0, 14) 1986 ddarfod i mi eu cywilddyio'n dragwyddol;
(0, 14) 1987 er nad ydwyf i y cyntaf a fu'n anghywir,
(0, 14) 1988 nid yw hyn o les, mi a wn ni'm esgusodir.
(0, 14) 1989 Er bod rhy hwyr drefnu
(0, 14) 1990 am a basiodd edifaru,
(0, 14) 1991 bellach mi a fyddaf gywir
(0, 14) 1992 i Diomedes er a wnelir.
(0, 14) 1993 ~
(0, 14) 1994 O, Troelus, gan nad oes i mi ddim well i wneuthud
(0, 14) 1995 ond gorfod ymadael â thydi fy anwylyd,
(0, 14) 1996 ar Dduw yr archaf roddi yn rhwydd pob peth rhagot,
(0, 14) 1997 fel i'r gŵr boneddigeiddiaf a wn erioed ei adnabod.
(0, 14) 1998 Er darfod i mi syrthio
(0, 14) 1999 mewn drygioni mawr i'th ddwylo,
(0, 14) 2000 tra fo carreg mewn afon
(0, 14) 2001 nid ei, Troelus, o'm calon.
 
(0, 17) 2157 Fenws a Ciwpid, chwi a roesoch im ysbrydol atebion,
(0, 17) 2158 mai myfi a fyddai flodeuyn o fewn Troea dirion.
(0, 17) 2159 Fy nglendid i a'm llawenydd a droed i ofalon:
(0, 17) 2160 yr wyf fel dyn anrhyglyddus o gymdeithas dynion.
(0, 17) 2161 Pwy bellach a'm hymgeledda?
(0, 17) 2162 Pa ryw ddiwedd a ddaw arna?
(0, 17) 2163 Diomedes a'm gwrthododd
(0, 17) 2164 a Troelus wrthyf a sorrodd.
(0, 17) 2165 ~
(0, 17) 2166 Gwnaethoch im goelio fod cariad yn fy wyneb yn tyfu,
(0, 17) 2167 ac y cedwych chwi bob amser y cariad hyn heb ddiflannu.
(0, 17) 2168 Tydi, fachgen anheilwng, dy eiriau a'm rhoes byth mewn gofal,
(0, 17) 2169 efo dy fam Fenws, y dduwies ddall anwadal.
(0, 17) 2170 Ond yr owran y rhew a'i llosgodd,
(0, 17) 2171 a'r had i mi nis ffynnodd.
(0, 17) 2172 Anghywirdeb ydyw'r achos
(0, 17) 2173 nis gall cariad-ddyn mo'm haros.
 
(0, 17) 2265 Barned pob dyn a'm gwelodd oes achos i mi o brudd-der,
(0, 17) 2266 hyn yw'r daledigaeth am gyffroi y duwiau uchelder
(0, 17) 2267 ac am fod yn anghywir i farchog ufudd parod.
(0, 17) 2268 Pob llawenydd bydol, o hyn allan rwy'n dy wrthod.
(0, 17) 2269 Gwae i'r awr a gwae i'r diwrnod
(0, 17) 2270 ac ugain gwae i'r tafod
(0, 17) 2271 a chan wae i fab Tideus
(0, 17) 2272 a chan hawddmor fyddo i Troelus!
 
(0, 19) 2278 O, dywarchen o brudd-der wedi sincio mewn gofalon,
(0, 19) 2279 o carcharedig Cresyd mewn llawer o foddion,
(0, 19) 2280 dy lawenydd aeth ymaith, i ddwyn trymder y'th roddwyd,
(0, 19) 2281 o'th holl ddifyrrwch, noethlwm iawn y'th addewid.
(0, 19) 2282 Dy dynghedfen sydd galed, a gorthrwn fu dy eiriau;
(0, 19) 2283 nid oes i'w gael mo'r eli a iacha dy friwiau.
(0, 19) 2284 Dy orau di aeth heibio a'r gwaethaf i ti nis darfu.
(0, 19) 2285 Gwae fi, Dduw, na buesit cyn hyn wedi fy gladdu,
(0, 19) 2286 lle na buasai sôn
(0, 19) 2287 am Groeg nac Troea.
(0, 19) 2288 ~
(0, 19) 2289 Ble mae dy ystafell wedi ei gwisgo â sidan drosti?
(0, 19) 2290 Mae dy aur-frodiad glustogau a'th amrosgo wely?
(0, 19) 2291 Mae'r llysiau gwresog a'r gwinoedd i'th gysuro?
(0, 19) 2292 Ble mae'r cwpanau o aur ac arian yn disgleirio?
(0, 19) 2293 Mae dy felys fwydydd a'th ddysglau gloywon gwastad?
(0, 19) 2294 Mae dy flasus seigiau a phob newydd arferiad?
(0, 19) 2295 Ble mae'r dillad gwychion a'r mynych ddyfeisiau?
(0, 19) 2296 Ble mae'r lawnd a'r camlad a'r euraidd nodwyddau?
(0, 19) 2297 Hyn i gyd a gefaist
(0, 19) 2298 a'r cwbl o hyn a gollaist.
(0, 19) 2299 ~
(0, 19) 2300 Ble mae dy erddi yn llawn o risiau gwychion?
(0, 19) 2301 Ble mae'r tiau bychain yn llawn o fentell gwyrddion?
(0, 19) 2302 Ble mae'r wastad alay a llysian wedi ei thrwsio
(0, 19) 2303 lle y byddit Mai ac Ebrill arferol i rodio
(0, 19) 2304 i gymryd y boreywlith wrth dy bleser a'th esmwythdra
(0, 19) 2305 ac i wrando ar achwyn y felwswbwnc Ffilomela,
(0, 19) 2306 gyda llawer glan arglwyddes dan ganu carolau,
(0, 19) 2307 gan ystys y gwyrddion fentyll ai cyson doriadau?
(0, 19) 2308 Hyn a fu ac a ddarfu
(0, 19) 2309 pethau eraill rhaid croesawu.
(0, 19) 2310 ~
(0, 19) 2311 Ffortun ffiaidd!
(0, 19) 2312 ~
(0, 19) 2313 Cymer lety'r clipan am dy eurblas uchelgrib,
(0, 19) 2314 am dy esmwythglyd wely cymer hyn o wellt oerwlyb,
(0, 19) 2315 am dy fwydydd gwresog a'r gwinoedd o bell a ddyged
(0, 19) 2316 cymer fara toeslyn a sucan sur i'w yfed.
(0, 19) 2317 Am fy eurglais melys a'th garolau cyn fwyned
(0, 19) 2318 cymer oernad gerwin, dychryn gan bawb dy glywed.
(0, 19) 2319 Am dy bryd, dy wedd, dy lendid a'th hawddgarwch
(0, 19) 2320 cymer wyneb gwresog, brychlyd, yn llawn o ddiffeithwch.
(0, 19) 2321 Ac yn lle dy liwt, ymarfer
(0, 19) 2322 â'r cwpan yma a'r claper.
(0, 19) 2323 ~
(0, 19) 2324 Chwychwi arglwyddesau o Droea a Groeg ymwrandewch
(0, 19) 2325 am annedwyddol fuchedd, ac i ffortun na ymddiriedwch.
(0, 19) 2326 Fy mawr anras, yr hwn nis gall neb mo'i orfod,
(0, 19) 2327 gwnewch yn eich meddwl ohonof i ryfeddod.
(0, 19) 2328 Fel yr ydwyf i'r owran nid hwyrach i chwithau fod;
(0, 19) 2329 er eich glendid a'ch gwychder i'r un diwedd y gellwch ddyfod,
(0, 19) 2330 neu i ddiwedd a fo gwaeth, os oes gwaeth na gwaethaf.
(0, 19) 2331 Am hyn bid bob amser eich meddwl ar y diwethaf.
(0, 19) 2332 ~
(0, 19) 2333 Dim ydyw eich glendid ond darfodedig flodeuyn;
(0, 19) 2334 dim ydyw eich goruchafiaeth a phob peth sydd i'ch canlyn
(0, 19) 2335 ond gwynt yn chwythu yng nghlustiau eraill faswedd,
(0, 19) 2336 eich siriol wynebpryd diflannu a wnaiff o'r diwedd.
(0, 19) 2337 Bid ohonof i bob amser esiampl yn eich meddwl
(0, 19) 2338 yr hon sy'n dwyn tyst ar hyn i gyd yn gwbwl.
(0, 19) 2339 Pob peth daearol mal gwynt i ffwrdd a wisga;
(0, 19) 2340 am hyn bid bob amser eich meddwl ar y diwaetha.
 
(0, 19) 2354 Pwy ydoedd yr arglwydd aeth heibio diwethaf,
(0, 19) 2355 a fu mor drugarog i ni â hyn yma?
 
(0, 19) 2358 Ai hwn yw mab y brenin Priamus?
(0, 19) 2359 O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus!
(0, 19) 2360 Dy gariad, dy lendid, dy foneddigeiddrwydd, farchog,
(0, 19) 2361 a gyfrifais yn ychydig pan oeddwn ifanc oludog.
(0, 19) 2362 Fy meddwl oedd yn llawn o wag oferedd gwamal,
(0, 19) 2363 a beunydd yn dringo i dop yr olwyn anwadal,
(0, 19) 2364 a hyn a'm twyllodd yn anghywir i fab brenin Priamus.
(0, 19) 2365 O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus!
(0, 19) 2366 ~
(0, 19) 2367 O wir gariad arnaf, ti a gedwaist dy urddas
(0, 19) 2368 mewn gonestrwydd a theilyngdod ym mhob cymdeithas;
(0, 19) 2369 i ferched a gwragedd amddiffynnwr fuost ffynedig,
(0, 19) 2370 a'm meddwl innau ar faswedd, oferedd llygredig;
(0, 19) 2371 a hyn a'm twyllodd yn anghywir i fab brenin Priamus.
(0, 19) 2372 O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus!
(0, 19) 2373 ~
(0, 19) 2374 Cariadau, gochelwch, ac yn hyn byddwch ddyfal,
(0, 19) 2375 i bwy a rhoddwch eich cariad a thros bwy y dygwch ofal.
(0, 19) 2376 Deallwch hyn, nad oes ond ychydig o'r rai perffaith
(0, 19) 2377 ar y gellwch goelio iddynt ar gael cywirdeb eilwaith.
(0, 19) 2378 Ofer yw'r trafael - profwch hyn pan y mynnoch;
(0, 19) 2379 fy nghyngor i chwi - eu cymryd yn y modd ag y'u caffoch.
(0, 19) 2380 Chwi a'u cewch hwynt cyn sicred yn eu gweithred a'u harfer
(0, 19) 2381 ag ydyw ceiliog y ddrycin sy'n y gwynt bob amser.
(0, 19) 2382 ~
(0, 19) 2383 Yr wyf yn deisyf arnat roi fy nghorff mewn daear galed
(0, 19) 2384 i ymborthi nadredd, llyffain, a mân bryfed;
(0, 19) 2385 fy nghwpan, fy nghlaper, a chwbwl o'm anghenrhaid
(0, 19) 2386 rhan hynny ym mysg fy nghymdogion trueiniaid.
(0, 19) 2387 Yr aur, yr arian a roddes Troelus i mi,
(0, 19) 2388 cymer i ti hynny er help ar fy niwarthu.
(0, 19) 2389 Y fodrwy a'r ruwbi sy'n y fodrwy wedi ei gweithio,
(0, 19) 2390 hon a hebryngodd Troelus yn arwydd oddi wrtho,
(0, 19) 2391 dod hon iddo cyn gynted ag y derfydd amdana',
(0, 19) 2392 a gwna fe'n gydnabyddus o'r farwolaeth yma.
(0, 19) 2393 ~
(0, 19) 2394 Yr wyf yn gorchymyn fy ysbryd gyda Diana i driog,
(0, 19) 2395 'rhyd meysydd a choedydd a dyfroedd i rodio.
(0, 19) 2396 O, Diomedes, ti a gefaist yr holl arwyddion
(0, 19) 2397 a hebryngodd Troelus i mi yn anerchion.
(0, 19) 2398 Annrhugarog oeddyt, o fab i frenin Tideus!
(0, 19) 2399 O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus!